I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Erthygl 7 o'r Ddeddf Hawliau Dynol
Mae Erthygl 7 yn golygu na allwch gael eich cyhuddo o drosedd am weithred nad oedd yn drosedd pan wnaethoch chi ei chyflawni.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus esbonio'n glir beth sy'n cyfrif fel trosedd fel eich bod yn gwybod pan fyddwch yn torri'r gyfraith.
Mae hefyd yn erbyn y gyfraith i'r llysoedd roi cosb drymach i chi nag a oedd ar gael pan wnaethoch chi gyflawni trosedd.
Cyfyngiadau ar yr hawl i ddim cosb heb gyfraith
Mae'r hawl i ddim cosb heb gyfraith yn absoliwt. Mae hyn yn golygu na ellir ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd.
Fodd bynnag, mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn gwneud eithriad ar gyfer gweithredoedd a oedd 'yn erbyn cyfraith gyffredinol cenhedloedd gwâr' ar yr adeg y cawsant eu cyflawni. Y math hwn o ddarpariaeth a ganiataodd i droseddau rhyfel a throseddau yn erbyn dynoliaeth gael eu herlyn yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud
Daw'r testun hwn yn uniongyrchol o'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Erthygl 7: Dim cosb heb gyfraith
1. Ni cheir neb yn euog o unrhyw dramgwydd troseddol oherwydd unrhyw weithred neu anwaith nad oedd yn drosedd dan gyfraith gwladol ar yr adeg y'i cyflawnwyd. Ni ddylid ychwaith roi cosb drymach na'r un a oedd yn gymwys ar yr adeg y cyflawnwyd y drosedd.
2. Ni fydd yr Erthygl hon yn rhagfarnu treial a chosb unrhyw berson am unrhyw weithred neu anwaith a oedd, ar yr adeg y'i cyflawnwyd, yn droseddol yn unol ag egwyddorion cyffredinol y gyfraith a gydnabyddir gan genhedloedd gwareiddiedig.
Achos enghreifftiol - R v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, ex parte Utley [2004]
Dedfrydwyd dyn a gafwyd yn euog o amryw o droseddau rhyw, gan gynnwys treisio, i 12 mlynedd o garchar. Cafodd ei ryddhau ar ôl treulio dwy ran o dair o'i ddedfryd, yn amodol ar amodau trwydded (rheolau y mae'n rhaid eu dilyn ar ôl rhyddhau'n gynnar o'r carchar) a oedd yn berthnasol am dri chwarter y ddedfryd wreiddiol. Pe bai wedi ei gollfarnu a'i ddedfrydu ar yr adeg y digwyddodd y troseddau, fodd bynnag, byddai'r darpariaethau cyfreithiol a oedd mewn grym ar y pryd wedi rhoi'r hawl iddo gael ei ryddhau dros dro heb amodau. Dadleuodd fod amodau ei drwydded yn gosb drymach nag oedd yn gymwys ar yr adeg y cyflawnwyd ei droseddau, a bod ei hawl i ddim cosb heb gyfraith wedi’i thorri.
Roedd Tŷ’r Arglwyddi’n anghytuno. Roeddent o’r farn y byddai’r gyfraith hawliau dynol ond yn cael ei thorri pe bai dedfryd yn fwy na’r gosb uchaf oedd ar gael o dan y gyfraith oedd mewn grym ar yr adeg y cyflawnwyd y drosedd. Nid oedd hynny'n wir yma oherwydd, hyd yn oed ar ddyddiad y troseddau, y ddedfryd fwyaf am dreisio oedd carchar am oes. Nid bwriad yr hawl i ddim cosb heb gyfraith oedd cosbi troseddwr yn union yr un ffordd ag y byddai wedi bod yn wir ar adeg y drosedd. Yn syml, mae’n sicrhau nad yw person yn cael ei gosbi’n drymach na’r gosb uchaf sy’n gymwys ar adeg y drosedd. Yn yr achos hwn, ni wnaeth gosod amodau trwydded wneud y ddedfryd yn drymach nag y byddai wedi bod o dan y drefn gynharach.
(Crynodeb achos wedi'i gymryd o Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i'r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus. Lawrlwythwch y cyhoeddiad am ragor o enghreifftiau ac astudiaethau achos cyfreithiol sy'n dangos sut mae hawliau dynol yn gweithio'n ymarferol.)
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
4 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf
3 Mehefin 2021