Atebolrwydd

Ni yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cydraddoldeb, hawliau dynol a chysylltiadau da yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Cawsom ein sefydlu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a'n hadran noddi yw Swyddfa Cydraddoldebau'r Llywodraeth.

Tryloywder

Rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi manylion am sut yr ydym yn defnyddio arian cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys manylion gwariant, tendrau a chontractau a gyhoeddwyd a chyflogau.

I weld tendrau ar gyfer y Comisiwn ewch i'r porth caffael.

I ddod o hyd i gontractau ar draws y llywodraeth, chwiliwch y darganfyddwr contractau.

Gofynnir i adrannau gyhoeddi eu gwybodaeth gwariant gan ddefnyddio'r un ymagwedd at amseru, fformat a chynnwys. Rydym yn dilyn y canllawiau sydd ar gael ar wefan Trysorlys EM ac yn cyhoeddi’r wybodaeth ar y cyd â’n hadran noddi, Swyddfa’r Cabinet.

Gwariant

Gwariant: sut rydym yn gwario ein harian

Gofynnir i adrannau'r llywodraeth gyhoeddi eu gwybodaeth gwariant, gan ddefnyddio dull cyson o ran…

11 Awst 2021

Adrodd am daliadau'n brydlon: pa mor gyflym rydyn ni'n talu ein cyflenwyr

Rydym yn cyhoeddi canran yr anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod a 30 diwrnod, yn chwarterol.

3 Mawrth 2022

Gwybodaeth am gyflog

Mae ein gweithwyr yn destun lefelau tâl a thelerau ac amodau o fewn y strwythur y cytunwyd arno…

18 Mai 2022