I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Hawliau dynol yw'r hawliau a'r rhyddid sylfaenol sy'n perthyn i bob person yn y byd, o enedigaeth hyd farwolaeth.
Maent yn berthnasol ni waeth o ble rydych chi'n dod, beth rydych chi'n ei gredu neu sut rydych chi'n dewis byw eich bywyd.
Ni ellir byth eu cymryd i ffwrdd, er y gellir eu cyfyngu weithiau - er enghraifft os yw person yn torri'r gyfraith, neu er budd diogelwch gwladol.
Mae'r hawliau sylfaenol hyn yn seiliedig ar werthoedd a rennir fel urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth.
Mae'r gwerthoedd hyn yn cael eu diffinio a'u diogelu gan y gyfraith.
Ym Mhrydain mae ein hawliau dynol yn cael eu diogelu gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Rydyn ni wedi bod yn siarad â phlant ar draws y wlad yn eu holi am hawliau dynol ac yn derbyn atebion syml, gonest a doniol.
Mae mwyafrif yr ysgolion y buom yn siarad â nhw fel rhan o'r prosiect hwn yn perthyn i rwydwaith Ysgolion sy'n Parchu Hawliau Unicef.
Eich hawliau dynol
Sut mae hawliau dynol yn eich helpu chi
Mae hawliau dynol yn berthnasol i bob un ohonom, nid dim ond y rhai sy’n wynebu gormes neu gamdriniaeth.
Maent yn eich amddiffyn mewn llawer o feysydd o'ch bywyd o ddydd i ddydd, gan gynnwys:
- eich hawl i gael a mynegi eich barn eich hun
- eich hawl i addysg
- eich hawl i fywyd preifat a theuluol
- eich hawl i beidio â chael eich cam-drin neu eich cosbi ar gam gan y wladwriaeth
O ble mae hawliau dynol yn dod
Mae gan y syniad y dylai bodau dynol fod â set o hawliau a rhyddid sylfaenol wreiddiau dwfn ym Mhrydain.
Mae datblygiadau nodedig ym Mhrydain yn cynnwys:
- y Magna Carta o 1215
- Deddf Habeas Corpus 1679
- Mesur Hawliau 1689
Y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol
Gwnaeth erchyllterau'r Ail Ryfel Byd amddiffyn hawliau dynol yn flaenoriaeth ryngwladol.
Sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig ym 1945.
Caniataodd y Cenhedloedd Unedig i fwy na 50 o Aelod-wladwriaethau gyfrannu at y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a fabwysiadwyd ym 1948.
Hwn oedd yr ymgais gyntaf i nodi ar lefel fyd-eang yr hawliau a'r rhyddid sylfaenol a rennir gan bob bod dynol.
Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
Roedd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn sail i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a fabwysiadwyd ym 1950.
Chwaraeodd cyfreithwyr Prydeinig ran allweddol wrth ddrafftio'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, gyda Winston Churchill yn chwarae rhan fawr.
Mae’n amddiffyn hawliau dynol pobl mewn gwledydd sy’n perthyn i Gyngor Ewrop, gan gynnwys y DU.
Deddf Hawliau Dynol 1998
Gwnaeth Deddf Hawliau Dynol 1998 yr hawliau a nodir gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhan o’n cyfraith ddomestig.
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn golygu y gall llysoedd yn y Deyrnas Unedig wrando achosion hawliau dynol.
Cyn iddo gael ei basio, bu'n rhaid i bobl fynd â'u cwynion i Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg, Ffrainc.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
19 Mehefin 2019
Diweddarwyd diwethaf
19 Mehefin 2019