Beth yw'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol?

Wedi ei gyhoeddi: 19 Ebrill 2017

Diweddarwyd diwethaf: 19 Ebrill 2017

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Y Confensiwn Ewropeaidd

Mae'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) yn amddiffyn hawliau dynol pobl mewn gwledydd sy'n perthyn i Gyngor Ewrop.

Mae pob un o 47 Aelod-wladwriaethau'r Cyngor, gan gynnwys y DU, wedi llofnodi'r Confensiwn. Ei theitl llawn yw'r 'Confensiwn ar gyfer Diogelu Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol'.

Mae'r Confensiwn yn cynnwys 'erthyglau' wedi'u rhifo sy'n diogelu hawliau dynol sylfaenol. Gwnaeth y DU yr hawliau hyn yn rhan o’i chyfraith ddomestig drwy Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

Beth yw Cyngor Ewrop?

Wedi'i ffurfio ym 1949, mae Cyngor Ewrop yn gwbl ar wahân i'r Undeb Ewropeaidd ac yn llawer mwy, gyda 46 o aelodau o'i gymharu â 28 yr UE. Daeth y DU yn aelod o'r Cyngor 24 mlynedd cyn iddi ymuno â'r UE. Nid yw gadael yr UE wedi effeithio ar aelodaeth y DU o'r Cyngor.

Sut daeth y Confensiwn i fodolaeth

Sefydlwyd Cyngor Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd i amddiffyn hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith, ac i hybu democratiaeth. Tasg gyntaf yr Aelod-wladwriaethau oedd llunio cytundeb i sicrhau hawliau sylfaenol i unrhyw un o fewn eu ffiniau, gan gynnwys eu dinasyddion eu hunain a phobl o genhedloedd eraill.

Wedi'i gynnig yn wreiddiol gan Winston Churchill a'i ddrafftio'n bennaf gan gyfreithwyr Prydeinig, roedd y Confensiwn yn seiliedig ar Ddatganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Fe'i llofnodwyd yn Rhufain ym 1950 a daeth i rym ym 1953.

Llys Hawliau Dynol Ewrop

Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop yn cymhwyso ac yn diogelu’r hawliau a’r gwarantau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Diweddariadau tudalennau