I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Llys Hawliau Dynol Ewrop
Llys Hawliau Dynol Ewrop yw llys barn Cyngor Ewrop. Mae wedi'i leoli yn Strasbwrg, Ffrainc.
Wedi'i sefydlu ym 1959, mae'r Llys yn sicrhau bod Aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop yn parchu'r hawliau a'r gwarantau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Mae’r Llys yn cynnwys 47 o farnwyr etholedig, un o bob Aelod-wladwriaeth. Mae'n archwilio cwynion (a elwir yn 'geisiadau') yn honni torri hawliau dynol. Gall y ceisiadau hyn gael eu gwneud gan unigolion, neu weithiau gan Aelod-wladwriaethau.
Pan fydd y Llys yn canfod bod Aelod-wladwriaeth wedi torri un neu fwy o hawliau a gwarantau’r Confensiwn, mae’n esbonio pam mewn dyfarniad ysgrifenedig. Mae barnau yn rhwymol; rhaid i'r gwledydd dan sylw gydymffurfio â hwy.
Ein cyfranogiad
Weithiau byddwn yn ymyrryd mewn achosion gerbron y Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd fel rhan o'n rôl orfodi.
Mae’r achosion yr ydym wedi ymyrryd ynddynt hyd yn hyn yn ymwneud â materion fel tai, mewnfudo, cyfraith teulu, materion cyflogaeth a’r hawl i brawf teg.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
9 Awst 2016
Diweddarwyd diwethaf
9 Awst 2016