Datganiad hygyrchedd

Wedi ei gyhoeddi: 26 Awst 2022

Diweddarwyd diwethaf: 17 Hydref 2023

Defnyddio'r wefan hon

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a meintiau ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd yn unig, a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin, gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver.

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni allwch addasu uchder llinell neu fylchau testun, a
  • efallai na fydd rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Ni (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) sy'n gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hygyrchedd.

Os ydych yn anhapus gyda'r ffordd yr ydym wedi ymateb i chi, yna gallwch ofyn i'ch cwyn gael ei hadolygu gan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO). Mae'r PHSO yn annibynnol arnom ni.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 .

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 . Nid yw'r arddull ffocws yn gyson ar draws y wefan ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio i wella hyn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol gallwch ofyn am hyn trwy:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn anelu at ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â thîm y wefan:

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl fyddar, nam ar y clyw neu nam ar eu lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 26 Awst 2022. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 17 Hydref 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Hydref 2023. Gwnaethom brofi'r tudalennau yr ymwelwyd â hwy fwyaf.

Diweddariadau tudalennau

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082