Nodweddion gwarchodedig

Wedi ei gyhoeddi: 6 Gorffenaf 2021

Diweddarwyd diwethaf: 6 Gorffenaf 2021

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd nodwedd warchodedig. Y naw nodwedd warchodedig yw:

Rydych wedi’ch diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 rhag y mathau hyn o wahaniaethu.

Oed

Person sy'n perthyn i oedran penodol (er enghraifft pobl 32 oed) neu ystod o oedrannau (er enghraifft pobl 18 i 30 oed).

Gweler ein harweiniad ar wahaniaethu ar sail oed.

Anabledd

Mae gan berson anabledd os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu'r person hwnnw i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Gweler ein canllaw gwahaniaethu ar sail anabledd .

Ailbennu rhywedd

Y broses o drosglwyddo o un rhyw i'r llall.

Gweler ein canllaw gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd.

Priodas a phartneriaeth sifil

Mae priodas yn undeb rhwng dyn a menyw neu rhwng cwpl o'r un rhyw.

Gall cyplau o'r un rhyw hefyd gael eu perthnasoedd wedi'u cydnabod yn gyfreithiol fel 'partneriaethau sifil'. Rhaid peidio â thrin partneriaid sifil yn llai ffafriol na pharau priod (ac eithrio lle caniateir hynny gan y Ddeddf Cydraddoldeb).

Gweler ein canllaw gwahaniaethu ar sail priodas a phartneriaeth sifil.

Beichiogrwydd a mamolaeth

Beichiogrwydd yw'r cyflwr o fod yn feichiog neu'n disgwyl babi. Mae mamolaeth yn cyfeirio at y cyfnod ar ôl yr enedigaeth, ac mae'n gysylltiedig ag absenoldeb mamolaeth yn y cyd-destun cyflogaeth. Yn y cyd-destun heblaw gwaith, mae amddiffyniad rhag gwahaniaethu ar sail mamolaeth am 26 wythnos ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae hyn yn cynnwys trin menyw yn anffafriol oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron.

Gweler ein harweiniad ar wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Hil

Mae hil yn grŵp o bobl a ddiffinnir gan eu lliw, cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth), ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol. Gall grŵp hiliol gynnwys mwy nag un grŵp hiliol gwahanol, fel Du Prydeinig.

Gweler ein cyngor ac arweiniad ar wahaniaethu ar sail hil.

Crefydd neu gred

Mae crefydd yn cyfeirio at unrhyw grefydd, gan gynnwys diffyg crefydd. Mae cred yn cyfeirio at unrhyw gred grefyddol neu athronyddol ac yn cynnwys diffyg cred. Yn gyffredinol, dylai cred effeithio ar eich dewisiadau bywyd neu'r ffordd yr ydych yn byw er mwyn iddi gael ei chynnwys yn y diffiniad.

Gweler ein harweiniad ar wahaniaethu ar sail crefydd neu gred.

Rhyw

Dyn neu fenyw.

Gweler ein harweiniad ar wahaniaethu ar sail rhyw.

Cyfeiriadedd rhywiol

P'un a yw atyniad rhywiol person tuag at ei ryw ei hun, y rhyw arall neu'r ddau ryw.

Gweler ein cyngor ac arweiniad ar wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.

Deddf Cydraddoldeb

Dysgwch fwy am Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n darparu'r fframwaith cyfreithiol i fynd i'r afael ag anfantais a gwahaniaethu.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082