I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Daeth y Ddeddf Cydraddoldeb yn gyfraith yn 2010. Mae'n cwmpasu pawb ym Mhrydain ac yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth.
Mae’r wybodaeth ar y tudalennau hyn yma i’ch helpu i ddeall y gyfraith a phenderfynu a ydych wedi cael eich trin yn anghyfreithlon.
Pwy mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn eu hamddiffyn
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn amddiffyn pawb ym Mhrydain rhag gwahaniaethu. Mae hyn oherwydd y nodweddion gwarchodedig sydd gennym ni i gyd.
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae naw nodwedd warchodedig:
- oed
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Mae rhai gwahaniaethau pwysig yn dibynnu ar ba nodwedd warchodedig sydd gennych.
Sefyllfaoedd lle cewch eich diogelu rhag gwahaniaethu
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb cewch eich diogelu rhag gwahaniaethu:
- pan fyddwch yn y gweithle
- pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel gofal iechyd (er enghraifft, ymweld â’ch meddyg neu ysbyty lleol) neu addysg (er enghraifft, yn eich ysgol neu goleg)
- pan fyddwch yn defnyddio busnesau a sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau a nwyddau (fel siopau, bwytai a sinemâu)
- pan fyddwch yn defnyddio trafnidiaeth
- pan fyddwch yn ymuno â chlwb neu gymdeithas (er enghraifft, eich clwb tennis lleol)
- pan fyddwch mewn cysylltiad â chyrff cyhoeddus fel eich cyngor lleol neu adrannau'r llywodraeth
Mathau o wahaniaethu
Mae pedwar prif fath o wahaniaethu.
Gwahaniaethu uniongyrchol
Mae hyn yn golygu trin un person yn waeth na pherson arall oherwydd nodwedd warchodedig. Er enghraifft, mae dyrchafiad yn codi yn y gwaith. Mae'r cyflogwr yn credu bod cof pobl yn gwaethygu wrth iddynt fynd yn hŷn felly nid yw'n dweud wrth un o'i weithwyr hŷn amdano, oherwydd ei fod yn meddwl na fyddai'r gweithiwr yn gallu gwneud y swydd.
Gwahaniaethu anuniongyrchol
Gall hyn ddigwydd pan fydd sefydliad yn rhoi rheol neu bolisi neu ffordd o wneud pethau ar waith sy'n cael effaith waeth ar rywun â nodwedd warchodedig na rhywun heb un. Er enghraifft, mae awdurdod lleol yn bwriadu ailddatblygu rhai o'i dai. Mae'n penderfynu cynnal digwyddiadau ymgynghori gyda'r nos. Mae llawer o'r preswylwyr benywaidd yn cwyno na allant fynychu'r cyfarfodydd hyn oherwydd cyfrifoldebau gofal plant.
Aflonyddu
Mae hyn yn golygu na all pobl eich trin mewn ffordd sy'n mynd yn groes i'ch urddas, neu sy'n creu amgylchedd gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus. Er enghraifft, mae dyn â syndrom Down yn ymweld â thafarn gyda ffrindiau. Mae staff y bar yn gwneud sylwadau difrïol a sarhaus amdano, sy'n peri gofid iddo ac yn ei dramgwyddo.
Erledigaeth
Mae hyn yn golygu na all pobl eich trin yn annheg os ydych yn cymryd camau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (fel gwneud cwyn am wahaniaethu), neu os ydych yn cefnogi rhywun arall sy'n gwneud hynny. Er enghraifft, mae gweithiwr yn gwneud cwyn am aflonyddu rhywiol yn y gwaith ac yn cael ei ddiswyddo o ganlyniad.
Rhannau eraill o'r Ddeddf Cydraddoldeb
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus (fel cynghorau lleol, ysbytai, a darparwyr gwasanaethau a ariennir yn gyhoeddus) ystyried sut mae eu penderfyniadau a’u polisïau yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Dylai fod gan y corff cyhoeddus dystiolaeth hefyd i ddangos sut y mae wedi gwneud hyn.
Er enghraifft , mae awdurdod lleol am wella ei wasanaeth bysiau lleol. Mae’n cynnal arolwg o bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn canfod mai ychydig iawn o fenywod sy’n defnyddio bysiau yn y nos oherwydd eu bod yn poeni am aflonyddu rhywiol. Mae’r awdurdod lleol yn penderfynu gweithio gyda’r heddlu a’r darparwr trafnidiaeth, yn ogystal â thrigolion lleol, i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â’r broblem hon a gwneud y gwasanaeth bws yn fwy cynhwysol.
Ble i fynd i gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Cydraddoldeb
Gallwch ymweld â gwefan Cyngor ar Bopeth i gael gwybodaeth gyffredinol.
Os ydych yn pryderu am eich triniaeth yn y gwaith, gallwch ymweld â ACAS am ragor o wybodaeth.
Os ydych mewn undeb, dylai eich cynrychiolydd undeb hefyd allu eich helpu gyda chyngor gwahaniaethu.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
19 Chwefror 2020
Diweddarwyd diwethaf
19 Chwefror 2020