Aflonyddu ac erledigaeth

Wedi ei gyhoeddi: 4 Mehefin 2018

Diweddarwyd diwethaf: 4 Mehefin 2018

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Aflonyddu

Mae aflonyddu yn ymddygiad digroeso sy’n peri tramgwydd i chi, lle mae ymddygiad y person arall oherwydd y canlynol:

  • mae gennych nodwedd warchodedig
  • mae gennych unrhyw gysylltiad â nodwedd warchodedig (er enghraifft, rydych yn cael eich trin fel pe bai gennych nodwedd benodol, hyd yn oed os yw’r person arall yn gwybod nad yw hyn yn wir)

Gallai ymddygiad digroeso gynnwys:

  • cam-drin llafar neu ysgrifenedig
  • e-byst sarhaus
  • trydar neu sylwadau ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
  • delweddau a graffiti
  • ystumiau corfforol
  • mynegiant yr wyneb
  • cellwair sy'n sarhaus i chi

Mae unrhyw beth sy'n ddigroeso i chi yn ddigroeso. Nid oes angen i chi fod wedi ei wrthwynebu o'r blaen.

Rhaid i’r ymddygiad digroeso fod â’r pwrpas neu’r effaith o darfu ar eich urddas, neu greu amgylchedd diraddiol, bychanol, gelyniaethus, bygythiol neu dramgwyddus i chi.

I fod yn anghyfreithlon, mae'n rhaid bod y driniaeth wedi digwydd yn un o'r sefyllfaoedd sy'n dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Er enghraifft, yn y gweithle neu pan fyddwch yn derbyn nwyddau neu wasanaethau.

Erledigaeth

Mae hyn yn golygu trin rhywun yn wael oherwydd eu bod wedi gwneud 'gweithred warchodedig', neu oherwydd bod cyflogwr, darparwr gwasanaeth neu sefydliad arall yn credu eich bod wedi gwneud neu'n mynd i wneud gweithred warchodedig. Nid oes angen i'r rheswm dros y driniaeth fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig.

Gweithred warchodedig yw:

  • gwneud hawliad neu gŵyn am wahaniaethu (o dan y Ddeddf Cydraddoldeb)
  • helpu rhywun arall i wneud hawliad drwy roi tystiolaeth neu wybodaeth
  • gwneud honiad eich bod chi neu rywun arall wedi torri’r Ddeddf Cydraddoldeb
  • gwneud unrhyw beth arall mewn cysylltiad â’r Ddeddf Cydraddoldeb

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082

Diweddariadau tudalennau

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082