I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Beth yw gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol?
Gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yw pan fyddwch chi'n cael eich trin yn wahanol oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol yn un o'r sefyllfaoedd sy'n dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Gallai'r driniaeth fod yn weithred unwaith ac am byth neu o ganlyniad i reol neu bolisi yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol. Nid oes rhaid iddo fod yn fwriadol i fod yn anghyfreithlon.
Mae rhai amgylchiadau lle mae cael eich trin yn wahanol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol yn gyfreithlon, fel yr esbonnir isod.
Beth mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei ddweud am wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud na ddylid gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd:
- rydych yn heterorywiol, hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol
- mae rhywun yn meddwl bod gennych chi gyfeiriadedd rhywiol penodol (gelwir hyn yn wahaniaethu trwy ganfyddiad)
- rydych yn gysylltiedig â rhywun sydd â chyfeiriadedd rhywiol penodol (gelwir hyn yn wahaniaethu trwy gysylltiad)
Yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys sut rydych chi'n dewis mynegi eich cyfeiriadedd rhywiol, megis trwy eich ymddangosiad neu'r lleoedd rydych chi'n ymweld â nhw.
Gwahanol fathau o wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol
Mae pedwar prif fath o wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.
Gwahaniaethu uniongyrchol
Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun yn eich trin yn waeth na pherson arall mewn sefyllfa debyg oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol. Er enghraifft:
- mewn cyfweliad swydd, mae menyw yn cyfeirio at ei chariad. Mae'r cyflogwr yn penderfynu peidio â chynnig y swydd iddi, er mai hi yw'r ymgeisydd gorau y mae wedi'i gyfweld
- perchennog gwesty yn gwrthod darparu ystafell wely ddwbl i ddau ddyn
Gwahaniaethu anuniongyrchol
Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd gan sefydliad bolisi neu ffordd benodol o weithio sy'n berthnasol i bawb ond sy'n rhoi pobl o'ch cyfeiriadedd rhywiol dan anfantais.
Gellir caniatáu gwahaniaethu anuniongyrchol os yw’r sefydliad neu gyflogwr yn gallu dangos bod rheswm da dros y polisi. Gelwir hyn yn gyfiawnhad gwrthrychol.
Aflonyddu
Mae aflonyddu yn y gweithle yn digwydd pan fydd rhywun yn gwneud i chi deimlo'n waradwyddus, wedi'ch tramgwyddo neu wedi'ch diraddio. Er enghraifft:
- mae cydweithwyr yn cyfarch gweithiwr gwrywaidd o hyd wrth y fersiwn benywaidd o'i enw er ei fod wedi gofyn iddynt ddefnyddio ei enw iawn. Mae'r cydweithwyr yn dweud mai tynnu coes yn unig yw hyn ond mae'r gweithiwr wedi cynhyrfu ac wedi'i sarhau ganddo
Ni ellir byth gyfiawnhau aflonyddu. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos iddo wneud popeth o fewn ei allu i atal pobl sy’n gweithio iddo rhag ymddwyn felly, ni fyddwch yn gallu gwneud hawliad am aflonyddu yn ei erbyn, er y gallech wneud hawliad yn erbyn yr aflonyddwr.
Y tu allan i'r gweithle, os ydych chi'n cael eich aflonyddu neu'n derbyn triniaeth sarhaus oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol, gall hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol.
Erledigaeth
Dyma pryd y cewch eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Er enghraifft:
- mae gweithiwr hoyw yn cwyno ei fod wedi cael ei nodi'n hoyw gan ei reolwr yn groes i'w ddymuniadau ac mae ei gyflogwr yn ei ddiswyddo
Mae amgylchiadau pan fyddwch yn cael eich trin yn wahanol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol yn gyfreithlon
Gall gwahaniaeth mewn triniaeth fod yn gyfreithlon os:
- mae perthyn i gyfeiriadedd rhywiol penodol yn hanfodol ar gyfer swydd. Gelwir hyn yn ofyniad galwedigaethol. Er enghraifft, mae cyflogwr am recriwtio gweithiwr cynghori sydd â phrofiad o ddod allan ar gyfer llinell gymorth LHDT person ifanc. Gall y cyflogwr nodi bod yn rhaid i ymgeiswyr fod yn lesbiaidd neu'n hoyw
- mae sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol i annog neu ddatblygu pobl hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol i gymryd rhan mewn rôl neu weithgaredd
- mae’r driniaeth gan gyflogwr neu sefydliad yn dod o fewn un o’r eithriadau sy’n caniatáu i bobl gael eu trin yn wahanol ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol. Er enghraifft, gall elusen ddarparu budd dim ond i lesbiaid a dynion hoyw mewn rhai amgylchiadau
- mae sefydliad crefyddol neu gred yn gwahardd personau o dueddfryd rhywiol penodol rhag ei aelodaeth neu gyfranogiad yn ei weithgareddau, neu ei ddarpariaeth o nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau. Nid yw hyn ond yn berthnasol i sefydliadau sydd â’u diben o ymarfer, hyrwyddo neu addysgu crefydd neu gred, nad yw eu hunig neu brif ddiben yn fasnachol. Rhaid i'r cyfyngiadau a osodir ganddynt fod yn angenrheidiol naill ai i gydymffurfio ag athrawiaeth y sefydliad, neu i osgoi gwrthdaro ag 'argyhoeddiadau crefyddol cryf' dilynwyr y grefydd.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
11 Hydref 2016
Diweddarwyd diwethaf
11 Hydref 2016