Safonau'r Gymraeg

Wedi ei gyhoeddi: 28 Mehefin 2023

Diweddarwyd diwethaf: 25 Mehefin 2021

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Cymru

Ymgysylltu â siaradwyr Cymraeg

Rydym yn deall pa mor bwysig yw bod siaradwyr Cymraeg yn cael yr un mynediad i wasanaethau cyhoeddus â siaradwyr Saesneg.

Dyna pam rydym yn gweithio’n galed i gydymffurfio â’r Safonau’r Gymraeg a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau chwarae teg i siaradwyr Cymraeg.

Rydym yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg, ac rydym yn ymateb iddo yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw oedi oherwydd cyfathrebu yn Gymraeg. Croesawn, hefyd, alwadau ffôn yn Gymraeg a byddwn yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg o’n cyhoeddiadau a’n tudalennau gwefan.

Darllenwch fwy am yr hyn ‘rydym yn cynnig i siaradwyr Cymraeg:

Mwy o wybodaeth: Mae mwy o wybodaeth am eich hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.

Cwynion am y Gymraeg

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau penodol i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â’r Gymraeg drwy is-ddeddfwriaeth (Safonau Rheoleiddio’r Gymraeg).

Gellir gweld yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â gweithrediad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (y Comisiwn) o’r safonau a’r adroddiadau blynyddol ar-lein yn: Safonau'r Gymraeg

O ran cwyn yn ymwneud â'r Gymraeg, bydd y Comisiwn yn dilyn yr un dull a nodir drwy'r polisi hwn. Yn ogystal, bydd y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, y safonau, y Cod Ymarfer a chanllawiau Comisiynydd y Gymraeg cyn gwneud penderfyniad. Bydd cwynion neu bryderon am y Gymraeg yn dilyn yr un amserlenni a chamau a amlygwyd eisoes ym mholisi cwynion y Comisiwn.

Bydd y Comisiwn yn anelu at ddatrys cwyn yn ymwneud â'r Gymraeg yn gyflym ac yn anffurfiol yn gyntaf (cam 1) gyda'r maes gwasanaeth perthnasol ac o fewn 10 diwrnod gwaith clir. Ymdrinnir â'r broses ar sut i wneud cwyn o fewn polisi cwynion y Comisiwn. Bydd cwynion Cam 1 yn cael eu dyrannu i'r swyddog priodol sy'n delio â chwynion ar gyfer y gwasanaeth penodol hwnnw, a chânt eu holrhain a'u monitro.

 

Cwyn cam 1: datrysiad anffurfiol

Lle bo modd, rydym yn ceisio datrys problemau ar unwaith. Os oes gennych gŵyn, codwch hi gyda'r person rydych mewn cysylltiad ag ef a bydd yn ceisio ei datrys ar eich rhan yn y fan a'r lle.

Os nad yw'r person yr ydych mewn cysylltiad ag ef yn gallu datrys y mater, gellir cyfeirio'r mater at uwch swyddog yn yr adran gwasanaeth priodol i roi ymateb. Gan ddibynnu ar natur y gŵyn, gellir datrys y mater dros y ffôn neu'n ysgrifenedig (gan gynnwys e-bost). Pan fydd mater yn cael ei ddatrys trwy alwad ffôn, byddwch yn derbyn llythyr neu e-bost fel cadarnhad o ganlyniad y sgwrs.

Os oes unrhyw wersi i’w dysgu o fynd i’r afael â’ch cwyn, bydd camau priodol yn cael eu cymryd lle bo modd i roi’r gwersi hynny a ddysgwyd ar waith.

Bydd yr adran gwasanaeth yn darparu ymateb sylweddol i'ch cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith clir. Os na chaiff y gŵyn ei datrys i foddhad pawb erbyn hynny, caiff ei huwchgyfeirio i gam 2.

Os yw'ch cwyn wedi'i chyfeirio at yr adran gwasanaeth perthnasol a'ch bod yn anfodlon â'u hymateb, gallwch wedyn ofyn am ymchwiliad ffurfiol.

Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, mae’r Comisiwn yn cadw’r hawl i uwchgyfeirio cwyn yn uniongyrchol i gam 2 y polisi cwynion.

Os na chaiff cwyn ei datrys ar ôl 10 diwrnod yng ngham 1, caiff ei huwchgyfeirio i gam 2.

Cwyn cam 2: ymchwiliad ffurfiol

Nod y Comisiwn yw datrys cwynion yn gyflym ac yn anffurfiol lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, gallwch drosglwyddo eich cwyn i gam 2 y broses gwyno er mwyn i Swyddog yr Iaith Gymraeg ymchwilio iddi. Dyma rai enghreifftiau y gall cam 2 fod yn berthnasol iddynt:

  • Os yw adran gwasanaeth wedi cael cyfle i fynd i'r afael â'ch cwynion ac nad yw wedi rhoi ymateb i chi fel yr amlinellwyd uchod.
  • Os nad ydych yn meddwl bod eich cwyn wedi'i hystyried yn ddigonol neu'n briodol.
  • Os ydych wedi derbyn ymateb ac rydych yn dal yn anfodlon gyda phenderfyniad yr adran gwasanaeth.

Os dymunwch fynd â’ch cwyn i gam 2, bydd y Swyddog Iaith Gymraeg yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth i ddeall beth aeth o’i le a’ch canlyniad dymunol i ddatrys y mater.

Wrth dderbyn cwyn cam 2, cofnodir y manylion, ac anfonir cydnabyddiaeth o'i derbyn gan y Tîm Cwynion o fewn 5 diwrnod gwaith clir.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y Tîm Cwynion yn darparu ymateb sylweddol i'ch cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith clir. Lle nad yw hyn yn bosibl, byddwch yn cael gwybod y rheswm am yr oedi yn ysgrifenedig cyn y dyddiad terfynol ar gyfer ymateb, ynghyd â’r dyddiad y gallwch ddisgwyl cael ymateb llawn.

Weithiau, bydd angen eglurhad ar y materion penodol y mae'r achwynydd yn gofyn am ymchwiliad iddynt. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Swyddog Iaith Gymraeg yn ysgrifennu at yr achwynydd gyda chrynodeb o'r materion yn unol â'i ddealltwriaeth o'r sefyllfa, gan ofyn i'r achwynydd gytuno bod y materion a nodwyd yn gynhwysfawr ac yn gywir, neu i roi esboniad pellach.

Pan fydd angen gweithredu yn y modd hwn, bydd yr amserlen glir o 20 diwrnod gwaith yn dechrau pan fydd y ddau barti wedi cytuno ar y materion penodol a fydd yn destun yr ymchwiliad. Os na cheir ymateb gan yr achwynydd o fewn 28 diwrnod gwaith o ofyn am esboniad, bydd y gŵyn yn cael ei chau.

Yn unol â’r safonau ‘cadw cofnodion’, bydd y Swyddog Iaith yn cofnodi’r gŵyn yn ymwneud â’r Gymraeg yn erbyn y categori safonau perthnasol, h.y. darparu gwasanaethau, llunio polisïau neu safonau gweithredu.

Mae'r holl gwynion yn ymwneud â'r Gymraeg a dderbynnir yn uniongyrchol gan y Comisiwn yn cael eu hadolygu gan Swyddog yr Iaith Gymraeg a'u hadrodd yn adroddiad blynyddol y cyngor

Mae cyngor, canllawiau defnyddiol a hyfforddiant rhithwir ar gael i staff ar y fewnrwyd. Mae hyfforddiant ar-lein, a fydd yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o'r polisi, yn rhan o'r cyfnod sefydlu ar gyfer dechreuwyr newydd, a chynghorir staff presennol i gael hyfforddiant gloywi bob dwy flynedd.

Mae'r Comisiwn yn cynnal ymgyrchoedd o bryd i'w gilydd ar y fewnrwyd a thrwy gylchlythyrau i godi ymwybyddiaeth staff o'r gweithdrefnau a Safonau'r Gymraeg. Mae cymorth i swyddogion sy'n delio â chwynion i'w gael ar y fewnrwyd a gall staff ofyn am arweiniad pellach gan y Swyddog Iaith Gymraeg.

Mae gan y Comisiwn yr holl ddeunydd sydd ei angen i swyddogion ymdrin â'r gŵyn ar safle mewnrwyd ganolog.

Gall fod adegau prin pan fydd y gofyniad i gydymffurfio â safon wedi'i ohirio oherwydd her neu apêl. Yn y sefyllfa hon bydd y Swyddog Iaith Gymraeg yn rhoi cyngor.

Mae sefydliadau eraill hefyd sy'n ystyried cwynion, er enghraifft, Comisiynydd y Gymraeg. Os hoffech gwyno am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg neu fod rhywun yn ymyrryd â’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg, gallwch gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg drwy:

• ffôn: 0345 6033 221

• e-bost: post@cyg-wlc.wales

• drwy'r post at:

Comisiynydd y Gymraeg

Siambrau'r Farchnad

5-7 Heol Eglwys Fair

Caerdydd

CF10 1AT

Cysylltu â’r Comisiwn yng Nghymru

Tŷ'r Cwmnïau (Llawr 1af), Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3U

Ffôn: 02920 447710 (Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.)

E-bost: wales@equalityhumanrights.com

Lawrlwythiadau dogfen

Safonau'r Gymraeg

PDF, 337.03 KB, 29 pages

Diweddariadau tudalennau