I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Cyfraith ryngwladol
Mae cyfraith ryngwladol yn rhan bwysig o gynnal hawliau dynol.
Mae llywodraethau mewn sefyllfa bwerus i reoli rhyddid unigolion neu grwpiau – rhyddid a allai fod yn anos eu hennill heb gytundeb a phwysau rhyngwladol.
Mae cyfres o gytuniadau hawliau dynol ac offerynnau eraill a fabwysiadwyd ers 1945 wedi datblygu i fod yn gorff dylanwadol o hawliau dynol rhyngwladol.
Caiff y rhain eu monitro a'u gweithredu gan sefydliadau rhyngwladol pwysig gan gynnwys Cyngor Hawliau Dynol y CU, cyrff cytuniadau'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop a Llys Hawliau Dynol Ewrop.
Mae rhwymedigaethau mewn cyfraith ryngwladol yn rhwymol ar wledydd sydd wedi cytuno i gadw atynt. Mae hyn yn golygu pan fydd Llywodraeth y DU wedi llofnodi cytuniad a’r Senedd wedi’i gymeradwyo, mae’r wlad wedi gwneud ymrwymiad ffurfiol a rhaid i’r Llywodraeth wneud popeth sy’n ofynnol yn ôl y cytuniad.
Mae’r dimensiwn rhyngwladol hwn yn rhan o’n hymrwymiad i blannu diwylliant hawliau dynol cryf ym Mhrydain.
Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac yn rhyngwladol.
Cenhedloedd Unedig
Mae'r Cenhedloedd Unedig (CU) yn sefydliad a sefydlwyd i hyrwyddo cydweithrediad byd-eang ac i amddiffyn hawliau dynol. Mae’r prif sefydliadau o fewn y CU sy’n berthnasol i hawliau dynol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban fel a ganlyn.
Cyngor Hawliau Dynol y CU
Mae hyn yn cynnwys 47 o wladwriaethau (yn 2020 etholwyd y DU yn aelod am dymor o dair blynedd rhwng 2021 a 2023) ac mae'n gyfrifol am gryfhau'r gwaith o hyrwyddo a diogelu hawliau dynol ledled y byd.
Swyddfa’r Uchel Gomisiynydd ar Hawliau Dynol (OHCHR)
Yr OHCHR yw prif gorff y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol. Mae'n:
- cefnogi sefydliadau a llywodraethau hawliau dynol
- monitro arferion hawliau dynol
- yn sicrhau bod gan holl waith y Cenhedloedd Unedig bersbectif hawliau dynol
- cefnogi gweithredu hawliau dynol ar lawr gwlad
Trydydd Pwyllgor y Cynulliad Cyffredinol (Cymdeithasol, Dyngarol a Diwylliannol)
Mae hwn yn un o chwe phrif bwyllgor y Cenhedloedd Unedig, yn canolbwyntio ar ystod o faterion cymdeithasol, dyngarol a hawliau dynol.
Cyrff cytuniad y Cenhedloedd Unedig
Mae'r rhain yn monitro gweithrediad cytuniadau rhyngwladol. Mae’r DU wedi arwyddo saith cytuniad craidd y Cenhedloedd Unedig sy’n ymdrin â hawliau dynol. Maent yn cynnwys y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol a'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
Asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig
Mae asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig sy’n mynd i’r afael â materion hawliau dynol fel rhan o’u cylch gwaith yn cynnwys Menywod y Cenhedloedd Unedig, Cronfa Plant y Cenhedloedd Unedig (UNICEF) ac Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR).
Cyngor Ewrop
Wedi'i sefydlu ym 1949, Cyngor Ewrop yw'r sefydliad rhynglywodraethol hynaf yn Ewrop. Mae ganddi 47 o Aelod-wladwriaethau, ac mae 28 ohonynt yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r holl Aelod-wladwriaethau wedi ymrwymo i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, cytuniad a luniwyd i amddiffyn hawliau dynol, democratiaeth a rheolaeth y gyfraith. Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop yn goruchwylio gweithrediad y Confensiwn yn yr Aelod-wladwriaethau. Mae'r Cyngor a'r Llys Ewropeaidd wedi'u lleoli yn Strasbourg, Ffrainc.
Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol
Mae Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRIs) yn gyrff annibynnol a sefydlwyd i sefyll dros y rhai sydd angen eu hamddiffyn a dwyn llywodraethau i gyfrif am eu rhwymedigaethau hawliau dynol. Maent hefyd yn helpu i lunio cyfreithiau, polisïau ac agweddau sy'n creu cymdeithasau cryfach a thecach.
Rhaid i NHRI fodloni set o safonau rhyngwladol gofynnol, a elwir yn Egwyddorion Paris, i brofi y gallant gyflawni'r rôl hon a dangos eu hannibyniaeth oddi wrth y llywodraeth.
Yn 2009 ymunodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol â theulu o NHRIs achrededig statws 'A' ledled y byd.
Mae gan y Deyrnas Unedig dri NHRI:
- y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban
- Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon.
Fel NHRI mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cwmpasu Cymru a Lloegr, a materion hawliau dynol yn yr Alban sydd wedi'u cadw i Senedd San Steffan. Ar gyfraith cydraddoldeb mae ein hawdurdod yn cwmpasu Cymru, Lloegr a'r Alban.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
4 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf
2 Awst 2021