Arweiniad

Adrodd bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Wedi ei gyhoeddi: 1 Ebrill 2022

Diweddarwyd diwethaf: 1 Ebrill 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw’r gwahaniaeth mewn cyflog cyfartalog rhwng dynion a menywod yn eich gweithlu.

Mae'n wahanol i gyflog cyfartal, sy'n golygu bod yn rhaid i chi dalu'r un faint i ddynion a merched am waith cyfartal neu waith tebyg.

Os ydych yn gyflogwr yn y sector preifat neu wirfoddol gyda 250 neu fwy o weithwyr, rhaid i chi gyhoeddi eich data bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gyflogwyr sector cyhoeddus penodol yn Lloegr (a nifer cyfyngedig o gyrff heb eu datganoli).

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â chyrff cyhoeddus yn Lloegr a chyrff preifat a gwirfoddol Prydain Fawr yn unig. Dysgwch am y dyletswyddau penodol yn yr Alban a'r dyletswyddau penodol yng Nghymru .

Camau i roi gwybod am eich bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Dyddiadau cau ar gyfer adrodd ar eich data bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Mae cyfrifiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn seiliedig ar ddata cyflogres y cyflogwr o ddyddiad penodol bob blwyddyn, a elwir yn 'ddyddiad ciplun'. Rhaid i chi gyhoeddi eich data bob blwyddyn o fewn 12 mis i’r dyddiad ciplun perthnasol:

  • Ar gyfer cyflogwyr penodol yn y sector cyhoeddus, y dyddiad ciplun yw 31 Mawrth bob blwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer adrodd a chyhoeddi eich gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw 30 Mawrth y flwyddyn ganlynol.
  • Ar gyfer cyflogwyr yn y sector preifat a gwirfoddol, y dyddiad ciplun yw 5 Ebrill bob blwyddyn. Rhaid i chi gyhoeddi eich gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau a datganiad ysgrifenedig erbyn 4 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Rhowch eich gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar wasanaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau y llywodraeth.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Gwybodaeth berthnasol ar wefannau eraill