Cam 1: darganfod a oes angen i chi roi gwybod am eich bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Wedi ei gyhoeddi: 31 Mawrth 2022

Diweddarwyd diwethaf: 31 Mawrth 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Os ydych yn gyflogwr yn y sectorau preifat neu wirfoddol gyda 250 neu fwy o gyflogeion, rhaid i chi gyhoeddi eich data bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gyflogwyr sector cyhoeddus penodol yn Lloegr (a nifer cyfyngedig o gyrff heb eu datganoli).

Pa reoliadau sy'n berthnasol i mi?

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) 2017 yn berthnasol i bob cyflogwr yn y sector preifat a gwirfoddol sydd â 250 neu fwy o weithwyr.

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017 yn berthnasol i awdurdodau penodedig yn Lloegr, awdurdodau trawsffiniol penodedig ac awdurdodau penodedig heb eu datganoli ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â chyrff cyhoeddus yn Lloegr a chyrff preifat a gwirfoddol Prydain Fawr yn unig. Dysgwch am y dyletswyddau penodol yn yr Alban a'r dyletswyddau penodol yng Nghymru.

Diweddariadau tudalennau