Cam 3: cyhoeddi eich adroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Wedi ei gyhoeddi: 21 Mawrth 2022

Diweddarwyd diwethaf: 21 Mawrth 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Sut mae cyhoeddi fy adroddiad?

I gyhoeddi eich adroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau, rhaid i chi:

  • cyflwyno eich ffigurau drwy wasanaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau’r llywodraeth
  • darparu datganiad ysgrifenedig i wasanaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau’r llywodraeth (os ydych yn gyflogwr preifat, gwirfoddol neu awdurdod cyhoeddus nad yw wedi’i nodi yn Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010). Mae’n rhaid i’ch datganiad ysgrifenedig gadarnhau bod yr adroddiad yn gywir a dylai gael ei lofnodi gan y cyflogai uchaf yn eich sefydliad, megis cyfarwyddwr, aelod dynodedig, partner cyffredinol, partner, aelod o’r corff llywodraethu neu uwch swyddog.
  • cyhoeddi eich adroddiad ac, os oes angen, eich datganiad ysgrifenedig, mewn man amlwg ar eich gwefan gyhoeddus am dair blynedd o’r dyddiad cyhoeddi (os nad oes gennych wefan, cyhoeddwch eich ffigurau ar fewnrwyd a/neu riant gwefan y cwmni a gwnewch yn siŵr bod eich gweithwyr yn cael gwybod am yr adroddiad)

Rydym yn argymell eich bod yn cymryd y camau ychwanegol hyn wrth gyhoeddi eich adroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau:

Cyhoeddi naratif ategol

Mae naratif ategol yn helpu’r rhai sy’n darllen eich adroddiad ac yn dangos eich ymrwymiad i gau eich bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Gallwch gynnwys:

  • esboniadau ar gyfer y ffigurau
  • ystadegau gweithlu
  • dadansoddiad manwl
  • trosolwg o'r camau yr ydych wedi'u cymryd i ddeall a mynd i'r afael â'ch bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Cynhwyswch gynllun gweithredu cyflogwr

Mae cynllun gweithredu cyflogwr yn esbonio sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael â’ch bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae gan hyn nifer o fanteision busnes, gan gynnwys:

  • denu cronfa ehangach o ddarpar ymgeiswyr
  • gwella eich enw da am fod yn gyflogwr teg a blaengar
  • cynyddu cynhyrchiant ymhlith gweithlu sy’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac sy’n rhan o ddiwylliant sy’n ymroddedig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

Sut mae creu cynllun gweithredu cyflogwr?

Os hoffech ddysgu sut i greu cynllun gweithredu effeithiol, rydym wedi datblygu pecyn cymorth mewn partneriaeth â'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). Mae'r pecyn cymorth 'Cau eich bwlch cyflog rhwng y rhywiau' yn cynnwys astudiaethau achos, camau gweithredu a argymhellir a chanllawiau 'sut i' sydd wedi'u profi gan y tîm Behavioral Insights.

Pryd mae’n rhaid i mi gyhoeddi data’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?

Mae cyfrifiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn seiliedig ar ddata cyflogres y cyflogwr o ddyddiad penodol bob blwyddyn, a elwir yn 'ddyddiad ciplun'. Yn ôl y gyfraith rhaid i chi gyhoeddi eich data bob blwyddyn o fewn 12 mis i’r dyddiad ciplun perthnasol:

  • Ar gyfer cyflogwyr penodol yn y sector cyhoeddus, y dyddiad ciplun yw 31 Mawrth bob blwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer adrodd a chyhoeddi eich gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw 30 Mawrth y flwyddyn ganlynol. Dysgwch fwy o Bwlch cyflog rhwng y rhywiau: ein camau gorfodi.
  • Ar gyfer cyflogwyr yn y sector preifat a gwirfoddol, y dyddiad ciplun yw 5 Ebrill bob blwyddyn. Rhaid i chi gyhoeddi eich gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau a datganiad ysgrifenedig erbyn 4 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Dysgwch fwy o Bwlch cyflog rhwng y rhywiau: ein camau gorfodi.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn cyhoeddi fy nata ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gyhoeddi eich data bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar neu cyn y dyddiad cau bob blwyddyn.

Mae gennym y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw gyflogwr nad yw'n cydymffurfio â'i ddyletswyddau adrodd. Mae ein polisi gorfodi yn nodi'r dull gweithredu y byddwn yn ei ddefnyddio.

Yn gyntaf byddwn yn cynnal ymchwiliad i gadarnhau a ydych yn torri'r rheoliadau. Os felly, byddwn yn ceisio gorchymyn llys yn gofyn i chi unioni'r toriad. Mae methu â chydymffurfio â’r gorchymyn llys yn drosedd, a gellir eich cosbi â dirwy ddiderfyn os cewch eich dyfarnu’n euog.

Bydd manylion unrhyw gyflogwr y byddwn yn ymchwilio iddynt ar gael i'r cyhoedd ar ein gwefan.

Pam fod yn rhaid i mi adrodd ar fwlch cyflog rhyw fy sefydliad?

Mae adrodd ar fylchau cyflog yn helpu sefydliadau i ddeall maint ac achosion eu bylchau cyflog a nodi unrhyw faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw i'w lleihau.

Nid yw cael bwlch cyflog rhwng y rhywiau o reidrwydd yn golygu bod gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd. Bydd cyhoeddi a monitro bylchau cyflog yn helpu cyflogwyr i ddeall y rhesymau dros unrhyw fwlch ac ystyried a oes angen iddynt ddatblygu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael â'r achosion. Er enghraifft, os yw menywod yn bennaf ar lefelau cyflog is yn y sefydliad, efallai y bydd y cyflogwr am ddatblygu cynllun gweithredu cadarnhaol i annog a chefnogi menywod i wneud cais am rolau uwch.

Bydd parhau i gyhoeddi a monitro’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn unol â’r rheoliadau, yn helpu cyflogwyr i fonitro pa mor effeithiol yw eu camau gweithredu i’w leihau.

Diweddariadau tudalennau

Gwybodaeth berthnasol ar wefannau eraill