Ein gwaith yng Nghymru

Er mwyn helpu i wneud Cymru'n lle tecach rydym yn gweithio i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau, yr anfantais a'r gwahaniaethu sy'n dal yn rhy gyffredin yma, tra'n sicrhau bod prosesau llunio polisïau'r Comisiwn ym Mhrydain Fawr hefyd yn adlewyrchu anghenion Cymru.

Rydym yn cymryd camau cyfreithiol, yn cynnal ymchwil ac yn darparu gwybodaeth yng nghyd-destun Cymru, yn ogystal â chynghori Llywodraeth Cymru a’r Senedd ar effaith deddfwriaeth Gymreig.

Rydym yn cysylltu â’n rhanddeiliaid yng Nghymru drwy’r Rhwydwaith Cyfnewid Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.