Blog

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Pam y cafodd ei chyflwyno?

Wedi ei gyhoeddi: 22 Ebrill 2023

Gwreiddiau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Cyflwynwyd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn 2011. Disodlodd y dyletswyddau cydraddoldeb hil, anabledd a rhyw ar wahân. Cyflwynwyd y cyntaf o'r rhain, y ddyletswydd cydraddoldeb hil, yn 2001. Roedd yn ganlyniad i argymhelliad o Adroddiad Macpherson ar lofruddiaeth Stephen Lawrence. Canfu’r adroddiad fod yna hiliaeth sefydliadol yn Heddlu Llundain.

Cyflwynwyd y ddyletswydd cydraddoldeb hil i wneud yn siŵr bod cyrff cyhoeddus yn ystyried cydraddoldeb hil ym mhob maes o'u gwaith. Mae'r PSED yn ymestyn yr amddiffyniad hwn i'r nodweddion gwarchodedig a restrir yn y Ddeddf Cydraddoldeb . Mae cydymffurfio â’r PSED yn helpu i atal gwahaniaethu drwy hybu cydraddoldeb a chysylltiadau da.

Defnydd ac effaith y PSED

Mae’r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn cymryd y ddyletswydd cydraddoldeb o ddifrif ac yn ei defnyddio i ddylunio’r gwasanaethau gorau posibl. Mewn rhai achosion, gall aelodau’r cyhoedd herio cyrff cyhoeddus os ydynt yn credu nad yw’r ddyletswydd wedi’i dilyn. Fel arfer caiff yr heriau hyn eu datrys heb fod angen cymryd camau cyfreithiol ffurfiol. Mae rhai achosion yn mynd i'r llys. Mae’r PSED bob amser yn esblygu i adlewyrchu’r datblygiadau yn y gyfraith achosion.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae pobl wedi defnyddio'r PSED i herio llawer o wahanol benderfyniadau. Mae'r rhain yn cynnwys cau llyfrgelloedd cyhoeddus lleol a newidiadau mewn cyllid ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anableddau (SEND) mewn ysgolion. Mae'r PSED hefyd wedi cael ei ddefnyddio i herio sut y defnyddiodd heddlu dechnoleg adnabod wynebau byw. Canfu’r llys nad oedd tuedd bosibl y system feddalwedd wedi’i hasesu’n briodol. Mae'r PSED hefyd wedi cael ei ddefnyddio i herio penderfyniadau mawr a wneir gan weinidogion y llywodraeth.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw rheolydd y PSED. Gallwn gymryd camau pan ganfyddwn nad yw cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â’r ddyletswydd. Mae ein gwaith rheoleiddio yn cynnwys cynhyrchu canllawiau a darparu hyfforddiant a chymorth. Fel rhan o hyn, rydym wedi cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’n canllawiau technegol ar y PSED. Mae’r canllawiau newydd yn egluro sut mae cyfraith achosion PSED diweddar yn effeithio’n ymarferol ar y gofynion ar gyfer cyrff cyhoeddus.

Nid yw’r PSED yn rhwystr i gyrff cyhoeddus. Dylai eu helpu i wneud y penderfyniadau gorau posibl, yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'u heffaith debygol.

Nid yw’r PSED yn rhwystr i gyrff cyhoeddus wneud penderfyniadau anodd ynghylch sut i ddefnyddio arian cyfyngedig. Dylai eu helpu i wneud y penderfyniadau gorau posibl, yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'u heffaith debygol.

I ddarllen ein canllawiau wedi’u diweddaru ar y PSED, gweler y dolenni i’r dogfennau ar ochr chwith y dudalen hon.