Blog

Cydraddoldeb a'r byd chwaraeon

Wedi ei gyhoeddi: 26 Gorffenaf 2024

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid rhywun oherwydd nodwedd warchodedig. Mae hyn yn berthnasol i'r meysydd gweithgaredd a gwmpesir gan y Ddeddf, gan gynnwys cyflogaeth, gwasanaethau a chymdeithasau.

Mae'r Ddeddf yn berthnasol i fyd chwaraeon fel y mae mewn cyd-destunau eraill. Yn dilyn UEFA Euro 2024 a Wimbledon, mae’r blog hwn yn esbonio pwy sy’n cael ei warchod gan y Ddeddf mewn perthnasoedd cyflogaeth (Rhan 5 o’r Ddeddf) yng nghyd-destun chwaraeon.

Pwy sy'n cael ei warchod?

Mae'r Ddeddf yn amddiffyn pobl amrywiol o fewn cyd-destun cyflogaeth a chwaraeon.

Ymgeiswyr am swyddi

Rhaid i gyflogwyr beidio â gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr am swyddi wrth benderfynu:

  • i bwy i gynnig cyflogaeth
  • telerau cyflogaeth
  • peidio â chynnig cyflogaeth

Enghraifft

Mae clwb rygbi yn hysbysebu swydd derbynnydd sydd angen gweithio desg yn bennaf. Mae ymgeisydd am swydd yn hysbysu'r darpar gyflogwr bod ganddo sglerosis ymledol. Mae'r cyflogwr yn cynnig y swydd i ymgeisydd arall heb anabledd. Pe na bai'r cyflogwr yn cynnig y swydd oherwydd anabledd yr ymgeisydd, byddai hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Cyflogeion

Bydd unigolion yn y byd chwaraeon yn dod o dan y Ddeddf os ydynt yn gyflogedig. Mae hyn yn cynnwys cyflogaeth o dan:

  • cytundeb cyflogaeth
  • contract i wneud gwaith yn bersonol
  • contract prentisiaeth

Rhaid i gyflogwyr beidio â gwahaniaethu yn eu telerau cyflogaeth ac yn y ffordd y maent yn darparu cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad, trosglwyddo, hyfforddiant neu fuddion eraill. Rhaid i gyflogwyr hefyd beidio â gwahaniaethu yn erbyn cyflogeion drwy eu diswyddo'n anghyfreithlon neu drwy eu gwneud yn destun unrhyw niwed arall. Yn gyffredinol, mae anfantais yn unrhyw beth y gallai’r unigolyn dan sylw yn rhesymol ystyried sydd wedi newid ei sefyllfa er gwaeth neu ei roi dan anfantais o gymharu ag eraill.

Gellir hefyd diogelu cyn-gyflogeion os bydd gwahaniaethu yn codi o, ac yn gysylltiedig yn agos â, perthynas gyflogaeth a oedd yn bodoli gynt. Pe bai'r gwahaniaethu wedi digwydd yn ystod y berthynas, ac y byddai wedi cael ei ystyried yn anghyfreithlon, mae'n bosibl y bydd y cyn-gyflogai yn cael ei ddiogelu.

Enghraifft

Mae cyflogai clwb tennis yn ymddiswyddo ar ôl gwneud cwyn am aflonyddu rhywiol. Fodd bynnag, mae'r cyflogai yn parhau i fod yn aelod o'r clwb. Yn fuan ar ôl iddynt wneud y gŵyn, caiff eu haelodaeth ei chanslo. Gallai hyn fod yn gyfystyr ag erledigaeth ar ôl cyflogaeth.

Gweithwyr contract

Gall unigolyn a gyflogir gan un person ond a gyflenwir i berson arall fod yn weithiwr contract. Fel gweithiwr contract, byddent yn cael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu.

Enghraifft

Mae clwb pêl-droed yn gwrthod mynediad i chwaraewr du sydd ar fenthyg i ffisiotherapydd y clwb, y maen nhw'n ei gynnig i bob chwaraewr gwyn. Gall y chwaraewr gael ei gwmpasu gan y Ddeddf fel gweithiwr contract a'i amddiffyn rhag gwahaniaethu.

Gwirfoddolwyr

Os nad yw perthynas gwirfoddolwr yn bodloni diffiniad y Ddeddf o gyflogaeth, ni fydd y gwirfoddolwr yn cael ei ddiogelu o dan adrannau cyflogaeth y Ddeddf. Er mwyn i berthynas fodloni’r diffiniad o gyflogaeth, rhaid i gontract fodoli rhwng yr unigolyn a’r sefydliad.

Enghraifft

Gwirfoddolwr di-dâl yng ngemau'r Gymanwlad sy'n gyfrifol am fynd â gwylwyr i'w seddi. Nid oes ganddynt isafswm oriau cytundebol. Mae'n annhebygol y bydd y gwirfoddolwr yn dod o dan y Ddeddf.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y dylai sefydliadau drin gwirfoddolwyr, darllenwch ein canllawiau.

Gwybodaeth bellach

Rydym wedi cyhoeddi Cod Ymarfer Statudol Cyflogaeth sy'n rhoi arweiniad manylach.

Mae gan Dribiwnlysoedd Cyflogaeth awdurdodaeth ar gyfer hawliadau o dan Ran 5 o'r Ddeddf. Nid oes unrhyw ofyniad bod yn rhaid i weithiwr fod wedi cyflawni cyfnod o gyflogaeth barhaus cyn dwyn hawliad o dan y Ddeddf. Os ydych yn unigolyn sydd angen cymorth gyda'ch cais, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf a darparwyr gwasanaethau chwaraeon, cyfeiriwch at ein Cod Ymarfer Statudol Gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau.