Blog

Monitro ariannol, biometreg a gwyliadwriaeth yn y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Wedi ei gyhoeddi: 19 Ebrill 2024

Mae Tŷ’r Arglwyddi yn craffu ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol ar hyn o bryd. Mae’r Bil yn cynnig rhoi mynediad i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gyfrifon banc unrhyw berson sy’n cael budd-daliadau’r wladwriaeth. Dywed y llywodraeth y bydd y cynnig yn helpu i atal twyll budd-daliadau.

Mae'n bwysig bod y llywodraeth yn gallu ymchwilio a lleihau twyll budd-daliadau. Fodd bynnag, gallai'r pwerau newydd arfaethedig ganiatáu gwiriadau gwyliadwriaeth torfol ar sail deallusrwydd artiffisial ar gyfrifon banc pobl sy'n derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth. Heb reolaethau llym, gallai hyn gael effaith sylweddol ar breifatrwydd pobl.

Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau ar breifatrwydd fod yn angenrheidiol ac yn gymesur. Mae gan y DWP bwerau eisoes i adolygu cyfrifon banc pobl lle mae amheuaeth o dwyll. Nid yw'n glir pam mae angen y pŵer newydd hwn. Mae risg hefyd y gallai gwybodaeth am gyfrifon banc pobl a’u harferion gwario gael ei chamddehongli. Gallai hyn arwain at sancsiynau budd-daliadau.

Mae’r Bil hefyd yn ceisio gwneud newidiadau i’r modd y mae’r heddlu ac awdurdodau lleol yn defnyddio technolegau adnabod a gwyliadwriaeth biometrig, megis technoleg adnabod wynebau. Ar hyn o bryd, mae'r Comisiynydd Biometreg a Chamerâu Gwyliadwriaeth yn darparu goruchwyliaeth. Fe’i hategir gan God Ymarfer sy’n rhoi canllawiau ar ddefnyddio camerâu gwyliadwriaeth yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y Bil yn diddymu'r Comisiynydd Biometreg a Chamerâu Gwyliadwriaeth a'r Cod Ymarfer. Yn lle hynny, y Comisiynydd Gwybodaeth fydd yn gyfrifol am arolygiaeth gyffredinol o fiometreg a chamerâu gwyliadwriaeth o dan ei bwerau diogelu data presennol. Ein barn ni yw y bydd hyn yn creu bylchau sylweddol yn y broses o oruchwylio’r defnydd presennol o gamerâu gwyliadwriaeth a biometreg.

Mae mesurau diogelu cryf mewn cyfraith diogelu data ynghylch defnyddio data biometrig. Ond mae rhai defnyddiau yn mynd y tu hwnt i ddiogelu data ac yn codi cwestiynau ehangach am ein hawliau a’n rhyddid.

Mae'n hanfodol bod gan yr heddlu offer fel technoleg adnabod wynebau i amddiffyn y cyhoedd. Ac eto, rhaid cael rheolau clir a chryf sy'n ystyried hawliau dynol, preifatrwydd a pheidio â gwahaniaethu.

Ein barn ni yw y dylai’r llywodraeth gyflwyno cynigion ar gyfer fframwaith cyfreithiol cadarn ac unswydd ar gyfer defnydd yr heddlu o dechnolegau biometrig. Bydd hyn yn rhoi hyder i'r cyhoedd bod y technolegau hyn yn cael eu defnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol.