Blog

Flwyddyn yn ddiweddarach: ein hymchwiliad i herio penderfyniadau cynghorau lleol am ofal cymdeithasol i oedolion

Wedi ei gyhoeddi: 14 Mawrth 2024

Flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd ein hymchwiliad i herio penderfyniadau am ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a Lloegr. Mae penderfyniadau gofal cymdeithasol yn effeithio ar hawliau llawer o bobl anabl a hŷn. Roeddem am ddarganfod a all pobl herio penderfyniad sy'n anghywir yn eu barn nhw yn hawdd.

Canfuom fod:

  • gwybodaeth am ofal cymdeithasol yn aml yn anhygyrch
  • y llwybrau i unigolion herio penderfyniadau yn ddryslyd ac yn ymestynnol
  • pobl yn wynebu rhwystrau o ran cael mynediad at eiriolaeth neu gymorth cyfreithiol
  • colli cyfleoedd i ddysgu o gwynion

Tanlinellodd ein hymchwiliad bwysigrwydd craffu priodol ar benderfyniadau gofal cymdeithasol i oedolion. Galwasom ar lywodraethau a chyrff perthnasol eraill i weithredu ar ein hargymhellion.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi hyrwyddo adroddiad ein hymchwiliad ac wedi cynnal gweminarau a fynychwyd yn dda. Rydym yn hapus i weld sawl corff sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol yn gweithredu ar ein hargymhellion.

Gwnaeth ein hymchwiliad argymhellion i’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) i lywio eu rôl newydd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal 2022 yn asesu sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gofal 2014. Mae'n galonogol gweld bod asesiadau peilot a gynhaliwyd gan y CQC i brofi ei fframwaith asesu sengl newydd wedi adrodd ar faterion a nodwyd gennym yn ein hymchwiliad.

Rydym yn croesawu ymrwymiad diweddar Llywodraeth Cymru i ddiweddaru cod ymarfer ar ofal cymdeithasol. Bydd y diweddariad hwn yn helpu awdurdodau lleol i ystyried yn llawn safonau rhyngwladol ar hawliau pobl hŷn a phobl anabl. Mae'n unol ag argymhellion ein hymchwiliad.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Phartneriaid mewn Gofal ac Iechyd i helpu awdurdodau lleol i wella darpariaeth gwybodaeth a chyngor. Rydym yn cyfrannu at becyn cymorth ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd ein mewnbwn yn helpu i sicrhau bod y pecyn cymorth yn cwmpasu safonau cyfreithiol ar gyfer cydraddoldeb a hygyrchedd. Cyhoeddir y pecyn cymorth hwn yn fuan.

Er ein bod yn croesawu’r camau a gymerwyd hyd yn hyn, mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Nid yw llywodraeth y DU wedi ymateb eto i adroddiad ein hymchwiliad. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod argymhellion ein hymchwiliad yn cael eu rhoi ar waith.

Mae argymhellion ein hymchwiliad yn rhan o ddiwygiadau ehangach sydd eu hangen i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol. Ers adroddiad ein hymchwiliad, rydym wedi cyhoeddi ein 'Agwedd at Ofal Cymdeithasol '. Mae’n nodi’r safonau cydraddoldeb a hawliau dynol yr ydym yn disgwyl i lywodraethau, comisiynwyr a darparwyr eu cyflawni wrth ddylunio a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Rydym yn annog pob comisiynydd a darparwr gofal cymdeithasol i ddefnyddio’r dull hwn.