Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: dyletswyddau penodol yng Nghymru

Wedi ei gyhoeddi: 11 Mai 2022

Diweddarwyd diwethaf: 11 Mai 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Cymru

Yn ogystal â’r ddyletswydd gyffredinol, mae rheoliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn nodi dyletswyddau penodol ychwanegol sy’n wahanol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae'r dudalen hon yn ymwneud â'r dyletswyddau penodol sy'n berthnasol yng Nghymru, fel y'u rhestrir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Rydym yn cyfeirio at awdurdodau cyhoeddus sy'n gorfod cydymffurfio â'r Ddyletswydd fel 'awdurdodau rhestredig' yn y canllawiau hyn.

Lloegr a'r Alban

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma am y dyletswyddau penodol yn yr Alban a’r dyletswyddau penodol yn Lloegr ac ar gyfer cyrff nad ydynt wedi’u datganoli. Mae'r ddyletswydd gyffredinol yn berthnasol i bob cenedl.

Sut i gydymffurfio â dyletswyddau penodol

1. Asesu a monitro polisïau ac arferion

Rhaid i chi asesu sut y gall unrhyw bolisïau ac arferion newydd neu arfaethedig effeithio ar grwpiau gwarchodedig. Wrth asesu’r effaith ar grwpiau gwarchodedig, rhaid i chi ystyried sut y bydd hyn yn effeithio ar eich perfformiad o ddyletswydd gyffredinol y PSED.

Rhaid i chi gyhoeddi adroddiadau lle mae effaith, neu effaith debygol, y polisi ar eich gallu i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn sylweddol.

Darllenwch ein harweiniad ar asesu effaith.

2. Nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb

Rydym yn cyfeirio at hyn fel 'gwybodaeth cydraddoldeb'. Rhaid i chi wneud trefniadau priodol i sicrhau eich bod o bryd i'w gilydd yn nodi'r wybodaeth berthnasol sydd gennych, ac yn nodi ac yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Lle bo'n briodol, dylech gyhoeddi gwybodaeth berthnasol.

Darllenwch ein harweiniad ar wybodaeth cydraddoldeb.

3. Adolygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau

Dylai datganiad sy'n nodi'r camau yr ydych wedi'u cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i gwrdd â'ch amcanion, gan gynnwys amserlenni, gyd-fynd â'ch amcanion. Rhaid i chi adolygu eich amcanion cydraddoldeb o leiaf bob pedair blynedd. Os byddwch yn adolygu eich amcanion cydraddoldeb, dylech gyhoeddi'r newidiadau hyn cyn gynted â phosibl.

Darllenwch ein harweiniad ar osod amcanion cydraddoldeb a chyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb strategol.

4. Nodi a chasglu gwybodaeth am wahaniaethau mewn cyflog

Wrth ddatblygu amcanion cydraddoldeb, rhaid i chi roi sylw dyledus i'r gofyniad am amcanion sy'n mynd i'r afael ag achosion unrhyw wahaniaeth mewn cyflog rhwng cyflogeion sy'n dod o unrhyw grŵp gwarchodedig a'r rhai nad ydynt. Rhaid cyhoeddi'r wybodaeth hon fel y bo'n briodol. Rhaid ichi hefyd gyhoeddi amcan cydraddoldeb sy’n mynd i’r afael ag unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau a nodwyd neu gyhoeddi rhesymau pam nad yw wedi gwneud hynny, a chyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’i fwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Darllenwch ein harweiniad ar wybodaeth cyflogaeth, gwahaniaethau cyflog a hyfforddiant staff.

5. Hyfforddiant a chasglu gwybodaeth cyflogaeth

Rhaid i chi hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r ddyletswydd gyffredinol a dyletswyddau penodol ymhlith eich cyflogeion.

Rhaid i unrhyw weithdrefnau asesu perfformiad gynnwys proses i nodi a mynd i'r afael ag anghenion hyfforddi eich staff ym maes cydraddoldeb, gan gynnwys eu dealltwriaeth o'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau penodol. Rhaid cynnwys yr wybodaeth hon yn eich cynllun cydraddoldeb strategol.

Rhaid i chi hefyd gyhoeddi gwybodaeth cyflogaeth am eich cyflogeion sy'n cael ei dadansoddi yn ôl nodwedd warchodedig. I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth cyflogaeth y mae angen i chi ei chynnwys, cyfeiriwch at bennod 3 o'n canllawiau ar wybodaeth cyflogaeth, gwahaniaethau cyflog a hyfforddiant staff.

6. Adolygu a chyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol (SEP)

Dylai eich SEP gynnwys gwybodaeth gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • amcanion cydraddoldeb a'r camau i gwrdd â'r amcanion
  • trefniadau i nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb
  • gwybodaeth a gasglwyd am anghenion hyfforddi
  • trefniadau ar gyfer asesu’r effaith debygol a gwirioneddol ar grwpiau gwarchodedig o bolisïau ac arferion

Rhaid i chi gyhoeddi eich SEP cyn gynted â phosibl ar ôl i chi ei ysgrifennu neu ei ddiwygio.

Darllenwch ein harweiniad ar osod amcanion cydraddoldeb a chyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb strategol.

7. Cynnwys pobl sy'n cynrychioli un neu fwy o'r grwpiau gwarchodedig ac sydd â diddordeb yn y ffordd yr ydych yn cyflawni eich swyddogaethau

Gelwir y rheoliad hwn yn 'ddarpariaethau ymgysylltu'. Rhaid i chi gydymffurfio â’r darpariaethau ymgysylltu pan yn gwneud y canlynol:

  • gosod amcanion cydraddoldeb
  • drafftio eich cynllun cydraddoldeb strategol
  • wrth asesu a monitro polisïau a gweithdrefnau

8. Ystyried y ddyletswydd gyffredinol mewn prosesau caffael

Wrth gaffael gwaith, nwyddau neu wasanaethau, rhaid i chi roi sylw dyledus i p'un a ddylech gynnwys ystyriaethau cydraddoldeb yn y meini prawf dyfarnu i'ch helpu i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.

Os byddwch yn nodi amodau perfformiad yn eich cytundeb, rhaid i chi roi sylw dyledus i ba un a ddylai'r amodau hyn gynnwys ystyriaethau cydraddoldeb i'ch helpu i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.

Darllenwch ein harweiniad ar gaffael a'r PSED.

9. Cynhyrchu adroddiad blynyddol bob blwyddyn

Rhaid i chi gyhoeddi adroddiad blynyddol, ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl y cyfnod yr ydych yn adrodd arno. Er enghraifft, ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, rhaid i chi gyhoeddi eich adroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth 2023 fan bellaf.

Rhaid i'r adroddiad hwn nodi eich cynnydd o ran nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb.

Darllenwch ein harweiniad ar adrodd blynyddol.

10. Cyhoeddi dogfennaeth hygyrch

Rhaid i chi gyhoeddi dogfennaeth gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • amcanion cydraddoldeb
  • cynlluniau cydraddoldeb strategol
  • adroddiadau blynyddol

Rhaid ichi gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae’n ofynnol i chi ei chyhoeddi yn hygyrch i unrhyw un sydd ag un neu fwy o’r nodweddion gwarchodedig.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082