I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED) yn ofyniad cyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus.
Pwrpas y PSED yw gwneud yn siŵr bod awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn meddwl sut y gallant wella cymdeithas a hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob agwedd ar eu busnes o ddydd i ddydd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt ystyried, a pharhau i adolygu, sut y maent yn hyrwyddo cydraddoldeb mewn:
- gwneud penderfyniadau
- polisïau mewnol ac allanol
- caffael nwyddau a gwasanaethau
- y gwasanaethau y maent yn eu darparu
- recriwtio, dyrchafu a rheoli perfformiad gweithwyr
Mae dyletswyddau penodol gwahanol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban ond mae’r ddyletswydd gyffredinol yn berthnasol yn yr un modd i bob un o’r tair gwlad.
Y ddyletswydd gyffredinol
Y tri nodau’r ddyletswydd gyffredinol yw gwneud yn siŵr bod awdurdodau cyhoeddus yn rhoi sylw dyledus i’r angen i:
- rhoi terfyn ar ymddygiad anghyfreithlon sy’n cael ei wahardd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 , gan gynnwys gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a’r rhai nad oes ganddynt
- meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a’r rhai nad oes ganddynt
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn amddiffyn pawb ym Mhrydain oherwydd mae gan bob un ohonom nodweddion gwarchodedig .
Gall bodloni'r ddyletswydd gyffredinol olygu bod yn rhaid i chi drin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill. Er enghraifft, mae’n rhesymol trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl drwy roi mynediad â blaenoriaeth iddo at wasanaethau trafnidiaeth hygyrch.
Eich cyfrifoldebau o dan y ddyletswydd gyffredinol
Mae cydymffurfio â gofynion y ddyletswydd gyffredinol yn rhwymedigaeth gyfreithiol ac mae gennym bwerau cyfreithiol ffurfiol i orfodi cydymffurfiaeth. Er y byddwn yn defnyddio’r pwerau hyn pan fo angen, ein nod yw meithrin cydberthnasau cadarnhaol, cydweithredol i annog a helpu awdurdodau cyhoeddus i gyflawni’r ddyletswydd.
Ymdrinnir â’n rôl yn hyrwyddo a gorfodi cydymffurfiaeth â’r PSED yn ddiweddarach yn y canllaw hwn.
Dyletswyddau penodol
Mae’r dudalen hon wedi ymdrin â dyletswydd gyffredinol y PSED, sy’n berthnasol yn yr un modd ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban.
Mae yna hefyd ddyletswyddau penodol. Mae’r rhain yn ddeddfau gwahanol o dan y PSED sy’n berthnasol yn:
Diben y dyletswyddau penodol yw helpu awdurdodau cyhoeddus i wella eu perfformiad ar y dyletswyddau cyffredinol. Fodd bynnag, nid yw cydymffurfio â'r dyletswyddau penodol o reidrwydd yn golygu eich bod yn rhoi sylw dyledus i nodau'r ddyletswydd gyffredinol yn yr holl waith yr ydych yn ei wneud.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
28 Mehefin 2022
Diweddarwyd diwethaf
28 Mehefin 2022