Monitro a gorfodi

Wedi ei gyhoeddi: 11 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 11 Ebrill 2016

 

Ein gwaith rheoleiddio

Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am reoleiddio dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae’r canllaw hwn yn crynhoi ein hymagwedd at ein rôl rheoleiddio. Ei nod yw gosod allan i awdurdodau cyhoeddus a phartïon eraill sydd â diddordeb sut, mewn unrhyw sefyllfa neilltuol, rydym yn hyrwyddo cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd.

Darllenwch y canllaw fan hyn (Word | PDF)

Monitro

Roedd gan awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr (a chyrff yng Nghymru a’r Alban sydd heb eu datganoli) sy’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau penodol hyd dan 31 Ionawr 2012 i gyhoeddi gwybodaeth i ddangos cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol. Roedd gan ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion hyd dan 6 Ebrill 2012 i gyhoeddi’u gwybodaeth. Cyhoeddodd y Comisiwn ganllaw i helpu awdurdodau cyhoeddus benderfynu pa wybodaeth cydraddoldeb oedd angen iddynt ei chyhoeddi. Os na fydd awdurdodau cyhoeddus yn cyhoeddi gwybodaeth cydraddoldeb fel sy’n ofynnol iddynt o dan reoliadau’r ddyletswydd benodol, maent mewn perygl o fod yn destun i her gyfreithiol (gan gynnwys camau gorfodi gan y Comisiwn), yn ogystal â niwed i’w henwau da.

Ymgymerodd y Comisiwn ag asesiad o’r wybodaeth a gyhoeddodd yr awdurdodau cyhoeddus (heb gynnwys ysgolion) rhwng mis Chwefror ac Ebrill 2012. Roedd hyn yn cynnwys 1,159 o awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr. Cafodd gwefannau awdurdodau cyhoeddus eu hadolygu, i asesu i’r graddau roeddent wedi cyhoeddi gwybodaeth berthnasol a hygyrch. Nodau’r asesiad oedd:

  • nodi a ellir canfod gwybodaeth cydraddoldeb a pha mor hygyrch oedd yr wybodaeth honno
  • pennu pa mor gynhwysfawr oedd yr wybodaeth cydraddoldeb a gyhoeddwyd
  • sefydlu a oedd gwahaniaethau perfformiad a/neu ymagwedd ymysg awdurdodau cyhoeddus a sectorau
  • nodi a lledaenu enghreifftiau o ymagweddau ac arfer effeithiol.

Gwybodaeth cydraddoldeb

Mae’r adroddiad, Cyhoeddi gwybodaeth cydraddoldeb: Ymroddiad, ymrwymiad a thryloywder yn gosod allan casgliadau’r asesiad. Nid yw’r adroddiad yn edrych ar berfformiad ar y ddyletswydd benodol yn unig, ond hefyd yn gosod allan enghreifftiau o arfer dda. Mae’r adroddiad yn cloi gyda nifer o argymhellion i awdurdodau cyhoeddus ar sut i wella eu perfformiad. Dylai’r canfyddiadau yn yr adroddiad alluogi awdurdodau cyhoeddus i ddysgu oddi ar ei gilydd ac i wella ansawdd, maint ac eglurdeb yr wybodaeth cydraddoldeb a gaiff ei chynhyrchu a’i chyhoeddi, er mwyn gwella eu deilliannau cydraddoldeb. 

Amcanion cydraddoldeb

Roedd gan awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr (a chyrff yng Nghymru a’r Alban sydd heb eu datganoli) ac sydd yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau penodol hyd dan 6 Ebrill 2012 i gyhoeddi amcanion cydraddoldeb. Cyhoeddodd y Comisiwn ganllaw i helpu awdurdodau cyhoeddus i ddatblygu eu hamcanion. Os na fydd awdurdodau cyhoeddus yn cyhoeddi amcanion cydraddoldeb, fel sy’n ofynnol gan reoliadau’r ddyletswydd benodol, maent mewn perygl o fod yn destun i her gyfreithiol (gan gynnwys camau gorfodi gan y Comisiwn), yn ogystal â pharddu eu henwau da o bosib.

Ymgymerodd y Comisiwn ag asesiad o’r amcanion a gyhoeddodd yr awdurdodau cyhoeddus rhwng mis Medi a Rhagfyr 2012.  Roedd hyn yn cynnwys 2010 o awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr. Cafodd gwefannau awdurdodau cyhoeddus eu hadolygu, i asesu a oeddent wedi cyhoeddi amcanion cydraddoldeb. Mae’r adroddiad yn nodi nifer a chyfran yr awdurdodau cyhoeddus yn cyhoeddi amcanion. Lle cafodd amcanion eu cyhoeddi, mae’n adrodd ar:

  • a oedd yr amcanion wedi’u cysylltu’n glir ag amcanion y ddyletswydd gyffredinol;
  • pa nodweddion gwarchodedig yr oeddent yn eu cwmpasu;
  • y swyddogaethau yr oeddent yn eu cwmpasu;
  • a oedd sail resymegol wedi’u rhoi i’r amcanion dewisedig;
  • a oedd yr amcanion yn benodol ac yn fesuradwy;
  • a oedd yr amcanion ar gael mewn fformatau eraill. 

Adroddiad yr Amcanion Cydraddoldeb

Ffeithlenni yn ôl y sector a aseswyd

Asesu Adran 31 Trysorlys Ei Mawrhydi

Gan ddefnyddio ei bwerau unigryw, cynhaliodd y Comisiwn Asesiad adran 31 i’r graddau yr oedd Trysorlys EM wedi cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol i ystyried effaith penderfyniadau’r Adolygiad Gwariant ar grwpiau gwarchodedig. Am ddiweddariad o'r gwaith gweler ein hadroddiad dilynol.

Gorfodi

Mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth ar faterion gorfodi o ran y ddyletswydd cydraddoldeb.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd cydraddoldeb, gan gynnwys:

Casglu gwybodaeth ar y dyletswyddau

  • Asesu gwybodaeth cydraddoldeb cyrff cenedlaethol a lleol gan gynnwys adrannau o’r llywodraeth.
  • Ymchwilio i gynnydd yn ymwneud â’r ddyletswydd cydraddoldeb yn y gwahanol sectorau.
  • Coladu a hyrwyddo arfer orau ar y ddyletswydd cydraddoldeb.
  • Casglu tystiolaeth o gynnydd neu enghreifftiau o beidio â chydymffurfio yn y sectorau gwahanol i ategu ein gwaith cynghori a chyfreithiol.
  • Mae’r Comisiwn yn ymgymryd ag ymchwiliadau i faterion yn gysylltiedig â chydraddoldeb a hawliau dynol.

Cyngor, gwybodaeth a hyrwyddo

  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r ddyletswydd cydraddoldeb.
  • Cynhyrchu gwybodaeth am y ddyletswydd cydraddoldeb, i awdurdodau cyhoeddus a’r cyhoedd, ar ein gwefan.
  • Cynghori unigolion am eu hawliau a sut y gallant weithredu o dan y ddyletswydd cydraddoldeb.
  • Cynghori awdurdodau cyhoeddus ar agweddau technegol y ddyletswydd cydraddoldeb.

Camau cyfreithiol ar y dyletswyddau

  • Cymryd camau gorfodi cyfreithiol ar awdurdodau sy ddim yn cydymffurfio â’r ddyletswydd cydraddoldeb.
  • Defnyddio adolygiad barnwrol i herio penderfyniadau gan awdurdodau cyhoeddus o dan y ddyletswydd cydraddoldeb.
  • Defnyddio’r ddyletswydd cydraddoldeb i herio blaenoriaethau cyrff cyhoeddus. Er enghraifft, ein gwaith gorfodi Mapio’r Bylchau a oedd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth gwasanaeth awdurdodau lleol i fenywod a oedd wedi dioddef trais o dan y ddyletswydd cydraddoldeb rhyweddol flaenorol.

Adeiladu’r gallu gan bartneriaid i hybu cydymffurfiaeth

  • Gweithio gydag arolygiaethau i integreiddio cydraddoldeb i mewn i fframweithiau arolygu.
  • Hybu’r ddyletswydd cydraddoldeb drwy weithio yn rhanbarthol mewn partneriaeth ag awdurdodau cyhoeddus.
  • Datblygu gallu’r sector gwirfoddol a’r undebau i ddefnyddio’r ddyletswydd cydraddoldeb i ddal awdurdodau cyhoeddus i gyfrif ar faterion cydraddoldeb.
  • Gweithio gyda phartneriaid i hybu cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd cydraddoldeb mewn ystod o sectorau.

Rydym yn dethol yr erfyn mwyaf priodol i sicrhau ein bod yn cyflawni’r deilliannau gorau yn ôl yr amgylchiadau. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y gall gweithio gyda sefydliadau, mewn achosion priodol, gyflawni newid ehangach a fwy cynhaliol. Mae argaeledd ein pwerau gorfodi yn annog sefydliadau i weithio gyda ni, felly pan fo’n briodol, rydym wedi adeiladu perthnasau cadarnhaol ar y cyd yn hytrach na mabwysiadu ymagwedd wrthwynebus.

Pwerau cyfreithiol

Yn strategol, mae’r Comisiwn wedi defnyddio ei bwerau gorfodi i wireddu newid cadarnhaol â’r effaith fwyaf a fwyaf parhaus. Rydym wedi defnyddio meini prawf a gytunwyd arnynt – wedi’i gosod allan yn ein strategaeth gyfreithiol – i bennu p’un a wnawn ddefnyddio ein pwerau i wireddu’r effaith orau, pryd a sut.

Fel Comisiwn, rydym wedi defnyddio camau amrywiol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r dyletswyddau cydraddoldeb. Mae’r Comisiwn wedi gweithio i gefnogi awdurdodau cyhoeddus ac i gyflawni deilliannau sydd yn newid diwylliant, polisïau a darpariaethau gwasanaeth sefydliadau. O fewn y cyd-destun hwn, rydym wedi ymgymryd â gwaith gweithredu cyn gorfodi eang, gyda nifer o awdurdodau, yn ymwneud â’r holl ddyletswyddau cydraddoldeb.

Asesiadau

Pan fo’n briodol, rydym yn defnyddio ein pŵer gorfodi statudol (adran 31 Deddf Cydraddoldeb 2006) i asesu i’r graddau y mae person wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol a’r ddyletswydd benodol fel ei gilydd, ac yma ffordd. Wrth wneud hynny, mae’n rhaid i’r Comisiwn enwi’n glir wrth yr awdurdod cyhoeddus y meysydd a asesir, ac i ganiatáu i’r awdurdodau cyhoeddus wneud cynrychiolaethau.

Hysbysiadau Cydymffurfio

Mae gan y Comisiwn bŵer i orfodi camau i atal achosion o fynd yn groes i’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol drwy osod hysbysiad cydymffurfio wedi i asesiad ffurfiol ddod i ben (o dan adran 31 Deddf Cydraddoldeb 2006). Mae ganddo’r pŵer hefyd i orfodi camau i atal achosion o fynd yn groes i’r dyletswyddau penodol drwy osod hysbysiad cydymffurfio.

Adolygiad barnwrol

Mae pŵer gan y Comisiwn i gyflwyno achosion adolygu barnwrol mewn materion sy’n berthnasol i’w swyddogaethau gan gynnwys pan fo awdurdod cyhoeddus wedi mynd yn groes i’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol. Gweler mwy ar adolygiad barnwrol.

Ymyriadau

Mae gan y Comisiwn bŵer i ymyrryd mewn achosion cyfreithiol i gynorthwyo’r llys o ran egluro’r gyfraith. Mae’r Comisiwn wedi ymyrryd mewn nifer o achosion cyfreithiol a bydd yn parhau i wneud hynny. Pan fo’n ymyrryd mewn achos, nid yw’r Comisiwn o blaid yr un ochr na’r llall, dim ond cynnig cyngor arbenigol i’r llys ar sut i ddehongli’r gyfraith. Mae eisoes wedi defnyddio’r pŵer hwn yn helaeth gyda’r bwriad o sicrhau bod y llysoedd yn gosod cynseiliau cyfreithiol defnyddiol.

Cytundebau

Pan fo’r Comisiwn yn amau bod awdurdod cyhoeddus yn torri’r ddyletswydd cydraddoldeb, gall ddod i gytundeb gyda’r awdurdod, sy’n golygu bod yr awdurdod yn cytuno i gymryd rhai camau i gydymffurfio ac yn ei dro bydd y Comisiwn yn cytuno i beidio â chyflwyno hysbysiad cydymffurfio.

Gweler ein hadran Gyfreithiol a Pholisi ar gyfer mwy o wybodaeth ar bwerau gorfodi'r Comisiwn gan gynnwys ein polisi ar adolygu ein penderfyniadau rheoleiddiol.

Diweddariadau tudalennau