Arweiniad
Aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith: canllawiau technegol
Wedi ei gyhoeddi: 30 Ionawr 2020
Diweddarwyd diwethaf: 26 Medi 2024
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Cwmpas y canllaw
Ar gyfer pwy mae’r canllaw hwn?
- cyflogwyr
- gweithwyr
- eu cynrychiolwyr
Beth mae’r canllaw hwn yn ei drafod
Mae’r canllaw hwn yn cwmpasu aflonyddu rhywiol, aflonyddu ac erledigaeth mewn cyflogaeth dan ddarpariaethau gwaith y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (‘y Ddeddf’). Mae'r darpariaethau gwaith yn seiliedig ar yr egwyddor na ddylai gweithwyr gael eu haflonyddu, eu gwahaniaethu na’u herlid yn eu herbyn yn y gwaith (Rhan 5 y Ddeddf).
Mae’r canllaw hwn hefyd yn ymdrin â dyletswydd gyfreithiol gadarnhaol cyflogwr i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar ei weithwyr (y ‘ddyletswydd ataliol’).
Bydd y canllaw yn:
- helpu cyflogwyr i ddeall eu cyfrifoldebau cyfreithiol parthed aflonyddu ac erledigaeth; y camau y dylent gymryd i atal aflonyddu ac erledigaeth yn y gwaith; a beth ddylent wneud os yw aflonyddu neu erledigaeth yn digwydd
- helpu cyflogwyr i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol cadarnhaol mewn perthynas â'r ddyletswydd ataliol, y camau y mae'n rhaid iddynt eu cymryd i atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith a'r hyn y dylent ei wneud os bydd aflonyddu yn digwydd
- helpu gweithwyr i ddeall y gyfraith a beth ddylai eu cyflogwr wneud i atal aflonyddu ac erledigaeth, neu i ymateb i’w cwyn o aflonyddu neu erledigaeth
- helpu cyfreithwyr a chynghorwyr eraill i gynghori gweithwyr a chyflogwyr ynghylch y materion hyn, a
- rhoi canllaw clir i dribiwnlysoedd a llysoedd ar y gyfraith ynghylch aflonyddu ac erledigaeth, cwmpas cyfreithiol y ddyletswydd ataliol ac arfer gorau ar y camau y dylai cyflogwyr gymryd i atal a delio gydag aflonyddu ac erledigaeth
- defnyddio enghreifftiau i ddangos rhai o'r camau ymarferol y gall cyflogwyr o wahanol feintiau a mathau eu cymryd i ddileu aflonyddu yn y gweithle
Sylwch ein bod yn defnyddio'r termau canlynol trwy gydol y canllaw hwn:
1. Beth yw aflonyddu?
Cyflwyniad
Mewn unrhyw weithle, bydd yna amrywiaeth o agweddau o ran pa ymddygiad a ystyrir i fod yn sarhaus, dilornus, brawychus, gelyniaethus neu israddol. Gallai rhywbeth mae un gweithiwr – neu hyd yn oed fwyafrif o weithwyr – yn ystyried i fod yn hwyl neu'n ‘gellwair’, fod yn annerbyniol i un arall. Efallai y bydd gweithiwr yn achwyn am ymddygiad yn cael ei ystyried gan eraill i fod yn orsensitif neu fursennaidd. Fodd bynnag, mae’n bwysig deall y gall ymddygiad gyfateb i aflonyddu neu aflonyddu rhywiol hyd yn oed os nad dyna a fwriadwyd. Mae’r bennod hon yn esbonio pa fathau o ymddygiad sy’n cyfateb i aflonyddu dan y Ddeddf. Mae’r rhain yn cynnwys aflonyddu yn ymwneud â nodwedd warchodedig, aflonyddu rhywiol, a thriniaeth lai ffafriol am wrthod neu ymostwng i aflonyddu. Nid os unrhyw gyfiawnhad dros unrhyw fath o aflonyddu.
Yn wahanol i wahaniaethu uniongyrchol, nid yw aflonyddu yn dilyn ymagwedd gymharol. Hynny yw, nid oes angen i’r gweithiwr ddangos fod rhywun arall heb y nodwedd warchodedig wedi, neu y byddai wedi, cael ei drin yn fwy ffafriol. I gael esboniad o wahaniaethu uniongyrchol, gweler Pennod 4 y Cod Ymarfer Statudol Cyflogaeth.
Beth a ddywed y Ddeddf
1.1 Mae'r Ddeddf yn gwneud tri math o aflonyddu yn anghyfreithiol. Sef:
- aflonyddu yn ymwneud â ‘nodwedd warchodedig berthnasol’ (a.26(1))
- aflonyddu rhywiol (a.26(2)), a
- triniaeth lai ffafriol ar gyfer gweithiwr oherwydd ei fod yn ymroi i, neu'n gwertho, aflonyddu rhywiol neu aflonyddu yn ymwneud â rhyw neu ailbennu rhywedd (a.26(3))
1.2 ‘Nodweddion gwarchodedig perthnasol’ yw:
- oed
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol (a.26(5))
1.3 Yn wahanol i fathau eraill o wahaniaethu, nid yw beichiogrwydd a mamolaeth a phriodas a phartneriaeth sifil wedi eu gwarchod dan y darpariaethau aflonyddu. Fodd bynnag, byddai aflonyddu rhywun oherwydd beichiogrwydd neu famolaeth yn aflonyddu cysylltiedig i ryw.
1.4 Mae'n anghyfreithlon i gyflogwr aflonyddu ar weithiwr, neu unrhyw un sydd wedi gwneud cais iddo am gyflogaeth (a.40).
1.5 Mae hefyd yn anghyfreithlon os bydd cyflogwr yn methu â chymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr (a.40A(1)).
Aflonyddu yn ymwneud â nodwedd warchodedig
1.6 Mae’r math yma o aflonyddu yn codi pan fydd gweithiwr yn destun ymddygiad digroeso sy’n ymwneud â nodwedd warchodedig ac sydd â’r diben neu effaith o:
- darfu ar urddas y gweithiwr, neu
- greu amgylchedd dychrynllyd, gelyniaethus, israddol, bychanus neu dramgwyddus i'r gweithiwr hwnnw (a.26 (1))
1.7 Gall ymddygiad sydd ag un o'r effeithiau hyn fod yn aflonyddu hyd yn oed os nad oedd yr effaith yn fwriadol.
Ystyr ‘ymddygiad digroeso’
1.8 Mae ymddygiad digroeso yn cwmpasu amrediad eang o ymddygiad. Gall gynnwys:
- geiriau llafar
- cellwair
- geiriau ysgrifenedig
- postio neu gyswllt ar gyfryngau cymdeithasol
- delweddau
- graffiti
- ystumiau corfforol
- mynegiadau wynebol
- mynegiadau
- jôcs neu branciau
- gweithredoedd yn effeithio ar amgylchoedd rhywun
- ymosodedd
- ymddygiad corfforol tuag at rywun neu ei eiddo
1.9 Mae’r gair ‘digroeso’ yn ei hanfod yn golygu’r un peth â golygu ‘diangen’ neu ‘ddi-wahoddiad’.
1.10 Mae digroeso yn golygu ‘digroeso gan y gweithiwr’ a dylid ei ystyried o safbwynt gwrthrychol y gweithiwr. Fodd bynnag, gallai tribiwnlys neu lys ystyried ffactorau allanol wrth benderfynu os yw'n derbyn fod ymddygiad, yn wrthrychol, yn ddigroeso.
1.11 Nid oes angen i'r gweithiwr ddweud ei fod yn gwrthwynebu i’r ymddygiad iddo fod yn ddigroeso. Fodd bynnag, wrth benderfynu os yw hawliwr wedi sefydlu fod yr ymddygiad yn ddigroeso, gallai tribiwnlys neu lys ystyried os yw’r gweithiwr wedi gwrthwynebu i'r ymddygiad neu beidio (ymysg pethau eraill).
1.12 Mewn rhai achosion, bydd yn amlwg fod ymddygiad yn ddigroeso oherwydd y byddai'n amlwg yn tramgwyddo ar urddas rhywun.
1.13 Ar ben arall y sbectrwm, mae achosion ble na fyddai nifer o bobl yn hoffi'r ymddygiad, ond mae gweithredoedd y gweithiwr penodol dan sylw yn ei gwneud yn glir nad oedd yr ymddygiad yn ddigroeso yn yr achos penodol hwnnw.
1.14 Efallai y bydd amgylchiadau ble nad yw ymddygiad yn ddigroeso yn y camau cynharach, ond ar ryw adeg yn ‘croesi llinell’ ac yn dod yn ddigroeso.
Ystyr ‘cysylltiedig i’
1.15 Mae gan ymddygiad digroeso ‘cysylltiedig i’ nodwedd warchodedig ystyr eang. Nid oes rhaid i’r ymddygiad fod oherwydd y nodwedd warchodedig. Mae'n cynnwys y sefyllfaoedd canlynol:
a) Pan fydd ymddygiad yn gysylltiedig i nodwedd warchodedig y gweithiwr ei hun
1.16 Mae amddiffyn rhag aflonyddu hefyd yn berthnasol pan fydd rhywun yn gyffredinol sarhaus i weithiwr arall ond, mewn perthynas â gweithiwr penodol, mae’r ymddygiad yn ddigroeso oherwydd nodwedd warchodedig y gweithiwr hwnnw.
b) Pan fydd unrhyw gysylltiad gyda nodwedd warchodedig
Mae gweithwyr hefyd wedi eu diogelu ble mae'r ymddygiad digroeso yn gysylltiedig i nodwedd warchodedig, hyd yn oed os nad oes gan y gweithiwr y nodwedd warchodedig berthnasol. Mae hyn yn cynnwys ble mae’r cyflogwr yn gwybod nad oes gan y gweithiwr y nodwedd berthnasol. Gall cyswllt gyda nodwedd warchodedig godi mewn sawl sefyllfa:
Efallai bod y gweithiwr yn gysylltiedig i rywun sydd â nodwedd warchodedig.
Efallai bod yr aflonyddwr yn credu ar gam bod gan y gweithiwr nodwedd warchodedig benodol.
Nid yw’n hysbys bod gan y gweithiwr nodwedd warchodedig, ond mae’n destun aflonyddu'n gysylltiedig i'r nodwedd honno fodd bynnag.
Nid yw’r ymddygiad digroeso yn gysylltiedig i nodwedd warchodedig wedi ei gyfeirio at y gweithiwr penodol, ond at berson arall neu neb yn benodol.
Mae’r ymddygiad digroeso oherwydd rhywbeth cysylltiedig i’r nodwedd warchodedig, ond nid yw'n digwydd oherwydd y nodwedd warchodedig ei hun.
1.17 Yn yr holl amgylchiadau a restrir, mae yna gyswllt rhwng yr ymddygiad digroeso a’r nodwedd warchodedig. Felly gallai’r gweithiwr lwyddo mewn hawliad o aflonyddu neu os oes gan yr ymddygiad digroeso y diben neu effaith o dramgwyddo ar ei hurddas neu greu amgylchedd frawychus, gelyniaethus, israddol, bychanus neu dramgwyddus.
1.18 Fodd bynnag, wrth benderfynu os oedd ymddygiad yn gysylltiedig i'r nodwedd warchodedig, gallai tribiwnlys cyflogaeth ystyried y cyd- destun ble mae’r ymddygiad yn digwydd.
Aflonyddu rhywiol
1.19 Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd pan fydd gweithiwr yn destun ymddygiad digroeso fel y diffinnir ym mharagraffau 1.8 i 1.14 ac sydd o natur rhywiol. Does dim rhaid i'r ymddygiad fod wedi ei ysgogi gan ryw, dim ond yn rhywiol ei natur (a.26(2)).
1.20 Mae ymddygiad ‘o natur rywiol’ yn cynnwys ystod eang o ymddygiad, megis:
- sylwadau neu jôcs rhywiol
- arddangos lluniau, posteri neu ffotograffau graffig rhywiol
- tremiau awgrymus, syllu neu gilwenu
- cynigiadau ac awgrymiadau rhywiol
- gwneud addewidion yn gyfnewid am ffafrau rhywiol
- ystumiau rhywiol
- cwestiynau ymwthgar am fywyd preifat neu rywiol rhywun neu berson yn trafod ei fywyd rhywiol ei hun
- postio neu gyswllt rhywiol ar gyfryngau cymdeithasol
- lledaenu sibrydion rhywiol am berson
- anfon negeseuon e-bost neu negeseuon testun rhywiol eglur
- cyffwrdd, cofleidio, tylino neu gusanu digroeso
1.21 Gall unigolyn fod yn destun ymddygiad digroeso gan rywun o'r un rhyw neu o ryw wahanol.
1.22 Nid yw rhyngweithio rhywiol a wahoddir, sydd o'r ddwy ochr neu'n gydsyniol yn aflonyddu rhywiol oherwydd nid yw'n ddigroeso. Fodd bynnag, gall ymddygiad rhywiol a groesawyd yn y gorffennol ddod yn beth digroeso.
1.23 Mae'r Ddeddf yn nodi bod gan gyflogwyr rwymedigaeth gyfreithiol i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr (a.40A(1)). Am ragor o wybodaeth, darllenwch baragraffau 3.16 i 3.43.
Triniaeth lai ffafriol am wrthod neu ddarostwng i ymddygiad digroeso
1.24 Mae’r trydydd math o aflonyddu'n digwydd pan:
- fydd gweithiwr yn destun ymddygiad digroeso
- o natur rywiol
- yn gysylltiedig i ryw, neu
- yn ymwneud ag ailbennu rhywedd
- mae gan yr ymddygiad digroeso y diben neu effaith o
- darfu ar urddas y gweithiwr, neu
- greu amgylchedd dychrynllyd, gelyniaethus, israddol, bychanus neu dramgwyddus i'r gweithiwr, ac
- mae’r gweithir yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei fod wedi darostwng i, neu wedi gwrthod yr ymddygiad digroeso (a.26(3))
1.25 Dan y math yma o aflonyddu, gallai un person fod yn gyfrifol am yr ymddygiad digroeso cychwynnol a'r driniaeth lai ffafriol ddilynol, neu gallai fod yn ddau (neu fwy) o bobl wahanol (a.26(3)(a)).
Ystyr ‘diben’ neu ‘effaith’
1.26 Ar gyfer pob un o'r tri math o aflonyddu, os mai diben yr aflonyddwr yw i darfu ar urddas y gweithiwr, neu greu amgylchedd dychrynllyd, gelyniaethus, israddol, bychanus neu dramgwyddus iddynt, bydd hyn yn ddigon i sefydlu aflonyddu. Ni fydd angen edrych ar effaith yr ymddygiad ar y gweithiwr.
1.27 Bydd ymddygiad digroeso hefyd yn cyfateb i aflonyddu os oes ganddo'r effaith o darfu ar urddas y gweithiwr, neu greu amgylchedd dychrynllyd, gelyniaethus, israddol, bychanus neu dramgwyddus iddynt, hyd yn oed os mai nid dyna oedd y diben bwriadol.
1.28 Wrth benderfynu os cafodd yr ymddygiad yr effaith honno, rhaid ystyried pob un o'r canlynol:
a) Dehongliad y gweithiwr; hynny yw, os yw'n teimlo ei fod wedi tramgwyddo ar ei hurddas neu greu amgylchedd sarhaus iddi (a.26(4)(a)). Mae’r rhan yma o'r prawf yn gwestiwn gwrthrychol ac yn ddibynnol ar sut mae’r gweithiwr yn ystyried y driniaeth.
b) Amgylchiadau eraill yr achos (a.26(4)(b)). Mae’r amgylchiadau a allai fod yn berthnasol yn cynnwys:
- amgylchiadau personol y gweithiwr sy'n profi’r ymddygiad (er enghraifft, iechyd y gweithiwr, gan gynnwys iechyd meddwl; galluedd meddyliol; neu brofiad blaenorol o aflonyddu)
- os yw'r aflonyddwr mewn sefyllfa o ymddiriedaeth neu uwch i’r
-
gweithiwr, neu gydag unrhyw fath arall o bŵer dros y gweithiwr
- hil neu gefndir diwylliannol y rhai dan sylw. Er enghraifft, gallai term penodol fod yn sarhaus i bobl o un hil oherwydd yn hanesyddol ei fod wedi ei ddefnyddio fel term israddol parthed yr hil honno, tra bod pobl o hil arall yn gyffredinol ddim yn ei ystyried i fod yn sarhaus
- yr amgylchedd ble mae’r ymddygiad yn digwydd
- a oedd yr aflonyddwr yn arfer unrhyw un o'i hawliau confensiwn a warchodir o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 megis rhyddid mynegiant
c) Tra bod dehongliad y gweithiwr o’r ymddygiad yn allweddol i os yw rhywbeth yn cyfateb i aflonyddu rhywiol, rhaid hefyd ystyried os yw'n rhesymol i’r ymddygiad gael yr effaith honno. Mae hyn yn brawf gwrthrychol. Mae tribiwnlys neu lys yn annhebygol o ganfod fod gan ymddygiad digroeso yr effaith, er enghraifft, o dramgwyddo ar weithiwr, os yw'n ystyried y gweithiwr i fod yn hynod sensitif ac na fyddai unrhyw berson arall sy'n destun yr un ymddygiad wedi ei dramgwyddo (a.26(4)(c)).
1.29 Weithiau gallai’r aflonyddwr gyflwyno tystiolaeth i awgrymu na allai ei ymddygiad fod wedi cael yr effaith berthnasol ar y gweithiwr. Pan fydd yn gwneud hynny, ni ddylai cyflogwr ddibynnu ar wybodaeth amherthnasol ynghylch ymddygiad yr unigolyn.
Ystyr tarfu ar urddas neu greu amgylchedd dychrynllyd, gelyniaethus, israddol, bychanus neu dramgwyddus
1.30 I gyfateb i aflonyddu, rhaid bod gan yr ymddygiad digroeso y diben neu effaith o darfu ar urddas y gweithiwr, neu greu amgylchedd dychrynllyd, gelyniaethus, israddol, bychanus neu dramgwyddus iddynt. Nid oes angen dangos y ddau.
1.31 Bydd nifer o weithredoedd o ymddygiad digroeso yn cael yr effaith o darfu ar urddas y gweithiwr a chreu’r amgylchedd perthnasol iddynt. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai gweithred wneud un ond nid y llall.
1.32 Golyga ‘amgylchedd’ yn y cyd-destun hwn sefyllfa. Gellir creu amgylchedd gydag un weithred o ymddygiad digroeso, ond rhaid i effeithiau'r weithred unigol honno fod yn o hyd hirach i wneud hynny. Tra gallai un weithred o ymddygiad digroeso nad yw'n cael effaith barhaus darfu ar urddas person yn y foment.
2. Beth yw erledigaeth?
Cyflwyniad
2.1 Mae’n bwysig fod cyflogwyr yn cydnabod rôl sylweddol mae ofn erledigaeth yn chwarae o ran sut maent yn taclo a delio gydag aflonyddu ac aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Bydd hyn yn ffactor allweddol yn eu gallu i gyflawni eu dyletswydd i atal a diogelu cyflogeion rhag aflonyddu. Mae’r bennod yma’n esbonio beth ddywed y Ddeddf am erledigaeth yng nghyd-destun aflonyddu yn y gwaith. I gael ystyriaeth o erledigaeth yn y cyd-destun ehangach, gweler Pennod 9 y Cod Ymarfer Statudol Cyflogaeth.
Beth a ddywed y Ddeddf
2.2 Golyga erledigaeth drin gweithiwr yn wael (ei ddarostwng i niwed) oherwydd ei fod wedi gwneud gweithred warchodedig – er enghraifft, gwneud cwyn o aflonyddu (darllenwch baragraffau 2.6 i 2.15 am y diffiniad llawn). Mae erledigaeth hefyd yn golygu darostwng gweithiwr i niwed oherwydd y credir ei fod wedi gwneud neu'n mynd i wneud gweithred warchodedig. Nid oes rhaid i'r gweithiwr fod wedi gwneud y weithred warchodedig (a.27(1)).
2.3 Does dim angen i’r gweithiwr gymharu ei driniaeth gyda thriniaeth gweithiwr arall nad yw wedi cyflawni gweithred warchodedig, a dangos na fyddai’r gweithiwr cymharol hwn wedi bod yn destun yr un driniaeth niweidiol. Does dim ond rhaid i'r gweithiwr ddangos ei fod wedi profi triniaeth niweidiol oherwydd ei fod wedi cyflawni gweithred warchodedig neu oherwydd fod y cyflogwr yn credu (yn gam neu'n gymwys) ei fod wedi gwneud neu’n bwriadu gwneud gweithred warchodedig (a.27(2)(c) a (d)).
2.4 Nid oes rhaid i’r driniaeth niweidiol fod yn gysylltiedig i nodwedd warchodedig. Fodd bynnag, mae yna angen am weithred warchodedig (darllenwch baragraffau 2.6 i 2.15 am y diffiniad llawn).
2.5 Mae cyn weithwyr hefyd wedi eu diogelu yn erbyn erledigaeth.
Beth yw ‘gweithred warchodedig’?
2.6 Mae gwneud ‘gweithred warchodedig’ yn golygu:
- gwneud hawliad neu gŵyn dan y Ddeddf (er enghraifft, ar gyfergwahaniaethu neu aflonyddu)
- helpu rhywun arall i wneud hawliad trwy gyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth
- gwneud cyhuddiad fod rhywun wedi torri’r Ddeddf, neu
- gwneud unrhyw beth arall mewn cysylltiad â’r Ddeddf (a.27(2)(a)- (d))
2.7 Bydd yr amddiffyniad hwn yn berthnasol i unrhyw un yn gwneud hawliad neu gyhuddiad y torrwyd y Ddeddf neu’n cynorthwyo rhywun (fel cydweithiwr) i wneud hynny. Nid yw'n berthnasol os torrwyd y Ddeddf neu beidio, cyn belled â bid y sawl sy'n gwneud y weithred warchodedig yn credu'n ddiffuant fod yr wybodaeth neu dystiolaeth mae’n cyflwyno'n wir.
2.8 Mae gweithredoedd gwarchodedig yn cynnwys hawliadau neu gyhuddiadau o wahaniaethu ac aflonyddu dan y Ddeddf ac unrhyw ddeddfwriaeth mae'r Ddeddf wedi disodli.
2.9 Fel yr awgryma’r enghraifft hwn, nid oes terfyn ar faint o amser all fynd heibio rhwng y weithred warchodedig a’r niwed, ar yr amod fod y gweithiwr yn ddarostyngedig i'r niwed oherwydd y weithred warchodedig ac ni am unrhyw reswm arall.
2.10 Gallai'r weithred warchodedig fod yn berthnasol i unrhyw ran o'r Ddeddf, nid dim ond y darpariaethau cyflogaeth. Gallai'r weithred o erledigaeth fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau, nwyddau neu addysg neu arfer swyddogaeth gyhoeddus.
2.11 Tra bydd hawliad am erledigaeth yn aml yn cael ei ddwyn yn erbyn yr unigolyn neu gyflogwr sydd wedi cyflawni'r gwahaniaethu neu aflonyddu, ni fydd hyn yn wir bob tro. Gall yr ymddygiad sy’n destun y weithred warchodedig gael ei chyflawni gan unrhyw un.
2.12 Ni fydd gweithred yn weithred warchodedig os yw'r gweithiwr yn cyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth ffug neu'n gwneud cyhuddiad ffug yn anonest. Mae hon yn brawf dau gam.
2.13 Yn gyntaf, rhaid i dribiwnlys benderfynu os yw’r dystiolaeth, gwybodaeth neu gyhuddiad yn ffug. Mae hyn yn ymarfer gwrthrychol ble bydd y dystiolaeth o blaid ac yn erbyn yn cael ei phwyso a mesur. Os bydd tribiwnlys neu lys yn penderfynu wedi cydbwyso’r dystiolaeth, gwybodaeth neu gyhuddiad ei fod yn fwy tebygol o fod yn wir na ffug, mae’r weithred yn warchodedig.
2.14 Os bydd tribiwnlys neu lys yn penderfynu fod y dystiolaeth, gwybodaeth neu gyhuddiad yn fwy tebygol o fod yn ffug, yna rhaid penderfynu os y’i gwnaethpwyd yn anonest. Mae’r ffocws yma ar os oedd yr unigolyn wedi gweithredu'n onest neu beidio.
2.15 Os oes gan weithiwr gymhelliad arall dros ddarparu'r dystiolaeth neu wybodaeth, neu am wneud y cyhuddiad, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad yw’r gweithiwr yn credu'n onest ei fod yn wir. Felly ni fyddai cymhelliad arall ynddo’i hun yn golygu fod y gweithiwr wedi gweithredu'n anonest. Fodd bynnag, gallai fod yn ddarn perthnasol o wybodaeth i dribiwnlys neu lys ystyried wrth benderfynu os yw’r gweithiwr wedi gweithredu’n onest. Gallai ffactorau eraill fel faint o amser a gymerodd i'r gweithiwr godi'r mater hefyd fod yn berthnasol.
Beth yw ‘niwed’?
2.16 Nid yw ‘niwed’ wedi ei ddiffinio gan y Ddeddf a gallai fod ar sawl ffurf. Yn gyffredinol, niwed yw cael eich trin yn ddrwg. Gallai hyn gynnwys:
- cael eich gwrthod am ddyrchafiad
- cael gwrthod cyfle i gynrychioli’r cyflogwr mewn digwyddiadau allanol
- cael eithrio o gyfleoedd i gyflawni hyfforddiant
- beidio cael bonws dewisol neu wobr cysylltiedig i berfformiad
2.17 Gallai niwed hefyd gynnwys bygythiad a wneir i’r achwynydd y mae’n ei gymryd o ddifrif ac sy’n rhesymol iddo gymryd o ddifrif. Does yna ddim angen arddangos goblygiadau ffisegol nac ariannol. Fodd bynnag, fyddai cwyn heb gyfiawnhad ynddo’i hun ddim yn ddigon.
2.18 Mae triniaeth niweidiol yn cyfateb i erledigaeth os yw ‘gweithred warchodedig’ yn un o'r rhesymau dros y driniaeth, ond nid oes angen bod yr unig reswm.
3. Goblygiadau ac atebolrwydd o dan y Ddeddf
Cyflwyniad
3.1 Mae’r Ddeddf yn gwneud gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn y berthynas waith yn anghyfreithlon (Rhan 5).
3.2 Mae’r bennod hon yn esbonio:
- pwy sydd wedi ei warchod yn erbyn aflonyddu ac erledigaeth
- ymddygiad pwy allai cyflogwr fod yn atebol amdano,
- ar ba seiliau y gall cyflogwr godi amddiffyniad i honiad o aflonyddu
- dyletswydd gyfreithiol gadarnhaol cyflogwr i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar ei weithwyr (y ‘ddyletswydd ataliol’)
Pwy sydd wedi ei warchod yn erbyn aflonyddu ac erledigaeth?
3.3 Mae ystod eang o bobl yn cael eu hamddiffyn rhag aflonyddu ac erledigaeth yn y gwaith o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (a.83).
Beth mae ‘cyflogaeth’ yn ei olygu
3.4 Mae’r Ddeddf yn gwarchod pawb sydd mewn ‘cyflogaeth’. Mae gan hyn ystyr eang ac mae’n cwmpasu:
- cyflogeion: y rhai sydd â chontract cyflogaeth
- gweithwyr: y rhai sy'n cytundebu i wneud y gwaith yn bersonol ac nad ydynt yn gallu anfon un arall i weithio yn eu lle (cyfeiriwch at y rhestr o dermau allweddol ar ddechrau'r canllaw hwn i weld sut fyddwn yn defnyddio’r term hwn trwy gydol gweddill y canllaw)
- prentisiaid: y rhai sydd â chontract prentisiaeth
- cyflogeion y goron: y rhai a gyflogir gan adran o'r llywodraeth neu swyddogion neu gyrff eraill sy'n cyflawni swyddogaethau'r goron,
- staff Tŷ'r Cyffredin a staff Tŷ'r Arglwyddi
Perthnasau gwaith eraill sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf
3.5 Yn ogystal â’r rhai a restrir ym mharagraff 3.4, mae amddiffyn rhag aflonyddu dan y Ddeddf hefyd yn berthnasol i ystod eang o berthnasau sy'n cyfateb i waith. Mae cyflogwyr hefyd yn gyfrifol am atal aflonyddu yn erbyn:
- ymgeiswyr am swyddi
- gweithwyr contract (gan gynnwys gweithwyr asiantaeth a'r rhai sy'n contractio i ddarparu gwaith yn bersonol fel ymgynghorwyr)
- swyddogion heddlu
- partneriaid mewn cwmni
- aelodau mewn partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
- deiliaid swyddi personol a chyhoeddus, a
- pobl sy'n ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol
3.6 Gall perthnasau gwaith sydd dan enwau eraill nad ydynt wedi eu crybwyll yn benodol yn y Ddeddf fod wedi eu cynnwys dan y Ddeddf os, yn ymarferol, mai realiti’r sefyllfa yw fod yr unigolyn yn syrthio dan un o'r categorïau a gynhwysir. Er enghraifft, mae cyflogwr yn cyflogi unigolyn fel ‘intern’ di-dâl, ond mae’r amgylchiadau'n awgrymu fod gan yr unigolyn gontract cyflogaeth gyda'r cyflogwr mewn gwirionedd, ac felly mae’n gyflogai. Nid yw gwirfoddolwyr wedi eu diogelu dan ddarpariaethau gwaith y Ddeddf, ond gallent fod wedi eu gwarchod dan ddarpariaethau gwasanaethau'r Ddeddf os yw’r sefydliad sy’n darparu’r cyfle gwirfoddoli yn darparu gwasanaeth i'r gwirfoddolwr. Nid yw hyn wedi ei brofi yn y llysoedd eto.
3.7 Darperir canllawiau ynghylch pwy sy'n perthyn i'r categorïau a restrir ym mharagraff 3.4 yn 3.8 i 3.14. Fyddwn ni ddim ond yn gwahaniaethu rhwng y termau ‘cyflogai’, ‘gweithiwr’ a perthnasau eraill a gwmpasir gan y Ddeddf yn 3.4 i 3.14.
Pwy sy’n gyflogai a phwy sy’n weithiwr?
3.8 Dan ddeddfwriaeth cyflogaeth y Deyrnas Unedig, mae yna orgyffwrdd rhwng pwy sy’n gyflogai a phwy sy’n weithiwr. Mae pob cyflogai yn contractio i wneud gwaith i'w cyflogwr yn bersonol, ac felly hefyd gweithwyr. Ond nid oes gan bob gweithiwr gontract cyflogaeth, felly nid ydynt i gyd yn gyflogeion.
3.9 Mae cyflogeion a gweithwyr wedi eu gwarchod yn erbyn aflonyddu ac erledigaeth gan y Ddeddf. Nid yw’r gwahaniaeth rhwng cyflogai a gweithiwr wedi ei drafod yn fanwl yn y canllaw hwn.
3.10 Fodd bynnag, efallai y byddai'n rhesymol i egluro os yw rhywun yn gyflogai neu'n weithiwr os yw'r unigolyn hwnnw eisiau cyflwyno hawliadau eraill dan ddeddfwriaeth tu allan i’r Ddeddf, y mae modd ei wneud gan gyflogeion yn unig. Er enghraifft, mae’r hawl i beidio cael ei ddiswyddo’n annheg dan y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn berthnasol i gyflogeion, ond nid i weithwyr. Ceir trosolwg manylach o’r gwahanol fathau o statws cyflogaeth. a hawliau cyflogaeth sydd gan bob categori tu hwnt i'r Ddeddf ar y wefan gov.uk.
Pwy sy'n hunangyflogedig?
3.11 Weithiau, gallai cyflogwr ddweud fod unigolyn yn gontractwr hunangyflogedig nad yw wedi ei ddiogelu gan y Ddeddf, ond gallai'r unigolyn gredu ei fod yn gyflogai neu weithiwr sydd wedi ei ddiogelu.
3.12 Wrth ddatrys anghydfod o'r fath, rhaid i dribiwnlys neu lys edrych ar beth oedd y cyflogwr neu unigolyn yn ei fwriadu a beth ddywed unrhyw gontract rhyngddynt. Fodd bynnag, nid yw beth a ddywed y contract yn gorchymyn os yw rhywun wir yn hunangyflogedig neu beidio. Gallai tribiwnlys edrych yn ofalus ar beth sydd wir yn digwydd rhwng y cyflogwr ac unigolyn yn ymarferol. Os yw’r berthynas, yn ymarferol, yn un sydd wedi ei gwarchod dan y Ddeddf, yna bydd yr unigolyn wedi ei warchod er bod y contract yn dweud ei fod yn hunangyflogedig. Sefydla cyfraith achos nifer o ffactorau y mae'n rhaid i dribiwnlys neu lys bwyso a mesur wrth benderfynu os yw unigolyn yn hunangyflogedig ac nid wedi ei warchod dan y Ddeddf, neu’n gyflogai neu weithiwr sydd wedi ei warchod dan y Ddeddf. Mae’r canlynol yn ddangosyddion fod yr unigolyn yn gyflogai neu'n weithiwr:
- mae'n rhaid i'r cyflogwr ddarparu gwaith i'r unigolyn
- mae’n ofynnol i'r unigolyn wneud gwaith a gynigir iddo gan y cyflogwr
- mae gan y cyflogwr lawer o reolaeth dros sut mae’r unigolyn yn gwneud yn gwaith
- mae’n ofynnol i'r unigolyn wneud y gwaith yn bersonol (gweler 3.13)
- mae’r unigolyn wedi ei integreiddio’n dda i weithle’r cyflogwr
- mae’n edrych fel cyflogai neu weithiwr y cyflogwr i’r byd tu allan yn hytrach na pherson hunangyflogedig yn rhedeg ei fusnes ei hun
- nid yw’r unigolyn yn rhydd i weithio i eraill yn ogystal â’r cyflogwr
- mae’r cyflogwr yn didynnu treth o’i gyflog
- nid yw’n ofynnol i’r unigolyn gael ei yswiriant ei hun
- mae wedi ei gynnwys dan yswiriant atebolrwydd y cyflogwr
- mae’r unigolyn yn derbyn cyflog
- nid yw’n derbyn cyfran o'r elw na’r colledion a wneir gan y cyflogwr
- dywed y contract rhwng yr unigolyn a'r cyflogwr ei fod yn gyflogai neu weithiwr
Ystyr ‘gwasanaeth personol’
3.13 Mater allweddol wrth benderfynu os yw rhywun yn hunangyflogedig yn aml yw os yw’n darparu gwasanaeth personol neu beidio. Hynny yw, a yw weithiau’n gwneud y gwaith eu hun a heb hawl i ofyn i berson arall wneud y gwaith iddo (dirprwy). Os yw'n ofynnol iddo wneud y gwaith yn bersonol, mae’n debygol o fod yn gyflogai neu weithiwr. Yn groes i hynny, os oes ganddo hawl anghyfyngedig i ddefnyddio dirprwy, yna nid yw’n ofynnol iddo ddarparu gwasanaeth personol i'r cyflogwr ac mae’n debygol o fod yn hunangyflogedig.
3.14 Rhwng y ddau begwn yma, bydd yna achosion ble bydd gan rywun yr hawl i benodi dirprwy ond dan amodau penodol. Er enghraifft, gofynion fod y dirprwy a ddefnyddir o grŵp cyfyngedig o bobl fod yr unigolyn cael caniatâd gan y cyflogwr cyn defnyddio dirprwy; neu fod gan y dirprwy gymwysterau penodol. Nid yw’r llysoedd wedi darparu canllaw clir eto o ran pa mor rydd sy'n rhaid i unigolyn fod er mwyn i'r unigolyn fod yn hunangyflogedig. Maent wedi dilyn ymagwedd fesul achos o ran os yw amgylchiadau penodol pob achos yn dynodi fod angen gwasanaeth personol.
Effaith contractau anghyfreithiol ar hawliadau aflonyddu
3.15 Ni fydd y ffaith fod contract cyflogaeth yn anghyfreithiol fel arfer yn atal gweithiwr rhag mynd ar drywydd ei hawliad aflonyddu. Fydd hyn ddim ond yn ei atal rhag gwneud os oes cyswllt pendant rhwng yr ymddygiad a’r aflonyddu (hynny yw, mae’r aflonyddu mor ynghlwm i’r ymddygiad anghyfreithiol fel fod y ddau yn amhosibl i’w gwahanu). Os yw'r ddau beth yn amhosibl i'w gwahanu, efallai na fydd tribiwnlys neu lys yn gallu clywed yr hawliad oherwydd byddai gwneud dyfarniad o iawndal yn yr amgylchiadau hyn yn creu'r argraff fod y tribiwnlys neu lys yn cymeradwyo'r ymddygiad anghyfreithlon.
Y ddyletswydd ataliol
Dyletswydd ar gyflogwyr i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr
3.16 Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol gadarnhaol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr. Rhaid iddynt gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr yn ystod eu cyflogaeth (y ‘ddyletswydd ataliol’) (a.40A(1)).
3.17 Mae aflonyddu rhywiol yn golygu aflonyddu o'r math a ddisgrifir yn adran 26(2) o'r Ddeddf (ymddygiad digroeso o natur rywiol) (a.40A(2)).
3.18 Mae'r ddyletswydd ataliol yn ddyletswydd rhagweledol. Fe'i cynlluniwyd i drawsnewid diwylliant gweithleoedd drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd camau rhesymol cadarnhaol a rhagweithiol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr. Ni ddylai cyflogwyr aros nes bod cwyn o aflonyddu rhywiol wedi'i chodi cyn cymryd unrhyw gamau. Mae'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ragweld senarios pan fydd eu gweithwyr yn destun aflonyddu rhywiol yn ystod cyflogaeth, a chymryd camau i atal aflonyddu o'r fath rhag digwydd. Os bydd aflonyddu rhywiol wedi digwydd, fodd bynnag, mae'r ddyletswydd ataliol yn golygu y dylai cyflogwr gymryd camau i atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd eto. Os bydd cyflogwr yn methu â chymryd camau rhesymol i gydymffurfio â'r ddyletswydd ataliol, mae goblygiadau.
3.19 Yn gyntaf mae gennym ni (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn y cyflogwr (a.40A(3)).
3.20 Yn ail, os bydd unigolyn yn llwyddo mewn hawliad am aflonyddu rhywiol ac yn cael iawndal, rhaid i dribiwnlys cyflogaeth ystyried a yw’r cyflogwr wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd ataliol. Os yw'n ystyried bod y ddyletswydd ataliol wedi'i thorri, gall tribiwnlys cyflogaeth gynyddu iawndal hyd at 25% (a.124A). Fodd bynnag, ni all unigolyn ddwyn hawliad am dorri dyletswydd ataliol ar ei ben ei hun. I gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd ataliol darllenwch baragraffau 3.36 i 3.43.
3.21 Mae'r ddyletswydd ataliol yn berthnasol i aflonyddu rhywiol yn unig. Nid yw'n cynnwys aflonyddu sy'n gysylltiedig â nodwedd warchodedig (gan gynnwys rhyw), ac nid yw'n berthnasol ychwaith i driniaeth lai ffafriol ar gyfer gwrthod neu ildio i ymddygiad diangen. Mae'r mathau hyn o aflonyddu, fodd bynnag, yn anghyfreithlon, a dylai cyflogwyr gymryd camau i atal pob math o aflonyddu yn y gwaith.
3.22 Mae'r ddyletswydd ataliol yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol gan eu gweithwyr eu hunain. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr gan drydydd partïon, megis cleientiaid a chwsmeriaid. Er bod y ddyletswydd ataliol yn cynnwys aflonyddu trydydd parti, ni all gweithiwr ddwyn hawliad annibynnol yn y tribiwnlys cyflogaeth am aflonyddu trydydd parti. Am ragor o fanylion, darllenwch baragraffau 3.33 i 3.34 a 3.65 i 3.86.
Aflonyddu rhywiol ar weithwyr
3.23 Rhaid i gyflogwyr gymryd camau i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr yn ystod eu cyflogaeth. Mae aflonyddu rhywiol yn ymddygiad rhywiol digroeso sydd â’r pwrpas neu’r effaith o:
- torri urddas gweithiwr
- creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus i'r gweithiwr hwnnw
Esbonnir yn fanylach ym mharagraffau 1.19 i 1.22.
3.24 Dim ond i aflonyddu rhywiol sy'n digwydd yn ystod cyflogaeth y mae'r ddyletswydd ataliol yn berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, darllenwch baragraffau 3.47 i 3.48.
3.25 Gall aflonyddu rhywiol ar weithiwr gael ei gyflawni drwy:
- gweithiwr arall
- asiant sy'n gweithredu ar ran y cyflogwr
- trydydd parti
3.26 Mae'r ddyletswydd ataliol yn cynnwys atal aflonyddu rhywiol gan drydydd parti. Felly, os na fydd cyflogwr yn cymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr gan drydydd parti, bydd y ddyletswydd ataliol yn cael ei thorri. Esbonnir canlyniadau torri'r ddyletswydd ataliol ymhellach ym mharagraffau 3.62 i 3.68 isod.
Camau rhesymol
3.27 Er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd ataliol, rhaid i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr yn ystod cyflogaeth.
3.28 Bydd yr hyn sy'n rhesymol yn amrywio o gyflogwr i gyflogwr. Nid yw'r gyfraith yn rhestru camau penodol y mae'n rhaid i gyflogwr eu cymryd. Efallai y bydd gwahanol gyflogwyr yn atal aflonyddu rhywiol mewn gwahanol ffyrdd, ond rhaid i bob cyflogwr weithredu, ac nid oes unrhyw gyflogwr wedi'i eithrio o'r ddyletswydd atal aflonyddu rhywiol.
3.29 Mae p'un a yw cyflogwr wedi cymryd camau rhesymol ai peidio yn brawf gwrthrychol, a bydd yn dibynnu ar ffeithiau ac amgylchiadau pob sefyllfa. Mae'r enghreifftiau rydym wedi'u defnyddio i helpu i egluro beth allai fod yn rhesymol yn eglurhaol yn unig, ac nid ydynt yn rhestr derfynol o gamau y dylai cyflogwr eu cymryd. Bydd sefyllfa pob cyflogwr yn wahanol.
3.30 Dylai cyflogwr:
- ystyried y risgiau o aflonyddu rhywiol yn ystod cyflogaeth
- ystyried pa gamau y gallai eu cymryd i leihau'r risgiau hynny ac atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr
- ystyried pa un o'r camau hynny y byddai'n rhesymol iddo ei gymryd i roi'r camau rhesymol hynny ar waith
3.31 Mae'n annhebygol y bydd cyflogwr yn gallu cydymffurfio â'r ddyletswydd ataliol oni bai ei fod yn cynnal asesiad risg. Mae rhagor o wybodaeth am asesiadau risg ym mharagraffau 4.10 i 4.15.
3.32 Wrth benderfynu a yw cam yn rhesymol, mae'r ffactorau a allai fod yn berthnasol yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- maint ac adnoddau'r cyflogwr
- natur yr amgylchedd gwaith
- y sector y mae'r cyflogwr yn gweithredu ynddo
- y risgiau sy'n bresennol yn y gweithle hwnnw
- natur unrhyw gyswllt â thrydydd parti, er enghraifft, math o drydydd parti, amlder, amgylchedd
- yr effaith debygol o gymryd cam penodol ac a allai cam arall fod yn fwy effeithiol
- yr amser, y gost a'r tarfu posib o ganlyniad i gymryd cam penodol, wedi'u pwyso yn erbyn y budd y gallai ei gyflawni
- a godwyd pryderon gyda chyflogwr bod aflonyddu rhywiol wedi digwydd (byddai'n debygol o fod yn rhesymol i'r cyflogwr gymryd camau i ymchwilio a sicrhau nad yw'n digwydd eto)
- cydymffurfio ag unrhyw safonau rheoleiddio perthnasol (er enghraifft, safonau a osodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu'r Cyngor Meddygol Cyffredinol)
- p'un a yw'n ymddangos bod camau a gymerwyd wedi bod yn effeithiol neu'n aneffeithiol, er enghraifft, os bydd digwyddiad pellach o aflonyddu rhywiol yn digwydd ar ôl i gamau gael eu cymryd, gall hyn ddangos y dylid ystyried camau ychwanegol a/neu amgen
Gall cam fod yn rhesymol, hyd yn oed os na fyddai wedi atal gweithred benodol o aflonyddu rhywiol.
3.33 Yn ogystal ag atal aflonyddu rhywiol gweithwyr ar weithwyr, mae'r ddyletswydd ataliol yn cynnwys dyletswydd i atal aflonyddu rhywiol gan drydydd partïon. Mae llawer o wahanol fathau o drydydd partïon a allai aflonyddu ar weithiwr yn rhywiol (megis cwsmeriaid, cleientiaid, contractwyr hunangyflogedig neu weithwyr llawrydd, defnyddwyr gwasanaeth, cleifion, myfyrwyr, ffrindiau a theulu cydweithwyr, cynrychiolwyr mewn cynhadledd, ac aelodau'r cyhoedd).
3.34 Wrth gynnal asesiad risg, fel yr eglurir yn mharagraffau 3.30 i 3.32 uchod, dylai cyflogwyr ystyried y risg y gallai trydydd partïon aflonyddu ar eu gweithwyr yn rhywiol, a chymryd camau rhesymol i atal aflonyddu o'r fath.
3.35 Mae Pennod 4 yn rhoi arweiniad manwl ar gamau ymarferol y gall cyflogwyr eu cymryd i atal ac ymateb i aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Darllenwch hefyd ein canllaw byr i gyflogwyr ar atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
Ein gorfodaeth
3.36 Os nad yw cyflogwr yn cydymffurfio â'r ddyletswydd ataliol, mae gennym y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn y cyflogwr. Mae gennym bwerau gorfodi o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 sy’n cynnwys pwerau i:
- ymchwilio i gyflogwr (a.20 Deddf Cydraddoldeb 2006)
- cyhoeddi hysbysiad gweithred anghyfreithlon os yw'r cyflogwr yn destun ymchwiliad neu wedi bod yn destun ymchwiliad o dan a.20, yn cadarnhau ein bod wedi canfod bod cyflogwr wedi torri'r Ddeddf a'i gwneud yn ofynnol i'r cyflogwr baratoi cynllun gweithredu sy'n nodi sut y bydd yn cywiro unrhyw achosion. parhau i dorri’r gyfraith ac atal achosion o dorri’r gyfraith yn y dyfodol (a.21 ac a.22 Deddf Cydraddoldeb 2006)
- ymrwymo i gytundeb ffurfiol, cyfreithiol-rwym gyda chyflogwr i atal gweithredoedd anghyfreithlon yn y dyfodol (a.23 Deddf Cydraddoldeb 2006)
- aofyn i'r llys am waharddeb i atal cyflogwr rhag cyflawni gweithred anghyfreithlon (a.24 Deddf Cydraddoldeb 2006)
3.37 Gallwn ddefnyddio un o’n pwerau gorfodi i gymryd camau os ydym yn amau na chydymffurfiwyd â’r ddyletswydd ataliol. Nid yw'r ddyletswydd ataliol yn dibynnu ar ddigwyddiad o aflonyddu rhywiol i fod yn orfodadwy gennym ni.
3.38 Darllenwch fwy am ein pwerau gorfodi yma.
3.39 Gall gweithwyr adrodd am bryder i ni fod y ddyletswydd ataliol wedi'i thorri. Darllenwch am sut i adrodd am bryder yma. Dylai gweithwyr ystyried codi eu pryderon gyda'u cyflogwr neu undeb llafur cyn adrodd am bryder i ni.
Cynnydd mewn iawndal am aflonyddu rhywiol
3.40 Os bydd tribiwnlys cyflogaeth yn canfod bod gweithiwr wedi cael ei aflonyddu’n rhywiol ac wedi gorchymyn i’r cyflogwr dalu iawndal i’r gweithiwr, rhaid iddo ystyried a yw’r cyflogwr wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd ataliol ac i ba raddau.
3.41 Os yw’r tribiwnlys cyflogaeth yn fodlon bod y ddyletswydd ataliol wedi’i thorri, gall orchymyn y cyflogwr i dalu iawndal ychwanegol i’r gweithiwr (‘codiad iawndal’).
3.42 Rhaid i swm y codiad iawndal adlewyrchu i ba raddau y mae'r tribiwnlys cyflogaeth o'r farn nad yw'r cyflogwr wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd ataliol. Ni ddylai fod yn fwy na 25% o'r swm o iawndal a ddyfernir i'r gweithiwr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
3.43 Gall iawndal am aflonyddu rhywiol gynnwys iawndal am golli enillion yn y gorffennol ac yn y dyfodol, anaf i deimladau ac anaf personol. I gael rhagor o wybodaeth am iawndal am hawliadau gwahaniaethu darllenwch baragraffau 15.37 i 15.43 o'r Cod Ymarfer Statudol Cyflogaeth.
Pryd fydd cyflogwyr yn atebol am aflonyddu?
3.44 Mae cyflogwyr yn atebol am weithredoedd aflonyddu:
- a gyflawnir gan un gweithiwr yn erbyn un arall o’i weithwyr
- a gyflawnir gan un o’i weithwyr yn erbyn ymgeisydd am swydd neu gyn weithiwr
- a gyflawnir gan asiant yn gweithredu ar ei ran yn erbyn un o’i weithwyr
- ble mae methiant i ddelio gydag aflonyddu yn erbyn un o’i weithwyr gan drydydd parti, neu gan weithiwr arall tu allan i gyflogaeth, yn cyfateb i wahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol (neu dorri rhwymedigaethau cyfreithiol eraill) (a.40)
3.45 Fel y nodir uchod, ni all gweithiwr ddwyn hawliad yn erbyn ei gyflogwr am dorri’r ddyletswydd ataliol, ond gall tribiwnlys cyflogaeth gynyddu’r iawndal a ddyfernir mewn hawliad aflonyddu rhywiol os na chydymffurfir ag ef. I gael rhagor o wybodaeth am y ddyletswydd ataliol darllenwch baragraffau 3.16 i 3.43.
3.46 Bydd cyflogwyr yn atebol am aflonyddu a gyflawnir gan eu gweithwyr wrth gyflawn eu cyflogaeth oni bai y gall ddibynnu ar yr amddiffyn ‘camau rhesymol’ (darllenwch baragraffau 3.49 i 3.58). Nid oes gwahaniaeth os yw’r cyflogwr yn gwybod am yr aflonyddu neu beidio (a.109(1) ac a.109(3)).
3.47 Mae gan y geiriau ‘wrth gyflawni cyflogaeth’ ystyr eang. Mae’n cynnwys gweithredoedd a gyflawnwyd yn y gweithle neu mewn unrhyw le arall ble mae’r gweithiwr yn gweithio. Er enghraifft, pan fydd y gweithiwr yn gweithio oddi ar y safle neu'n mynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd neu gyfarfod allanol.
3.48 Mae hefyd yn cynnwys amgylchiadau eraill ble nad yw’r gweithiwr yn gweithio mewn gwirionedd, ond sy'n gysylltiedig gyda gwaith. Bydd os yw gweithredoedd a gyflawnir tu allan i’r gwaith yn cael eu cyflawni ‘yn ystod cyflogaeth’ yn ddibynnol ar gryfder y cysylltiad gyda gwaith ym mhob achos penodol. Bydd tribiwnlys cyflogaeth yn penderfynu ym mhob achos os oedd yr amgylchiadau ble digwyddodd yr aflonyddu yn estyniad o'r gyflogaeth, neu os yw’r cyswllt gyda gwaith yn rhyw wan.
Cymryd camau rhesymol i atal aflonyddu
3.49 Ni fydd cyflogwr yn atebol am aflonyddu a gyflawnir gan weithiwr yn ystod cyflogaeth os gall ddangos iddo gymryd camau rhesymol i atal yr aflonyddu (yr amddiffyn ‘camau rhesymol’) (a.109(4)).
3.50 Bydd cyflogwr wedi cymryd pob cam rhesymol os nad oes camau pellach y gallai gymryd o fewn rheswm.
3.51 Wrth benderfynu os yw cm yn rhesymol, dylai cyflogwr ystyried ei effaith tebygol ac os byddai cam amgen yn fwy effeithiol.
3.52 Gallai tribiwnlys neu lys ganfod y byddai wedi bod yn rhesymol i gyflogwr gymryd cam benodol, hyd yn oed pe na fyddai'r cam yna wedi ata y weithred o aflonyddu.
3.53 Fodd bynnag, mae gan y cyflogwr hawl i ystyried pa mor effeithiol fyddai cam yn erbyn ffactorau eraill fel yr amser, cost ac amhariad posibl ellir ei achosi trwy gymryd y cam. Ni fydd cam sy’n ddrud, yn cymryd amser ac yn drafferthus i’w weithredu yn gam rhesymol i'w gymryd os na fydd yn cyflawni unrhyw beth. Yn groes i hynny, pe byddai cam yn effeithiol, yna gallai hyn orbwyso unrhyw ffactorau negyddol eraill.
3.54 Y gofyniad yw i gymryd camau ataliol. Ni fydd y ffaith fod cyflogwr wedi cymryd camau fel ymchwiliad a chamau disgyblu i ddelio gyda’r aflonyddu wedi iddo ddigwydd, yn ddigonol ynddo’i hun i osgoi atebolrwydd. Fodd bynnag:
- os yw cyflogwr wedi cymryd camau effeithiol i ddelio gydag aflonyddu, gallai hyn helpu profi fod y polisi gwrth aflonyddu sydd ar waith i atal aflonyddu wedi ei gymryd yn ddifrifol gan y cyflogwr a’i ddefnyddio’n effeithiol wedi i weithiwr ei dorri
- gellir cyfeirio at gamau unioni a gymerwyd parthed gweithredoedd aflonyddu yn y dyfodol. Er enghraifft, os yw cyflogwr wedi gwella ei brosesau adrodd ac ymchwilio wedi digwyddiad blaenorol, bydd hyn yn helpu cyflogwr i sefydlu ei fod wedi cymryd camau ataliol parthed y weithred bresennol o aflonyddu
3.55 Bydd pa gamau oedd yn rhesymol i gyflogwr gymryd yn ddibynnol ar amgylchiadau pob achos unigol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i gyflogwr sy'n gwybod fod gweithiwr wedi cyflawni gweithred aflonyddu yn flaenorol gymryd camau penodol i sicrhau nad yw’n gwneud hynny yn y dyfodol.
3.56 Mae’n bwysig ystyried effaith unrhyw gamau sydd wedi’u cymryd i atal aflonyddu ac a ydynt wedi bod yn effeithiol. Mae cyfraith achosion wedi canfod y gallai’r ffaith bod gweithwyr wedi mynychu hyfforddiant gwrth-aflonyddu ond heb ei ddeall, neu wedi dewis ei anwybyddu, fod yn berthnasol wrth benderfynu a yw’r amddiffyniad camau rhesymol wedi’i fodloni (Allay (UK) Ltd v Mr S Gehlen: UKEAT/0031/20/AT).
3.57 Mae'r ddyletswydd atal aflonyddu rhywiol yn wahanol i'r amddiffyniad camau rhesymol. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol gadarnhaol ar wahân sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr (a.40A(1)). Esbonnir y ddyletswydd ataliol ym mharagraffau 3.16 i 3.43.
3.58 Mae Pennod 5 yn rhoi esboniadau manwl ar y mathau o gamau y gall cyflogwyr gymryd i atal aflonyddu.
Atebolrwydd am aflonyddu gan asiantau
3.59 Mae cyflogwyr yn atebol am aflonyddu a gyflawnir gan eu hasiantau. Asiantau yw’r rhai sy'n gweithredu ar ran cyflogwr. Gallai enghreifftiau o berthnasau asiant fod yn gynghorydd iechyd galwedigaethol allanol a gyflogir gan gyflogwr i ddarparu adroddiad iechyd galwedigaethol ar weithiwr, neu gwmni o ymgynghorwyr rheoli a benodir gan Ymddiriedolaeth GIG i gyflawni prosiect mewn ysbyty (a.109(2) ac a.109(3)).
3.60 Nid oes rhaid i'r cyflogwr wybod am na chymeradwyo gweithredoedd ei asiant i fod yn atebol amdanynt. Bydd y cyflogwr yn atebol os yw’n cydsynio i’r asiant weithredu ar ei ran. Nid oes rhaid i'r cyflogwr gydsynio'n benodol i'r gweithredoedd aflonyddu. Gallai cydsyniad fod wedi ei ymhlygu trwy weithredoedd y cyflogwr.
3.61 Ni fydd cyflogwr yn atebol am aflonyddu a gyflawnwyd gan ei asiantau ble mae’r asiant wedi gweithredu heb awdurdod y cyflogwr. Er enghraifft, ble mae’r cyflogwr yn darparu cyfarwyddiadau i'r asiant ddilyn ac mae’r asiant yn gweithredu’n groes i’r cyfarwyddiadau hynny.
Aflonyddu ar gyn weithwyr
3.62 Ni ddylai cyflogwyr aflonyddu ar gyn weithwyr. Bydd cyflogwr yn atebol am aflonyddu ar gyn weithwyr os cysylltiad agos rhwng yr aflonyddu a'r berthynas waith (a.108).
3.63 Nid yw'r geiriad ‘cysylltiad agos’ wedi ei ddiffinio yn y Ddeddf. Rhaid barnu hyn ar sail fesul achos.
3.64 Os yw cyn weithiwr yn cael ei drin yn wael gan y cyflogwr oherwydd y gwnaeth gŵyn am aflonyddu, bydd hyn wedi ei gynnwys gan y darpariaethau erledigaeth a ddisgrifir ym Mhennod 2.Aflonyddu gan drydydd partïon
Aflonyddu gan drydydd partïon
3.65 Yn wreiddiol, roedd y Ddeddf yn gofyn i gyflogwyr atal trydydd partïon fel cleientiaid, cwsmeriaid neu gyflenwyr rhag aflonyddu ar eu gweithwyr. Byddai cyflogwr wedi bod yn atebol os:
- oedd gweithiwr wedi e aflonyddu gan drydydd parti ar o leiaf ddau achlysur blaenorol
- oedd y cyflogwr yn ymwybodol o'r aflonyddu
- oedd y cyflogwr wedi methu cymryd ‘camau ymarferol rhesymol’ i atal yr aflonyddu rhag digwydd eto
3.66 Cafodd y ddarpariaeth yma ei diddymu. Roedd cyfraith ddilynol yn datgan y gallai cyflogwyr fod yn atebol ble roedd eu diffyg gweithredu ynddo’i hun yn tramgwyddo ar urddas y gweithiwr, neu’n arwain at greu amgylchedd dychrynllyd, gelyniaethus, israddol, bychanus neu dramgwyddus iddynt.
3.67 Fodd bynnag, fe newidiodd hyn yn Dilyn achos Undeb Unite v Nailard. Yn yr achos hwnnw, dywedodd y Llys Apêl nad yw'r Ddeddf yn gwneud cyflogwyr yn atebol am fethiant i amddiffyn gweithwyr rhag aflonyddu gan drydydd parti. Dim ond os yw wedi methu gweithredu oherwydd nodwedd warchodedig fydd yn atebol (Undeb Unite v Nailard [2018] EWCA Civ 1203).
3.68 Mae'r ddyletswydd ataliol yn amddiffyn gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol gan drydydd parti. Er nad oes amddiffyniad penodol yn erbyn aflonyddu gan drydydd parti dan y Ddeddf, dylai cyflogwyr barhau i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu o bob math gan drydydd parti. Gall aflonyddu gan drydydd parti fod yr un mor niweidiol i weithiwr ag aflonyddu gan gydweithiwr. Gallai cyflogwyr nad ydynt yn cymryd camau rhesymol i atal neu ymateb i aflonyddu gan drydydd parti fod yn atebol dan adrannau eraill o'r Ddeddf neu ddeddfwriaeth arall mewn amgylchiadau penodol fel y sefydlir yn yr adrannau canlynol o'r canllaw hwn.
Aflonyddu trydydd parti: gwahaniaethu anuniongyrchol
3.69 Mae’n bosibl y gall diffyg gweithredu eu ffordd benodol o ddelio gyda chwynion aflonyddu trydydd parti gyfateb i wahaniaethu anuniongyrchol. Mae hyn yn digwydd pan fydd darpariaeth, meini prawf neu ymarfer (PCP) yn cael ei weithredu yn yr un modd, ar gyfer pob gweithiwr neu grŵp o weithwyr, ond yn cael yr effaith o roi gweithwyr sy’n rhannu nodwedd warchodedig dan anfantais benodol. Nid oes gwahaniaeth nad oedd y cyflogwr yn bwriadu creu anfantais i’r gweithwyr.
3.70 Os gweithredir PCP ac mae’n creu anfantais i weithwyr sy'n rhannu nodwedd, yna bydd yn anghyfreithlon oni bai y gall y cyflogwr ei gyfiawnhau. Hynny yw, profi fod ganddo nod gyfreithlon ar gyfer gweithredu'r PCP a bod y PCP yn ffordd gymesur i gyflawni'r nod honno.
3.71 Gall ‘darpariaeth’, ‘maen prawf’ neu ‘ymarfer’ gynnwys:
- polisïau gweithle
- y modd y darperir mynediad at unrhyw fudd, wasanaeth neu gyfleuster
- penderfyniadau untro, a
- chyfarwyddiadau i wneud rhywbeth mewn ffordd benodol
3.72 Mae 'anfantais’ yn derm eang iawn ac gall fod ar sawl ffurf. Er enghraifft, gallai’r anfantais fod yn peidio cael ymchwilio i gwyn o aflonyddu.
3.73 Trafodir gwahaniaethu anuniongyrchol ymhellach ym Mhennod 4 y Cod Ymarfer Statudol Cyflogaeth.
Aflonyddu trydydd parti: gwahaniaethu anuniongyrchol a'r un anfantais
3.74 Gall gwahaniaethu anuniongyrchol ddigwydd hefyd pan fydd unigolyn heb y nodwedd warchodedig berthnasol yn profi anfantais ochr yn ochr â phobl â’r nodwedd warchodedig berthnasol. Ar yr amod bod y PCP gwahaniaethol yn eu rhoi, neu y byddai’n eu rhoi o dan yr un anfantais sylweddol â phobl sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig berthnasol, gall unigolyn o’r fath ddwyn hawliad am ‘yr un anfantais’ o wahaniaethu anuniongyrchol. Bydd gwahaniaethu anuniongyrchol o’r un anfantais yn anghyfreithlon oni bai bod y cyflogwr yn gallu cyfiawnhau'r PCP fel ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon.
3.75 Er bod y math hwn o wahaniaethu anuniongyrchol yn cael ei gyfeirio weithiau at ‘wahaniaethu anuniongyrchol cysylltiadol’, nid oes angen bod unrhyw berthynas neu gysylltiad rhwng y grŵp â’r nodwedd warchodedig berthnasol a’r unigolyn nad yw’n ei rhannu. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r unigolyn heb y nodwedd warchodedig berthnasol allu dangos bod yr anfantais y mae’n ei phrofi yn ei hanfod yr un fath â’r un a brofir gan y grŵp sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig.
Aflonyddu trydydd parti: gwahaniaethu uniongyrchol
3.76 Gallai cyflogwr hefyd god yn atebol am wahaniaethu uniongyrchol os yw’n trin cwynion o aflonyddu gan weithiwr gyda nodwedd warchodedig mewn ffordd llai ffafriol nag y mae’n trin cwynion gan eraill. Trafodir gwahaniaethu uniongyrchol ymhellach ym Mhennod 3 y Cod Ymarfer Statudol Cyflogaeth.
Aflonyddu trydydd parti: iechyd a diogelwch yn y gwaith
3.77 Gallai’r Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 (HSWA) fod yn berthnasol pan fydd gweithwyr yn ddarostyngedig i drais gan drydydd parti wrth gyflawni eu gwaith.
3.78 Golyga trais gan drydydd parti drais a achoswyd gan unrhyw un sy'n allanol i'r cyflogwr fel cwsmeriaid, cleientiaid, cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, myfyrwyr a’r cyhoedd. Gallai trais trydydd parti fod ar ffurf cam-drin corfforol neu lafar gyda’r effaith o achosi niwed corffol neu seicolegol i’r gweithiwr.
3.79 Yn gyffredinol, er mwyn i HSWA fod yn berthnasol, dylai trais trydydd parti ddeillio o weithgaredd gwaith y cyflogwr. Mae’n digwydd, er enghraifft, pan fydd y cyflogwr yn darparu gwasanaeth (yn aml i’r cyhoedd). Gallai ffactorau sy'n cynyddu’r risg o drais trydydd parti gynnwys, er enghraifft, gwasanaethau ddim yn bodlon disgwyliadau, gweithredu mewn safle o awdurdod megis swyddog gorfodi, neu ddelio gyda phobl sydd wedi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.
3.80 Dan y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1999, mae’n ofynnol i gyflogwyr asesu risgiau i’w gweithwyr yn cynnwys risgiau y gellir eu rhagweld yn rhesymol o drais gan drydydd parti. Dylai cyflogwyr nodi mesurau sefydliadol rhesymol ymarferol i atal neu reoli risgiau o drais trydydd parti fel fo'n briodol. Mae mesurau cyffredin yn cynnwys darparu offer, dyluniad y gweithle, cyfarwyddyd neu hyfforddiant ar ddiogelwch personol a allai gynnwys technegau datrys gwrthdaro yn ogystal â threfniadau cefnogaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am drais yn y gwaith yn nhaflen yr HSE ‘Trais yn y gwaith: Canllaw i gyflogwyr’ (INDG69).
3.81 Mae trais trydydd parti yn erbyn gweithiwr yn debygol o gyfateb i drosedd. Felly dylid delio gyda gweithredoedd y cyflawnwyr yn unol â 4.70 i 4.74.
Aflonyddu trydydd parti: diswyddo annheg deongliadol
3.82 Mae contract cyflogaeth rhwng cyflogwr a chyflogai yn cynnwys telerau ymhlyg pob tro. Un o’r telerau ymhlyg hyn yw na fydd cyflogwr yn gweithredu mewn modd sy'n dinistrio ymddiriedaeth a hyder rhwng y cyflogwr a’r gweithiwr. Os yw cyflogwr yn torri’r telerau ymhlyg hyn, yna bydd gan y gweithiwr hawl i ymddiswyddo a hawlio ei fod wedi ei ddiswyddo'n ddeongliadol. Gallai methiant i weithredu gan gyflogwr gyfateb i dorri'r amod hwn. Os felly, byddai diswyddiad o'r fath yn debygol o fod yn ddiswyddiad annheg yn groes i adran 94 y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Am ragor o wybodaeth ar ddiswyddo deongliadol gweler gwefan Acas.
Aflonyddu trydydd parti: Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus (PSED)
3.83 Rhaid i gyflogwyr y sector cyhoeddus gydymffurfio gyda PSED. Mae hyn yn golygu, wrth gyflawni eu swyddogaethau, bod yn rhaid iddynt roi sylw dyledus i'r angen am y canlynol:
- diddymu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
- hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad oes,
- meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt
3.84 I gydymffurfio gyda'r PSED, rhaid i gyflogwyr sector cyhoeddus dalu sylw dyledus i sut gallai cymryd camau i atal aflonyddu trydydd parti helpu dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, hybu cyfle cyfartal a meithrin perthnasau da. Am ragor o wybodaeth ar y PSED, gweler y canllaw PSED ar ein gwefan.
Aflonyddu trydydd parti a’r ddyletswydd ataliol
3.85 Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol gadarnhaol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr. Rhaid iddynt gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr yn ystod eu cyflogaeth (y ‘ddyletswydd ataliol’) Mae hyn yn cynnwys aflonyddu rhywiol gan drydydd partïon (a.40A(1)).
3.86 Ceir rhagor o wybodaeth am y ddyletswydd ataliol, a chanlyniadau ei thorri, ym mharagraffau 3.16 i 3.43 uchod.
Aflonyddu gan gydweithiwr tu allan i’r gwaith
3.87 Fel yr esboniwyd yn 3.47 i 3.48, bydd cyflogwr yn atebol am aflonyddu gan un gweithiwr yn erbyn un arall os digwyddodd yn ystod y gyflogaeth. Ni fydd cyflogwr yn uniongyrchol atebol dan y Ddeddf am aflonyddu gan un gweithiwr yn erbyn un arall os digwyddodd tu allan i gwrs cyflogaeth.
3.88 Fodd bynnag, dylai cyflogwr barhau i gymryd camau rhesymo i ddelio gyda cwyn o aflonyddu gan un gweithiwr yn erbyn un arall a gyflawnwyd tu allan i gwrs cyflogaeth. Mae hyn oherwydd gallai'r egwyddorion cyfreithiol a sefydlir yn 3.69 i 3.73 a 3.82 i 3.84 parthed aflonyddu trydydd parti, fod yr un mor berthnasol i unrhyw fethiant gan gyflogwr i ddelio gyda cwyn o'r fath. Hynny yw, gallai’r cyflogwr o bosibl fod yn atebol am wahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol, diswyddo deongliadol neu dorri'r PSED.
Pwy arall all fod yn atebol am aflonyddu?
3.89 Gallai gweithwyr fod yn atebol yn bersonol am weithredoedd aflonyddu a gyflawnir ganddyn yn ystod cyflogaeth. Fydd ddim ond yn atebol dan y Ddeddf os yw’r cyflogwr hefyd yn atebol am y aflonyddu, neu os byddai ei gyflogwr wedi bod yn atebol ond yn gallu dibynnu’n llwyddiannus ar yr amddiffyn ‘camau rhesymol’ (a.110(1) ac a.110(2) (gweler paragraffau 3.49 i 3.58).
3.90 Gall asiantau (fel y diffinnir yn 3.59 i 3.61) hefyd fod yn atebol yn bersonol am weithredoedd aflonyddu a gyflawnir gydag awdurdod y cyflogwr os yw’ cyflogwr hefyd yn atebol.
3.91 Os yw gweithiwr neu asiant yn dibynnu'n rhesymol ar ddatganiad gan y cyflogwr nad yw gweithred yn anghyfreithlon, yna ni fydd y gweithiwr neu'r asiant yn atebol hyd yn oed os yw'r cyflogwr yn atebol (a.110(3)).
4. Cymryd camau i atal ac ymateb i aflonyddu
Cyflwyniad
4.1 Gall aflonyddu yn y gwaith gael effaith ddwys, hirhoedlog a niweidiol ar weithwyr a chyflogwyr. Mae'n niweidio iechyd meddwl a chorfforol unigolion, gan effeithio ar eu bywyd personol a gwaith, ac mae'n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd gwaith a chynhyrchiant.
4.2 Ond nid yw aflonyddu yn anochel. Gall a rhaid i gyflogwyr weithredu i newid ymddygiad yn y gweithle a dileu aflonyddu yn y gweithle. Trwy gymryd y camau ymarferol a amlinellir yn y canllawiau hyn, gall cyflogwyr ddiogelu eu gweithwyr rhag aflonyddu a thrawsnewid diwylliant yn y gweithle.
4.3 Mae rheolwyr ac uwch arweinwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth greu gweithleoedd parchus sy'n rhydd o aflonyddu. Dylent fodelu ymddygiad sy'n parchu ac yn amlwg yn hyrwyddo diwylliant gweithle cadarnhaol a chynhwysol, lle cymerir aflonyddu o ddifrif ac na chaiff ei oddef.
4.4 Mae'r bennod hon yn nodi pa gamau y gellir eu cymryd i atal aflonyddu a diogelu gweithwyr, er mwyn helpu cyflogwyr i ddeall y ffordd orau o gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf. Bydd cyflogwr yn atebol am aflonyddu neu erledigaeth a gyflawnir gan ei weithwyr, oni bai y gallant ddangos eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i atal ymddygiad o'r fath. Mae'r ffactorau perthnasol ynghylch a yw cyflogwr wedi cymryd pob cam rhesymol yn cael eu hystyried ym mharagraffau 3.49 i 3.58 (a.109(4)).
4.5 Mae'r canllawiau yn y bennod hon hefyd yn esbonio'r hyn y dylai cyflogwyr ei wneud i fodloni'r ddyletswydd atal aflonyddu rhywiol. Dylai cyflogwyr ystyried yr holl ganllawiau yn ofalus yn y bennod hon wrth ystyried pa gamau rhesymol y gallant eu cymryd i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr (a.40A(1)).
Atal aflonyddu
Asesu risgiau mewn perthynas ac aflonyddu
4.6 Mae'r ddyletswydd ataliol aflonyddu rhywiol yn ddyletswydd gadarnhaol a rhagweithiol sydd wedi'i chynllunio i drawsnewid diwylliant gweithleoedd drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr. Ni ddylai cyflogwyr aros nes bod achos o aflonyddu rhywiol wedi digwydd cyn cymryd unrhyw gamau. Dylai cyflogwyr ragweld senarios pan fydd eu gweithwyr yn destun aflonyddu rhywiol yn ystod cyflogaeth a chymryd camau i atal aflonyddu o'r fath rhag digwydd. Os bydd aflonyddu rhywiol wedi digwydd, mae'r ddyletswydd ataliol yn golygu y dylai cyflogwr gymryd camau i atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd eto.
4.7 Dylai asesiad risg ystyried arferion gwaith, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau. Dylai cyflogwyr sicrhau bod staff yn ymwybodol o fecanweithiau adrodd a bod rheolwyr yn gwybod beth i'w wneud os bydd aelod o staff yn gwneud cwyn am aflonyddu. Rhaid ystyried yr amgylchedd gwaith hefyd. Dylai cyflogwyr nodi unrhyw risgiau penodol sy'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith (darllenwch baragraff 4.6 uchod) a sut y gellir eu lliniaru. Mae cyfathrebu â staff yn allweddol. Dylai cyflogwyr sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'n cael eu cyfleu'n glir i staff. Dylai staff ddeall beth yw aflonyddu ac aflonyddu rhywiol, gwybod beth i'w wneud os bydd digwyddiad yn digwydd, a beth fydd y cyflogwr yn ei wneud pan wneir cwyn am aflonyddu.
4.8 Dylai cyflogwyr sicrhau eu bod yn asesu'n benodol y risg o aflonyddu rhywiol yn ystod cyflogaeth. Dylent hefyd adolygu'r asesiad risg yn rheolaidd a chymryd camau lliniaru os ydynt yn nodi unrhyw risgiau newydd neu ychwanegol.
4.9 Efallai yr hoffech hefyd ddarllen ein canllaw byr i gyflogwyr ar atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
4.10 Dylai cyflogwyr wneud asesiad o risgiau sy'n ymwneud ag aflonyddu, aflonyddu rhywiol ac erledigaeth. Gellid defnyddio fframweithiau rheoli risg presennol, a ddefnyddir yn draddodiadol yn y cyd-destun iechyd a diogelwch yn y gweithle, ar gyfer y broses hon. Dylai asesiadau nodi'r risgiau a'r mesurau rheoli a nodwyd i leihau'r risgiau. Gall ffactorau gynnwys, er enghraifft:
- anghydbwysedd pŵer
- ansicrwydd swyddi, er enghraifft, defnyddio contractau dim oriau, staff asiantaeth neu gontractwyr
- gweithio ar eich pen eich hun a gweithio gyda'r nos
- gweithio y tu allan i oriau gwaith
- presenoldeb alcohol
- dyletswyddau sy'n wynebu cwsmeriaid
- digwyddiadau penodol sy'n codi tensiynau yn lleol neu'n genedlaethol
- diffyg amrywiaeth yn y gweithlu, yn enwedig ymhlith gweithwyr lefel uwch yn cael eu rhoi ar secondiad
- teithio i wahanol leoliadau gwaith
- gweithio gartref
- mynychu digwyddiadau y tu allan i'r amgylchedd gwaith arferol, er enghraifft, hyfforddiant, cynadleddau neu ddigwyddiadau cymdeithasol cysylltiedig â gwaith
- cymdeithasu y tu allan i'r gwaith
- cyswllt drwy gyfryngau cymdeithasol rhwng gweithwyr
- demograffig y gweithlu, er enghraifft, gallai'r risg o aflonyddu rhywiol fod yn uwch mewn gweithlu gwrywaidd yn bennaf
4.11 Mae rhai ffactorau a allai gynyddu'r risg o aflonyddu rhywiol. Dylai cyflogwr ystyried y ffactorau hyn wrth feddwl am sut y gall gydymffurfio â'r ddyletswydd ataliol. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- gweithlu sy'n bennaf yn ddynion
- diwylliant yn y gweithle sy'n caniatáu 'tynnu coes' anweddus/rhywiaethol, neu ymddygiad amharchus arall
- anghydbwysedd pŵer rhywedd (er enghraifft, lle mae'r rhan fwyaf o staff iau yn fenywod a'r rhan fwyaf o uwch reolwyr/arweinwyr yn ddynion)
- gweithleoedd sy'n caniatáu yfed alcohol
- disgwyliad y bydd gweithwyr yn mynychu digwyddiadau cymdeithasol/cynadleddau y tu allan i'r gweithle neu'n aros i ffwrdd o gartref dros nos (yn enwedig os bydd yfed alcohol)
- gweithio unigol neu ynysig
- gweithio ar eich pen eich hun gyda thrydydd parti
- gweithio gyda'r nos
- gweithlu ansicr/achlysurol
- methiant i ymateb yn briodol i adroddiadau blaenorol o aflonyddu rhywiol
- dim polisïau na gweithdrefnau i atal neu ymateb i aflonyddu rhywiol
- mae gweithwyr sydd â mwy nag un nodwedd warchodedig, er enghraifft, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig a phobl o'r gymuned LGBT, yn fwy tebygol o brofi aflonyddu rhywiol na phobl nad oes ganddynt y nodweddion gwarchodedig hyn
- gallai fod risgiau sy'n effeithio ar un swydd neu weithiwr yn unig – dylid ystyried a mynd i'r afael â'r rhain o hyd
4.12 Dylai asesiad risg ystyried arferion gwaith, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau. Dylai cyflogwyr sicrhau bod staff yn ymwybodol o fecanweithiau adrodd a bod rheolwyr yn gwybod beth i'w wneud os bydd aelod o staff yn gwneud cwyn am aflonyddu. Rhaid ystyried yr amgylchedd gwaith hefyd. Dylai cyflogwyr nodi unrhyw risgiau penodol sy'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith (darllenwch baragraff 4.10 uchod) a sut y gellir eu lliniaru. Mae cyfathrebu â staff yn allweddol. Dylai cyflogwyr sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'n cael eu cyfleu'n glir i staff. Dylai staff ddeall beth yw aflonyddu ac aflonyddu rhywiol, gwybod beth i'w wneud os bydd digwyddiad yn digwydd, a beth fydd y cyflogwr yn ei wneud pan wneir cwyn am aflonyddu.
4.13 Dylai cyflogwyr sicrhau eu bod yn asesu'n benodol y risg o aflonyddu rhywiol yn ystod cyflogaeth. Dylent hefyd adolygu'r asesiad risg yn rheolaidd a chymryd camau lliniaru os ydynt yn nodi unrhyw risgiau newydd neu ychwanegol. Mae'n annhebygol y bydd cyflogwyr yn gallu bodloni gofyniad y ddyletswydd ataliol i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr, os nad ydynt yn cynnal asesiad risg.
4.14 Dylai cyflogwyr lunio cynllun gweithredu sy'n nodi pa gamau ataliol y byddant yn eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw risgiau a nodwyd a sut y caiff hyn ei fonitro. Dylai cyflogwyr ystyried cyhoeddi eu cynllun gweithredu i weithwyr a'r cyhoedd, er enghraifft ar eu gwefan.
4.15 Efallai y bydd cyflogwyr am ystyried penodi arweinydd dynodedig i gymryd cyfrifoldeb am roi'r cynllun gweithredu ar waith a chydymffurfio â'r ddyletswydd ataliol.
Polisiau a gweithdrefnau effeithiol
4.16 Fel rhan o'r mesurau i atal aflonyddu, aflonyddu rhywiol ac erledigaeth, mae'n rhesymol disgwyl bod gan gyflogwyr bolisïau ac arferion effeithiol a chyfathrebu da ar waith sy'n ceisio atal aflonyddu ac erledigaeth. Bydd hyn yn annog adrodd am unrhyw ymddygiad anghyfreithlon, ac ar ben hynny'n cyfathrebu canlyniadau ymddygiad anghyfreithlon. Dylid monitro'r polisïau a'u llwyddiant yn rheolaidd (darllenwch baragraffau 4.29 i 4.32). Ni ddylai cyflogwyr gyfuno gwahanol fathau o aflonyddu. Dylai fod ganddynt gwahanol bolisïau i ymdrin ag aflonyddu rhywiol ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig, neu fod ag un polisi sy'n gwahaniaethu'n glir rhwng y gwahanol fathau o aflonyddu. Dylai cyflogwyr hefyd ystyried paratoi dogfennau strategaeth ar wahân i gyd-fynd â'u polisi neu bolisïau gwrth-aflonyddu, gan nodi pa fesurau y byddant yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r gwahanol fathau o aflonyddu. Dylai'r dogfennau hyn ystyried materion megis gwahanol achosion mathau gwahanol o aflonyddu, a'r risg y bydd gwahanol fathau o aflonyddu yn digwydd yng ngweithlu penodol y cyflogwr. Mae rhai cyflogwyr yn penderfynu mabwysiadu agwedd 'dim goddefgarwch' at aflonyddu. Golyga hyn gydnabod na ddylai unrhyw weithiwr orfod profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith, gan gymryd yr holl bryderon a godir am aflonyddu o ddifrif a gweithredu'n brydlon i gymryd camau.
4.17 I sicrhau yr ystyrir barhau gweithwyr, dylid datblygu polisïau gwrth aflonyddu a mesurau eraill i atal ac ymateb i aflonyddu mewn ymgynghoriad gydag undebau llafur cydnabyddedig, neu ble nad oes un, cynrychiolwyr gweithwyr eraill.
4.18 Bydd polisi gwrth aflonyddu da (neu bolisïau ble, er enghraifft, mae gan gyflogwr bolisïau ar wahân i ddelio gydag aflonyddu rhywiol a mathau eraill o aflonyddu) yn:
- cadarnhau pwy mae’r polisi yn gwmpasu
- datgan na fydd aflonyddu rhywiol, aflonyddu ac erledigaeth yn cael eu goddef
- datgan fod aflonyddu rhywiol, aflonyddu ac erledigaeth yn anghyfreithlon
- datgan bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr yn ystod eu cyflogaeth
- datgan y gallai aflonyddu ac erledigaeth arwain at gamau disgyblu hyd at ac yn cynnwys diswyddo os y'i cyflawnir:
- mewn sefyllfa waith
- yn ystod sefyllfa'n ymwneud â gwaith fel digwyddiad cymdeithasol gyda chydweithwyr
- yn erbyn cydweithiwr neu berson arall yn gysylltiedig i'r cyflogwr tu allan i sefyllfa waith, yn cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, neu
- yn erbyn rhywun tu allan i sefyllfa waith ble mae’r digwyddiad yn berthnasol i'w allu i gyflawni'r rôl
- datgan fod ffactorau gwaethygol fel camddefnyddio pŵer dros gydweithiwr iau yn cael eu hystyried wrth benderfynu pa gamau disgyblu i'w cymryd
- diffinio’r nodweddion gwarchodedig y gallai'r aflonyddu fod yn gysylltiedig iddynt
- diffinio aflonyddu yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig, aflonyddu rhywiol, triniaeth lai ffafriol am wrthod neu ymostwng i aflonyddu rhywiol ac erledigaeth ar wahân
- different forms of harassment should not be conflated
- os yw bwlio wedi ei gynnwys yn yr un polisi gwahaniaethu rhwng bwlio ac aflonyddu
- darparu enghreifftiau clir i arddangos pob diffiniad o'r gwahanol fathau o aflonyddu, sy'n berthnasol i amgylchedd gwaith y cyflogwr ac sy'n adlewyrchu’r amrywiaeth eang o bobl y gallai aflonyddu effeithio arnynt
- cynnwys gweithdrefn effeithiol i dderbyn ac ymateb i gwynion o aflonyddu ac aflonyddu rhywiol (gweler paragraff 4.51)
- delio gydag aflonyddu trydydd parti, gan amlinellu:
- er na all unigolyn ddwyn hawliad am aflonyddu trydydd parti ar ei ben ei hun, gall arwain o hyd at atebolrwydd cyfreithiol pan gaiff ei godi mewn mathau eraill o hawliad (darllenwch baragraffau 3.65 i 3.86)
- bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol gan drydydd partïon (darllenwch baragraffau 3.28 i 3.36)
- na fydd yn cael ei oddef
- yr anogir gweithwyr i adrodd am hyn
- pa gamau a gymerir i atal hyn, megis hysbysiadau rhybuddio i gwsmeriaid neu negeseuon wedi recordio ar ddechrau galwadau ffôn
- pa gamau a gymerir i unioni cwyn neu i’w atal rhag digwydd eto, megis rhybuddio cwsmer am ei ymddygiad, gwahardd cwsmer, adrodd am unrhyw weithredoedd troseddol i’r heddlu, neu rannu gwybodaeth gyda changhennau eraill o'r busnes
4.19 Dylai’r polisi hefyd gynnwys ymrwymiad i’w adolygu’n rheolaidd ac i fonitro ei effeithiolrwydd. Dylai gwmpasu pob maes o sefydliad y cyflogwr, gan gynnwys unrhyw safleoedd tramor, yn amodol ar unrhyw gyfreithiau lleol cymwys sy’n gosod unrhyw ofynion ychwanegol ar y cyflogwr.
Cwynion maleisus
4.20 Yn ein gwaith ar aflonyddu rhywiol, rydym wedi canfod fod polisïau’n aml yn gorbwysleisio cwynion maleisus. Nid yw hyn yn adlewyrchu'r ffaith fod y mwyafrif o gwynion wedi eu wneud yn ddidwyll. Rydym hefyd wedi canfod polisïau ar gwynion maleisus a fyddai, os y’i gweithredir, yn arwain at weithwyr yn gwneud cwynion didwyll nad ydynt yn cael eu hategu yn cael eu herlid yn groes i'r Ddeddf. Er y gall cyflogwyr ddatgan yn gyfreithlon o fewn eu polisi y gallai cwynion maleisus arwain at gamau disgyblu, os nad yw wedi ei eirio’n ofalus, gallai datganiadau o'r fath achosi i achwynwyr ailfeddwl. Efallai y bydd pobl yn poeni y byddant yn cael eu disgyblu os na ategir eu cyhuddiad. Pan fydd datganiad o'r fath wedi ei gynnwys, dylid esbonio:
- na fydd gweithwyr yn destun gweithredu disgyblu nac unrhyw niwed arall dim ond oherwydd na ategir y cwyn,
- fydd gweithwyr ddim ond yn wynebu gweithredu disgyblu os canfyddir od y cyhuddiad yn anwir ac y’ gwnaethpwyd yn anonest (hynny yw, heb wirionedd yn ei gred)
Rhyngweithio gyda pholisïau eraill
4.21 Dylid adolygu polisïau a gweithdrefnau eraill i sicrhau eu bod yn rhyngweithio’n dda gyda’r polisi gwrth aflonyddu ac eu bod yn creu diwylliant ble mae’r risg o aflonyddu wedi ei leihau. Dylai cyflogwr ystyried, er enghraifft:
- A yw’r enghreifftiau o gamymddwyn a chamymddwyn difrifol yn y polisi disgyblu yn cyd-fynd neu'n croes gyfeirio’r polisi gwrth aflonyddu?
- A yw’r polisïau ar ddefnyddio TG, systemau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol yn cynnwys rhybuddion priodol yn erbyn aflonyddu ar-lein ac yn annog gweithwyr i adrodd amdano, hyd yn oed ble mae aflonyddu o'r fath yn digwydd ar ddyfeisiau personol?
- A yw’r cod gwisg yn meithrin diwylliant a allai gyfrannu i’r tebygolrwydd o aflonyddu rhywiol neu aflonyddu yn gysylltiedig i hil neu grefydd yn digwydd? Gweler canllaw Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar godau gwisgo a gwahaniaethu ar sail rhyw am ragor o wybodaeth.
- A yw’n amlwg o amcanion perfformiad y bydd disgwyl i reolwyr ddelio’n briodol gyda chwynion aflonyddu?
Ymwybyddiaeth o bolisïau
4.22 Dylai cyflogwyr sicrhau bod yr holl weithwyr yn ymwybodol o’u polisïau gwrth aflonyddu. Dylai cyflogwyr ystyried cyhoeddi eu polisïau ar ran hawdd i’w gyrraedd o’u gwefan allanol. Bydd hyn yn galluogi gweithiwr i gyrchu’r polisi os, er enghraifft, y bydd i ffwrdd o’r gwaith gyda chyflwr straen yn gysylltiedig i’w aflonyddu ac nad yw'n gallu cyrchu’r system fewnol. Bydd hefyd yn golygu ei fod ar gael i weithwyr eraill, fel gweithwyr contract, fydd hefyd heb fynediad i systemau mewnol. Mae gwneud hynny hefyd yn arddangos ymroddiad y cyflogwr i dryloywder a thaclo’r mater.
4.23 Ble nad yw polisïau'n cael eu hyrwyddo'n allanol, dylent fodd bynnag fod ar gael cymaint â phosibl i bob gweithiwr, yn cynnwys y rhai nad oes ganddynt fynediad i systemau TG mewnol. Gallai hyn olygu, er enghraifft, darparu copïau i bob gweithiwr neu eu cyhoedd ar y fewnrwyd. Nid yw’n briodol i ddweud wrth weithwyr y gallant gael copïau gan reolwyr gan y gallai'r gweithiwr fod yn gyndyn i ofyn i’r rheolwr ei hysbysu i’r ffaith ei fod eisiau cwyno. Felly hefyd, ni fyddai gadael copïau mewn ardal sy’n hygyrch i bob gweithiwr, fel ystafell staff, yn briodol, gan na fyddai gweithiwr o reidrwydd eisiau i weithwyr eraill ei weld yn darllen y polisi.
4.24 Dylid cynnwys cyfeiriad at (ond nid o reidrwydd gynnwys) y polisïau a’r llawlyfr staff yn gyffredinol yn y contract cyflogaeth, datganiad ysgrifenedig o fanylion neu amodau a thelerau gwaith eraill.
4.25 Dylid cyfathrebu’r polisïau ar lafar i weithwyr yn ystod y broses ymsefydlu, ac yna dylai dderbyn copi ohono neu fel arall wybod ble gall gael mynediad at gopi.
4.26 Os bydd cyflogwyr yn addasu eu polisïau neu'n cyflwyno un am y tro cyntaf, dylent godi ymwybyddiaeth o hyn ymysg gweithwyr. Dylent hefyd fanteisio ar gyfleoedd i atgoffa gweithwyr o fodolaeth y polisi a beth mae’n gynnwys, gan amlygu negeseuon allweddol y polisi – megis ymagwedd y cyflogwr o beidio goddef aflonyddu o gwbl a sut i adrodd am aflonyddu. Gall cyflogwyr gyfathrebu’r polisïau a’u cynnwys yn defnyddio, er enghraifft:
- cylchlythyrau mewnol
- hysbysfyrddau ffisegol a digidol
- cyfarfodydd staff
- nodiadau atgoffa i staff o flaen llaw i ddigwyddiadau allweddol ble mae'r risg o aflonyddu'n cynyddu, fel parti swyddfa
- nodyn atgoffa blynyddol i staff
4.27 Os oes angen, dylid cyfieithu'r polisïau ar gyfer gweithlu sy'n ieithyddol amrywiol neu eu darparu ar ffurf hygyrch i rai gydag anableddau.
4.28 Dylid rhannu'r polisïau gyda sefydliadau eraill sy'n darparu gweithwyr a gwasanaethau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr holl weithwyr a ddarperir i'r cyflogwr yn ymwybodol o'r safonau disgwyliedig dan y polisïau a sut i adrodd am achosion o aflonyddu.
Gwerthuso polisïau
4.29 Dylid gwerthuso effeithiolrwydd polisïau trwy ddefnydd o, er enghraifft:
- Cofnodion canolog sy'n cofnodi cwynion mewn lefel manylder sy’n galluogi dadansoddi tueddiadau. Er enghraifft, dyddiad digwyddiadau, maes busnes, rolau'r achwynydd a’r aflonyddwr, nodwedd warchodedig, categori cyfreithiol (megis aflonyddu, aflonyddu rhywiol), canlyniad a rheswm cryno dros y canlyniad. Dylai cyflogwyr sicrhau bod unrhyw gofrestr o’r fath yn cydymffurfio gyda’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Dylent, er enghraifft, adolygu contractau, polisïau, gweithdrefnau a hysbysiadau preifatrwydd i sicrhau eu bod yn hysbysu gweithwyr y bydd data o'r fath yn cael ei storio a sicrhau fod mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu’r data a sicrhau bod prosesu data yn gymesur. Er enghraifft, sicrhau bod mynediad i'r data’n gyfyngedig i nifer benodol o bobl. Ceir canllaw pellach ar gydymffurfiad gyda’r GDPR ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
- arolygon staff sy'n gofyn i bob gweithiwr ar sail dienw i gael darlun mor gywir â phosibl o aflonyddu sy'n digwydd yn y gweithle, gan gynnwys:
- os yw wedi bod yn destun neu wedi bod yn dyst i aflonyddu. Dylai'r cwestiynau ddisgrifio ymddygiadau sy'n cyfateb i aflonyddu a gofyn i’r gweithiwr os yw wedi profi ymddygiadau o’r fath yn hytrach na gofyn yn uniongyrchol i’r gweithiwr os yw wedi profi aflonyddu neu beidio
- pa fath o aflonyddu mae wedi brofi
- os yr adroddodd am yr aflonyddu;
- os na wnaeth adrodd am yr aflonyddu, pam ddim
- os gwnaeth adrodd am yr aflonyddu, beth oedd y canlyniad
- a oedd yn fodlon gyda’r canlyniad ac os nad, pam ddim
- pe byddai’n profi aflonyddu yn y dyfodol (p’un a yw wedi ei brofi yn y gorffennol neu beidio), a fyddai'n gallu codi’r mater ac os nad, pam ddim
- os yw’n credu bod yna unrhyw gamau ddylai'r cyflogwr gymryd i ddelio ag aflonyddu yn y gwaith
4.30 Gallai cyflogwyr hefyd:
- cynnal sesiynau gwersi a ddysgwyd unwaith y bydd cwynion wedi'u datrys
- casglu adborth a ddarperir trwy sgyrsiau gyda cyflogeion. Er enghraifft, yn ystod cyfweliadau ymadael (darllenwch baragraff 4.34)
4.31 Ni ddylai cyflogwyr dybio fod y nifer o gwynion am aflonyddu rhywiol, aflonyddu ac erledigaeth a wneir yn adlewyrchiad cywir o'r lefel o aflonyddu sy'n digwydd yn y gweithle. Dylai cyflogwyr gymharu data sydd ganddynt parthed achosion a adroddwyd o aflonyddu yn erbyn data a dderbyniwyd yn erbyn dulliau eraill a restrwyd uchod, i nodi i ba radau yr adroddir am yr aflonyddu. Yna mae modd monitro’r blwch rhwng y gwir lefel o aflonydd a'r aflonyddu a adroddwyd, i bennu os yw’r polisi a chamau eraill a sefydlwyd i annog adrodd yn gweithio.
4.32 Dylid adolygu polisïau'n flynyddol. Yn rhan o'r adolygiad hwn, dylid ystyried unrhyw themâu’n deillio o werthuso a monitro ac adborth a dderbyniwyd trwy ddulliau fel arolygon staff a sesiynau gwersi a ddysgwyd. Dylai hyn gynnwys gwerthuso os yw’r polisi'n arwain at ddeilliannau priodol a chyson i gwynion neu os oes angen cymryd camau pellach i wella hyn.
Canfod aflonyddu
4.33 Dylai cyflogwr fod yn rhagweithiol yn eu hymdrech i fod yn ymwybodol o beth sy'n digwydd yn y gweithle. Efallai y bydd arwyddion rhybuddio fod aflonyddu'n digwydd, tu hwnt i gwynon anffurfiol a ffurfiol. Gall hyn gynnwys:
- absenoldeb salwch
- newid mewn ymddygiad
- sylwadau mewn cyfweliadau gadael
- gostyngiad mewn perfformiad
- osgoi cydweithiwr penodol
4.34 Dylai cyflogwyr roi pob cyfle i weithwyr godi materion gyda nhw, hyd yn oed ble nad oes unrhyw arwyddion rhybuddio o aflonyddu, er enghraifft trwy:
- sesiynau un i un anffurfiol
- absenoldeb salwch neu gyfweliadau dychwelyd i’r gwaith
- cyfarfodydd am berfformiad
- cyfarfodydd drws agored gydag uwch reolwyr neu gyfarfodydd ‘neuadd y dref’
- cyfweliadau gadael
- arolwg yn dilyn cyflogaeth, a
- rhaglenni mentora a rhwydweithiau staff
4.35 Dylai cyflogeion ystyried cyflwyno system adrodd ar-lein neu dros linell ffôn allanol sy’n galluogi gweithwyr i wneud cwynion naill ai ar sail enw neu ddienw ac yn egluro i’r gweithiwr beth allai'r cyflogwr wneud gyda'r wybodaeth a ddarperir. Tra’i bod yn well i weithwyr godi materion heb wneud eu manylion yn ddienw, ni fydd rhai gweithwyr yn teimlo y gallant fynegi cwynion a materion ac felly ni fydd yn cael ei ganfod. Bydd cyflwyno system adrodd sy'n caniatáu ar gyfer gwneud adroddiadau dienw:
- yn sicrhau bod y cwynion hynny na fyddai’n cael eu hadrodd fel arall yn cael eu cipio
- yn darparu cyfle i’r cyflogwr roi gwybodaeth i chwynwyr am y gefnogaeth a mesurau diogelwch y gellir eu sefydlu pe byddent yn adrodd y mater heb fod yn ddienw
4.36 Bydd y dull hwn yn galluogi'r cyflogwr i weithredu i ddelio â’r mater, hyd yn oed mewn achosion ble nad oes digon o dystiolaeth i gychwyn ymchwiliad oherwydd natur ddienw’r cwyn. Er enghraifft, trwy gyhoeddi nodyn atgoffa o'r polisi i weithwyr a monitro’r maes o’r busnes a effeithir.
Hyfforddiant
4.37 Dylid darparu gweithwyr gyda hyfforddiant sy'n delio gyda phob un o’r tri math o aflonyddu ynghyd â hyfforddiant ar erledigaeth. Dylai hyfforddant sicrhau bod gweithwyr yn gwybod beth sydd ynghlwm i bob un o'r tri math o aflonyddu a beth yw erledigaeth, beth i wneud os byddant yn ei brofi a sut i ddelio â chwynion am aflonyddu. Dylid teilwra hyfforddiant o ran natur y cyflogwr, y gynulleidfa darged (o ran, er enghraifft, lefel y swydd a rolau gwaith y gynulleidfa a’r dull gorau o ddarparu hyfforddiant iddynt) a pholisi’r cyflogwr i uchafu ei effaith.
4.38 Mewn diwydiannau ble mae aflonyddu trydydd parti gan gwsmeriaid yn fwy tebygol, dylid darparu hyfforddiant ar sut i ddelio â materion o’r fath. Bydd hyn yn amrywio o un cyflogwr i'r llall. Er enghraifft, mewn canolfan alwadau, efallai y byddai rheolwr angen arweiniad ar beth i’w wneud os bydd gweithiwr yn derbyn galwad ffôn ymosodol. Mewn tafarn, efallai y byddai’r cyflogwr angen arweiniad ar beth i'w wneud os bydd staff yn cael ei gam- drin yn gorfforol neu’n llafar.
4.39 Bydd pob gweithiwr, yn cynnwys y rhai heb gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli, angen arweiniad ar faterion fel ymddygiad derbyniol, cydnabod aflonyddu a beth i’w wneud os bydd yn profi hyn neu'n dyst i hyn. Efallai y bydd goruchwylwyr a rheolwyr angen arweiniad ychwanegol ar beth i'w wneud ar dderbyn adroddiad neu gwyn am aflonyddu, ymchwilio i gwynion, cymryd camau disgyblu a chefnogi gweithwyr.
4.40 Dylai cyflogwyr gadw cofnodion o pwy sydd wedi derbyn yr hyfforddiant a sicrhau ei fod yn cael ei ddiwygio yn rheolaidd.
4.41 Dylai cyflogwyr sicrhau bod yna weithwyr sy'n cael eu hyfforddi o ran darparu cefnogaeth i unigolion sydd wedi profi aflonyddu trwy’r broses o wneud cwyn. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn aelodau’r adran adnoddau dynol neu weithwyr enwebedig eraill y gellir eu hadnabod trwy deitl fel ‘eiriolwyr’ neu ‘warchodwyr’ aflonyddu. Dylai hyfforddiant o’r fath gynnwys y materion sensitif penodol sydd ynghlwm i wahanol fathau o aflonyddu yn ymwneud â gwahanol nodweddion gwarchodedig.
Trefniadau ar gyfer gweithwyr asiantaeth
4.42 Cyn darparu gweithwyr asiantaeth i gyflogwr, dylai'r asiantaeth wirio fod gan y cyflogwr drefniadau priodol ar waith i atal ac i ddelio gyda chwynion o aflonyddu ac erledigaeth.
4.43 Ble cyflogir gweithwyr asiantaeth, dylai'r asiantaeth a’r cyflogwr rannu cyfrifoldebau'n glir o ran delio â chwynion o aflonyddu ac erledigaeth rhyngddynt a chadarnhau'r trefniadau hyn yn ysgrifenedig.
4.44 Fel arfer, bydd fwyaf priodol i’r cyflogwr ymchwilio i unrhyw gwyn yn ymwneud ag aflonyddu neu erledigaeth o weithwyr asiantaeth sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan mae’r asiantaeth yn darparu gwasanaethau i'r cyflogwr. Fodd bynnag, gall fod eithriadau i hyn. Er enghraifft, efallai y bydd y partïon eisiau gwneud trefniadau gwahanol mewn amgylchiadau ble gwneir cwyn gan weithiwr asiantaeth yn erbyn gweithiwr arall o'r un asiantaeth. Ni ddylai'r cyflogwr ddim ond terfynu ei gyswllt gyda’r asiantaeth er mwyn osgoi ymchwilio'n briodol i'r mater.
4.45 Dylai'r trefniadau rhwng yr asiantaeth a’r cyflogwr cynnwys trefniant o ran pryd a sut fydd un parti yn diweddaru’r llall ar gynnydd ac yn cael mewnbwn ble fo'n briodol.
4.46 Dylai'r asiantaeth sicrhau bod y gweithiwr asiantaeth yn derbyn arweiniad clir o ran i bwy ddylid cyflwyno cwynion, polisi pwy sy'n weithredol dan pa amgylchiadau a bod y gweithiwr asiantaeth yn cael sesiwn ymsefydlu i bolisïau a gweithdrefnau’r asiantaeth a’r cyflogwr.
4.47 Dylai asiantaeth gynnal sesiynau dal i fyny rheolaidd gyda'i weithwyr a rhoi cyfle iddynt godi unrhyw faterion sydd wedi dod i'r amlwg yn y gweithle.
Cytundebau cyfrinachedd
4.48 Dylai cyflogwyr hyrwyddo diwylliant o dryloywder, ble mae gweithwyr yn teimlo wedi eu grymuso i godi materion gwahaniaethu a ble gellir taclo achosion craidd problemau. Dim ond ble mae’n gyfreithlon ddylai cyflogwyr ddefnyddio cytundebau cyfrinachedd (a elwir hefyd yn gymalau cyfrinachedd, cytundebau diffyg datguddio, NDA, neu gymalau cau ceg). Ni fydd yn gyfreithlon i ddefnyddio cytundebau cyfrinachedd i atal gweithwyr rhag chwythu'r chwiban, adrodd am drosedd neu wneud unrhyw beth sy'n ofynnol dan y gyfraith megis cydymffurfio gyda dyletswydd reoleiddio. Dim ond ble fo'n angenrheidiol a phriodol ddylid defnyddio cytundebau cyfrinachedd a dylai’r cyflogwr ddilyn arfer gorau wrth eu defnyddio. Gweler ein canllaw ar gytundebau cyfrinachedd am ragor o fanylion.
Mynd i’r afael ac anghydbwysedd pŵer
4.49 Yn aml bydd aflonyddu yn digwydd heb i neb adrodd amdano pan fydd yna anghydbwysedd pŵer yn y gweithle. Er enghraifft, efallai y bydd yna anghydbwysedd pŵer rhwng uwch reolwr a rhywun iau, ble mae gweithiwr gyda nodwedd warchodedig benodol mewn lleiafrif yn y gweithle neu ble mae gweithiwr mewn cyflogaeth ansicr. Dylai cyflogwyr ystyried pa gamau allant gymryd i leihau anghydbwysedd pŵer trwy, er enghraifft, gymryd camau i leihau’r teimladau o ynysu, delio gyda diffyg cynrychiolaeth gweithwyr, sicrhau bod gwneud penderfyniadau ar lefel uwch yn fwy cynrychiadol ar gyfer gwahanol grwpiau, a darparu digon o gefnogaeth i weithwyr ar bob lefel. Gallai'r cyflogwr, er enghraifft:
- cymryd mesurau gweithredu cadarnhaol i wella cynrychiolaeth ar gyfer grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, fel cyflwyno rhaglen ddatblygu neu rwydwaith mentora ar gyfer y grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol (gweler Pennod 12 y Cod Ymarfer Statudol Cyflogaeth am ragor o wybodaeth ar weithredu cadarnhaol)
- mynd i’r afael â rhagfarn mewn penderfyniadau recriwtio, datblygu a hyrwyddo trwy ddilyn ymagwedd dryloyw a strwythurol i brosesau o’r fath, yn cynnwys asesu’r holl ymgeiswyr yn erbyn cyfres o feini prawf gwrthrychol a sicrhau amrywiaeth o ran cynrychiolaeth ar baneli asesu
- cyflwyno hyfforddiant ar bynciau fel amrywiaeth a chynhwysiant, yn arbennig ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb dros strategaeth gyffredinol y sefydliad fel y bwrdd a’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar recriwtio, datblygu a hyrwyddo
- cyflwyno neu ymestyn gweithio hyblyg i bob rôl ac annog defnydd o absenoldeb rhiant a rennir i helpu gwella cynrychiolaeth menywod yn y gweithlu, yn arbennig ar lefelau uwch
- cydnabod undeb llafur neu gyflwyno dull arall o fargeinio torfol i sicrhau fod gweithwyr wedi eu cynrychioli mewn penderfyniadau fel y rhai parthed polisïau a gweithdrefnau
- cynnwys cynrychiolwyr gweithwyr fel swyddog undeb llafur ar baneli swyddogol sy'n clywed cwynon am aflonyddu a phaneli disgyblu
- sicrhau bod eiriolwyr neu warchodwyr aflonyddu yn cynrychioli'r rhai sydd, er enghraifft, mewn cyflogaeth ansicr a mewn swyddi iau (a.158 a 159, Deddf Cydraddoldeb 2010).
Ymateb i aflonyddu
Gweithdrefn gwrth aflonyddu
4.50 Pan fydd cyflogwr yn dod yn ymwybodol fod aflonyddu yn digwydd neu wedi digwydd, mae’n bwysig ei fod yn delio ‘r mater yn brydlon, yn effeithiol ac yn sensitif.
4.51 I ddelio'n effeithiol gyda chwynion o aflonyddu, dylai gweithdrefn gwrth aflonyddu dda dweud wrth weithwyr i bwy ddylid cyflwyno cwyn. Ni ddylai hyn fod yn rhy gyfyngol. Er enghraifft, ni ddylai fod angen cyflwyno cwyn ar ffurflen benodol. Dylai hefyd:
- ddiffinio ffrydiau adrodd lluosog ar gyfer gweithwyr sydd eisiau adrodd am aflonyddu, i sicrhau nad oes rhaid i weithiwr adrodd am ddigwyddiad i’r cyflawnwr neu rywun nad yw'n teimlo fydd yn wrthrychol
- sefydlu amrywiaeth o ddulliau i ddelio gydag aflonyddu, o ddatrysiadau anffurfiol i brosesau disgyblu ffurfiol
- sefydlu amrywiaeth o ganlyniadau a chosbau priodol os bydd aflonyddu neu erledigaeth yn digwydd
- datgan na fydd erledigaeth neu ddial yn erbyn achwynydd yn cael ei oddef
- darparu manylion cyswllt ar gyfer a gwybodaeth am wasanaethau cefnogaeth a chyngor sydd ar gael i’r achwynydd neu'r aflonyddwr honedig, wedi eu darparu gan y cyflogwr neu rywun yn y gweithle, megis:
- rhaglen cymorth i gyflogeion
- rhestr o bwyntiau cyswllt o fewn y cyflogwr
- undebau llafur cydnabyddedig
- darparu manylion cyswllt ar gyfer a gwybodaeth am ffynonellau cefnogaeth a chyngor allanol yn lleol a chenedlaethol, megis:
- y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb
- Protect (yr elusen chwythu’r chwiban)
- canolfannau cyngor lleol
- llinellau cymorth sydd wedi eu sefydlu i ddelio gyda mathau penodol o aflonyddu (fel llinellau cyngor a ddarperir i ddelio gydag aflonyddu rhywiol gan Ganolfan Hawliau Menywod yr Alban a Hawliau Menywod yng Nghymru a Lloegr)
Datrysiad anffurfiol
4.52 Dylai'r weithdrefn ddweud wrth y gweithiwr sut all godi'r mater yn anffurfiol. Fodd bynnag, ni ddylai’r polisi roi cyfrifoldeb ar yr achwynydd i ddatrys mater yn bersonol.
4.53 Dylai ddarparu arweiniad i'r gweithiwr o ran sut i godi’r mater yn uniongyrchol gyda’r aflonyddwr os mai dyna eu dull dewisol, eu bod yn teimlo y gallant a’i bod yn briodol i wneud hynny. Gallai hyn olygu'r achwynydd yn siarad gyda'r aflonyddwr yn uniongyrchol i esbonio sut mae'r ymddygiad wedi gwneud iddynt deimlo a pham yr hoffai iddo stopio. Ni ddylai'r weithdrefn roi unrhyw bwysau ar weithiwr i ddilyn yr ymagwedd hon.
4.54 Yn aml efallai na fydd achwynydd yn teimlo y gall ddatrys mater yn uniongyrchol a bydd angen cefnogaeth gan drydydd parti i ddatrys y cwyn. Dylai'r weithdrefn sicrhau ble mae cwyn yn cael ei godi'n anffurfiol, fod y rhai sy'n cael gwybod amdano yn ymgysylltu'n llawn mewn datrys y mater ac yn eu darparu gydag arweiniad ar sut i wneud hynny. Dylai'r weithdrefn gyfeirio'r achwynydd tuag at rywun (os yn bosibl, dewis o bobl) sy'n barod i’w helpu i ddatrys y cwyn fel rheolwr, cynrychiolydd undeb llafur, ‘eiriolwr’ neu ‘warchodwr’ aflonyddu (gweler paragraff 4.41) neu aelod o adnoddau dynol. Dylai'r unigolyn wrando ar yr achwynydd ac ystyried y ffordd orau o’i helpu i ddatrys y mater yn anffurfiol c mewn modd mae’r achwynydd fwyaf bodlon amdano wedi ystyried y gwahanol opsiynau. Gallai, er enghraifft:
- darparu cyngor i’r achwynydd ar y ffordd orau i fynd i’r afael â’r mater yn uniongyrchol gyda’r aflonyddwr honedig
- cefnogi'r achwynydd i godi'r mater gyda’r aflonyddwr honedig trwy fynd gyda’r achwynydd unrhyw drafodaeth neu ei helpu i sefydlu ei farn ar bapur
- codi'r mater yn anffurfiol gyda’r aflonyddwr ar ran yr achwynydd
- drefnu cyfryngu gan gyfryngwr cymwysedig rhwng yr achwynydd a’r aflonyddwr honedig
- helpu cael cyngor ar y ffordd orau i ddatrys y mater ac/neu gymorth ar wneud hynny gan ffynonellau eraill naill ai'n fewnol, fel adnoddau dynol, neu'n allanol gan sefydliad fel Acas
- helpu cael cyngor ar neu gymorth wrth ddelio gyda materion yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig penodol, megis gan elusen gydag arbenigedd parthed anabledd benodol
- helpu sicrhau cynghori neu gefnogaeth ar gyfer yr unigolyn
4.55 Dylai'r weithdrefn gydnabod na fydd datrysiad anffurfiol o reidrwydd yn briodol neu efallai na fydd yn gweithio mewn sawl achos. Er enghraifft, mae’n annhebygol y bydd datrysiad anffurfiol yn briodol mewn achosion mwy difrifol neu'n gweithio mewn achosion ble mae’r aflonyddwr honedig yn annhebygol o dderbyn ei fod wedi wneud unrhyw beth o’i le. Dylai fod yn glir y gall y gweithiwr wneud y mater yn un ffurfiol ar unrhyw adeg os yw'n dymuno.
Datrysiad ffurfiol
4.56 Mae’r adran yma’n amlygu rhai materion penodol y dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddelio gyda chwynion ffurfiol o aflonyddu. Fodd bynnag, mae esboniad manwl o'r camau ddylid eu cymryd wrth gyflawni ymchwiliad neu achwyniad neu broses gwrandawiad cwyn neu ddisgyblaethol tu hwnt i gwmpas y canllaw hwn. Dylai cyflogwyr gyfarwyddo eu hunain gyda chanllaw Acas ar gynnal ymchwiliadau gweithle a disgyblaeth a chwynion yn y gwaith.
4.57 Dylai’r sianeli adrodd ffurfiol a sefydlir yn y polisi gwrth aflonyddu sicrhau, ble bynnag fo’n bosibl, y gall gweithiwr godi gweithred o aflonyddu neu erledigaeth gyda rhywun ar wahân i’r aflonyddwr honedig. Ble fo'n bosibl, dylai hyn fod yn rhywun uwch na’r aflonyddwr honedig.
4.58 Ni ddylai cyflogwyr sefydlu terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwynion. Efallai na fydd gweithiwr yn gallu cyflwyno cwyn o fewn unrhyw derfyn amser o’r fath oherwydd, er enghraifft, salwch neu ofn erledigaeth. Os codir cwynion am faterion hanesyddol, dyllid ymchwilio iddynt yn unol â phrosesau arferol. Ni ddylai cyflogwyr wneud tybiaethau oherwydd i ddigwyddiad honedig ddigwydd beth amser yn ôl, na fydd yn gallu canfod unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â hyn.
4.59 Dylid diffinio rolau a chyfrifoldebau yn ystod y broses yn glir. Dylai cyflogwyr sicrhau annibyniaeth a gwrthrychedd yn ystod pob cam o’r broses. Er enghraifft, ble bynnag fo'n bosibl, dylai gwahanol bobl ar lefelau cynyddol o bwysigrwydd gyflawni'r camau ymchwiliad, gwrandawiad ffurfiol a gwrandawiad apêl. Dylai cyflogwyr osgoi penodi pobl i gyflawni'r rolau hyn sydd wedi bod yn rhan o'r mater. Ble fo'n bosibl, dylent benodi pobl o wahanol rannau o’u sefydliadau nad oes ganddynt ddealltwriaeth neu sydd â llai o ddealltwriaeth o'r bobl dan sylw ac ystyried penodi ymchwilydd allanol ble fo angen i sicrhau y cedwir pethau'n ddiduedd. Dylent hefyd ystyried elfennau sensitif penodol yr achos. Er enghraifft, efallai y bydd menyw yr ymosodwyd arni'n rhywiol yn fwy cyfforddus yn siarad gydag ymchwilydd benywaidd.
4.60 Os yw gweithiwr yn teimlo fod ymchwiliad yn cymryd amser hir, gall hyn achosi iddynt deimlo na roddwyd ystyriaeth ddifrifol i'w cwyn neu ei fod yn gwaethygu'r straen a gofid mae’n brofi wrth aros am y canlyniad. Dylid gosod amserlen targed ar gyfer pob cam o’r broses a chyfathrebu hyn i’r achwynydd. Dylai'r amserlen yma ddarparu ar gyfer proses brydlon ond drylwyr. Yn realistig dylai fod yn ymarferol a chadw at hyn, yn hytrach nag mewn amgylchiadau eithriadol. Dylai’r cyflogwr ddarparu diweddariadau rheolaidd i'r achwynydd ar gynnydd a, pan na fodlonir yr amserau disgwyliedig, dylai'r cyflogwr roi esboniad clir i’r gweithiwr o ran pam.
4.61 Rhaid i gyflogwyr roi gwybod i’r achwynydd a’r aflonyddwr honedig am ei hawl statudol i gael rhywun yn gwmni yn ystod gwrandawiadau cwynion ffurfiol gan gynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr. Dylai cyflogwyr ystyried ymestyn yr hawl yma i gael cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur yn gwmni i gyfarfodydd eraill fel cyfarfodydd ymchwiliad ble fo'n rhesymol. Dylai cyflogwyr hefyd ystyried ymestyn yr hawl i gael rhywun yno, er mwyn caniatáu rhywun ar wahân i gydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur ble fo'n briodol gan ystyried yr angen i gynnal cyfrinachedd yn yr ymchwiliad. Dan amgylchiadau penodol, rhaid i gyflogwyr ymestyn yr hawl i gael rhywun yno er mwyn cydymffurfio gyda rhwymedigaethau cyfreithiol penodol. Er enghraifft, rhaid i gyflogwr ganiatáu i weithiwr gael rhywun arall yn gwmni os byddai hynny'n angenrheidiol:
- i gydymffurfio gyda’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer gweithiwr anabl
- os byddai methiant i ymestyn yr hawl i helpu gweithiwr i drechu rhwystr iaith yn cyfateb i wahaniaethu
- i gynnal ymddiriedaeth a hyder rhwng y cyflogwr a’r cyflogai. Er enghraifft, os yw cyflogai bregus angen cefnogaeth emosiynol ac na all cynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr ddarparu hyn
4.62 Dylai cyflogwyr sicrhau bod gan ymchwilwyr yr arbenigedd priodol i gynnal ymchwiliad a bod ganddynt fynediad at gyngor priodol, gan ystyried natur y cwyn penodol dan sylw. Er enghraifft, dylai ymchwilydd a benodir i ddelio gyda cwyn o wrthsemitiaeth fod â dealltwriaeth dda o beth yw gwrthsemitiaeth. Dylai ymchwilydd a benodir i ddelio gyda cwyn ble mae’r achwynydd wedi dioddef trawma o ganlyniad i’r profiad ddeall sut i gwestiynu’r achwynydd mewn modd sy'n osgoi gwaethygu’r trawma.
4.63 Dylai ymchwilwyr nodi'r ffeithiau maent angen sefydlu'n glir, y cwestiynau y bydd angen gofyn a’r dystiolaeth y bydd angen ei gael. Dylai ymchwilwyr osgoi cwestiynau amhriodol. Er enghraifft, ni fyddai'n briodol i ofyn i rywun sy'n cwyno am aflonyddu rhywiol am ei hanes rhywiol.
Cyfrinachedd yn ystod ymchwiliad
4.64 Yn ystod ymchwiliad i gwyn, ac os yw’r broses yn anffurfiol neu'n ffurfiol, dylai’r cyflogwr sicrhau y cedwir y cwyn yn gyfrinachol (yn amodol i unrhyw rwymedigaethau neu hawliau cyfreithiol megis gofyniad i adrodd i reoleiddiwr). Bydd hyn yn gwarchod yr achwynydd rhag unrhyw anfantais bellach, fel hel straeon ymysg cydweithwyr am yr aflonyddu. Fodd bynnag, ni ddylai cyfrinachedd o reidrwydd barhau unwaith bydd y broses gwynion wedi ei gwblhau (gweler baragraffau 4.48 a 4.83 i 4.86).
4.65 Gan fod cyfrinachedd yn golygu na all gweithwyr siarad gyda thystion eraill ynghylch y mater, rhaid i gyflogwyr sicrhau eu bod yn mynd ar drywydd y mater gyda’r holl dystion a awgrymwyd gan yr achwynydd a’r aflonyddwr honedig ac yn chwilio'n weithredol am dystiolaeth ar ran ac yn erbyn y cyhuddiadau i sicrhau bod popeth wedi ei nodi. Dylai'r cyflogwr sicrhau y bydd unrhyw dyst y bydd yn siarad â nhw ynghylch y cwyn yn cael gwybod:
- fod y mater yn gyfrinachol (yn amodol i rwymedigaethau neu hawliau personol, cyfreithiol neu reoleiddiol)
- y bydd torri cyfrinachedd yn drosedd ddisgyblaethol
Ceisiadau gan weithwyr i beidio gweithredu
4.66 Os yw gweithiwr yn cofnodi gwyn gyda’r cyflogwr ond yn gofyn i beidio mynd â’r mater ymhellach, dylai'r cyflogwr ddal i gymryd camau i sicrhau y datrysir y mater. Dylai'r cyflogwr, er enghraifft:
- cadw cofnod o’r cwyn a chais y gweithiwr i gadw’r mater yn gyfrinachol
- annog y gweithiwr i ddelio â’r mater yn anffurfiol naill ai'n uniongyrchol ei hun neu gyda chefnogaeth
- darparu’r gefnogaeth ac arweiniad angenrheidiol i’r weithiwr o ran sut i ddelio â’r mater yn anffurfiol
- cadw’r sefyllfa dan adolygiad trwy gysylltu â’r gweithiwr yn achlysurol i weld os yw’r sefyllfa wedi gwella
- os nad yw’r sefyllfa wedi gwella, esbonio i’r gweithwyr fod angen delio â’r mater ar gyfer lles yr unigolyn a’i gydweithwyr
4.67 Ble mae'n bosibl, dylai'r cyflogwr barchu dymunuadau'r achwynydd. Gallai peidio gwneud hynny waethygu unrhyw niwed a achoswyd gan yr ymddygiad gwreiddiol. Fodd bynnag, gall fod rhai amgylchiadau ble dylai'r cyflogwr weithredu oherwydd fod y risg o beidio gweithredu yn drech na'r risg yn deillio o fynd yn groes i ddymuniadau'r achwynydd. Wrth asesu risg cymharol y dewisiadau, dylai'r cyflogwr ofyn:
- A yw wedi ystyried a disbyddu'r holl opsiynau posibl eraill, fel y rhai y cyfeiriwyd atynt yn y canllaw hwn?
- Beth fydd effaith mynd yn groes i ddymuniadau'r achwynydd ar yr achwynydd?
- Beth yw’r risgiau posibl i’r achwynydd, cydweithwyr yr achwynydd ac i drydydd partïon eraill os nad yw’r cyflogwr yn cymryd camau pellach?
- A gafwyd unrhyw gwynion eraill yn erbyn yr un person?
- Beth yw’r tebygolrwydd y bydd y mater yn cael ei ddatrys gan yr achwynydd heb ymyrraeth gan y cyflogwr?
4.68 Er enghraifft, efallai y byddai'n briodol i gymryd camau pellach ble mae’r aflonyddu mor ddifrifol fel fod yna risg uniongyrchol i ddiogelwch yr achwynydd, ei gydweithwyr neu unrhyw arall y daw’r aflonyddwr i gysylltiad â nhw. Gallai’r risgiau fod yn uwch mewn achosion ble mae ymddygiad troseddol. wedi digwydd (gweler paragraffau 4.70 i 4.74).
4.69 Os yw’r cyflogwr yn penderfyno bod yn rhaid cymryd camau ffurfiol, yna dylai esbonio ei benderfyniad i’r achwynydd a sicrhau ei fod wedi sefydlu mesurau diogelwch priodol i atal aflonyddu neu erledigaeth pellach yn erbyn yr achwynydd (gweler paragraffau 4.75 i 4.80) yn ogystal â chefnogaeth a chynghori i’r achwynydd i ddelio gydag unrhyw effaith o’r penderfyniad.
Ymddygiad troseddol
4.70 Gallai rhai gweithredoedd aflonyddu hefyd gyfateb i drosedd.
4.71 Os yw unigolyn yn gwneud cwyn o aflonyddu a allai gyfateb i drosedd, dylai’r cyflogwr codi'r posibiliad o adrodd y mater i’r heddlu gyda’r achwynydd a darparu gefnogaeth angenrheidiol os bydd yn dewis gwneud hynny.
4.72 Dylai’r cyflogwr roi cryn bwysau i ddymuniadau'r achwynydd: os nad yw eisiau adrodd y mater i’r heddlu yna gan amlaf dylai’r cyflogwr barchu hynny.
4.73 Dan rai amgylchiadau, fodd bynnag, dylid adrodd i'r heddlu am ddigwyddiad. Dylai'r cyflogwr bwyso a mesur y risg o adrodd y mater i’r heddlu yn groes i ddymuniadau’r achwynydd, yn erbyn unrhyw risg i ddiogelwch yr achwynydd, cydweithwyr yr achwynydd a thrydydd partïon os nad yw’r mater yn cael ei adrodd i'r heddlu.
4.74 Mewn achosion ble mae’r heddlu'n rhan o’r mater, dylai cyflogwr drafod y broses ddisgyblu gyda’r heddlu. Ni ddylai’r cyflogwr dybio na all weithredu i ymchwilio i’r mater nes bydd yr ymholiadau'r heddlu neu unrhyw erlyniad dilynol wedi ei gwblhau. Dylai’r cyflogwr wirio gyda’r heddlu y gall gyflawni ei ymchwiliad ei hun heb beryglu unrhyw broses droseddol. Os yw'n ddiogel gwneud hynny, yna dylai'r cyflogwr ystyried a fyddai'n rhesymol dan yr holl amgylchiadau i barhau gydag ymchwiliad ar unwaith yn hytrach nag aros am ganlyniad y broses droseddol. Felly hefyd, os nad yw’r ymchwiliad yn arwain at gollfarn, dylai’r cyflogwr beidio tybio nad yw’n gallu cymryd camau pellach. Rhaid profi tramgwyddau troseddol tu hwnt i amheuaeth resymol, sy'n golygu bod yn rhaid cael tystiolaeth glir yn cefnogi’r cyhuddiad yn erbyn y cyhuddedig. Ar y llaw arall, does dim ond angen i gyflogwr gael sail rhesymol i gasglu fod trosedd ddisgyblaethol wedi ei chyflawni. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, y cyflogwr yn pwyso a mesur tystiolaeth y tystion a phenderfynu pa dyst neu dystion sydd wedi darparu'r fersiwn fwyaf cymhellol o ddigwyddiadau.
Atal aflonyddu neu erledigaeth bellach yn ystod ymchwiliad
4.75 Pan wneir cwyn ffurfiol o aflonyddu neu erledigaeth, dylai cyflogwr ystyried pa gamau sydd angen eu cymryd tra bod y mater yn cael ei ymchwilio i sicrhau:
- nad yw'r achwynydd yn destun gweithredoedd aflonydd pellach
- nad yw’r achwynydd yn cael ei erlid am cyflwyno cwyn
- fod unrhyw effaith andwyol bosibl ar yr achwynydd wedi ei leihau
- fod gweithwyr eraill yn cael eu diogelu rhag ymddygiad debyg, ac
- na fydd unrhyw ymyrraeth gyda’r ymchwiliad
4.76 Mewn rhai achosion, ni fydd angen gweithredu oherwydd, er enghraifft, mae’r cyflogwr yn fodlon fod yr achwynydd yn barod i barhau i weithio gyda'r aflonyddwr honedig ac nid yw'n debygol y bydd yr aflonyddwr honedig yn ailadrodd yr ymddygiad honedig tra bydd dan ymchwiliad.
4.77 Mewn achosion eraill, efallai y bydd angen cyfyngu ar gyswllt rhwng yr achwynydd a’r aflonyddwr honedig a sicrhau y cynhelir hyn i leihau'r risg o ailadrodd yr aflonyddu honedig. Er enghraifft, trwy adleoli'r aflonyddwr honedig i ran arall o’r cyflogwr neu i safle gwahanol wrth aros am gwblhau’r mater, trefnu gweithio o gartref, neu ddiddymu dyletswyddau oddi ar yr aflonyddwr fyddai’n dod â’r aflonyddwr a’r achwynydd i gysylltiad. Dylai unrhyw fesurau i gyfyngu cyswllt fel arfer fod yn berthnasol i'r aflonyddwr honedig oni bai, er enghraifft, mai dewis yr achwynydd yw i gael ei symud. Mae’n bwysig asesu'r risgiau o symud gweithiwr rhywle arall cyn gwneud hynny. Er enghraifft, os gallai'r aflonyddwr honedig gyflwyno risg i weithwyr eraill ar wahân i'r achwynydd.
4.78 Mewn achosion ble mae risg barhaus i’r achwynydd neu ei gydweithwyr, neu i gywirdeb yr ymchwiliad, yna dylai’r cyflogwr ystyried gwahardd yr aflonyddwr honedig ar gyflog llawn. Dylai'r cyflogwr ystyried yn ofalus yr angen i wahardd ac unrhyw ddewisiadau amgen ymarferol cyn mynd ar y trywydd hwn. Dylai cyflogwyr sicrhau y gall aflonyddwyr honedig gael mynediad at gefnogaeth briodol. Bydd hyn yn arbennig o wir pan fydd wedi ei atal o'r gwaith.
4.79 Dylai'r cyflogwr esbonio i’r aflonyddwr honedig fod unrhyw gamau a gymerir yn ragofal yn unig ac nad yw’n awgrymu fod y cyflogwr wedi llunio unrhyw gasgliadau o ran y cwyn. Felly hefyd, os bydd aflonyddwr honedig yn gwneud gwrthgyhuddiad yn erbyn yr achwynydd, yna dylai'r cyflogwr fod yn glir gyda’r ddau barti ynghylch sut mae wedi llunio ei farn am pa barti i'w wahardd, adleoli neu diddymu dyletswyddau, er mwyn osgoi unrhyw awgrym ei fod wedi ffafrio un ochr dros y llall.
4.80 Bydd yr angen i gymryd camau ataliol i warchod yr achwynydd yn arbennig o bwysig mewn achosion ble nad oedd yr achwynydd eisiau gwneud cwyn ffurfiol, ond mae’r cyflogwr wedi casglu y bydd yn rhaid delio â’r mater yn ffurfiol oherwydd y risgiau o beidio gwneud hynny (gweler paragraffau 4.66 i 4.69).
Tyst i aflonyddu
4.81 Dylai’r polisi gwrth aflonyddu annog tystion i aflonyddu neu erledigaeth gymryd camau i ddelio â’r mater. Gall hyn gynnwys:
- y tyst yn ymyrryd os yw’r dioddefwr yn teimlo na all wneud
- y tyst yn gofyn i'r sawl sy’n destun aflonyddu os hoffai i'r tyst adrodd am hyn neu ei gefnogi i'w adrodd
- y tyst yn adrodd am y digwyddiad ble mae’n teimlo y gall fod risg barhaus os bydd yn adrodd amdano
- gofyn i dystion gydweithredu mewn ymchwiliad
4.82 Dylai’r cyflogwr sicrhau tystion nad fydd yn achosi unrhyw niwed iddynt ddarparu gwybodaeth ac y bydd hefyd yn cymryd camau i’w atal rhag bod yn destun niwed gan unrhyw weithiwr arall.
Adrodd am ddeilliannau a diogelu data
4.83 I fod yn effeithiol o ran annog rhai gyda chwynion i gyflwyno cwyn, dylai canlyniad cwyn ffurfiol o aflonyddu fod mor dryloyw â phosibl. Golyga hyn ble bynnag fo'n briodol a phosibl, os ategir cwyn yna dylid dweud wrth yr achwynydd pa gamau a gymerwyd i ddelio â hyn yn cynnwys camau a gymerwyd i ddelio â’r cwyn penodol ac unrhyw fesurau i atal digwyddiad tebyg rhag digwydd eto yn y dyfodol. Os na ddywedir wrth yr achwynydd pa gamau a gymerwyd, gallai hyn ei adael yn teimlo na ystyriwyd ei gwyn yn ddifrifol neu na ddeliwyd â'r mater yn ddigonol.
4.84 Efallai y bydd gan gyflogwyr bryderon y gallai adrodd deilliannau fel camau disgyblu yn erbyn yr aflonyddwr fod yn groes i rwymedigaethau dyledus i’r aflonyddwr. Yn benodol, efallai ei fod yn pryderu am dorri’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Fodd bynnag, er bod yn rhaid i gyflogeion gydymffurfio gydag egwyddorion diogelu data dan Erthygl 5 GDPR, ni ddylent dybio y bydd datgelu data personol yr aflonyddwr yn cyfateb i dorri’r GDPR. Yn aml ni fydd os yw’r cyflogwr wedi bod yn glir y gellir datgelu’r deilliannau, wedi ystyried ei sail ar gyfer datgelu ac yn gweithredu'n gymesur wrth ddatgelu data personol.
4.85 Dylai cyflogwyr gymryd camau i alluogi datgelu'r deilliannau i achwynwyr ble fo'n briodol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys adolygu contractau, polisïau, gweithdrefnau a hysbysiadau preifatrwydd i sicrhau eu bod yn hysbysu gweithwyr pan ellir datgelu canlyniad cwynion a gweithrediadau disgyblu.
4.86 Dylai’r cyflogwr ystyried ar sail fesul achos ar bob sail pa ddata ellir ei brosesu'n gyfreithion o dan Erthygl 6 y GDPR (ac Erthygl 9, ble mae categori data arbennig dan sylw) a pha fesurau all sefydlu i sicrhau bod datgeliad yn gymesur. Dylai'r cyflogwr gofnodi ei benderfyniad o ran os gellir datgelu'r canlyniad neu beidio, a’i resymau dros y penderfyniad hwnnw. Ceir canllaw pellach ar gydymffurfiad gyda’r GDPR ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Camau pellach wedi terfynu’r broses
4.87 Pan na fydd cwyn wedi ei ategu, neu os yw wedi ei ategu ond fod hyn yn arwain at weithredu sy'n brin o ddiswyddo'r aflonyddwr, dylai’r cyflogwr ystyried yn ofalus y berthynas barhau rhwng yr achwynydd a’r aflonyddwr (honedig). Dylai’r cyflogwr benodi rhywun i reoli ailintegreiddiad pawb sydd wedi ei effeithio gan y cyhuddiad ac ymchwiliad yn cynnwys:
- trefnu'r gefnogaeth a chynghori briodol ar gyfer y partïon
- trefnu cyfryngu
- gwneud cynnig i adleoli ble nad oes modd datrys unrhyw fethiant perthynas trwy fodd arall
4.88 Os ategir y cwyn, ac nad yw’r aflonyddwr yn cael ei ddiswyddo, efallai y bydd angen i’r cyflogwr, yn rhan o unrhyw broses ddisgyblu yn cynnwys yr aflonyddwr, ystyried materion fel:
- hyfforddiant pellach i’r aflonyddwr
- adleoliad parhaol i'r aflonyddwr i rôl arall (neu adleoliad parhaol yr achwynydd os mai dyna yw ei ddewis) neu fesurau eraill angenrheidiol i gadw’r ddau barti ar wahân
- gofyn i’r aflonyddwr ymddiheuro i'r achwynydd
4.89 Os bydd cwyn yn cael ei ategu a’r aflonyddwr yn cael ei ddiswyddo, dylai'r cyflogwr asesu a allai unrhyw faterion godi yn dilyn cyflogaeth a sicrhau bod ganddo brosesau priodol yn eu lle i ddelio â’r rhain. Er enghraifft:
- Sut fydd yn ateb ceisiadau i ddarparu geirda ar gyfer yr aflonyddwr, gan sicrhau cydymffurfiad gyda’i ddyletswydd i beidio darparu geirda camarweiniol neu anghywir i gyflogwr posibl? Dylai'r cyflogwr ystyried y risg y gallai'r aflonyddu ddigwydd eto gyda chyflogwr newydd yn y dyfodol, a dylai dybio na all ddatgelu manylion yr aflonyddu i gyflogwr posibl am resymau diogelu data. Yn hytrach, dylai ystyried os gellir datgelu’r rhesymau dros ddiswyddo yn gyfreithlon dan Erthygl 6 y GDPR a pha fesurau all eu sefydlu i sicrhau bod datgeliad yn gymesur
- Os yw’r gweithle’n agored i'r cyhoedd, sut fydd y cyflogwr yn sicrhau nad yw’r aflonyddwr yn targedu’r achwynydd yn y gwaith?
Ffynonellau arweiniad pellach
Acas: Am wybodaeth a chyngor ar bob agwedd ar gysylltiadau gweithle a chyfraith cyflogaeth.
Cyngor ar Bopeth: Rhwydwaith o elusennau sy'n cynnig cyngor cyfrinachol ar- lein, dros y ffôn, ac yn bersonol, am ddim.
Cod Ymarfer ar Gyflogaeth: Canllaw diffiniol ar beth mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn olygu.
Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb: Mae Llinell Gymorth GCCC yn cynghori ac yn cynorthwyo unigolion ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol, ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Gall GCCC hefyd dderbyn atgyfeiriadau gan sefydliadau nad ydyn nhw, oherwydd materion gallu neu ariannu, yn gallu darparu cyngor wyneb yn wyneb i ddefnyddwyr lleol eu gwasanaethau.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Am wybodaeth a chyngor ar ddiogelu data
Gwasanaeth dod o hyd i gyfreithiwr Cymdeithas y Gyfraith: I ddod o hyd i gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.
Law Works: i ganfod cyngor, cynrychiolaeth ac adnoddau ar-lein am ddim
Conffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth: am wybodaeth ar arferion a safonau recriwtio, yn cynnwys hawliau gweithwyr
TUC: Yn cynrychioli undebau llafur cysylltiedig. Mae gwefan TUC yn cynnig arweiniad ar faterion yn y gweithle i weithwyr a chynrychiolwyr undebau, ac mae ganddo offeryn darganfod undebau llafur ar gyfer y rhai sy'n ystyried ymuno ag undeb llafur.
Rhestr termau
Acas: Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu
Asiant: Asiantau yw’r rhai sy'n gweithredu ar ran cyflogwr. Gallai gyflogwr fod yn atebol am weithredoedd gwahaniaethol a gyflawnwyd gan asiant yn erbyn un o’i gyflogeion (gweler paragraff 4.28).
Niwed: Golyga darostwng gweithiwr i niwed i'w trin yn wael. (Gweler paragraffau 3.17 i 3.19).
Cytundeb cyfrinachedd: Unrhyw gymal neu gytundeb ar wahân sy'n atal gweithiwr (neu ei gyflogwr) rhag trafod neu drosglwyddo gwybodaeth. Weithiau cyfeirir atynt fel cymalau cyfrinachedd, cytundebau peidio â datgelu, NDAs neu gymalau cau ceg. Gweler ein canllaw ar gytundebau cyfrinachedd.
Cyflogai: Unigolyn sydd â chontract cyflogaeth gyda'i gyflogwr. Mae gweithwyr yn cael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (gweler paragraffau 4.4 i 4.14).
Ailbennu rhywedd: Mae gan berson y nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd os yw'n bwriadu cyflawni, yn cyflawni neu wedi cyflawni proses i'r diben o ailbennu ei ryw trwy newid priodweddau ffisiolegol neu eraill ei ryw. Nid oes angen proses gyfreithiol neu feddygol.
Aflonyddu: Ymddygiad digroeso yn ymwneud â nodwedd warchodedig sydd â’r diben neu’r effaith o droseddu ar urddas gweithiwr neu greu amgylchedd aflonyddus, elyniaethus, diraddiol, bychanus neu dramgwyddus iddynt (gweler Pennod 2).
Dyletswydd ataliol: Rhwymedigaeth gyfreithiol cyflogwr i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar ei weithwyr yn ystod cyflogaeth (darllenwch baragraffau 3.16 i 3.43)
Gweithred warchodedig: Mae gweithiwr yn cyflawni gweithred warchodedig os yw yn: gwneud hawliad neu gyflwyno cwyn dan y Ddeddf (er enghraifft, ar gyfer gwahaniaethu neu aflonyddu); helpu rhywun arall i wneud hawliad trwy gyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth; wneud cyhuddiad fod rhywun wedi torri’r Ddeddf; neu wneud unrhyw beth arall mewn perthynas â’r Ddeddf (gweler paragraffau 3.6 i 3.16).
Nodwedd warchodedig: Term a ddefnyddir yn y Ddeddf i ddisgrifio’r nodweddion sydd gan bobl mewn perthynas y maent wedi eu diogelu rhag gwahaniaethu ac aflonyddu. Dan y Ddeddf, mae yna naw o nodweddion gwarchodedig. Nid yw priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth yn warchodedig dan y darpariaethau aflonyddu (gweler paragraffau 2.3 i 2.5).
Yr amddiffyn ‘camau rhesymol’: Amddiffyn sydd ar gael i gyflogwyr mewn hawliadau o aflonyddu. Ni fydd y cyflogwr yn atebol am unrhyw weithredoedd o aflonyddu gan un o’i weithwyr os gall ddangos iddo gymryd yr holl gamau rhesymol i'w atal (gweler paragraffau 3.28 i 3.36).
Aflonyddu rhywiol: Ymddygiad digroeso o natur rywiol sydd â’r diben neu’r effaith o droseddu ar urddas gweithiwr neu greu amgylchedd aflonyddus, elyniaethus, diraddiol, bychanus neu dramgwyddus iddynt (gweler Pennod 2).
Aflonyddu trydydd parti: Aflonyddu ar weithiwr gan rywun nad yw’n gweithio i ac nad yw'n asiant i'r un cyflogwr. Er enghraifft, cleient, cwsmer neu ddefnyddiwr gwasanaeth.
Traws: Defnyddir traws (neu ddynion traws / menywod traws) i gyfeirio at unrhyw unigolion sydd â’r nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd, er efallai na fydd rhai pobl sy’n ystyried eu bod yn draws yn dod o fewn y diffiniad cyfreithiol.
Anghyfreithlon: Yn groes i'r gyfraith yng nghyd-destun y canllaw hwn, yn groes i’r Ddeddf.
Erledigaeth: Darostwng rhywun i niwed oherwydd ei fod wedi gwneud, neu y credir ei fod wedi gwneud, gweithred warchodedig (gweler paragraffau 3.2 i 3.5).
Gweithiwr: Fel y diffiniwyd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae hyn yn unigolyn sy'n gweithio i gyflogwr ac mae’n ofynnol iddo wneud y gwaith yn bersonol – hynny yw, ni all anfon rhywun (eilydd) i wneud y gwaith yn ei le ac felly nid yw'n hunangyflogedig. Mae gweithwyr yn cael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Sylwer ein bod yn defnyddio’r gair ‘gweithiwr’ yn y canllaw hwn i gynnwys gweithwyr a chyflogeion.
Cyngor a chefnogaeth
Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .
Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Ffôn: 0808 800 0082
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
30 Ionawr 2020
Diweddarwyd diwethaf
26 Medi 2024