Cylch gorchwyl

Cylch gorchwyl Pwyllgor Cymru

Wedi ei gyhoeddi: 14 Chwefror 2020

Diweddarwyd diwethaf: 14 Chwefror 2020

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Cymru

Rhagymadrodd

1. Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2006 ('y Ddeddf'), mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ('y Comisiwn') wedi sefydlu Pwyllgor Cymru ('y Pwyllgor') fel pwyllgor gwneud penderfyniadau.

Rôl a swyddogaeth

2. Rôl Pwyllgor Cymru yw sicrhau bod gwaith y Comisiwn yn adlewyrchu amodau yng Nghymru.

3. Mae gan y Pwyllgor y pwerau dirprwyedig a ganlyn yn rhinwedd y Ddeddf:

a) Arfer pwerau cyffredinol y Comisiwn mewn perthynas â gweithgareddau a restrir yn adran 13, i'r graddau y maent yn effeithio ar Gymru ym marn y Comisiwn.

b) Arfer pŵer y Comisiwn yn adran 11(2)(c) a (d), i gynghori Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar effaith neu effaith debygol cyfreithiau neu newidiadau arfaethedig i gyfreithiau sydd, ym marn y Comisiwn, yn effeithio ar Gymru yn unig.

c) Cynghori'r Comisiwn ynghylch arfer ei swyddogaethau i'r graddau y maent yn effeithio ar Gymru.

4. Pan fo’r Comisiwn yn ymgynghori â’r Pwyllgor yn unol â pharagraff 28 o Atodlen 1 i’r Ddeddf, caiff y Pwyllgor ymateb.

Dirprwyaeth

5. Gall y Pwyllgor ddirprwyo swyddogaethau i'r Prif Weithredwr neu Bennaeth Cymru. Gall y Prif Weithredwr neu Bennaeth Cymru, fel y bo'n briodol, wneud trefniadau ar gyfer cyflawni unrhyw ddirprwyo o'r fath.

6. Gall unrhyw ddirprwyo a ganiateir gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg, boed dros dro neu'n barhaol gan y Pwyllgor ar ôl rhoi rhybudd rhesymol.

Dirprwyo i Gadeirydd y Pwyllgor (gweithred y Cadeirydd)

7. Bod y Pwyllgor yn dirprwyo awdurdod i'w Gadeirydd i gymryd camau brys ar unrhyw fater sy'n dod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr. Bydd y Prif Weithredwr yn dod â’r mater i sylw Cadeirydd y Comisiwn fel y bo’n briodol. Lle cymerir camau o'r fath, rhaid cynhyrchu adroddiad gweithredu Cadeirydd, yn nodi'r camau a gymerwyd a'r rhesymau dros y brys, a'i ddosbarthu i aelodau'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

8. Os yw'r Cadeirydd o'r farn y dylai'r Pwyllgor benderfynu ar fater brys, rhaid dosbarthu adroddiad i holl aelodau'r Pwyllgor, er mwyn iddynt hwy ei ystyried a gwneud penderfyniad drwy ohebiaeth.

9. Dylid adrodd ar bob penderfyniad a wneir gan y Cadeirydd yn y cyfarfod nesaf a'i gofnodi yn y cofnodion.

Aelodaeth

10. Comisiynydd Cymru fydd yn cadeirio’r Pwyllgor.

11. Gall y Pwyllgor benodi Is-gadeirydd o blith ei aelodau i gefnogi'r Cadeirydd a gweithredu yn ei absenoldeb. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw’r rôl hon yn ymestyn i ddirprwyo ar gyfer y Cadeirydd yn ei rôl fel Comisiynydd Cymru.

12. Rhaid i'r Pwyllgor gynnwys rhwng saith a naw aelod, a benodir gan Fwrdd y Comisiwn. Gall aelodau wasanaethu am gyfnod o rhwng dwy a phum mlynedd a gellir eu hailbenodi am gyfnod pellach o rhwng dwy i bum mlynedd. Gall aelodau wasanaethu hyd at uchafswm o 10 mlynedd, fodd bynnag, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai tymor o'r fath yn cael ei gymeradwyo ac yn y rhan fwyaf o achosion dylai aelodau'r Pwyllgor ddisgwyl gwasanaethu am gyfanswm o rhwng pedair a saith mlynedd.

13. Mae ailbenodi yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn unol â thelerau ac amodau penodi'r aelod, a chytundeb rhwng yr aelod a'r Comisiwn.

14. Bydd Pennaeth Cymru, neu ei ddirprwy enwebedig, yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor fel Swyddog Arweiniol. Mae gan Gadeirydd, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Cymru y Comisiwn wahoddiad sefydlog i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor heb bleidlais. Gall staff eraill y Comisiwn fynychu cyfarfodydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, i gefnogi eitemau penodol sy'n cael eu trafod.

15. Gall y Cyfarwyddwr Cyfreithiol/Pennaeth Cyfreithiol Cymru, neu ei ddirprwy enwebedig, fynychu cyfarfodydd Pwyllgor o bryd i'w gilydd i roi cyngor a chymorth cyfreithiol yn ymwneud â llywodraethu a phwerau statudol a chylch gwaith y Pwyllgor.

Cworwm

16. I fod â chworwm rhaid i o leiaf dri aelod o'r Pwyllgor fod yn bresennol. Yn absenoldeb y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, os penodir un, fydd yn cadeirio’r cyfarfod. Os nad oes Is-gadeirydd, neu os yw’r Is-gadeirydd hefyd yn absennol, yna gall y Cadeirydd enwebu aelod arall o’r Pwyllgor i gadeirio’r cyfarfod.

17. Os na fydd cworwm ar ôl 15 munud o'r amser cychwyn a drefnwyd, bydd y Cadeirydd yn penderfynu a ddylai; (i) parhau â'r cyfarfod ond pleidleisio ar unrhyw benderfyniadau drwy ohebiaeth ddilynol; neu (ii) gohirio a threfnu gweddill y busnes ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Annibyniaeth, gwrthrychedd a gwrthdaro buddiannau

19. Rhaid i'r Pwyllgor weithredu yn unol â Llawlyfr Llywodraethu'r Comisiwn a'i werthoedd o degwch, urddas a pharch. Bydd y Pwyllgor yn gynhwysol ac yn gydweithredol, gan roi lle i bob barn a safbwynt gael eu clywed, bydd yn ceisio dod i benderfyniadau drwy gonsensws a bydd yn cymryd perchnogaeth gyfunol o’r penderfyniadau a wneir.

20. Rhaid i aelodau'r Pwyllgor weithredu'n annibynnol ac yn wrthrychol a meddu ar ddealltwriaeth gadarn o amcanion a blaenoriaethau'r Comisiwn. Rhaid i aelodau'r pwyllgor gadw at Lawlyfr Llywodraethu'r Comisiwn a'u telerau ac amodau penodi.

21. Rhaid i unrhyw aelod o'r Pwyllgor sy'n dod yn ymwybodol o wrthdaro buddiannau posibl sy'n ymwneud â materion i'w trafod gan y Pwyllgor roi gwybod ymlaen llaw i'r Cadeirydd a'r Swyddog Arweiniol. Os mai dim ond yn y cyfarfod y daw'r gwrthdaro i'r amlwg, dylent ddatgan hyn yn y cyfarfod ac, os oes angen, ymneilltuo yn ystod trafodaeth ar yr eitem berthnasol ar yr agenda. Bydd datganiadau o ddiddordeb yn eitem sefydlog ar agendâu Pwyllgorau. Lle bo unrhyw wrthdaro o'r fath yn ymwneud â'r Cadeirydd, dylai ei ddatgan i Gadeirydd y Comisiwn a dilyn y weithdrefn a amlinellir yn Llawlyfr Llywodraethu'r Comisiwn.

Ymgysylltu â'r Bwrdd a Phwyllgorau

22. Er mwyn sicrhau bod gan y Pwyllgor gysylltiadau cryf â'r Bwrdd a Phwyllgorau eraill y Comisiwn:

a) Bydd agendâu'r Bwrdd yn cael eu dosbarthu ymlaen llaw i'r Pwyllgor fel y gall y Pwyllgor gael gwybod am y materion sy'n cael eu hystyried gan y Bwrdd a gall, gyda chytundeb Cadeirydd y Comisiwn, ofyn am gael mynychu cyfarfodydd y Bwrdd ar gyfer eitemau o ddiddordeb. Bydd agendâu'r Pwyllgor yn cael eu dosbarthu ymlaen llaw i'r Bwrdd er mwyn i'r Comisiynwyr allu gofyn am gael mynychu cyfarfodydd Pwyllgor ar gyfer eitemau o ddiddordeb.

b) Bydd y Pwyllgor yn rhoi cyngor clir i'r Bwrdd ynghylch arfer swyddogaethau'r Comisiwn i'r graddau y maent yn effeithio ar Gymru, yn unol â'i bwerau o dan y Ddeddf. Bydd y cyngor hwn yn cael ei adlewyrchu ym mhapurau’r Bwrdd, adroddiadau gan y Pwyllgor i’r Bwrdd neu drwy Gadeirydd y Pwyllgor.

c) Bydd y Pwyllgor yn derbyn adborth o gyfarfodydd y Bwrdd yn nodi sut y cymerwyd barn y Pwyllgor i ystyriaeth a, lle nad yw unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor wedi'u derbyn, yn nodi pam fod hyn yn wir.

d) Bydd y Pwyllgor yn derbyn copïau o gofnodion y Bwrdd.

e) Gall y Pwyllgor wahodd Comisiynwyr i fod yn bresennol fel sylwedyddion mewn gweithgareddau neu gyfarfodydd Pwyllgor, fel y bo'n briodol. Gall aelodau pwyllgor hefyd fynychu cyfarfodydd y Bwrdd neu gyfarfodydd pwyllgorau eraill y Bwrdd, yn amodol ar gytundeb y Cadeirydd priodol.

f) Bydd y Pwyllgor yn enwebu un o'i aelodau i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cynghori ar Anabledd (DAC) yn rheolaidd, i gymryd rhan yn ei drafodaethau fel cynrychiolydd y Pwyllgor ac i roi adborth i'r Pwyllgor ar weithgareddau'r Pwyllgor Cynghori ar Anabledd.

Adrodd

23. Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am gyfleu gwaith y Pwyllgor i'r Bwrdd a rhannu adborth y Bwrdd ag aelodau'r Pwyllgor a'r Swyddog Arweiniol. Mae'r Swyddog Arweiniol yn gyfrifol am gyfathrebu gweithgareddau a gofynion y Pwyllgor i Swyddogion. Erbyn mis Mehefin bob blwyddyn rhaid i'r Pwyllgor anfon adroddiad at y Bwrdd ar y modd y mae wedi arfer ei bwerau dirprwyedig yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

24. Rhaid cyflwyno cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor i'r Bwrdd a'u cyhoeddi ar wefan y Comisiwn.

Adolygu

25. Bydd y Pwyllgor yn adolygu ei effeithiolrwydd a phriodoldeb y cylch gorchwyl hwn o bryd i'w gilydd, gan ystyried arfer gorau mewn llywodraethu corfforaethol, ac yn argymell i'r Bwrdd gymeradwyo unrhyw newidiadau angenrheidiol i hwyluso'r gwaith o gynnal busnes y Pwyllgor yn effeithiol ac yn effeithlon.

Diweddariadau tudalennau