I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Y gwahaniaeth mewn cyflog
Er bod cyflog cyfartal a’r bwlch rhwng y rhywiau yn delio â’r gwahaniaeth yn y cyflog y mae menywod yn ei gael yn y gweithle, maent yn ddau fater gwahanol:
Cyflog cyfartal:
Yn golygu bod yn rhaid i ddynion a menywod yn yr un gyflogaeth sy’n cyflawni gwaith cyfartal dderbyn cyflog cyfartal, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau:
Yn fesur o'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog dynion a menywod ar draws sefydliad neu'r farchnad lafur. Fe'i mynegir fel canran o enillion dynion.
Ym Mhrydain, mae bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau o 18.1%.
Achosion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Mae achosion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn gymhleth a gallant fod yn gorgyffwrdd. Mae'r ffactorau'n cynnwys:
Mae'r sectorau sy'n talu uchaf yn cael eu dominyddu gan ddynion
Mae merched yn aml yn gwneud yn dda yn yr ysgol, ond maent yn tueddu i ganolbwyntio yn y pen draw ar sectorau cyflogaeth sy'n cynnig cwmpas culach ar gyfer gwobr ariannol. Ar y llaw arall, mae llawer o'r sectorau sy'n talu uchaf yn cynnwys gweithwyr gwrywaidd yn anghymesur.
Effaith gwaith rhan-amser
Y gwahaniaeth mewn blynyddoedd o brofiad o waith llawn amser, neu’r effaith negyddol ar gyflogau o fod wedi gweithio’n rhan amser yn flaenorol neu o gymryd amser allan o’r farchnad lafur i ofalu am deulu.
Stereoteipio
Stereoteipio anymwybodol, gyda thybiaethau ynghylch menywod nad ydynt am dderbyn dyrchafiad, neu nad ydynt mewn sefyllfa i wneud hynny, yn enwedig lle mae ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Merched yw 47% o'r gweithlu, ond dim ond 35% o reolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion.
Adrodd bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Gweler ein harweiniad ar adrodd ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau i gael gwybod beth yw’r gofynion, i bwy maent yn berthnasol a beth sydd angen i chi ei wneud.
Cysylltwch ag Acas am ragor o wybodaeth
Os ydych yn rhan o anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth am hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):
Rhadffôn: 0300 123 1100 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn)
Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
1 Gorffenaf 2021
Diweddarwyd diwethaf
1 Gorffenaf 2021