I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae cyflogwyr ym mhob sector yn elwa trwy ddarparu cyflog cyfartal. Nid yw’n ofyniad cyfreithiol yn unig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf), ond hefyd yn gam pwysig tuag at Brydain decach.
Mae talu llai i fenywod na dynion â goblygiadau pellgyrhaeddol i gymdeithas drwy gyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, cyfraniadau pensiwn is menywod a’u hamlder uwch o dlodi cymharol yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae tâl hefyd yn un o'r ffactorau allweddol sy'n effeithio ar gymhelliant a pherthnasoedd yn y gwaith, gan gyfrannu yn y pen draw at eich llwyddiant masnachol, felly mae'n bwysig gwobrwyo pob gweithiwr yn deg.
Y manteision busnes
Systemau cyflog sy’n dryloyw ac yn gwobrwyo’r gweithlu cyfan yn deg:
- anfon neges gadarnhaol am werthoedd eich sefydliad
- cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant drwy ddenu'r gweithwyr gorau a lleihau absenoldeb a throsiant staff
- ffurfio rhan allweddol o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol eich sefydliad - yn gynyddol bwysig i lawer o randdeiliaid
Bydd darparu cyflog cyfartal i bob gweithiwr hefyd yn lleihau’r risgiau o wynebu hawliad cyflog cyfartal ac yn helpu i osgoi:
- Ffioedd cyfreithiol drud a allai gostio miloedd o bunnoedd
- Colli cynhyrchiant wrth i reolwyr gasglu tystiolaeth a delio â gwrandawiadau tribiwnlysoedd
- Perthynas gweithwyr wedi'u difrodi a morâl staff isel
- Cost penderfyniadau’r tribiwnlys – yn ogystal â’u ffioedd cyfreithiol eu hunain, mae’n rhaid i gyflogwyr sy’n colli dalu dyfarniad ariannol i’r hawlydd, a allai gynnwys hyd at chwe blynedd o ôl-dâl ac, mewn rhai amgylchiadau, ffioedd cyfreithiol yr hawlydd
- Colli enw da gyda chwsmeriaid, cyfranddalwyr a darpar weithwyr
- Archwiliadau pellach posibl a orchmynnir gan dribiwnlys
Ar wahân i'ch helpu i gwrdd â'ch rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyflog cyfartal, gall cynnal archwiliad neu adolygiad cyflog cyfartal gael effeithiau buddiol eraill. Er enghraifft, gallai ddatgelu materion cydraddoldeb eraill yn eich sefydliad, megis tan-gynrychiolaeth neu wahanu swyddi pobl â nodweddion gwarchodedig penodol.
Os felly, efallai y byddwch am archwilio arferion cyflogaeth eraill i sicrhau eu bod yn rhydd rhag gwahaniaethu o bob math. Gallai’r rhain gynnwys prosesau recriwtio, dulliau hyfforddi a datblygu a chynllunio olyniaeth.
Cysylltwch ag Acas am ragor o wybodaeth
Os ydych yn rhan o anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth am hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):
Rhadffôn: 0300 123 1100 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn)
Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
9 Medi 2020
Diweddarwyd diwethaf
9 Medi 2020