I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn ddogfen hanesyddol sy’n amlinellu’r hawliau a’r rhyddid y mae gan bawb hawl iddynt.
Hwn oedd y cytundeb rhyngwladol cyntaf ar egwyddorion sylfaenol hawliau dynol.
Gosododd y sylfaen ar gyfer yr amddiffyniadau hawliau dynol sydd gennym yn y DU heddiw.
Roedd yn sail i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a ymgorfforwyd yn ei dro yng nghyfraith y DU gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dylanwad byd-eang
Mae bron pob gwladwriaeth yn y byd wedi derbyn y Datganiad.
Mae wedi ysbrydoli mwy nag 80 o gonfensiynau a chytundebau rhyngwladol, yn ogystal â nifer o gonfensiynau rhanbarthol a chyfreithiau domestig.
Mae wedi bod yn gatalydd ar gyfer gwella amddiffyniadau hawliau dynol i grwpiau fel pobl anabl, pobl frodorol a menywod.
Mae wedi'i chyfieithu i fwy na 360 o ieithoedd.
Mesur Hawliau Dynol Rhyngwladol
Mae’r Mesur Hawliau Dynol Rhyngwladol yn enw anffurfiol a roddir i’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ynghyd â chytundebau hawliau dynol canlynol y Cenhedloedd Unedig:
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
19 Hydref 2018
Diweddarwyd diwethaf
19 Tachwedd 2018