Gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd

Wedi ei gyhoeddi: 23 Chwefror 2023

Diweddarwyd diwethaf: 22 Rhagfyr 2021

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Ar y dudalen hon rydym wedi defnyddio Cymraeg clir i helpu i egluro termau cyfreithiol. Nid yw hyn yn newid ystyr y gyfraith.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio’r term ‘trawsrywiol’ ar gyfer unigolion sydd â nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd. Rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn ystyried bod y term hwn yn hen ffasiwn, felly rydym wedi defnyddio’r term ‘traws’ i gyfeirio at berson sydd â’r nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd. Fodd bynnag, nodwn ei bod yn bosibl na fydd rhai pobl sy'n ystyried eu hunain yn draws yn dod o fewn y diffiniad cyfreithiol.

Mae'r dudalen hon yn destun diweddariadau oherwydd natur esblygol rhai o'r materion a amlygwyd. 

Beth yw gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd?

Dyma pryd y cewch eich trin yn wahanol oherwydd eich bod yn draws yn un o'r sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallai'r driniaeth fod yn weithred unwaith ac am byth neu o ganlyniad i reol neu bolisi. Nid oes rhaid iddo fod yn fwriadol i fod yn anghyfreithlon.

Mae rhai amgylchiadau lle mae cael eich trin yn wahanol oherwydd bod yn draws yn gyfreithlon. Esbonnir y rhain isod.

Beth mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei ddweud am wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud na ddylid gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd ailbennu rhywedd.

Yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae ailbennu rhywedd yn golygu bwriad i fynd trwy, neu fod wedi mynd trwy broses i ailbennu eich rhyw.

Er mwyn cael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd, nid oes angen i chi fod wedi cael unrhyw driniaeth feddygol na llawdriniaeth i newid o'ch rhyw ar adeg eich genedigaeth i'ch rhyw ddewisol.

Gallwch fod ar unrhyw gam yn y broses trawsnewid, o’r bwriad i ailbennu eich rhyw, mynd trwy broses o ailbennu, neu fod wedi'i chwblhau. Nid oes gwahaniaeth p’un a ydych wedi gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd neu beidio, sef y ddogfen sy’n cadarnhau newid rhyw cyfreithlon person.

Er enghraifft, person a aned yn fenyw ac sy’n penderfynu treulio gweddill ei oes fel dyn, a pherson a aned yn wrywaidd ac sydd wedi bod yn byw fel menyw ers peth amser ac sydd wedi cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd, mae gan y ddau y nodwedd gwarchodedig o ailbennu rhywedd. 

Gwahanol fathau o wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd

Mae pedwar math o wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd.

Gwahaniaethu uniongyrchol 

Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun yn eich trin yn waeth na pherson arall mewn sefyllfa debyg oherwydd eich bod yn draws. Er enghraifft:

  • eich bod yn hysbysu'ch cyflogwr eich bod yn bwriadu treulio gweddill eich oes yn byw fel y rhyw arall. Os bydd eich cyflogwr yn newid eich rôl yn erbyn eich dymuniadau er mwyn osgoi ichi ddod i gysylltiad â chleientiaid, byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud na ddylid gwahaniaethu’n uniongyrchol yn eich erbyn oherwydd:

  • bod gennych y nodwedd warchodedig o newid rhyw. Mae ystod eang o bobl yn ystyried eu bod yn draws. Fodd bynnag, nid ydych wedi'ch diogelu dan y Ddeddf Cydraddoldeb oni bai eich bod wedi bwriadu, dechrau neu gwblhau proses i newid eich rhyw.
  • mae rhywun yn meddwl bod gennych y nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd. Er enghraifft, oherwydd eich bod o bryd i'w gilydd yn croeswisgo neu nad ydych yn cydymffurfio â stereoteipiau rhywedd (gelwir hyn yn wahaniaethu trwy ganfyddiad).
  • rydych yn gysylltiedig ag unigolyn sydd â'r nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd, neu rywun y credir yn anghywir bod ganddo'r nodwedd warchodedig hon (gelwir hyn yn wahaniaethu trwy gysylltiad).

Absenoldebau o'r gwaith

Os ydych yn absennol o’r gwaith oherwydd eich ailbennu rhywedd, ni all eich cyflogwr eich trin yn waeth nag y byddech yn cael eich trin pe baech yn absennol:

  • oherwydd salwch neu anaf. Er enghraifft, ni all eich cyflogwr dalu llai i chi nag y byddech wedi'i gael pe baech i ffwrdd yn sâl.
  • oherwydd rhyw reswm arall. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, dim ond os yw'ch cyflogwr yn ymddwyn yn afresymol y mae'n wahaniaethu. Er enghraifft, os byddai’ch cyflogwr yn cytuno i gais am amser i ffwrdd i rywun fynychu seremoni raddio eu plentyn, yna gallai fod yn afresymol gwrthod amser i ffwrdd i chi ar gyfer rhan o broses ailbennu rhywedd. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, amser i ffwrdd ar gyfer cwnsela.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae hyn yn digwydd pan fydd gan sefydliad bolisi neu ffordd benodol o weithio sy'n rhoi pobl â'r nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd dan anfantais.

Weithiau gellir caniatáu gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd os yw'r sefydliad neu'r cyflogwr yn gallu dangos bod rheswm da dros y gwahaniaethu. Gelwir hyn yn cyfiawnhad gwrthrychol. Er enghraifft: 

  • Mae gan gyflogwr arferiad o ddechrau sesiynau sefydlu ar gyfer staff newydd gyda chyflwyniad ysgafn wedi'i gynllunio i gyflwyno pawb yn yr ystafell i'r lleill. Mae'n ofynnol i bob gweithiwr roi llun o'i hun fel plentyn bach. Mae un gweithiwr yn fenyw drawsrywiol nad yw'n dymuno i'w chydweithwyr wybod iddi gael ei magu yn fachgen, felly nid yw'n dod â'i llun ac mae'n cael ei beirniadu gan y cyflogwr o flaen y grŵp am beidio ag ymuno. Defnyddir yr un dull ar gyfer pob aelod newydd o staff ond mae'n rhoi pobl â nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd dan anfantais benodol. Byddai hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon oni bai bod y cyflogwr yn gallu dangos bod cyfiawnhad dros yr arfer.

Aflonyddu

Aflonyddu yw pan fydd rhywun yn gwneud i chi deimlo wedi eich bychanu, tramgwyddo neu ddiraddio am resymau'n ymwneud ag ailbennu rhywedd. Er enghraifft:

  • mae person sydd wedi ailbennu rhywedd o wryw i fenyw yn cael diod mewn tafarn gyda ffrindiau ac mae’r landlord yn ei galw’n ‘syr’ neu ‘ef’ o hyd wrth weini diodydd, er ei bod hi’n cwyno amdano.

Ni ellir byth gyfiawnhau aflonyddu. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos ei fod wedi gwneud popeth o fewn ei allu i atal pobl sy'n gweithio iddo rhag aflonyddu arnoch, ni fyddwch yn gallu gwneud hawliad am aflonyddu yn erbyn y sefydliad, ond dim ond yn erbyn yr aflonyddwr.

Erledigaeth

Dyma pryd y cewch eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd. Er enghraifft:

  • mae person sy'n bwriadu ailbennu rhywedd yn cael ei aflonyddu gan gydweithiwr yn y gwaith. Mae'n gwneud cwyn am y ffordd y mae ei gydweithiwr yn ei drin ac yn cael ei ddiswyddo.

Mae amgylchiadau pan fyddwch yn cael eich trin yn wahanol oherwydd ailbennu rhywedd yn gyfreithlon

Gall gwahaniaeth mewn triniaeth fod yn gyfreithlon weithiau. Bydd hyn yn wir pan fydd yr amgylchiadau’n dod o dan un o’r eithriadau yn y Ddeddf Cydraddoldeb sy’n caniatáu i sefydliadau ddarparu triniaeth neu wasanaethau gwahanol ar sail ailbennu rhywedd rhyw. Er enghraifft:

  • chwaraeon cystadleuol: mae sefydliad chwaraeon yn cyfyngu ar gyfranogiad oherwydd ailbennu rhywedd. Er enghraifft, mae trefnwyr digwyddiad triathlon merched yn penderfynu gwahardd menyw draws sydd â Thystysgrif Cydnabod Rhywedd gan eu bod yn meddwl bod ei chryfder neu ei stamina yn rhoi mantais annheg iddi. Fodd bynnag, byddai angen i'r trefnwyr allu dangos bod hyn yn angenrheidiol i wneud y digwyddiad yn deg neu'n ddiogel i bawb.
  • mae darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaethau un rhyw. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn caniatáu i ddarparwr gwasanaeth un rhyw ar wahân neu un rhyw sydd wedi’i sefydlu’n gyfreithlon atal, cyfyngu neu addasu mynediad pobl ar sail ailbennu rhywedd mewn rhai amgylchiadau. Fodd bynnag, bydd cyfyngu neu addasu mynediad at, neu eithrio person traws o wasanaeth ar wahân neu un rhyw o'r rhywedd y maent yn bresennol ynddo, yn anghyfreithlon os na allwch ddangos fod gweithredu o'r fath yn ddull cymesur o gyflawni nod cyfreithlon. Mae hyn yn berthnasol p'un a oes gan y person Dystysgrif Cydnabod Rhywedd ai peidio.

Diweddariad: 23 Chwefror 2023

  • Wedi dileu paragraff ar argymhellion iaith a wnaed gan y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb (WEC) yn 2016
  • Wedi dileu’r term ‘trawsrywiol’ yn unol ag argymhellion WEC 2016
  • Ychwanegwyd paragraff yn egluro'r defnydd o Gymraeg clir yn y canllawiau
  • Wedi dileu paragraff ar bobl ryngrywiol sydd ddim yn cael eu hamddiffyn yn benodol rhag gwahaniaethu gan y Ddeddf Cydraddoldeb

Diweddariadau tudalennau

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082