Gwahaniaethu ar sail rhyw

Wedi ei gyhoeddi: 19 Chwefror 2020

Diweddarwyd diwethaf: 19 Chwefror 2020

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Gwahaniaethu ar sail rhyw yw pan fyddwch yn cael eich trin yn wahanol oherwydd eich rhyw, mewn rhai sefyllfaoedd a gwmpesir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gallai'r driniaeth fod yn weithred unwaith ac am byth neu gallai gael ei hachosi gan reol neu bolisi. Nid oes rhaid iddo fod yn fwriadol i fod yn anghyfreithlon.

Mae rhai amgylchiadau lle mae cael eich trin yn wahanol oherwydd rhyw yn gyfreithlon.

Beth mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei ddweud am wahaniaethu ar sail rhyw

Ni ddylid gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd:

  • rydych chi (neu ddim) yn rhyw arbennig
  • mae rhywun yn meddwl eich bod o’r rhyw arall (gelwir hyn yn wahaniaethu trwy ganfyddiad)
  • rydych yn gysylltiedig â rhywun o ryw arbennig (gelwir hyn yn wahaniaethu trwy gysylltiad)

Yn y Ddeddf Cydraddoldeb, gall rhyw olygu naill ai gwryw neu fenyw, neu grŵp o bobl fel dynion neu fechgyn, neu fenywod neu ferched.

Gwahanol fathau o wahaniaethu ar sail rhyw

Mae pedwar prif fath o wahaniaethu ar sail rhyw.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun, oherwydd eich rhyw, yn eich trin yn waeth na rhywun o'r rhyw arall sydd mewn sefyllfa debyg. Er enghraifft:

  • mae clwb nos yn cynnig mynediad am ddim i ferched ond yn codi tâl ar ddynion i fynd i mewn

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd gan sefydliad bolisi neu ffordd benodol o weithio sy'n berthnasol yn yr un ffordd i'r ddau ryw ond sy'n eich rhoi dan anfantais oherwydd eich rhyw. Er enghraifft:

  • Mae cyflogwr yn penderfynu newid patrymau sifft ar gyfer staff fel eu bod yn gorffen am 5pm yn lle 3pm. Gallai gweithwyr benywaidd â chyfrifoldebau gofalu fod o dan anfantais os yw’r patrwm sifft newydd yn golygu na allant gasglu eu plant o’r ysgol neu ofal plant.

Gellir caniatáu gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw os yw’r sefydliad neu gyflogwr yn gallu dangos bod rheswm da dros y polisi. Gelwir hyn yn gyfiawnhad gwrthrychol.

Dysgwch fwy am wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Aflonyddu

Mae tri math o aflonyddu yn ymwneud â rhyw.

Mae'r math cyntaf o aflonyddu yr un peth ar gyfer pob un o'r nodweddion gwarchodedig. Dyma pryd y bydd rhywun yn gwneud i chi deimlo'ch bychanu, eich tramgwyddo neu eich diraddio.

Er enghraifft:

  • Mae rheolwr yn gwneud sylwadau nad oes diben hyrwyddo merched oherwydd eu bod yn mynd i ffwrdd i gael plant. Er nad yw'n cyfeirio'r sylwadau hyn at weithiwr benywaidd penodol, mae un o'i staff wedi ypsetio'n fawr gan hyn ac yn poeni am ei gyrfa. Gellid ystyried hyn yn aflonyddu.

Gelwir yr ail fath o aflonyddu yn aflonyddu rhywiol. Dyma pan fydd rhywun yn gwneud i chi deimlo'n bychanu, wedi'ch tramgwyddo neu wedi'ch diraddio oherwydd eu bod yn eich trin mewn ffordd rywiol. Gelwir hyn yn 'ymddygiad digroeso o natur rywiol' ac mae'n cynnwys triniaeth eiriol a chorfforol, fel sylwadau rhywiol neu jôcs, cyffwrdd, neu ymosodiad. Mae hefyd yn cynnwys anfon e-byst o natur rywiol, neu osod lluniau pornograffig.

Er enghraifft:

  • Mae darlithydd prifysgol yn gwneud jôcs rhywiol i un o'i fyfyrwyr benywaidd ac yn awgrymu y bydd yn pasio ei harholiadau os bydd yn cysgu gydag ef.

Y trydydd math o aflonyddu yw pan fydd rhywun yn eich trin yn annheg oherwydd eich bod wedi gwrthod dioddef aflonyddu rhywiol.

Er enghraifft:

  • Mae rheolwr yn gwahodd un o'i weithwyr benywaidd adref ar ôl iddynt fod allan am ddiod. Mae hi'n gwrthod. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach mae hi'n cael ei gwrthod am ddyrchafiad. Mae hi'n credu bod hyn oherwydd iddi wrthod cynnig ei bos.

Gall hefyd gynnwys triniaeth annheg hyd yn oed os oeddech wedi derbyn ymddygiad rhywiol yn flaenorol.

Er enghraifft:

  • Roedd gan y gweithiwr uchod berthynas fer gyda'i bos. Ar ôl iddo ddod i ben, gwnaeth gais am ddyrchafiad ond cafodd ei gwrthod. Mae hi'n credu bod hyn oherwydd bod y berthynas gyda'i rheolwr wedi dod i ben.

Ni ellir byth gyfiawnhau aflonyddu. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos iddo wneud popeth o fewn ei allu i atal pobl sy’n gweithio iddo rhag ymddwyn felly, ni fyddwch yn gallu gwneud hawliad am aflonyddu yn ei erbyn, er y gallech wneud hawliad yn erbyn yr aflonyddwr.

Erledigaeth

Dyma pryd y cewch eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail rhyw o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail rhyw.

Er enghraifft:

  • Mae cydweithiwr gwrywaidd yn helpu cydweithiwr benywaidd gyda’i hawliad o wahaniaethu ar sail rhyw ac yn gwneud datganiad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth. Yna caiff y cydweithiwr gwrywaidd ei ddiswyddo neu ei drin yn wael gan ei gyflogwr. Erledigaeth oherwydd rhyw yw hyn.

Mae amgylchiadau pan fyddwch yn cael eich trin yn wahanol oherwydd rhyw yn gyfreithlon

Mae gan y Ddeddf Cydraddoldeb rai eithriadau sy’n caniatáu i gyflogwyr neu sefydliadau wahaniaethu ar sail eich rhyw.

Gall gwahaniaeth mewn triniaeth fod yn gyfreithlon os:

  • Mae bod yn rhyw arbennig yn hanfodol ar gyfer swydd.
    Gelwir hyn yn ofyniad galwedigaethol. Mae hyn yn cynnwys rhai swyddi sy'n gofyn am rywun o ryw arbennig am resymau preifatrwydd a gwedduster neu lle mae gwasanaethau personol yn cael eu darparu. Er enghraifft, gallai campfa gyflogi gweinydd ystafell newid o'r un rhyw â defnyddwyr yr ystafell honno.
  • Mae sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol.
    Gellir defnyddio gweithredu cadarnhaol i annog neu ddatblygu pobl o ryw sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu dan anfantais mewn rôl neu weithgaredd. Er enghraifft, mae cwmni peirianneg yn gosod hysbyseb swydd ar gyfer peiriannydd dan hyfforddiant yn nodi bod croeso i geisiadau gan fenywod.

Eithriadau eraill

Gall y lluoedd arfog wrthod cyflogi menyw, neu gyfyngu ar ei mynediad i hyfforddiant neu ddyrchafiad os yw'n golygu y gallant sicrhau effeithiolrwydd ymladd y lluoedd arfog.

Mewn chwaraeon cystadleuol gall y trefnwyr gynnal digwyddiadau ar wahân i ddynion a merched oherwydd byddai'r gwahaniaethau mewn stamina, cryfder a chorffolaeth yn gwneud y gystadleuaeth yn annheg fel arall.

Mae sawl sefyllfa lle gall sefydliad ddarparu gwasanaethau un rhyw yn gyfreithlon. Ym mhob amgylchiad rhaid iddynt allu ei gyfiawnhau. Er enghraifft:

  • mae cynnig gwasanaeth cymorth i fenywod yn unig i ddioddefwyr trais domestig sy’n fenywod yn debygol o fod yn gyfiawnadwy hyd yn oed os nad oes gwasanaeth cyfochrog i ddynion oherwydd galw annigonol

Weithiau gall sefydliad crefyddol gyfyngu cyflogaeth i un rhyw os yw'r rôl at ddibenion crefyddol. Er enghraifft:

  • gall synagog uniongred fynnu bod ei rabbi yn ddyn

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082