Gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol

Wedi ei gyhoeddi: 25 Tachwedd 2019

Diweddarwyd diwethaf: 25 Tachwedd 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Gwahaniaethu uniongyrchol

Dyma pryd y cewch eich trin yn waeth na pherson arall neu bobl eraill oherwydd:

  • mae gennych nodwedd warchodedig
  • mae rhywun yn meddwl bod gennych y nodwedd warchodedig honno (a elwir yn wahaniaethu trwy ganfyddiad)
  • rydych yn gysylltiedig â rhywun sydd â’r nodwedd warchodedig honno (a elwir yn wahaniaethu trwy gysylltiad)

Rhaid i'ch amgylchiadau fod yn ddigon tebyg i amgylchiadau'r person sy'n cael ei drin yn well er mwyn gallu gwneud cymhariaeth ddilys.

Os na allwch bwyntio at berson arall sydd wedi cael ei drin yn well, mae’n dal yn wahaniaethu uniongyrchol os gallwch ddangos y byddai person nad oedd â’ch nodwedd warchodedig wedi cael ei drin yn well mewn amgylchiadau tebyg.

I fod yn anghyfreithlon, mae'n rhaid bod y driniaeth wedi digwydd yn un o'r sefyllfaoedd sy'n dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Er enghraifft, yn y gweithle neu pan fyddwch yn derbyn nwyddau neu wasanaethau.

Mae’n bosibl i rywun sy’n rhannu’r un nodwedd warchodedig â chi wahaniaethu yn eich erbyn.

Os ydych wedi cael eich trin yn waeth oherwydd eich oedran, efallai y caniateir hyn os gall y sefydliad neu gyflogwr ddangos bod rheswm da dros y gwahaniaeth yn y driniaeth. Gelwir hyn yn gyfiawnhad gwrthrychol. Os cewch eich trin yn waeth oherwydd unrhyw nodwedd warchodedig arall, mae'n wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon p'un a oes gan y sefydliad neu'r cyflogwr reswm drosto ai peidio.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fo polisi sy’n berthnasol yn yr un modd i bawb ond sy’n rhoi grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig dan anfantais, a’ch bod chi dan anfantais fel rhan o’r grŵp hwn. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i'r person neu'r sefydliad sy'n gweithredu'r polisi ddangos bod rheswm da drosto.

Gall 'polisi' gynnwys arfer, rheol neu drefniant. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth a oedd unrhyw un yn bwriadu i'r polisi eich rhoi dan anfantais ai peidio.

I brofi bod gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd neu wedi digwydd:

  • rhaid cael polisi y mae sefydliad yn ei gymhwyso i’r un graddau i bawb (neu i bawb mewn grŵp sy’n eich cynnwys chi)
  • rhaid i'r polisi roi pobl sydd â'ch nodwedd warchodedig dan anfantais o'u cymharu â phobl hebddo
  • rhaid i chi allu dangos ei fod wedi eich rhoi dan anfantais yn bersonol neu y bydd yn eich rhoi dan anfantais
  • ni all y sefydliad ddangos bod rheswm da dros gymhwyso’r polisi er gwaethaf lefel yr anfantais i bobl â’ch nodwedd warchodedig

Os gall y sefydliad ddangos bod rheswm da dros ei bolisi, nid yw'n wahaniaethu anuniongyrchol. Gelwir hyn yn gyfiawnhad gwrthrychol.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon