Erthygl
Adrodd am daliadau'n brydlon: pa mor gyflym rydyn ni'n talu ein cyflenwyr
Wedi ei gyhoeddi: 3 Mawrth 2022
Diweddarwyd diwethaf: 3 Mawrth 2022
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cefnogol lle gall busnesau ffynnu.
Mae taliadau hwyr yn fater pwysig i fusnesau, yn enwedig busnesau llai, gan y gall effeithio ar eu llif arian a rhoi eu gallu i fasnachu mewn perygl.
Rydym yn cydnabod y dylai’r sector cyhoeddus osod esiampl drwy dalu’n brydlon.
Ynglŷn â'n hadroddiad taliadau
- mae gennym un rhediad taliad wedi'i drefnu yr wythnos
- byddwn yn cyhoeddi canran eu hanfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod a 30 diwrnod, yn chwarterol
- byddwn yn cyhoeddi’r holl log sy’n atebol, o dan y ddeddfwriaeth taliadau hwyr, bob chwarter
Adroddiad talu prydlon: Ebrill 2023 i Fawrth 2024
Cyfnod | Canran yr anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod | Canran yr anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod | Dyddiad talu v dyddiad mewnbwn: diwrnodau cyfartalog misol |
---|---|---|---|
Ebrill i Fehefin 2023 | 100% | 91.40% | 1.52 |
Gorffennaf i Fedi 2023 | 99.27% | 87.59% | 2.66 |
Hydref i Ragfyr 2023 | 100% | 85.52% | 3.31 |
Ionawr 2024 i Fawrth 2024 | 99.31% | 87.71% | 2.79 |
Cyfartaledd | 99.65% | 88.06% | 2.57 |
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
3 Mawrth 2022
Diweddarwyd diwethaf
3 Mawrth 2022