I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae Erthygl 10 yn amddiffyn eich hawl i gael eich barn eich hun
Mae Erthygl 10 yn amddiffyn eich hawl i fod â’ch barn eich hun ac i’w mynegi’n rhydd heb ymyrraeth gan y llywodraeth.
Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fynegi eich barn yn uchel (er enghraifft trwy brotestiadau cyhoeddus a gwrthdystiadau) neu drwy:
- erthyglau, llyfrau neu daflenni cyhoeddedig
- darlledu teledu neu radio
- gweithiau celf
- y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol
Mae’r gyfraith hefyd yn amddiffyn eich rhyddid i dderbyn gwybodaeth gan bobl eraill trwy, er enghraifft, fod yn rhan o gynulleidfa neu ddarllen cylchgrawn.
Cyfyngiadau ar yr hawl i ryddid mynegiant
Er bod gennych ryddid mynegiant, mae gennych hefyd ddyletswydd i ymddwyn yn gyfrifol ac i barchu hawliau pobl eraill.
Gall awdurdodau cyhoeddus gyfyngu ar yr hawl hon os gallant ddangos bod eu gweithredoedd yn gyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn:
- amddiffyn diogelwch cenedlaethol, uniondeb tiriogaethol (ffiniau'r wladwriaeth) neu ddiogelwch y cyhoedd
- atal anhrefn neu drosedd
- amddiffyn iechyd neu foesau
- amddiffyn hawliau ac enw da pobl eraill
- atal datgelu gwybodaeth a dderbynnir yn gyfrinachol
- cynnal awdurdod a didueddrwydd barnwyr
Mae’n bosibl y caniateir i awdurdod gyfyngu ar eich rhyddid mynegiant os, er enghraifft, rydych yn mynegi safbwyntiau sy’n annog casineb hiliol neu grefyddol.
Fodd bynnag, rhaid i'r awdurdod cyhoeddus perthnasol ddangos bod y cyfyngiad yn 'gymesur', mewn geiriau eraill ei fod yn briodol a dim mwy na'r hyn sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r mater dan sylw.
Defnyddio'r hawl hon - enghraifft
Mae’r hawl hon yn arbennig o bwysig i newyddiadurwyr a phobl eraill sy’n gweithio yn y cyfryngau.
Rhaid iddynt fod yn rhydd i feirniadu’r llywodraeth a’n sefydliadau cyhoeddus heb ofni cael eu herlyn – mae hyn yn nodwedd hanfodol o gymdeithas ddemocrataidd.
Ond nid yw hynny'n atal y wladwriaeth rhag gosod cyfyngiadau ar y cyfryngau er mwyn amddiffyn hawliau dynol eraill, megis hawl person i barch at ei fywyd preifat.
Achos enghreifftiol - Observer a The Guardian v Deyrnas Unedig [1991]
Cyhoeddodd papurau newydd The Guardian a The Observer ddyfyniadau o lyfr Peter Wright, Spycatcher, oedd yn cynnwys honiadau bod MI5 wedi ymddwyn yn anghyfreithlon.
Cafodd y llywodraeth orchymyn llys yn atal y papurau newydd rhag argraffu rhagor o ddeunydd nes bod achos yn ymwneud â thorri cyfrinachedd wedi dod i ben.
Ond pan gyhoeddwyd y llyfr, cwynodd The Guardian fod parhad y gorchymyn llys yn torri ar yr hawl i ryddid mynegiant.
Dywedodd Llys Hawliau Dynol Ewrop fod y gorchymyn llys yn gyfreithlon oherwydd ei fod er budd diogelwch cenedlaethol.
Fodd bynnag, dywedodd hefyd nad oedd hynny’n ddigon o reswm i barhau â’r gwaharddiad ar gyhoeddi papurau newydd ar ôl i’r llyfr gael ei gyhoeddi, oherwydd nad oedd y wybodaeth bellach yn gyfrinachol beth bynnag.
Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud
Daw'r testun hwn yn uniongyrchol o'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Erthygl 10 y Ddeddf Hawliau Dynol: Rhyddid mynegiant
1. Y mae gan bawb hawl i ryddid mynegiant. Bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i arddel barn ac i dderbyn a rhannu gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth gan awdurdod cyhoeddus a heb ystyried ffiniau. Ni fydd yr Erthygl hon yn atal Gwladwriaethau rhag ei gwneud yn ofynnol i drwyddedu mentrau darlledu, teledu neu sinema.
2. Gall arfer y rhyddid hwn, gan fod ganddo ddyletswyddau a chyfrifoldebau, fod yn ddarostyngedig i'r fath ffurfioldebau, amodau, cyfyngiadau neu gosbau a ragnodir gan y gyfraith ac sy'n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd, er budd diogelwch gwladol, tiriogaethol. anhrefn neu drosedd, er mwyn diogelu iechyd neu foesau, er mwyn diogelu enw da neu hawliau pobl eraill, er mwyn atal datgelu gwybodaeth a dderbyniwyd yn gyfrinachol, neu er mwyn cynnal awdurdod a didueddrwydd y farnwriaeth.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
3 Mehefin 2021
Diweddarwyd diwethaf
3 Mehefin 2021