I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae Erthygl 11 yn amddiffyn eich hawl i brotestio trwy gynnal cyfarfodydd a gwrthdystiadau gyda phobl eraill
Mae gennych hefyd yr hawl i ffurfio a bod yn rhan o undeb llafur, plaid wleidyddol neu unrhyw gymdeithas neu grŵp gwirfoddol arall. Nid oes gan neb yr hawl i'ch gorfodi i ymuno â phrotest, undeb llafur, plaid wleidyddol neu gymdeithas arall.
Cyfyngiadau ar yr hawl i ryddid i ymgynnull a chymdeithasu
Mae rhai sefyllfaoedd lle gall awdurdod cyhoeddus gyfyngu ar eich hawliau i ryddid ymgynnull a chymdeithasu.
Dim ond pan fydd yr awdurdod yn gallu dangos bod ei gamau gweithredu yn gyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn:
- amddiffyn diogelwch cenedlaethol neu ddiogelwch y cyhoedd
- atal anhrefn neu drosedd
- amddiffyn iechyd neu foesau, neu
- amddiffyn hawliau a rhyddid pobl eraill.
Mae gweithredu'n 'gymesur' pan fo'n briodol a dim mwy na'r hyn sydd ei angen i fynd i'r afael â'r mater dan sylw.
Efallai y byddwch yn wynebu ystod ehangach o gyfyngiadau os ydych yn gweithio i’r lluoedd arfog, yr heddlu neu’r Gwasanaeth Sifil.
Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud
Daw'r testun hwn yn uniongyrchol o'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Erthygl 11: Rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu
1. Y mae gan bawb yr hawl i ryddid i ymgynnull yn heddychlon ac i ryddid i gysylltiad ag eraill, gan gynnwys yr hawl i ffurfio undebau llafur ac i ymuno â hwy er mwyn diogelu ei fuddiannau.
2. Ni ddylid gosod unrhyw gyfyngiadau ar arfer yr hawliau hyn ac eithrio'r rhai a ragnodir gan y gyfraith ac sy'n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch gwladol neu ddiogelwch y cyhoedd, er mwyn atal anhrefn neu drosedd, er mwyn diogelu iechyd neu foesau neu er mwyn amddiffyn hawliau a rhyddid pobl eraill. Ni fydd yr erthygl hon yn atal gosod cyfyngiadau cyfreithlon ar arfer yr hawliau hyn gan aelodau o'r lluoedd arfog, yr heddlu neu weinyddiad y wladwriaeth.
Achos enghreifftiol
Ym mis Awst 2010, cynlluniodd Cynghrair Amddiffyn Lloegr (EDL) brotest yn Bradford. Roedd gwrthdystiad gan Unite Against Fascism hefyd wedi'i gynllunio. Roedd rhai pobl leol eisiau i'r brotest gael ei gwahardd ac roedd pryderon am ailadrodd y gwrthdaro treisgar a ddigwyddodd mewn digwyddiadau EDL blaenorol. Roedd dyletswydd ar Heddlu Gorllewin Swydd Efrog i warchod y brotest oni bai bod tystiolaeth glir y byddai trais yn digwydd. Buont yn archwilio agwedd hawliau dynol y sefyllfa ac yn siarad â phobl leol, yn enwedig y gymuned Fwslimaidd, am yr hawl i brotestio'n heddychlon. Ar ôl yr eglurhad hwn sylweddolodd y gymuned fod yn rhaid i'r heddlu ganiatáu'r brotest. Bu grwpiau cymunedol yn gweithio gyda'r heddlu i berswadio pobl ifanc i beidio â chymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol ar y diwrnod.
Gweler y cyhoeddiad Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i'r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus am ragor o enghreifftiau ac astudiaethau achos cyfreithiol sy'n dangos sut mae hawliau dynol yn gweithio'n ymarferol.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
4 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf
3 Mehefin 2021