I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae Protocol 13, Erthygl 1 yn diddymu'r gosb eithaf ym mhob amgylchiad
Mae hyn yn cynnwys troseddau a gyflawnwyd yn ystod rhyfel neu pan fo bygythiad rhyfel ar fin digwydd. Cadarnhaodd y DU y Protocol hwn yn 2002.
Mae dedfrydu person i farwolaeth yn groes i'r hawl i fywyd a'r hawl i ryddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol.
Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud
Daw'r testun hwn yn uniongyrchol o'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Protocol 13, Erthygl 1: Diddymu'r gosb eithaf
Bydd y gosb eithaf yn cael ei diddymu. Ni chaiff neb ei gondemnio i gosb o'r fath na'i ddienyddio.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
3 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf
3 Mehefin 2021