I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae Erthygl 12 yn amddiffyn eich hawl i briodi
Mae erthygl 12 yn diogelu hawl dynion a merched o oedran priodi i briodi ac i gychwyn teulu.
Gweler hefyd Parch at eich bywyd preifat a theuluol.
Cyfyngiadau ar yr hawl i briodi
Mae eich hawl i briodi yn ddarostyngedig i gyfreithiau cenedlaethol ar briodas, gan gynnwys y rhai sy’n gwneud priodas yn anghyfreithlon rhwng rhai mathau o bobl (er enghraifft, perthnasau agos),
Er bod y llywodraeth yn gallu cyfyngu ar yr hawl i briodi, rhaid i unrhyw gyfyngiadau beidio â bod yn fympwyol a pheidio ag ymyrryd ag egwyddor hanfodol yr hawl.
Sut mae'r hawl hon yn berthnasol i bobl drawsrywiol
Dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop yn 2002 fod yr hawl hon yn ymestyn i bobl drawsrywiol. Gallant briodi neu ymrwymo i bartneriaethau sifil yn eu rhywedd caffaeledig oherwydd Deddf Cydnabod Rhyw 2004, Deddf Priodasau (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 a Deddf Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Yr Alban) 2014.
Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud
Daw'r testun hwn yn uniongyrchol o'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Erthygl 12: Yr hawl i briodas
Bydd gan wŷr a merched o oedran priodi yr hawl i briodi a sefydlu teulu, yn unol â chyfreithiau gwladol sy'n llywodraethu arfer yr hawl hon.
Achos enghreifftiol - B & L v y Deyrnas Unedig [2005]
Roedd cyfraith Lloegr yn atal rhiant-yng-nghyfraith rhag priodi eu plentyn-yng-nghyfraith oni bai bod y ddau wedi cyrraedd 21 oed a bod y ddau briod wedi marw.
Roedd B yn dad-yng-nghyfraith i L, ac roedden nhw'n dymuno priodi. Roedd mab L yn trin ei daid, B, fel 'Dad'. Derbyniodd y llys ddadl y Llywodraeth fod gan y gyfraith y nod dilys o amddiffyn y teulu ac unrhyw blant o’r cwpl. Ond daliai fod eu hawl i briodi wedi ei sathru. Roedd y gyfraith yn seiliedig yn bennaf ar draddodiad, ac nid oedd unrhyw reswm cyfreithiol pam na allai cwpl yn y sefyllfa hon gael perthynas. Bu sawl achos hefyd lle’r oedd cyplau o dan yr un amgylchiadau wedi cael eu heithrio gan Ddeddfau Seneddol personol (cyfreithiau er budd unigolion). Roedd hyn yn dangos nad oedd y gwrthwynebiadau i briodasau o'r fath yn absoliwt.
(Crynodeb achos wedi’i gymryd o Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i’r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus, sy’n darparu astudiaethau achos cyfreithiol sy’n dangos sut mae hawliau dynol yn gweithio’n ymarferol.)
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
4 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf
3 Mehefin 2021