I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae Erthygl 2 yn amddiffyn eich hawl i fywyd
Mae Erthygl 2 y Ddeddf Hawliau Dynol yn amddiffyn eich hawl i fywyd.
Mae hyn yn golygu na all neb, gan gynnwys y Llywodraeth, geisio rhoi diwedd ar eich bywyd. Mae hefyd yn golygu y dylai’r Llywodraeth gymryd mesurau priodol i ddiogelu bywyd drwy wneud cyfreithiau i’ch diogelu ac, mewn rhai amgylchiadau, drwy gymryd camau i’ch diogelu os yw eich bywyd mewn perygl.
Dylai awdurdodau cyhoeddus hefyd ystyried eich hawl i fywyd wrth wneud penderfyniadau a allai eich rhoi mewn perygl neu a allai effeithio ar eich disgwyliad oes.
Os bydd aelod o'ch teulu yn marw mewn amgylchiadau sy'n ymwneud â'r wladwriaeth, efallai y bydd gennych hawl i ymchwiliad. Mae hefyd yn ofynnol i'r wladwriaeth ymchwilio i farwolaethau amheus a marwolaethau yn y ddalfa.
Mae'r llysoedd wedi penderfynu nad yw'r hawl i fywyd yn cynnwys hawl i farw.
Ar wahân, mae Protocol 13, Erthygl 1 o’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gwneud y gosb eithaf yn anghyfreithlon yn y DU.
Cyfyngiadau ar yr hawl i fywyd
Cyfeirir yn aml at erthygl 2 fel 'hawl absoliwt'. Mae'r rhain yn hawliau na all y wladwriaeth byth ymyrryd â nhw. Mae yna sefyllfaoedd, fodd bynnag, pan nad yw'n berthnasol.
Er enghraifft, nid yw hawl person i fywyd yn cael ei dorri os bydd yn marw pan fydd awdurdod cyhoeddus (fel yr heddlu) yn defnyddio grym angenrheidiol i:
- eu hatal rhag cyflawni trais anghyfreithlon
- gwneud arestiad cyfreithlon
- eu hatal rhag dianc rhag caethiwed cyfreithlon, a
- atal terfysg neu wrthryfel.
Wrth gwrs, hyd yn oed yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i'r grym a ddefnyddir fod yn hanfodol ac yn gwbl gymesur. Mae grym yn 'gymesur' pan fo'n briodol a dim mwy nag sydd ei angen i fynd i'r afael â'r broblem dan sylw.
Nid yw'r rhwymedigaeth gadarnhaol ar y wladwriaeth i amddiffyn bywyd person yn absoliwt. Oherwydd adnoddau cyfyngedig, efallai na fydd y wladwriaeth bob amser yn gallu cyflawni'r rhwymedigaeth hon. Gallai hyn olygu, er enghraifft, nad oes rhaid i'r wladwriaeth ddarparu cyffuriau achub bywyd i bawb o dan bob amgylchiad.
Defnyddio'r hawl hon - enghraifft
Defnyddiodd gweithiwr cymdeithasol o’r tîm trais domestig mewn awdurdod lleol ddadleuon hawliau dynol i gael llety newydd i fenyw a’i theulu oedd mewn perygl o niwed difrifol gan gyn bartner treisgar. Seiliodd ei hachos ar rwymedigaeth yr awdurdod lleol i amddiffyn hawl y teulu i fywyd a'r hawl i beidio â chael eich trin mewn ffordd annynol neu ddiraddiol.
(Darparir enghraifft gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)
Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud
Daw'r testun hwn yn uniongyrchol o'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Erthygl 2: Hawl i fywyd
1. Gwarchodir hawl pawb i fywyd gan y gyfraith. Ni chaiff neb ei amddifadu o'i fywyd yn fwriadol ac eithrio wrth iddo gyflawni dedfryd llys yn dilyn ei gollfarnu o drosedd y darperir y gosb amdano gan y gyfraith.
2. Ni fernir bod amddifadu o fywyd wedi'i achosi yn groes i'r Erthygl hon pan fydd yn deillio o ddefnyddio grym nad yw'n fwy na'r hyn sy'n gwbl angenrheidiol:
- i amddiffyn unrhyw berson rhag trais anghyfreithlon
- er mwyn peri arestiad cyfreithlon neu atal dianc rhag person a gedwir yn gyfreithlon, a
- mewn camau a gymerwyd yn gyfreithlon er mwyn tawelu terfysg neu wrthryfel.
Darllenwch Erthygl 1 Protocol 13 i gael y geiriad yn y Ddeddf sy’n gwneud y gosb eithaf yn anghyfreithlon yn y DU.
Achos enghreifftiol: Pretty v Y Deyrnas Unedig [2002]
Roedd menyw oedd yn dioddef o glefyd dirywiol anwelladwy eisiau rheoli pryd a sut y bu farw. Er mwyn osgoi marwolaeth anurddasol, roedd hi eisiau i'w gŵr ei helpu i gymryd ei bywyd. Gofynnodd am sicrwydd na fyddai’n cael ei erlyn, ond canfu Llys Hawliau Dynol Ewrop nad yw’r hawl i fywyd yn creu hawl i ddewis marwolaeth yn hytrach na bywyd. Roedd yn golygu nad oedd hawl i farw gan drydydd person neu gyda chymorth awdurdod cyhoeddus.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
3 Mehefin 2021
Diweddarwyd diwethaf
3 Mehefin 2021