Yr hawl i safon byw ddigonol: ar gyfer cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 26 Gorffenaf 2019

Diweddarwyd diwethaf: 26 Gorffenaf 2019

Dan Erthygl 11 o'r ICESCR, mae'r hawl i safon byw ddigonol yn cynnwys darparu tai, bwyd a dŵr digonol. Ymdrinnir â'r un hawliau yn yr ESC gan nifer o wahanol erthyglau.

Caiff yr ICESCR ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (CESCR) a'r ESC gan y Pwyllgor ar Hawliau Cymdeithasol. Nid yw'r pwyllgorau yn derbyn cwynion gan unigolion.

Mae'r hawl hon wedi'i chysylltu'n agos â'r hawl i iechyd.

Ble mae’n berthnasol

  • tai
  • ysbytai
  • cartrefi gofal
  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • carchardai
  • nawdd cymdeithasol a lles

Rhwymedigaethau

Tai

Y gofynion sylfaenol ar gyfer tai digonol o dan yr ICESCR yw:

  • diogelwch deiliadaeth
  • golau, gwres a glanweithdra digonol
  • addasrwydd i fyw ynddo
  • lleoliad lle mae gwasanaethau iechyd ac addysg yn hygyrch, gan gynnwys darpariaeth seilwaith digonol
  • digonolrwydd diwylliannol

Mae'r CESCR wedi beirniadu'r DU am fethu â darparu tai diwylliannol digonol ar gyfer Teithwyr Gwyddelig a Sipsiwn, yn enwedig safleoedd stopio diogel (Arsylwadau Terfynol: DU 2009).

Ystyrir bod troi allan yn orfodol yn mynd yn groes i'r hawl i dai digonol.

Bwyd a dŵr

Dywed y CESCR (Sylw Cyffredinol Rhif 12) na ddylid dehongli'r hawl i fwyd digonol ‘mewn ystyr gul neu gyfyng sy'n cyfateb i becyn isaf o galorïau, proteinau a maetholion penodol eraill', ond mae'n awgrymu y dylai fod:

  • ar gael mewn ansawdd a maint digonol i fodloni anghenion dietegol
  • yn rhydd o sylweddau niweidiol
  • yn dderbyniol yn ddiwylliannol
  • yn hygyrch - yn economaidd ac yn gorfforol

Gall derbynioldeb diwylliannol fod yn arbennig o bwysig mewn lleoliadau sefydliadol, lle dylid cydnabod dyletswydd i ddarparu opsiynau Halal, Kosher neu lysieuol.

Yn yr un modd, mae Sylw Cyffredinol Rhif 15 yn nodi bod ‘yr hawl i ddŵr yn rhoi hawl i bawb gael dŵr digonol, diogel, derbyniol, hygyrch a fforddiadwy ar gyfer defnyddiau personol a domestig’.

Mae hygyrchedd corfforol yn bwysig wrth ofalu am fabanod, yr henoed, pobl â chyflyrau iechyd meddwl a phobl anabl, a all fod angen help i fwyta ac yfed, gan gynnwys trwy ddarparu bwydydd arbennig neu fwydydd piwrî. Gweler hefyd amddiffyniad rhag gwahaniaethu.

Dylai bwyd a dŵr fod ar gael pan fydd eu hangen, nid yn unig ar gyfleustra'r sefydliad a dylent fod ar gael drwy gydol y dydd a'r nos. Mae hyn yn cynnwys ei roi o fewn cyrraedd claf neu breswylydd â nam symudedd.

Beth i'w ystyried

Cwynion am dai digonol

Dylech ddadansoddi'r ffeithiau a'r dystiolaeth, gan gofio isafswm rhwymedigaethau'r hawl i dai digonol.

Pan fydd adnoddau'n brin, mae hawliau dynol yn blaenoriaethu anghenion pobl sydd dan anfantais ac agored i niwed. Dylech gofio hyn ar gyfer cwynion am sut y mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu. Gall yr hawl i fod yn rhydd o driniaeth annynol neu ddiraddiol a'r hawl i barch at fywyd preifat a theuluol fod yn berthnasol hefyd.

Gallai grwpiau blaenoriaeth gynnwys pobl hŷn, teuluoedd gyda phlant ifanc, pobl anabl a phobl sydd angen cael eu hailgartrefu yn dilyn ymosodiadau neu erledigaeth.

Efallai y byddwch am archwilio sut mae awdurdodau yn pennu blaenoriaeth ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch blaenoriaethu grwpiau penodol ar restrau aros tai. Archwiliwch a gafodd yr achwynydd ei roi yn y lle iawn. I wneud hyn efallai y bydd angen gwybodaeth ddienw arnoch am eraill ar y rhestr.

Cwynion am fwyd a dŵr digonol

Mae'r cwynion hyn yn aml yn codi pryderon am golli pwysau neu ddysychiad cleifion neu breswylwyr mewn lleoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Dylech sefydlu pa gamau y mae'r sefydliad yn eu cymryd i ddarparu bwyd a dŵr digonol, gan gynnwys:

  • hygyrchedd, fel darparu cymorth gyda bwyta ac yfed i'r rhai sydd ei angen
  • argaeledd drwy gydol y nos a'r dydd
  • dewis digonol o brydau ac amseroedd cael bwyd

Efallai y bydd angen i chi ymchwilio i unrhyw wahaniaethu sy'n gysylltiedig ag anabledd neu amgylchiadau penodol. Er enghraifft, efallai y bydd angen help arbennig ar glaf ag anabledd dysgu i ddewis prydau, bwyta ac yfed, y tu hwnt i lefel anghenion cleifion eraill.

Diweddariadau tudalennau