Yr hawl i iechyd: ar gyfer cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 26 Gorffenaf 2019

Diweddarwyd diwethaf: 26 Gorffenaf 2019

Mae Erthygl 12 o'r ICESCR yn cydnabod yr hawl i fwynhau ‘y safon uchaf bosibl o iechyd corfforol a meddyliol’.

Mae Erthygl 11 o'r ESC yn cydnabod yr hawl i amddiffyn iechyd, tra bod Erthygl 13 yn ymgorffori'r hawl i gymorth cymdeithasol a meddygol.

Mae'r hawliau hyn wedi'u cysylltu'n agos â'r hawl i fywyd preifat a theuluol, sy'n amddiffyn eich hawl i reoli eich corff, eich iechyd a'ch triniaeth.

Fel gyda llawer o hawliau economaidd-gymdeithasol, ni ellir ceisio unioni torri'r hawl i iechyd yn y llysoedd. Yn hytrach, mae gan yr ICESCR a'r ESC eu mecanweithiau monitro eu hunain, sy'n cynnwys pwyllgorau arbenigol. Nid yw'r naill na'r llall yn derbyn cwynion gan unigolion.

Fodd bynnag, mae achwynwyr wedi defnyddio'r hawl i fywyd, yr hawl i fod yn rhydd o driniaeth annynol neu ddiraddiol, a'r hawl i fywyd preifat a theuluol yn llwyddiannus i gael darpariaeth gofal iechyd.

Ble mae’n berthnasol

  • gofal iechyd a chymdeithasol
  • penderfyniadau cynllunio
  • amodau gweithio
  • yr amgylchedd
  • addysg
  • tai

Rhwymedigaethau

Mae'r hawl i iechyd yn dibynnu ar yr egwyddor gwireddu cynyddol – sy’n datgan bod gwladwriaethau'n gwneud yr hyn y gallant i gyflawni eu rhwymedigaethau gyda'r adnoddau sydd ar gael iddynt.

Mae'r ICESCR yn ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau:

  • gwella cyfraddau marwolaethau babanod a datblygiad plant iach
  • gwella hylendid amgylcheddol a diwydiannol
  • atal, trin a rheoli clefydau

Mae'r ESC yn ei gwneud yn ofynnol iddynt:

  • dileu achosion salwch cyn belled ag y bo modd
  • hyrwyddo iechyd, gan gynnwys trwy addysg iechyd yn yr ysgol
  • atal damweiniau a lledaeniad clefydau, gan gynnwys drwy archwiliadau meddygol yn yr ysgol a sgrinio
  • darparu gofal iechyd i'r rhai sydd heb yr adnoddau i'w gael eu hunain

Disgwylir i wladwriaethau ddarparu gofal iechyd brys i bawb. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (CESCR) wedi dweud bod yn rhaid i ofal iechyd:

  • bod ar gael ac yn hygyrch – gall hyn olygu bod meddygon yn teithio i gleifion na allant adael eu cartrefi, neu addasiadau ar gyfer anghenion diwylliannol neu grefyddol (gweler hefyd amddiffyniad rhag gwahaniaethu)
  • cynnwys darpariaeth bwyd a dŵr mewn amgylchedd glân – rhaid i ysbytai a chartrefi gofal sicrhau bod bwyd a dŵr o fewn cyrraedd pobl â symudedd cyfyngedig a'u bod ar gael pan fydd eu hangen yn hytrach na phan fydd yn gyfleus i'r sefydliad
  • canolbwyntio ar atal, gwella ac ailsefydlu – trwy fynediad at ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol, a rhaglenni brechu ac addysg

Mae'r rhwymedigaethau eang hyn ar wladwriaethau yn gosod dyletswyddau eang ar awdurdodau cyhoeddus yn gyffredinol, nid dim ond awdurdodau iechyd a gofal a thriniaeth feddygol. Gellid hawlio'r hawl i iechyd mewn perthynas ag amodau gwaith, yr amgylchedd ffisegol, penderfyniadau cynllunio, yn y system addysg a thai.

Iechyd meddwl

Mae'r CESCR wedi pwysleisio'r angen i bobl â chyflyrau iechyd meddwl gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau. Dylai adolygiadau rheolaidd sicrhau bod gofal a thriniaeth yn briodol o hyd ac yn unol â dymuniadau'r claf. Am fwy o wybodaeth, gweler ein tudalen diogelu rhag gwahaniaethu am ddarpariaeth ar gyfer pobl anabl.

Pobl hŷn

Dylai gofal iechyd ar gyfer pobl hŷn ganolbwyntio ar atal, triniaeth ac ailsefydlu, fel y gallant gynnal eu symudedd ac annibyniaeth cyn hired â phosibl (CESCR Sylw Cyffredinol Rhif 6).

Beth i'w ystyried

Nid yw gwireddu cynyddol yn esgusodi awdurdodau cyhoeddus o'u rhwymedigaethau oherwydd diffyg adnoddau. Rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau hawliau dynol a dangos pa gamau y maent wedi'u cymryd i'w cyflawni.

Dylai'r nod fod y safon uchaf bosibl o iechyd corfforol a meddyliol o fewn yr adnoddau sydd ar gael, gan flaenoriaethu anghenion grwpiau dan anfantais.

Beth i'w wneud os yw'r hawl hon yn berthnasol i'ch achos

Dylech geisio sefydlu:

  • unrhyw dystiolaeth o wahaniaethu ar sail nodwedd warchodedig neu oherwydd bod y gŵyn yn ymwneud â rhywun o grŵp dan anfantais
  • a oedd yr awdurdod iechyd yn darparu ar gyfer unrhyw anghenion yn ymwneud ag oedran, crefydd, rhyw neu anabledd
  • tystiolaeth yn dangos blaenoriaethu grwpiau gwarchodedig neu dan anfantais mewn polisi ac arferion
  • sut y rheolodd yr awdurdod restrau aros am wasanaethau a thriniaeth
  • sut y defnyddiodd yr awdurdod yr adnoddau mwyaf posibl i wireddu'r hawl
  • tystiolaeth o ymrwymiad i wireddu'r hawl dros amser
  • a oedd ymyrraeth â'r hawl i fywyd preifat a theuluol, yr hawl i fod yn rhydd o driniaeth annynol neu ddiraddiol, neu'r hawl i fywyd

Nid oes angen i chi ymgymryd â dadansoddiad manwl o gyllidebau, ond dylech edrych yn fanwl ar bolisïau a chynlluniau'r sefydliad. Fel lleiafswm, dylent gyfeirio yn benodol at yr hawl i iechyd, dangos dealltwriaeth o'u rhwymedigaethau, a nodi cynllun clir i wireddu'r hawl i iechyd i bawb.

Gallai cyngor proffesiynol annibynnol (IPA) eich helpu i sefydlu a oedd y camau dan sylw yn rhesymol yn erbyn yr hyn a oedd y safon uchaf bosibl o fewn yr adnoddau ar gael.

Diweddariadau tudalennau