Yr hawl i ryddid a diogelwch: ar gyfer cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 24 Gorffenaf 2019

Diweddarwyd diwethaf: 24 Gorffenaf 2019

Mae'r hawl i ryddid a diogelwch yn eich amddiffyn rhag cael eich cadw'n fympwyol.

Mae'n hawl gyfyngedig ac mae'r rhesymau dros gael eich cadw'n gyfreithlon wedi'u nodi yn ein trafodaeth ar Erthygl 5 o'r Ddeddf Hawliau Dynol.

Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dweud, er mwyn deall a fu unrhyw amddifadu o ryddid, bod yn rhaid i'r man cychwyn fod yn ‘sefyllfa gadarn’ yr unigolyn dan sylw a ‘rhaid ystyried ystod eang o feini prawf megis y math, hyd, effeithiau a dull gweithredu'r mesur dan sylw’ (Guzzardi v Yr Eidal 1980).

Cyfraith feddal

Mae yna nifer o safonau cyfraith feddal ynghylch cadw yn y ddalfa, gan gynnwys:

Ble mae’n berthnasol

  • ysbytai
  • cartrefi gofal
  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • materion cyffuriau ac alcohol
  • cyfiawnder troseddol
  • rheolaeth mewnfudo
  • carchardai
  • ysgolion
  • cyflogaeth

Rhwymedigaethau

Mae rhwymedigaeth ar awdurdodau cyhoeddus i amddiffyn unigolion rhag cael eu cadw dan amgylchiadau a fyddai'n torri'r hawl hon gan sefydliadau, megis ysbytai, lleoliadau gofal, cyflogwyr ac ysgolion.

Mae ganddynt hefyd rwymedigaeth gadarnhaol i sicrhau gweithdrefnau cadarn a hyfforddiant staff digonol i leihau'r risg o gadw rhywun yn anghyfreithlon.

Mae hyn yn cynnwys ystyried y berthynas rhwng y rheswm dros gadw, a'r lleoliad cadw a’u hamodau.

Rhaid cyfiawnhau amddifadu o ryddid, ym mha bynnag leoliad, yn gyfreithlon, rhaid bod mor gyfyngol â phosibl, a rhaid ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod er lles yr unigolyn.

Mae cyfreithlon yn golygu yn unol â chyfraith ddomestig, megis o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, cyfraith droseddol neu'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.

Cyflyrau iechyd meddwl

Os yw awdurdod cyhoeddus yn cadw unigolion i'w hatal rhag niweidio eu hunain neu eraill, rhaid iddo ddangos:

  • tystiolaeth feddygol bod unigolyn, yn ôl y diffiniad cyfreithiol, yn ‘fregus yn feddyliol’ (ac eithrio mewn argyfwng)
  • bod cadw yn briodol ar gyfer y math o gyflwr iechyd meddwl Aerts v Gwlad Belg 1998
  • tystiolaeth feddygol bod parhau i gadw oherwydd bod yna gyflwr iechyd meddwl o hyd Hutchison Reid v DU 2003

Mae ystyr ‘bregus yn feddyliol’ ei hun yn esblygu wrth i ymchwil, triniaethau ac agweddau newid (Winterwerp v Yr Iseldiroedd 1979), a allai effeithio ar yr amgylchiadau sy’n golygu ei fod yn rhesymol cadw person.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) wedi ceisio herio agweddau, gan gynnwys am bobl ag anableddau meddyliol, a thermau cyfreithiol confensiynol, megis ‘bregus yn feddyliol’. Mae'r termau mwy diweddar ‘galluedd meddyliol’ neu ‘alluedd anwadal’ yn adlewyrchu'n well cyfnewidioldeb y cysyniad, a’r ffaith y gall unigolion fod â galluedd mewn un rhan o fywyd ond nid eraill.

Mae awdurdodau hefyd yn destun ‘rhwymedigaethau gweithdrefnol’:

  • Rhaid adolygu’r cadw yn gyfnodol er mwyn ystyried amgylchiadau sy'n newid a sicrhau ei fod yn parhau i gael ei gyfiawnhau.
  • Gall pobl sy'n cael eu cadw ofyn i lys diduedd farnu'n brydlon a yw cadw yn gyfreithlon a galw am gael eu rhyddhau os nad yw. Mae'n rhaid bod yna ‘gydraddoldeb arfau’, gyda'r person a gedwir yn gymwys i fod yn bresennol ac i gael ei glywed, gyda chynrychiolaeth gyfreithiol os oes angen.
  • Os nad yw unigolyn bellach yn risg, rhaid ei ryddhau ar unwaith.
  • Gall rhyddhau ddod ag amodau, megis triniaeth barhaus neu oruchwyliaeth yn y gymuned. Os na ellir bodloni'r amodau hyn yn y gymuned, efallai na fydd angen rhyddhau ar unwaith Kolanis v DU 2005.
  • Rhaid i gyfreithiau a gweithdrefnau domestig sy'n llywodraethu cadw fod o ansawdd, hygyrchedd a manylrwydd digonol i gyflawni gofynion yr hawl (Amuur v Ffrainc 1996).
  • Rhaid i leoliadau cadw fod â system gofnodi ddigonol ar gyfer carcharorion (Ahmet Özkan ac Eraill v Twrci 2004).

Gall person fod heb alluedd ac yn gwrthwynebu, neu gydymffurfio ag amddifadedd ei ryddid/rhyddid. Er hynny, mae gan bobl o'r fath yr un hawl i beidio â chael eu hamddifadu o'u rhyddid fel pawb arall. Weithiau mae angen cyfyngu ar eu rhyddid er eu diogelwch eu hunain a'u gofal – ond mae angen gwiriadau annibynnol o bryd i'w gilydd i sicrhau bod yr amddifadedd yn parhau i fod er eu budd pennaf.  

Cadw de facto

Cadw de facto yw pan fo unigolyn mewn theori yn rhydd i adael sefydliad ond yn ymarferol ni allai wneud hynny.

Enghraifft sy'n codi dro ar ôl tro yw claf gwirfoddol (sydd heb gael ei hanfon i ysbyty meddwl o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) sy’n destun cadw de facto mewn gwasanaeth iechyd meddwl.

Yn aml, nid oes gan breswylwyr oedrannus a methedig mewn cartref nyrsio unrhyw ffordd ymarferol o adael, ac nid yw'r sefydliad yn ymwybodol ei fod yn amddifadu eu rhyddid. Gallai hefyd fod yn berthnasol pan fydd rhyddid unigolyn yn cael ei gymryd i ffwrdd ar adegau penodol o'r dydd, megis cloi drws ystafell preswyliwr cartref gofal yn y nos, neu gadw’r unigolyn yn gaeth yn ei ystafell oherwydd anghenion staffio.

Mae’n bosibl y bydd llysoedd yn ystyried bod pobl anabl sydd heb alluedd meddyliol ac sydd o dan oruchwyliaeth a rheolaeth barhaus ac nad ydynt yn rhydd i adael eu cartref mewn gwirionedd yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid. Yn P v Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer 2014, dywedodd y Goruchaf Lys y dylai pobl o'r fath dderbyn adolygiadau annibynnol rheolaidd i sicrhau bod eu lleoliad ac unrhyw gyfyngiadau ar eu symudiad er eu budd pennaf.

Dylai awdurdodau ddilyn cyfraith feddal mewn perthynas â phobl sydd wedi'u hamddifadu o'u rhyddid. Mae rhai safonau cyfraith feddal yn disgrifio sut y dylid trin ac atal pobl sy'n troi lan yn wirfoddol mewn sefydliadau os yw'n briodol. 

Astudiaeth achos

Cyfyngu ar ryddid

Mae gwahaniaeth pwysig rhwng amddifadu o ryddid a chyfyngu ar ryddid. Mae'r gwahaniaeth rhyngddynt yn wahaniaeth mewn ‘gradd neu ddwyster’, nid ‘natur na sylwedd’ (Guzzardi v Yr Eidal 1980). Mae defnyddio ataliaeth yn amhriodol, boed yn ffisegol neu'n gemegol, yn fwy tebygol o fod yn gyfyngiad yn hytrach nag amddifadiad.

Mewn cyfraith ddomestig ac Ewropeaidd, mae ‘diogelwch person’ yn yr hawl hon yr un fath â ‘rhyddid’, ac nid yw'n ymwneud ag amddiffyn eich diogelwch personol. Mae hyn yn ddehongliad gwahanol, fodd bynnag, i ddehongliad Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, sy'n datgan bod ‘diogelwch person’ yn ymwneud â rhyddid rhag niwed i'r corff neu'r meddwl.

Felly, gall ataliaeth gynnwys yr hawl i gyfanrwydd corfforol fel agwedd ar yr hawl i ‘ddiogelwch person’ o dan gyfraith y Cenhedloedd Unedig, neu ar wahân yr hawl i fod yn rhydd o driniaeth greulon, annynol neu ddiraddiol a'r hawl i fywyd preifat a theuluol.

Beth i'w ystyried

Mae'n bwysig peidio â chymysgu'r ddwy brif agwedd ar yr hawl hon a'r dyletswyddau sy'n dilyn ohoni. Mae yna amgylchiadau lle gall awdurdodau gadw unigolyn yn gyfreithlon; ac mae mesurau diogelu gweithdrefnol sy'n diogelu unigolion sydd wedi'u cadw.

Beth i'w wneud os yw'r hawl hon yn berthnasol i'ch achos

Dylech geisio sefydlu:

  • a yw'r awdurdod cyhoeddus wedi cyflawni ei rwymedigaethau ac wedi dilyn y mesurau diogelu gweithdrefnol a warantir gan yr hawl
  • a gymerodd yr awdurdod cyhoeddus gyngor meddygol arbenigol cyn cadw ac mewn adolygiadau dilynol ar gyfer parhau’r cadw
  • pa gyfleoedd oedd gan yr unigolyn i herio'r cadw
  • a oedd y cyfleoedd hynny'n brydlon ac yn hygyrch, gan ystyried gallu, oedran, anabledd neu anghenion penodol unigolyn
  • a oedd yr awdurdod cyhoeddus wedi ystyried dewisiadau eraill yn hytrach na'u cadw
  • pam na ddilynwyd y dewisiadau amgen hynny

Mae’n bosibl y bydd angen i chi wirio ansawdd y cyngor meddygol a ddefnyddir gan yr awdurdod cyhoeddus gydag arbenigwyr annibynnol.

Diweddariadau tudalennau