Yr hawl i fod yn rhydd rhag artaith, neu driniaeth neu gosb greulon, annynol neu ddiraddiol: ar gyfer cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 24 Gorffenaf 2019

Diweddarwyd diwethaf: 24 Gorffenaf 2019

Mae erthygl 3 yr HRA yn eich amddiffyn rhag artaith feddyliol neu gorfforol, a thriniaeth neu gosb annynol neu ddiraddiol, gan gynnwys y risg o wynebu triniaeth o'r fath drwy alltudio neu estraddodi i wlad arall.

Diffiniwyd artaith yn y Confensiwn yn erbyn Artaith fel achos o achosi poen neu ddioddefaint difrifol yn fwriadol, gan gynnwys cosbi, bygwth, gorfodi neu gael gwybodaeth. Os byddwch yn datgelu enghreifftiau o artaith yn eich ymchwiliad, dylech eu cyfeirio at yr awdurdodau perthnasol fel mater troseddol.

Mae triniaeth neu gosb annynol yn achosi dioddefaint corfforol neu feddyliol dwys. Gallai hyn gynnwys ymosodiad corfforol difrifol neu gam-drin seicolegol mewn lleoliadau gofal, amodau creulon neu farbaraidd neu gadw, neu fygythiad gwirioneddol artaith.

Gall triniaeth gael ei hystyried yn ddiraddiol os yw'n brofiad llawn cywilydd neu’n anurddasol iawn. Gall p'un a yw triniaeth yn cael ei hystyried yn ddiraddiol ddibynnu ar ei hyd, ei heffeithiau corfforol neu feddyliol a'r amgylchiadau personol, megis rhyw, oedran ac iechyd y dioddefwr.

Gall achosion nad ydynt yn ddigon difrifol i ddefnyddio'r hawl hon dorri'r hawl i barch at fywyd preifat a theuluol o hyd.

Nid oes rhaid achosi triniaeth greulon, annynol neu ddiraddiol yn bwrpasol. Ystyrir bod triniaeth annynol yn ddiraddiol, ond nid oes angen ystyried triniaeth ddiraddiol yn annynol.

Cyfraith feddal

Mae yna nifer o safonau cyfraith feddal ynghylch triniaeth yn y ddalfa, gan gynnwys:

Ble mae’n berthnasol

  • gwasanaethau iechyd
  • gofal cymdeithasol
  • ysbytai
  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • cartrefi preswyl a nyrsio
  • awdurdodau gorfodi’r gyfraith
  • yr heddlu a gwasanaethau carchardai
  • gwasanaethau mewnfudo a lloches
  • sefydliadau addysg
  • lles
  • lleoliadau cartref a theuluol

Mae'r Pwyllgor Hawliau Dynol wedi nodi bod yr hawl yn diogelu ‘yn arbennig plant, disgyblion a chleifion mewn sefydliadau addysgu a meddygol ’.

Rhwymedigaethau

Mae'r hawl yn gosod rhwymedigaethau cadarnhaol a negyddol ar awdurdodau cyhoeddus, i osgoi ymatal rhag gweithredu neu ddiffyg gweithredu diraddiol neu annynol, ac i ddarparu amwynderau sylfaenol penodol.

Gallai'r rhain gynnwys bwyd, dŵr, lloches, awyr iach a chyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol. Pan fo bygythiad y bydd niwed yn cael ei achosi gan eraill, gallai fod yn ddyletswydd i ddarparu diogelwch corfforol ac emosiynol.

Mae rhwymedigaeth nid yn unig ar wladwriaethau i greu fframwaith deddfwriaethol, gweinyddol a cyfreithiol digonol i gyflawni hyn, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ymhlith awdurdodau cyhoeddus am eu dyletswyddau o dan yr hawl, megis trwy arweiniad a hyfforddiant staff (Sylw Cyffredinol Rhif 20 Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig).

Mae’r hawl yn absoliwt. Ni all pwysau staff, diffyg adnoddau, na hawliau cystadleuol eraill, gyfiawnhau rhoi triniaeth i unigolion sy'n greulon, yn annynol neu'n ddiraddiol.

Triniaeth feddygol

Yn gyffredinol, ni ellir ystyried bod triniaeth feddygol angenrheidiol yn annynol neu'n ddiraddiol (Herczegfalvy v Awstria 1992  a Jalloh v Yr Almaen 2007), ond rhaid dangos angen meddygol yn glir (Nevmerzhitsky v Wcráin 2005).

Fodd bynnag, gellir dod o hyd i driniaeth annynol neu ddiraddiol pan fydd awdurdod cyhoeddus:

  • yn atal neu wrthod mynediad i driniaeth ar gyfer salwch difrifol neu derfynol, gan gynnwys trwy alltudio i wlad lle nad oes lefel briodol o ofal iechyd ar gael
  • yn gorfodi triniaeth feddygol ac yn ymyrryd o ddifrif ag uniondeb corfforol neu feddyliol unigolyn, gan gynnwys pan fo modd llai ymwthiol ar gael Jalloh v Yr Almaen 2007
  • yn darparu triniaeth feddygol yn groes i ddymuniadau claf sydd â galluedd meddyliol Ms B v Ymddiriedolaeth Ysbytai GIG 2002
  • yn darparu triniaeth feddygol i glaf sydd â diffyg galluedd meddyliol pan fydd yn hysbys y byddai'r unigolyn wedi ei wrthod
  • yn ymgymryd ag arbrofion meddygol neu wyddonol heb gael caniatâd yr unigolyn Sylw Cyffredinol Rhif 20

Urddas mewn marwolaeth

Mae urddas mewn marwolaeth yn rhan o'r hawl i fod yn rhydd o driniaeth annynol a diraddiol, a gall sicrhau’r urddas hwn olygu cydbwyso'r hawl hon â'r hawl i fywyd. Gallai sefyllfaoedd o'r fath gynnwys atal triniaeth sy'n ymestyn bywyd ond sy’n aneffeithiol os byddai'n arwain at drallod a phoen pellach fel yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Plant Alder Hey v Evans 2018. Efallai y gellir cyfiawnhau tynnu triniaeth o'r fath yn ôl gan feddygon er mwyn sicrhau urddas mewn marwolaeth; fodd bynnag, nid yw'r hawl hon yn cynnwys cynorthwyo rhywun i farw (gweler Hunanladdiad â chymorth, o dan yr hawl i fywyd).

Lleoliadau gofal

Mewn lleoliadau gofal, gallai'r hawl hon fod yn berthnasol, er enghraifft, i anghenion ymataliaeth unigolyn, fel yn A ac Eraill v Cyngor Sir Dwyrain Sussex 2003. Gallai gadael padiau anymataliaeth heb eu newid am gyfnodau hir fod yn gyfystyr â thriniaeth annynol neu ddiraddiol. Mewn achosion llai difrifol, megis McDonald v UK 2014, mae’n bosibl na fydd effeithiau andwyol ar urddas person yn cynnwys yr hawl hon, ond yn dal i fod yn torri'r hawl i barch at fywyd preifat a theuluol.

Gweler hefyd Defnyddio ataliaeth, ac Arwahanrwydd cymdeithasol a charchariad unigol o dan Carcharorion am ffyrdd eraill y gall yr hawl fod yn berthnasol mewn lleoliadau gofal.

Astudiaethau achos

  • Defnyddio hysbysiadau Peidiwch â Cheisio Dadebru (DNAR)
  • Defnyddio dalfa'r heddlu ar gyfer y rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl

Defnyddio ataliaeth

Gellid defnyddio ataliaeth mewn unedau diogel, yn ogystal â chartrefi gofal, gwasanaethau iechyd meddwl a lleoliadau di-garchar eraill.

Lluniodd y Comisiwn fframwaith hawliau dynol ar gyfer ataliaeth sy’n gosod egwyddorion dros ddefnydd cyfreithlon o ymyriadau rhwystrol corfforol, mecanyddol  a chymhellol. Darpara’r fframwaith hefyd enghreifftiau o ystod o leoliadau i ddangos yr egwyddorion.

Mathau o ataliaeth

Mae ataliaethau yn cynnwys:

  • ataliaethau corfforol, megis cael eu dal gan staff
  • ataliaethau mecanyddol, megis rheiliau gwely, cewyll gwelyau a strapiau
  • cyfyngiadau cemegol, megis cyffuriau tawelyddol
  • neilltuaeth, megis lleoli yn anwirfoddol mewn ystafell dan glo neu garchariad unigol mewn carchardai
  • cael gwared ar gymhorthion symudedd i atal symudiad

Mae'r Pwyllgor Hawliau Dynol wedi dweud bod defnyddio cewyll gwelyau yn gyfystyr â thriniaeth annynol a diraddiol. Dylai trafodwyr achos ystyried hyn mewn cwynion am y defnydd o reiliau gwely mewn lleoliadau gofal iechyd.

Mae'r Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Atal Artaith (CPT) yn cynghori, mewn gwasanaethau iechyd meddwl, na all unrhyw ataliaeth fecanyddol ar gleifion am nifer o ddiwrnodau yn olynol gael unrhyw gyfiawnhad, ac y dylid gwahardd ataliaethau corfforol sy'n ei gwneud yn anodd anadlu neu’n achosi poen.

Egwyddorion cyffredinol

Mae'r Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Atal Artaith wedi nodi y dylid defnydd o ataliaeth:

  • gael ei reoli gan bolisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u diffinio'n glir
  • gael ei reoleiddio gan y gyfraith
  • fod yn unol ag egwyddorion cyfreithlondeb, rheidrwydd, cymesuredd ac atebolrwydd
  • fod ar gyfer diogelwch nid therapi
  • fod dim ond ar gyfer y risg agos o niwed i'r unigolyn neu i eraill
  • gael ei weithredu gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol
  • fod am yr amser byrraf posibl
  • fod y dewis olaf
  • gael ei gofnodi yn ffeil bersonol yr unigolyn ym mhob achos, gan gynnwys cyfnodau, amgylchiadau, rhesymau ac enw'r person a'i hawdurdododd

Ni ddylid defnyddio ataliaeth:

Yn yr Heddlu Metropolitan v ZH 2013, canfu'r llys fod yr hawl hon wedi cael ei thorri pan oedd yr heddlu wedi atal person ifanc anabl yn ei arddegau â nam difrifol arno, er eu bod yn ystyried eu bod yn gwneud hynny am gyfnod byr ac er ei les pennaf. Dywedodd y llys fod yr heddlu wedi gwneud ‘camgymeriadau difrifol’ wrth ddefnyddio ataliaeth a oedd wedi achosi ‘trallod a gofid mawr i'r unigolyn’.

Astudiaethau achos

  • Cwyn i ymddiriedolaeth iechyd am ofal a thriniaeth perthynas oedrannus
  • Defnyddio strapiau lap fel ataliaeth mewn cartref gofal

Carcharorion

Iechyd

Gellid ystyried methiant i ddarparu cymorth meddygol digonol i garcharorion fel triniaeth annynol neu ddiraddiol.

Mae hyn yn cynnwys:

Arwahanrwydd cymdeithasol a charchariad unigol

Gall triniaeth annynol a diraddiol gynnwys arwahanrwydd cymdeithasol, diffyg gweithgaredd ystyrlon a diffyg mynediad i awyr iach. Mae hyn fel arfer yn berthnasol i garcharorion, ond gallai gynnwys lleoliadau eraill, megis cleifion mewn gwasanaethau iechyd meddwl (Munjuaz v Ymddiriedolaeth GIG Gofal Merswy 2003).

Yn Mathew v Yr Iseldiroedd 2005, achos am garcharor a ddaliwyd mewn carchariad unigol, canfu'r Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd y cafodd yr hawl ei thorri, oherwydd ‘yr arwahanrwydd synhwyraidd llawn ynghyd â’r arwahanrwydd cymdeithasol llawn’ yr oedd wedi mynd drwyddo.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Dylai awdurdodau carchar roi hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant i staff. Dylent gofnodi a mynd i'r afael ag unrhyw achosion o dorri eu polisïau cydraddoldeb a gwahaniaethu. Mae’n bosibl y bydd angen i staff ymyrryd yn brydlon i wahanu carcharorion er eu diogelwch corfforol a meddyliol.

Astudiaethau achos

  • Bwlio homoffobig mewn carchardai

Cam-drin domestig

Mae dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i amddiffyn pobl rhag cael eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain, gan gynnwys trais domestig ac esgeulustod plant Z ac Eraill v DU 2001.

Darganfuwyd bod llywodraeth y methodd ei gwasanaeth heddlu â diogelu menyw rhag trais domestig dro ar ôl tro, hyd yn oed pan oedd yn destun gorchymyn amddiffyn, wedi mynd yn groes i'r hawl hon Opuz v Twrci 2009.

Lles

Gallai gwrthod cefnogaeth y wladwriaeth a allai orfodi unigolion i ddod yn amddifad heb fodd i gynnal eu hunain fod yn gyfystyr â thriniaeth annynol neu ddiraddiol, fel yn R v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref 2005.

Beth i'w ystyried

Mae’r safonau ynglŷn â thriniaeth greulon, annynol neu ddiraddiol wedi esblygu dros amser. Mae yna elfen oddrychol hefyd: mae canfyddiad yr unigolyn o'r driniaeth a'i effaith yn hanfodol i ddeall ei natur.

Fodd bynnag, mae'r llysoedd wedi sefydlu bod rhaid cyrraedd trothwy uchel o ddifrifoldeb er mwyn torri'r hawl. Dylech ystyried hynny cyn defnyddio'r termau ‘creulon’, 'annynol' neu ‘diraddiol’ yn eich adroddiad.

Gellir gosod y trothwy yn is yn ôl statws ac amgylchiadau'r unigolyn, gan gynnwys grwpiau dan anfantais neu grwpiau nodweddion gwarchodedig, megis plant, pobl hŷn neu bobl anabl. Gweler hefyd amddiffyniad rhag gwahaniaethu.

Os nad yw eich achos yn bodloni'r trothwy hwn ond bod yr effaith ar yr unigolyn wedi bod yn sylweddol, gallech ystyried perthnasedd yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol, sydd yn aml yn gysylltiedig.

Beth i'w wneud os yw'r hawl hon yn berthnasol i'ch achos

Dylech geisio sefydlu:

  • dyletswyddau a rhwymedigaethau'r awdurdod cyhoeddus, naill ai wrth ddarparu gwasanaethau (megis gofal, triniaeth neu ddiogelwch), neu ymatal rhag gweithredu (megis defnyddio ataliaethau)
  • a oedd yr awdurdod cyhoeddus wedi cyflawni ei rwymedigaethau
  • y rhesymau dros unrhyw fethiant i gyflawni ei rwymedigaethau – er enghraifft, a oedd yn fwriadol neu oherwydd esgeulustod
  • effaith y driniaeth ar yr unigolyn, gan ystyried eu hamgylchiadau personol
  • nodweddion y driniaeth, gan gynnwys ei hyd a'i difrifoldeb
  • a oedd effaith gronnus o wahanol achosion neu fathau o driniaeth

Diweddariadau tudalennau