Amddiffyniad rhag gwahaniaethu ar gyfer cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 22 Gorffenaf 2019

Diweddarwyd diwethaf: 22 Gorffenaf 2019

Mae cyfraith hawliau dynol yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gwahardd gwahaniaethu ar sawl sail. Nid yw'r amddiffyniad yn erbyn gwahaniaethu yn y Ddeddf Hawliau Dynol yn 'annibynnol', ond rhaid iddo fod wedi effeithio ar eich mwynhad o un neu fwy o'r hawliau eraill. Fodd bynnag, nid oes angen i chi brofi bod yr hawl ddynol arall hon wedi cael ei thorri. Mae’n bosibl na fydd cyfraith hawliau dynol yn eich amddiffyn rhag gwahaniaethu ym mhob agwedd ar fywyd.

Yng Nghymru a Lloegr, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnig amddiffyniad, mewn cyflogaeth, addysg, darparu nwyddau a gwasanaethau, tai, trafnidiaeth a chyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Mae gan sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus y dyletswyddau i beidio â gwahaniaethu ar unrhyw un o'r 9 nodwedd warchodedig a restrir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a'r dyletswyddau cyffredinol sydd wedi'u hanelu at ddileu gwahaniaethu o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. 

Mae cytundebau hawliau dynol yn cynnwys cymal sy'n dweud bod yn rhaid cymhwyso'r hawliau a'r rhyddid a nodir ynddynt heb wahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, barn wleidyddol, tarddiad cenedlaethol ac yn y blaen. Fel arfer mae cymalau o'r fath yn gorffen gyda'r ymadrodd ‘unrhyw statws arall’, sy'n golygu nad yw'r rhestr yn un gynhwysfawr.

Er enghraifft, mae’n bosibl na fydd anabledd, cyfeiriadedd rhywiol ac oedran yn cael eu crybwyll mewn rhai cytundebau cynharach, ond ers hynny mae Llys Hawliau Dynol Ewrop (ECtHR) a chyrff monitro cytundebau'r Cenhedloedd Unedig wedi ei gwneud yn glir na chaniateir gwahaniaethu ar sail o'r fath o dan gyfraith hawliau dynol. Mae'r llysoedd hefyd wedi canfod ‘statws arall’ i gynnwys, er enghraifft, rhieni unigol (SG v SSWP [2015] UKSC 16), cenedligrwydd; anghyfreithlondeb; statws priodasol; cyfeiriadedd rhywiol ac aelodaeth undeb llafur. 

Undeb Cenedlaethol Heddlu Gwlad Belg v Gwlad Belg Cais Rhif 4464/70; (1975) 1 E.H.R.R. 578.

Cefnogir y sefyllfa hon gan gyflwyniad cytundebau arbenigol ar gyfer grwpiau yr ystyrir eu bod angen amddiffyniad arbennig.

Cytundebau arbenigol

Mae gan grwpiau penodol amddiffyniad arbennig, a roddir mewn cytundebau arbenigol, Sylwadau Cyffredinol cyrff monitro'r Cenhedloedd Unedig, a chyfraith achosion yr ECtHR, gan gynnwys:

  • plant
  • pobl anabl
  • menywod
  • lleiafrifoedd ethnig

Mae'r hawliau a'r cyfreithiau a ddatblygwyd ar gyfer y grwpiau hyn nid yn unig yn tanlinellu'r egwyddor o beidio â gwahaniaethu, ond hefyd yn nodi'r camau y mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus eu cymryd i wneud cydraddoldeb yn realiti.

Beth i'w ystyried

Gallai unigolion berthyn i fwy nag un grŵp. Wrth ymdrin â chwynion, dylech ystyried nodweddion gwarchodedig lluosog a allai gynyddu'r anfanteision posibl a wynebir gan yr unigolyn. Dylech ymchwilio i'r holl feysydd perthnasol fel y bo'n briodol.

Plant

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) yn cydnabod bod gan blant hawl i ofal ac amddiffyniad arbennig.

Mae'n diffinio plant fel unrhyw un o dan 18 oed, oni bai bod cyfraith benodol dan sylw yn dweud eu bod yn dod i oed yn gynharach.

Rhwymedigaethau

Mae hawliau dynol yn berthnasol i blant fel y maent i oedolion. Rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydnabod, parchu a diogelu plant fel deiliaid hawliau, yn annibynnol ar eu rhieni neu warcheidwaid, ac fel ‘bodau dynol unigryw a gwerthfawr’ ag ‘anghenion, diddordebau a phreifatrwydd penodol’. Rhaid iddynt rymuso plant i hawlio eu hawliau a mynegi eu barn.

Prif egwyddorion y confensiwn

Mae'r CRC wedi nodi 4 erthygl allweddol sy'n llywio gweithrediad yr holl hawliau yn y confensiwn (CRC Sylw Cyffredinol Rhif 5 2003).

Erthygl 2: Peidio â gwahaniaethu

Mae Erthygl 2 yn amddiffyn plant rhag gwahaniaethu ar sail eu hamgylchiadau eu hunain neu amgylchiadau eu rhieni a'u gwarcheidwaid. Mae hawliau dynol yn berthnasol i bob plentyn yn gyfartal. Rhaid i awdurdodau cyhoeddus beidio â gwahaniaethu, ond dylent flaenoriaethu anghenion y rhai mwyaf difreintiedig neu fwyaf agored i niwed. Sef:

  • plant yn y ddalfa
  • plant sydd wedi eu hamddifadu o’u hamgylchedd teuluol, megis plant mewn gofal, plant stryd a phlant digartref
  • ffoaduriaid sy’n blant
  • plant ar eu pennau eu hunain yn ystod dychweliad
  • plant anabl

Mae'r CRC yn pwysleisio nad yw peidio â gwahaniaethu yn golygu triniaeth yr un fath.

Erthygl 3: Lles y plentyn

Dylai cyrff cyhoeddus a phreifat megis cartrefi gofal, ysbytai ac ysgolion, y llywodraeth a'r farnwriaeth wneud lles y plentyn yn brif ystyriaeth ym mhob gweithred sy'n ymwneud â phlant.

Erthygl 6: Bywyd, goroesiad a datblygiad

Mae Erthygl 6 yn amddiffyn yr hawl i fywyd, yn ogystal â datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol, seicolegol a chymdeithasol llawn plant. Dylai gwladwriaethau a'u hasiantaethau geisio sicrhau'r datblygiad gorau posibl i bob plentyn.

Mae gan wladwriaethau ddyletswydd hefyd i atal pob math o drais yn erbyn plant, gan gynnwys ‘trais corfforol neu feddyliol, anaf neu gam-drin, esgeulustod neu driniaeth esgeulus, camdriniaeth neu gam-fanteisio, gan gynnwys cam-drin rhywiol’ (Erthygl 19 UNCRC). Rhaid iddynt ymchwilio a chosbi'r rhai sy'n gyfrifol. Y dybiaeth sylfaenol yw ‘na ellir cyfiawnhau unrhyw drais yn erbyn plant; mae modd atal pob trais yn erbyn plant’ (Sylw Cyffredinol Rhif 13 2011).

Mae'r CRC wedi dweud bod cosb gorfforol yn anghydnaws â'r confensiwn; mae hefyd wedi cael ei gondemnio gan Lys Hawliau Dynol Ewrop mewn sawl dyfarniad (Tyrer v DU 1978; Campbell and Cosans v DU 1983; Costello-Roberts v DU 1993; ac A v DU 1998).

Erthygl 12: Mynegiant rhydd a pharch at safbwyntiau

Dylai plant sy'n gallu ffurfio eu safbwyntiau eu hunain allu eu mynegi yn rhydd ym mhob mater sy'n effeithio arnynt. Dylai awdurdodau geisio safbwyntiau cynrychioladol gan blant – er enghraifft, o blant a fabwysiadwyd ar gyfraith mabwysiadu a pholisi – a rhoi pwysau priodol i'w barn.

Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn trefniadau iechyd, addysg, y ddalfa a gofal, yn ogystal â llysoedd a thribiwnlysoedd. Dylai awdurdodau ddarparu gwybodaeth sy'n briodol i'w hoedran i blant fel y gallant ffurfio barn, a darparu amgylchedd hygyrch i'w mynegi.

Addysg

Mae erthygl 29 yn nodi pwrpas addysg i:

  • ddatblygu plant i'w llawn botensial
  • datblygu parch at hawliau dynol a rhyddid sylfaenol
  • datblygu parch atynt hwy eu hunain, at eu rhieni, ac at wareiddiadau sy'n wahanol i'w rhai hwy
  • paratoi ar gyfer bywyd cyfrifol mewn cymdeithas rydd, yn yr ysbryd o ddealltwriaeth, heddwch, goddefgarwch, cydraddoldeb a chyfeillgarwch ymhlith yr holl bobl
  • datblygu parch at yr amgylchedd

Gall gwaharddiadau ysgol gael effaith ar ddatblygiad plentyn a'r hawl i addysg.

Iechyd

Yn ogystal â'r hawliau dynol y gallai fod yn berthnasol mewn materion iechyd (gweler hefyd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol: hawliau dynol ar gyfer cynlluniau ombwdsmon), mae Erthyglau 6, 23 a 24 yr UNCRC yn darparu ar gyfer hawliau plant anabl a'r hawl i'r safon iechyd uchaf posibl y gellir ei chyrraedd i blant yn gyffredinol.

Cyhoeddodd y CRC Sylw Cyffredinol Rhif 4 2003 ar iechyd pobl ifanc, gan gydnabod bod y cyfnod newid cyflym hwn yn peri heriau penodol i iechyd a datblygiad plentyn. Mae'n annog awdurdodau cyhoeddus i greu amgylcheddau diogel a chefnogol, a darparu gwybodaeth iechyd fel y gallant wneud dewisiadau gwell ac osgoi ymddygiadau peryglus. Dylai pobl ifanc hefyd allu cael gafael ar wasanaethau cwnsela ac iechyd ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd rhywiol.

Beth i'w ystyried

Mewn cwynion sy'n ymwneud â phlant, dylech ystyried egwyddorion allweddol y confensiwn hwn ar y cyd â chyfraith hawliau dynol berthnasol arall. Ni ddylech gymryd yn ganiataol ei bod yn ddigon i awdurdod cyhoeddus ganfod dymuniadau'r rhieni neu'r gwarcheidwaid yn unig.

Dylai sefydliadau allu darparu tystiolaeth sy’n dangos:

  • roedd lles pennaf y plentyn yn brif ystyriaeth
  • roeddent yn trin y plentyn gydag urddas a pharch
  • fe wnaethant ystyried sut i gyflawni potensial datblygu llawn y plentyn
  • maent wedi gwrando ar farn y plentyn ac wedi rhoi pwysau priodol i'w barn

Mewn achosion sy'n cynnwys yr hawl i fod yn rhydd o driniaeth annynol neu ddiraddiol, gellir gosod y trothwy ar gyfer difrifoldeb y driniaeth yn is i blant.

Eich rhwymedigaethau

Mae'r confensiwn hefyd yn berthnasol i'ch cynllun ombwdsmon. Mewn cwynion sy'n ymwneud â phlant, y plentyn fel arfer yw'r person a dramgwyddir, ond y rhiant yw'r achwynydd. Fel rhan o ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau dynol, dylech geisio cael barn y plentyn yn uniongyrchol os yw'r plentyn yn rhan o gŵyn, gyda chaniatâd y rhiant.

Pobl anabl

Egwyddorion allweddol y CRPD yw:

  • parch at urddas ac ymreolaeth pobl anabl
  • peidio â gwahaniaethu
  • cynhwysiant a chyfranogiad llawn mewn cymdeithas
  • parchu a derbyn pobl anabl fel rhan o’r ddynoliaeth
  • cyfle cyfartal
  • mynediad cyfartal
  • cydraddoldeb rhwng dynion a menywod anabl
  • parch at blant ag anableddau wrth iddynt dyfu a datblygu

Rhwymedigaethau

Addasiadau rhesymol

Mae addasiadau rhesymol yn dod o dan ddeddfwriaeth y DU o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn Erthygl 2 o'r CRPD, cyfeirir atynt fel ‘cymhwyso rhesymol’, ond mae'r egwyddor yr un fath. Mae dyletswydd ar bob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion ac ysbytai, yn ogystal â chyrff preifat i ddarparu addasiadau rhesymol fel y gall pobl anabl fwynhau eu hawliau dynol yn yr un modd â phawb arall.

Mae addasiadau rhesymol yn fwy tebygol o fod yn berthnasol mewn hawliau economaidd-gymdeithasol sy'n ymwneud ag iechyd, addysg, cyflogaeth, tai digonol a nawdd cymdeithasol. Mae’n bosibl y bydd angen i awdurdodau cyhoeddus hefyd wneud addasiadau fel y gall pobl anabl fwynhau eu hawliau i ryddid mynegiant a rhyddid crefydd. Gallwch hefyd ddarllen am ddarpariaeth cyfleusterau i bobl anabl o dan yr hawl i fywyd preifat a theuluol.

Budd-daliadau

Gallai addasiad rhesymol gynnwys ystafell ychwanegol mewn tŷ i ddarparu ar gyfer gofalwr neu offer meddygol. Dyfarnwyd bod newid yn rheolau budd-dal tai'r DU (a elwir yn gyffredin yn 'dreth ystafell wely’) a oedd yn rhoi terfyn ar daliadau ar gyfer ystafelloedd ‘ychwanegol’ yn wahaniaethol mewn rhai amgylchiadau o dan Erthygl 14 yr ECHR (Burnip v Cyngor Dinas Birmingham 2012).

Cynllunio

Rhaid i awdurdodau cynllunio hefyd wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl. Er enghraifft, gwrthododd awdurdod cynllunio ganiatâd i gael estyniad cartref i gartrefu pwll therapi dŵr i fenyw anabl oherwydd ei fod wedi mynd yn groes i gynllun datblygu'r ddinas. Dywedodd y Pwyllgor ar Hawliau Pobl fod y penderfyniad yn anghymesur ac yn wahaniaethol, a'i fod wedi torri Erthyglau 5 (cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu), 25 (iechyd), 26 (adsefydlu) y CRPD (CRPD Cyfathrebiad Rhif 3 2011).

Dylid hefyd ystyried Erthyglau 3 ac 8 yr ECHR wrth ystyried achosion fel yr un hwn. 

Baich gormodol

Gall awdurdodau cyhoeddus geisio cyfiawnhau peidio â gwneud addasiad trwy ddadlau y byddai'n gosod ‘baich anghymesur neu ormodol’ arnynt (Erthygl 2, CRPD). Mae’r baich arnynt i gyflwyno'r achos hwn, nid ar yr unigolyn anabl, i berswadio'r awdurdod y mae addasiad yn rhesymol. Y man cychwyn yw y dylid gwneud addasiadau i bobl anabl fwynhau eu hawliau dynol.

Triniaeth annynol neu ddiraddiol

Mae dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i sicrhau nad yw amodau yn gyfystyr â thriniaeth annynol neu ddiraddiol, y gellir gostwng y trothwy ar ei gyfer wrth ystyried anghenion penodol pobl anabl. Er enghraifft, yn D.G. v Gwlad Pwyl 2013, canfu'r ECtHR fod hawliau carcharor anabl wedi cael eu torri pan nad oedd ei anghenion meddygol yn cael eu darparu ar eu cyfer yn ddigonol wrtho iddo gael ei gadw, megis trwy ddarparu toiledau hygyrch i gadair olwyn.

Cyflyrau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Gall pobl â chyflyrau iechyd meddwl neu anableddau dysgu wynebu rhwystrau sylweddol rhag arfer eu hannibyniaeth a'u hymreolaeth.

Weithiau mae awdurdodau cyhoeddus yn sôn am gyflyrau iechyd meddwl fel rheswm dros beidio ag ymgynghori â pherson am benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ond mae gan bawb hawl i fod yn rhan o benderfyniadau sy'n ymwneud â'u gofal.

Mae dull sy'n seiliedig ar hawliau dynol yn galw am wneud penderfyniadau â chymorth, lle mae pobl yn cael yr help sydd ei angen arnynt i ddeall sefyllfa, mynegi eu dymuniadau a gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn wahanol iawn i gwneud penderfyniadau dirprwyedig, pan gaiff ei wneud ar eu cyfer.

Beth i'w ystyried

Mae cwynion cyffredin a wneir gan bobl anabl neu ar eu rhan yn cynnwys cwynion am:

  • gofal iechyd a thriniaeth
  • asesiad anghenion addysgol arbennig neu ddarpariaethau
  • penderfyniadau cynllunio
  • gwrthod gwneud addasiadau rhesymol digonol
  • materion hygyrchedd, megis y dull o gyfathrebu â sefydliadau

Dylech fod yn ymwybodol mai mater i awdurdodau cyhoeddus yw darparu tystiolaeth bod gwneud addasiad yn afresymol neu'n rhoi baich gormodol arno.

Mae'n debygol y bydd cwynion am addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond mae'n bosibl o hyd y gall corff fethu â gwneud addasiadau rhesymol o dan gyfraith hawliau dynol.

Eich rhwymedigaethau

Rhaid i’ch cynllun ombwdsmon hefyd wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys gwneud eich deunydd darllen a'ch gwybodaeth yn hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau neu anableddau dysgu. Os yw rhywun yn cwyno ar ran person anabl, dylech wneud pob ymdrech i gyfathrebu â'r person anabl, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd meddwl neu anableddau dysgu.

Menywod

Mae cyfraith hawliau dynol yn rhoi amddiffyniadau arbennig i fenywod oherwydd:

  • gwahaniaethu parhaus yn erbyn menywod
  • anghydraddoldeb parhaus rhwng dynion a menywod
  • amgylchiadau penodol beichiogrwydd a mamolaeth 
  • mwy o debygolrwydd eu bod yn ddioddefwyr cam-drin domestig a rhywiol

Mae confensiwn y Cenhedloedd Unedig hwn yn canolbwyntio ar gydraddoldeb rhwng menywod a dynion ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'n diffinio gwahaniaethu yn erbyn menywod fel:

unrhyw wahaniaeth, gwaharddiad neu gyfyngiad a wneir ar sail rhyw sydd â'r effaith neu'r diben o amharu neu ddirymu cydnabyddiaeth, mwynhad neu ymarferiad menywod, waeth beth yw eu statws priodasol, ar sail cydraddoldeb dynion a merched, o hawliau dynol a rhyddid sylfaenol yn y meysydd gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, sifil neu unrhyw faes arall.

Rhwymedigaethau

Dylai sylw i anghenion menywod ymestyn ar draws gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys lleoliadau gofal cymdeithasol a chyfleusterau cadw.

Mae pwyllgor monitro’r Cenhedloedd Unedig, CEDAW, yn nodi ei bryderon ynghylch cydymffurfiaeth y DU â'r confensiwn yn ei Arsylwadau Terfynol 2013. Roedd ei argymhellion yn cynnwys:

  • lleihau effaith anghymesur mesurau llymder ar fenywod a gwasanaethau menywod
  • sicrhau mynediad effeithiol gan fenywod i lysoedd a thribiwnlysoedd, yn dilyn newidiadau mewn cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion ysgariad a cham-drin domestig
  • gwella mynediad i ofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a chyflogaeth i fenywod, yn enwedig menywod hŷn, menywod anabl a menywod o leiafrifoedd ethnig

Gweler hefyd ein hymatebion i Arsylwadau Terfynol CEDAW a’i waith arall.

Beichiogrwydd a mamolaeth

Mae Erthygl 12 y CEDAW yn rhoi hawl i fenywod gael cymorth arbennig gyda gofal cyn-geni ac ôl-enedigol, gan gynnwys gwasanaethau am ddim lle bo angen, yn ogystal â ‘maeth digonol’. Rhaid i awdurdodau cyhoeddus wneud addasiadau er mwyn i fenywod beichiog allu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Mae'r ECtHR wedi ystyried nifer o achosion yn ymwneud â beichiogrwydd a genedigaeth, ac wedi cadarnhau y gallai ymyrraeth afresymol gan y wladwriaeth â dymuniad menyw i gael ei babi gartref dorri ei hawl i fywyd preifat a theuluol.

Gellid ystyried atal carcharorion beichiog yn ystod yr enedigaeth yn driniaeth annynol neu ddiraddiol.

Cam-drin domestig a thrais rhywiol

Mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i amddiffyn menywod rhag trais domestig o dan yr hawl i fod yn rhydd o driniaeth annynol neu ddiraddiol a'r hawl i fywyd preifat a theuluol ac i sicrhau y gallant fwynhau eu hawliau heb wahaniaethu. Mae'r ECtHR wedi cydnabod bod trais domestig yn cael effaith wahanol ac anghymesur ar fenywod o'i gymharu â dynion (Opuz v Twrci 2009).  

Beth i'w ystyried

Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus roi amddiffyniad cyfartal i fenywod, nad yw o reidrwydd yn golygu'r un driniaeth â dynion. Weithiau mae angen triniaeth wahanol i gael gwared ar rwystrau i gydraddoldeb.

Pan fyddwch chi'n derbyn cwyn sy'n ymwneud â hawliau menywod, mae'n ddefnyddiol cofio diffiniad CEDAW o wahaniaethu uchod, ac ystyried unrhyw feysydd perthnasol ynghylch cydymffurfiaeth y DU â'r confensiwn y mae'r Pwyllgor wedi gwneud sylwadau arno.

Dylech hefyd ystyried yr amgylchiadau lle mae gan fenywod hawl i amddiffyniad arbennig o dan y confensiwn.

Lleiafrifoedd ethnig

Rhoddir amddiffyniad arbennig i leiafrifoedd ethnig neu hiliol dan ICERD a FCNM Cyngor Ewrop. Mae'r confensiynau yn cwmpasu hawliau pawb i fwynhau hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol heb wahaniaethu ar sail hil, lliw, tras, tarddiad cenedlaethol neu ethnig.

Mae Erthygl 27 yr ICCPR hefyd yn dweud:

Yn y Gwladwriaethau hynny lle mae lleiafrifoedd ethnig, crefyddol neu ieithyddol yn bodoli, ni fydd pobl sy'n perthyn i leiafrifoedd o'r fath yn cael eu hamddifadu o’r hawl, yn y gymuned gydag aelodau eraill eu grŵp, i fwynhau eu diwylliant eu hunain, i arddel ac ymarfer eu crefydd, neu i ddefnyddio eu hiaith eu hunain.

Mae pobl nad ydynt yn ddinasyddion y wlad y maent yn byw ynddi, megis ymfudwyr a cheiswyr lloches, yn cael eu cydnabod o dan gyfraith hawliau dynol fel rhai sy'n agored i niwed.

Rhwymedigaethau

Yn ogystal ag atal ac osgoi gwahaniaethu, mae dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i ddileu rhwystrau y mae lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu i fwynhau eu hawliau dynol, gan gynnwys rhwystrau iaith, diwylliannol a chrefyddol.

Iaith

Mae pobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf yn dibynnu ar gyfieithu gwybodaeth bwysig a gwasanaethau cyfieithu ar y pryd. Dylai fod gan wasanaethau cyhoeddus weithdrefnau ar waith i sicrhau bod deunyddiau wedi'u cyfieithu a gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael i'r rhai sydd eu hangen.

Dylai fod gan wasanaethau iechyd bolisïau cyfieithu ar y pryd effeithiol fel nad yw plant nac aelodau o'r teulu'n cael eu defnyddio i gyfieithu mewn ymgynghoriadau meddygol. Mae’n bosibl y bydd angen i ysgolion gynnig cymorth ieithyddol i blant nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Diwylliant a chrefydd

Dylai awdurdodau cyhoeddus fod yn ymwybodol o anghenion diwylliannol neu grefyddol pobl o wahanol gefndiroedd. Gall hyn gynnwys sensitifrwydd o ran trin cenedlaethau gwahanol, gofynion dietegol arbennig, a sicrhau bod lle addas ar gael i ymarfer crefydd.

Ymfudwyr a cheiswyr lloches

O dan gyfraith hawliau dynol, mae sefyllfa ymfudwyr a cheiswyr lloches braidd yn wahanol i leiafrifoedd ethnig sy'n ddinasyddion y wlad y maent yn byw ynddi. Mae rhai gwahaniaethau mewn triniaeth yn dderbyniol – er enghraifft, ni chaniateir i bobl nad ydynt yn ddinasyddion weithio, ni allant hawlio rhai budd-daliadau, ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddynt dalu ffioedd uwch yn y brifysgol. Fodd bynnag, gallant fod â hawl i rywfaint o ofal iechyd. Gweler hefyd yr hawl i iechyd i geiswyr lloches.

Beth i'w ystyried

Pan fydd cwyn yn ymwneud â rhywun o grŵp lleiafrifoedd ethnig, dylech fod yn ymwybodol o:

  • unrhyw rwystrau ieithyddol, diwylliannol neu grefyddol maent yn eu hwynebu
  • pob agwedd ar hunaniaeth unigolyn, gan gynnwys unrhyw gysylltiadau rhwng ethnigrwydd, diwylliant, crefydd ac iaith

Ar gyfer cwynion sy'n ymwneud â Theithwyr Gwyddelig neu Sipsiwn, dylech ddeall yr anfanteision parhaus y maent yn eu hwynebu yn y rhan fwyaf o feysydd bywyd, gan gynnwys iechyd, addysg, cynllunio a chyflogaeth. Caiff y grwpiau hyn eu neilltuo'n gyson ar gyfer gweithredu cadarnhaol mewn adroddiadau monitro cytundebau.

Mewn cwynion sy'n ymwneud â phobl nad ydynt yn ddinasyddion, bydd angen i chi ddeall y gyfraith sy'n berthnasol i'r gŵyn, ac a yw'n eithrio pobl nad ydynt yn ddinasyddion rhag cael mynediad i wasanaeth. Dylech ymchwilio a rhoi sylwadau ar unrhyw ddiffyg eglurder yn y gyfraith, yn hytrach na'i ddymunoldeb.

Eich rhwymedigaethau

Efallai y bydd angen i chi ystyried iaith neu rwystrau eraill wrth gyfathrebu ag achwynydd neu berson anfodlon, gwneud deunydd wedi'i gyfieithu ar gael, neu ddefnyddio cyfieithydd i siarad â'r unigolyn dan sylw am ei brofiadau.

Diweddariadau tudalennau