Yr hawl i fywyd: ar gyfer cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 24 Gorffenaf 2019

Diweddarwyd diwethaf: 24 Gorffenaf 2019

Ble mae’n berthnasol

Mae Erthygl 2 y Ddeddf Hawliau Dynol yn amddiffyn eich hawl i fywyd. Ni all neb, gan gynnwys y Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus, geisio rhoi diwedd ar eich bywyd, neu wneud penderfyniadau sy'n eich rhoi mewn perygl neu sy'n effeithio ar eich disgwyliad oes.

Gall achwynwyr gyfeirio at yr hawl os yw'n credu bod sefydliad wedi methu neu'n methu â diogelu bywyd rhywun – er enghraifft, yn yr ysbyty, yn y ddalfa neu mewn lleoliad sefydliadol.

Ble mae’n berthnasol

  • gwasanaethau iechyd
  • gofal cymdeithasol
  • ysbytai
  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • cartrefi preswyl a nyrsio
  • lluoedd arfog
  • awdurdodau gorfodi’r gyfraith
  • yr heddlu a gwasanaethau carchardai
  • lleoliadau sefydliadol eraill

Rhwymedigaethau

Mae'r hawl i fywyd yn gosod rhwymedigaethau cadarnhaol a negyddol ar lywodraethau ac awdurdodau cyhoeddus. Mae'n eu hatal rhag cymryd bywyd yn fympwyol, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi mesurau ar waith i amddiffyn bywydau.

Defnyddio grym

Mae’n bosibl y caniateir i rai awdurdodau cyhoeddus, megis gwasanaethau carchardai, yr heddlu a gwasanaethau iechyd meddwl, ddefnyddio grym mewn rhai sefyllfaoedd. Os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt ddangos bod grym yn angenrheidiol ac yn gymesur. Mae ganddynt hefyd rwymedigaeth gadarnhaol i ddiogelu bywydau, er enghraifft, trwy:

  • gweithredu a monitro polisïau a gweithdrefnau priodol
  • darparu hyfforddiant, megis sut i ddefnyddio arfau tanio, taser a thechnegau atal
  • darparu digon o staff
  • ymateb i reoleiddio gan gyrff arolygu

Rhaid i wladwriaethau hefyd gael cyfreithiau yn eu lle i atal a chosbi colli bywyd trwy weithredoedd troseddol, ac atal lladd mympwyol gan luoedd diogelwch eu hunain.

Astudiaeth achos

Triniaeth feddygol sy'n achub bywydau

Mae'r hawl i fywyd yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau cyhoeddus i ddarparu triniaeth feddygol sy'n achub bywydau neu'n ymestyn bywyd. Ond mae yna eithriadau – er enghraifft, pan fydd y driniaeth:

Nid oes gan gleifion sydd â galluedd meddyliol ar hyn o bryd yr hawl i fynnu triniaeth feddygol benodol am gyfnod yn y dyfodol pan na fydd ganddynt alluedd meddyliol mwyach (Burke v Cyngor Meddygol Cyffredinol 2005).

Astudiaeth achos

Iechyd cyhoeddus

Mae Sylwadau Cyffredinol 2008 y Cenhedloedd Unedig am yr hawl i fywyd yn nodi bod gan lywodraethau ddyletswydd i fabwysiadu mesurau cadarnhaol i ddiogelu bywyd, gan gynnwys drwy:

  • lleihau cyfraddau marwolaethau babanod
  • cynyddu disgwyliad oes
  • dileu diffyg maeth
  • atal epidemigau

Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried hawliau grwpiau y mae eu cyfraddau marwolaethau babanod neu ddisgwyliad oes yn waeth na'r boblogaeth fwyafrifol, megis Sipsiwn, Roma a Theithwyr, neu bobl anabl.

Gallai mesurau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus:

  • ymgymryd â rhaglenni brechu
  • darparu gwybodaeth am fygythiadau i fywyd ac epidemigau
  • rheoli lledaeniad clefydau mewn ysbytai a sefydliadau eraill

Rhannu gwybodaeth

Efallai y bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydbwyso achosion posibl o dorri cyfrinachedd yn erbyn cynnal yr hawl i fywyd pan fyddant yn cyflawni eu dyletswydd i rannu gwybodaeth am broblemau iechyd a risgiau.

Rhaid iddynt hefyd roi sylw manwl i weithdrefnau diogelu a rhannu data wrth rannu gwybodaeth o fewn neu ar draws asiantaethau.

Hunanladdiad

Gall yr hawl i fywyd ymestyn i gleifion sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad, ac mae dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gymryd mesurau ataliol i amddiffyn pobl sydd dan eu gofal.

Dangosir hyn gan achos Rabone v Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Pennine Care,, a ddarganfu fod yr ymddiriedolaeth iechyd wedi methu yn ei dyletswydd gofal ac wedi torri hawliau dynol claf gwirfoddol (sydd heb gael ei hanfon i ysbyty meddwl o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) a gafodd ganiatâd i adael yr ysbyty ac wedi cymryd ei bywyd ei hun yn fuan wedyn.

Hunanladdiad â chymorth

Nid yw'r hawl i fywyd yn cynnwys yr hawl i farw.

Mae sawl achos wedi dod gerbron llysoedd y DU a llysoedd rhyngwladol yn dadlau y dylai'r rhai sy'n cynorthwyo rhywun i farw fod yn rhydd rhag erlyn, gan gynnwys Pretty v DU 2002 yn Llys Hawliau Dynol Ewrop. Nid oes yr un ohonynt wedi llwyddo. Mae llysoedd domestig wedi dyfarnu yn gyson ei fod yn fater i'r Senedd, nid i'r farnwriaeth, i ymestyn y gyfraith yn y maes hwn.

Yr hawl i ymchwiliad effeithiol

Mae yna hawl i ymchwiliad effeithiol os bydd unigolyn yn marw mewn amgylchiadau sy'n cynnwys awdurdodau cyhoeddus. Rhaid i'r wladwriaeth hefyd ymchwilio i farwolaethau amheus a marwolaethau yn y ddalfa.

Ystyrir bod ymchwiliad yn effeithiol yn unig (Jordan v DU 2001) os yw’r ymchwiliad:

  • ar fenter y wladwriaeth
  • yn annibynnol
  • yn gallu penderfynu a oedd cyfiawnhad dros ddefnyddio unrhyw rym
  • yn gallu adnabod a chosbi'r rhai sy'n gyfrifol am y farwolaeth
  • yn ymateb yn brydlon
  • yn agored i graffu cyhoeddus er mwyn sicrhau atebolrwydd
  • yn cynnwys cyfraniad teulu'r ymadawedig fel bod eu buddiannau yn cael eu diogelu

Nid yw'n ofynnol i gynlluniau ombwdsmon sy'n delio â chwynion am golli bywyd fodloni'r safonau hyn ar gyfer ymchwiliad effeithiol. Mae hyn oherwydd bod ombwdsmyn yn ymchwilio a oedd modd osgoi marwolaeth, ond nid a oedd yn gyfreithlon.

Beth i'w ystyried

Beth i'w wneud os yw'r hawl hon yn berthnasol i'ch achos

Pan fydd yr hawl i fywyd yn berthnasol i gŵyn, dylai trafodwyr achosion:

  • cymryd cyngor proffesiynol annibynnol (IPA) i asesu rhesymoldeb gweithredoedd a phenderfyniadau corff
  • dysgu beth yw neu beth oedd dewisiadau’r unigolyn
  • deall beth yw neu beth oedd buddiannau gorau'r unigolyn

Dylech geisio sefydlu:

  • rhwymedigaethau'r awdurdod tuag at yr achwynydd, megis darparu triniaeth, gohirio rhyddhau a rhoi gwybodaeth am risgiau iechyd
  • y camau a gymerodd i fodloni'r rhwymedigaethau hynny
  • y camau y gallai fod wedi eu cymryd ond nad oedd wedi eu cymryd i ddiogelu bywyd
  • y rhesymau dros beidio â chymryd y camau hynny, megis cyfyngiadau ar adnoddau, a barn neu arfer clinigol gwael yn ôl yr IPA
  • a oedd yn gofyn am ddymuniadau'r unigolyn a’u parchu, neu ddymuniadau'r rhieni mewn achosion yn ymwneud â phlant
  • sut y gwnaeth asesu a phenderfynu ar fuddiannau gorau’r unigolyn
  • sut y cymerodd camau yn seiliedig ar fuddiannau gorau’r unigolyn
  • sut y gwnaeth cydbwyso unrhyw hawliau cystadleuol

Dylai sefydliadau allu darparu tystiolaeth eu bod wedi ystyried yr hawl i fywyd yn eu penderfyniadau a'u gweithredoedd. Os na all ymchwiliad gadarnhau tystiolaeth o'r fath, dylai trafodwyr achosion wneud sylw penodol amdano yn eu hadroddiad.

Bywydau mewn perygl ar hyn o bryd

Mewn achosion lle mae bywyd mewn perygl ar hyn o bryd, mae dyletswydd aciwt ar yr ombwdsmon i adrodd ei bryderon i'r awdurdodau perthnasol er budd y cyhoedd.

Gallai'r risg fod yn glir o'r gŵyn neu ddod i'r amlwg yn ystod yr ymchwiliad; gall gynnwys testun y gŵyn neu eraill yn yr un sefyllfa neu sefydliad.

Diweddariadau tudalennau