Yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol, cartref a gohebiaeth: ar gyfer cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 24 Gorffenaf 2019

Diweddarwyd diwethaf: 24 Gorffenaf 2019

Mae gennych hawl i fyw'ch bywyd yn breifat, a mwynhau perthnasoedd teuluol, eich cartref a'ch gohebiaeth heb ymyrraeth gan y llywodraeth. Mae'n berthnasol i ystod eang iawn o sefyllfaoedd, y gallwch ddarllen amdanynt ar ein tudalen Erthygl 8. Mae gohebiaeth yn cwmpasu pob math o gyfathrebu, gan gynnwys llythyrau, galwadau ffôn ac e-byst.

Mae'r hawl yn gymwys, fodd bynnag, felly gall ymyrraeth fod yn dderbyniol o dan rai amgylchiadau. Gweler hefyd cyfyngiadau i'r hawl hon.

Caiff yr hawl hon ei hystyried yn aml ochr yn ochr â hawliau dynol eraill, yn enwedig yr hawl i fod yn rhydd o driniaeth annynol neu ddiraddiol, sydd â throthwy difrifoldeb uwch. Os nad yw'r trothwy hwnnw wedi'i fodloni, mae’n bosibl y bu ymyrraeth anghyfreithlon â'r hawl i fywyd preifat a theuluol.

Nid yw'n gyfyngedig i'r cartref neu leoedd preifat, ond yn unrhyw le mae yna ddisgwyliad dilys o breifatrwydd, gan gynnwys yr hyn y gellid ei ystyried fel arfer yn fannau cyhoeddus, yn ôl Peck v DU 2003.

Ble mae’n berthnasol

Mae gan yr hawl gymwysiadau eang, gan gynnwys:

  • gofal iechyd a thriniaeth feddygol
  • ysbytai
  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • cartrefi gofal a nyrsio
  • materion teuluol
  • penderfyniadau cynllunio, yn enwedig rhai sy’n effeithio ar y cartref
  • materion diogelu data a gwybodaeth
  • gwyliadwraeth a theledu cylch cyfyng

Rhwymedigaethau

Rhaid i wladwriaethau roi fframwaith cyfreithiol ar waith i sicrhau bod pawb yn rhydd i fwynhau'r hawl i fywyd preifat a theuluol, oni bai bod rhesymau cryf dros ymyrryd â'r hawl. Rhaid i'r gyfraith ei hun gydymffurfio, gan gynnwys unrhyw ymyrraeth y caniateir ar ei chyfer dan y gyfraith (Sylwadau Cyffredinol Rhif 16). Dylid dehongli'r hawl yn eang.

Gofal iechyd a chymdeithasol

Mae yna ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i:

  • cymryd camau gweithredol i atal toriadau
  • atal ymddygiad a fyddai'n arwain at doriad
  • ymateb i doriadau
  • darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth am eu hawliau a'r risgiau i'r hawliau hynny

Darparu gofal a thriniaeth

Nid yw'r hawl yn gorfodi awdurdodau iechyd i ddarparu pob math o driniaeth a gofal meddygol. Mae'r llysoedd wedi cydnabod y byddai hynny'n rhoi baich ariannol rhy fawr ar lywodraethau. Ond fe allai fod achosion lle gallai peidio â darparu gofal neu driniaeth dorri'r hawl i fywyd preifat a theuluol.

Yn McDonald v DU 2014, er enghraifft, canfu'r ECtHR fod awdurdod lleol wedi torri hawliau Erthygl 8 menyw anabl drwy leihau ei gofal a mynnu ei bod yn defnyddio padiau anymataliaeth yn y nos yn hytrach na darparu gweithiwr gofal sy’n ‘cysgu i mewn’. Fodd bynnag, dywedodd hefyd fod yr awdurdod wedi bod yn gymesur ac wedi cyfiawnhau ymyrryd â'i hawliau pan oedd yn cydbwyso ei hanghenion yn erbyn y defnyddwyr gofal eraill yn y gymuned.

Information about treatment

Rhaid i awdurdodau iechyd ddarparu'r holl wybodaeth berthnasol am y dewis o driniaeth feddygol, gan gynnwys risgiau'r gweithdrefnau waeth pa mor fach ydynt. Yn Csoma v Rwmania 2013, canfuwyd bod y wladwriaeth wedi torri hawl menyw i fywyd preifat pan fethodd meddygon â chael cydsyniad gwybodus neu esbonio opsiynau triniaeth cyn gweithdrefn feddygol, a arweiniodd at hysterectomi i achub bywyd a oedd wedi ei gadael heb y gallu i gael plant.

Roedd Tracey v Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd 2014 yn cynnwys hysbysiad ‘Peidiwch â Cheisio Dadebru’ (DNAR) yn cael ei osod gan ysbyty heb ymgynghori â chlaf canser terfynol a oedd mewn damwain car. Canfu'r dyfarniad fod ei hawliau Erthygl 8 wedi'u torri. Dywedodd y dylai awdurdodau gynnwys cleifion mewn penderfyniadau triniaeth a allai achub bywydau, neu ddarparu rhesymau argyhoeddiadol dros beidio â gwneud hynny, megis achosi dioddefaint a niwed corfforol neu seicolegol.

Triniaeth dan orfod neu gudd ac archwiliad dan orfod

Gall hyd yn oed ymyrraeth fach â chyfanrwydd corfforol neu iechyd meddwl unigolyn olygu torri’r hawl os caiff ei wneud yn erbyn ewyllys unigolyn. Yn Storck v Yr Almaen 2005, derbyniodd menyw feddyginiaeth dro ar ôl tro yn erbyn ei hewyllys, yr oedd yr ECtHR wedi cytuno ei fod yn groes i Erthygl 8.

Gallai hyn gynnwys gorfodi rhywun i gael archwiliad meddygol. Canfuwyd bod llys domestig a oedd wedi rhoi pwerau seiciatrydd i asesu cyflwr corfforol a meddyliol unigolyn yn torri'r hawl gan Bwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Dywedodd fod penderfyniad y llys i wneud y gorchymyn heb weld na chlywed gan yr unigolyn yn gyntaf, a heb reswm digonol i amau ei gallu, yn ‘anghymesur i'r diwedd y gofynnwyd amdano’ (M.G. v Yr Almaen 2006).

 

Mae’n bosibl na fydd triniaeth yn erbyn ewyllys person neu heb ei wybodaeth yn torri'r hawl, os yw'n angenrheidiol ac yn gymesur â dilyn nod cyfreithlon. Er enghraifft, dyfarnwyd nad oedd cyfraith Gwlad Belg a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i blant gael pelydr-x i atal twbercwlosis yn torri'r hawl i fywyd preifat a theuluol (Acmanne v Gwlad Belg 1984).

Diogelu iechyd y cyhoedd

Mae gan awdurdodau rwymedigaeth gadarnhaol i ddiogelu'r hawl trwy weithredu deddfwriaeth effeithiol sydd wedi'i gorfodi'n briodol. Er enghraifft, cyflwynodd llywodraeth Rwmania ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â phroblem ymosodiadau gan gŵn crwydr. Ond pan oedd rhaid i fenyw aros yn yr ysbyty ar ôl un ymosodiad o'r fath, canfuwyd ei bod yn torri'r hawl oherwydd methodd â dangos unrhyw fesurau pendant i ddelio â chŵn stryd peryglus neu i wneud iawn am ei hanafiadau, (Georgel a Georgeta Stoicescu v Rwmania 2011).).

Darparu cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Nid yw Llys Hawliau Dynol Ewrop (ECtHR) eto wedi dyfarnu o blaid ymgeiswyr sy'n honni bod Erthygl 8 yn gorfodi awdurdodau cyhoeddus i ddarparu cymhorthion meddygol i bobl anabl. Er enghraifft, yn Sentges v Yr Iseldiroedd 2003, nid oedd yn ofynnol i'r wladwriaeth ddarparu braich robotig i ddyn â dystroffi'r cyhyrau.

Fodd bynnag, yn Pentiacova v Moldofa 2005, cydnabu'r ECtHR fod yr hawl yn berthnasol i gwynion am arian cyhoeddus i helpu symudedd ac ansawdd bywyd pobl ag anableddau, er nad yw'n gwarantu gofal meddygol am ddim.

Gall yr hawl osod dyletswydd gadarnhaol mewn rhai amgylchiadau lle mae ‘cysylltiad uniongyrchol ac agos’ rhwng y mesur a alwyd amdano a bywyd preifat yr ymgeisydd. Yn Marzari v Yr Eidal 1999, roedd gan yr ymgeisydd glefyd difrifol a gofynnodd am dai priodol, a hebddynt byddai effaith ddifrifol ar ei fywyd preifat.

Yn ogystal â rhwymedigaethau o dan yr hawl hon, mae gan awdurdodau ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth ddomestig arall i ddarparu addasiadau rhesymol a chymhorthion eraill.

Hunanladdiad â chymorth

Mae'r ECtHR wedi nodi bod amddifadu rhywun o'r posibilrwydd i ddod â'i fywyd i ben pan fyddant eisiau, o ystyried cyflwr meddygol, wedi amharu ar ei hawl i fywyd preifat. Ond dywedodd hefyd fod yr ymyrraeth hon yn angenrheidiol oherwydd bod gwaharddiad ar farw â chymorth yn amddiffyn pobl sy’n agored i niwed, ac felly roedd yn ymateb i ‘angen cymdeithasol dybryd’ (un o'r profion o fod yn ‘angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd’) (Pretty v DU 2002).

Mae llysoedd domestig wedi dyfarnu yn gyson ei fod yn fater i'r Senedd, nid i'r farnwriaeth, i ymestyn y gyfraith yn y maes hwn.

Hawliau atgenhedlu

Mae'r hawl i breifatrwydd a bywyd teuluol yn ymgorffori'r hawl i barch at benderfyniadau i ddod yn rhiant ai peidio (Dickson v DU 2007 ac Evans v DU 2007). 

Mae'r ECtHR wedi cadarnhau y gallai ymyrraeth afresymol gan y wladwriaeth â dymuniad menyw i gael ei babi gartref dorri ei hawl i fywyd preifat a theuluol. Yn Ternovszky v Hwngari 2010, canfu'r llys fod yr hawl wedi’i thorri pan ataliwyd menyw rhag cael ei babi gartref oherwydd methiant y wladwriaeth i ddarparu deddfwriaeth i alluogi meddygon i'w cyflawni heb ofni erlyniad.

Dyfarnodd llys fod sterileiddio am resymau anfeddygol er budd dyn ag anableddau dysgu difrifol. Dywedodd fod sterileiddio yn parchu ei awydd i beidio â chael mwy o blant ac yn caniatáu iddo ailddechrau perthynas hirdymor, gan adfer ei annibyniaeth a'i ymreolaeth (Ymddiriedolaeth GIG v DE 2013).

Lleoliadau sefydliadol

Gall unigolion mewn sefydliadau fod yn fwy agored i dor-hawliau, felly mae lefel ychwanegol o gyfrifoldeb ar sefydliadau i sicrhau bod eu polisïau a'u harferion yn mynd i'r afael â'r bregusrwydd hwn mewn ffordd briodol.

Dylai ysbytai, gwasanaethau iechyd meddwl a chartrefi gofal wneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer dymuniadau cleifion a phreswylwyr, gan gynnwys dewisiadau ynghylch gwisg, bwyd a wardiau un rhyw. Rhaid i awdurdodau hefyd ganiatáu iddynt gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd a sefydlu, datblygu a chynnal perthynas ag eraill. Mae hyn yn wir ar gyfer carcharorion hefyd, fel y'i sefydlwyd yn McFeeley v DU 1980 a McCotter v DU 1993. Nid yw pryderon ynghylch galluedd meddyliol unigolyn yn ddigonol fel rheswm dros osod dewisiadau arnynt.

Fodd bynnag, ni fydd lefel y dewis, ymreolaeth a phreifatrwydd yr un fath mewn sefydliad ag yn y cartref. Mae'n amrywio ‘yn ôl natur y llety’ lle mae unigolyn yn byw. Er enghraifft, gallai gwahardd ysmygu yn eich cartref eich hun gynnwys yr hawl, ond nid yr un gwaharddiad mewn ysbyty diogelwch uchel (R (N) v Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd 2009). Gellir cyfiawnhau ymyrraeth hefyd ar sail sy'n cynnwys iechyd, diogelwch, effeithlonrwydd gweithredol neu ddiffyg adnoddau. Er y gall unigolion mewn sefydliadau brofi hawliau mewn ffordd wahanol i eraill, nid yw'r rhwymedigaeth ar sefydliadau yn llai.

Astudiaethau achos

Penderfyniadau cynllunio

Gallai penderfyniadau cynllunio effeithio ar yr hawl i fywyd preifat a theuluol, megis y rheini sy'n achosi sŵn neu lygredd gormodol i drigolion. Yn Deés v Hwngari 2010 roedd traffig trwm heb ei reoleiddio yn ymyrryd â'r hawl i gartref; ac yn Mileva v Bwlgaria 2010 cafodd yr hawl ei thorri pan fethodd awdurdodau orfodi gorchmynion gwahardd ar fusnesau mewn fflatiau cyfagos a oedd yn gwneud sŵn gormodol.

O ganlyniad, dylid ystyried yr hawl fel rhan annatod o benderfyniadau cynllunio, ac nid ‘troednodyn’ yn unig; gallai fod yn ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar gyfreithlondeb penderfyniad (Lough v Y Prif Ysgrifennydd Gwladol 2004). Ystyrir hefyd bod y broses ceisiadau cynllunio ei hun yn gydnaws â'r hawl i wrandawiad teg.

Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid cydbwyso'r hawl i fywyd preifat a theuluol â buddiannau a hawliau sy'n cystadlu â'i gilydd. Er enghraifft, mae nifer o achosion yn ymwneud â sŵn maes awyr wedi bod yn aflwyddiannus oherwydd bod budd economaidd a budd cynnal neu ymestyn gweithrediadau'r maes awyr yn gorbwyso'r effaith ar drigolion (Powell a Rayner v DU 1990 a Hatton v DU 2003). Ar y llaw arall, nid oedd manteision economaidd gweithfeydd trin gwastraff yn gorbwyso'r effaith andwyol ar unigolyn a ddioddefodd broblemau iechyd difrifol oherwydd ei allyriadau nwy anghyfreithlon (López Ostra v Sbaen 1994).

Sipsiwn a Theithwyr

Mae yna rwymedigaeth gadarnhaol ar y wladwriaeth i ddiogelu ffordd o fyw Teithwyr, fel y nodwyd yn Chapman v DU 2001 ac ail-bwysleisiwyd yng nghais Boswell am Adolygiad Barnwrol 2009 (mae ei ddyfarniad yn berthnasol i Ogledd Iwerddon, ond mae'r egwyddor yn parhau i fod yn bwysig yng ngweddill y DU).

Gwybodaeth, data a gwyliadwraeth

Er nad oes hawl dan yr ECHR y'n gwarantu mynediad at wybodaeth gyhoeddus, mae'r hawl i fywyd preifat a theuluol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus sicrhau bod gwybodaeth o bwysigrwydd penodol i'ch bywyd preifat ar gael i chi. Roedd hyn yn wir, er enghraifft, am gofnodion am ofal maeth unigolyn (Gaskin v DU 1989), ac am brofion arfau cemegol ar filwr yn y fyddin (Roche v DU 2005).

Mae Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn nodi y dylai fod gan unrhyw un yr hawl i ofyn am gywiro neu ddileu gwybodaeth bersonol anghywir, p'un a yw'n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau preifat neu unigolion. Mae'r un peth yn wir am wybodaeth sydd wedi'i phrosesu'n anghyfreithlon. Rhaid i wladwriaethau wneud hyn yn bosibl trwy ddeddfwriaeth a rheoleiddio. (Sylw Cyffredinol Rhif 16)

Gallai'r hawl ymwneud â materion ynghylch gwiriadau cofnodion troseddol ar gyfer unigolion sy'n gweithio gyda phlant neu bobl sy’n agored i niwed. Gallai datgelu rhybuddion neu euogfarnau dorri'r hawl os gellir eu hystyried yn breifat. Er enghraifft, rhoddir rhybuddion yn breifat a gellid eu hystyried yn breifat o'r cychwyn cyntaf, tra bod euogfarnau'n cael eu gwneud yn gyhoeddus, ond gellid dadlau eu bod yn dod yn ‘rhan o fywyd preifat person’ wrth i amser fynd yn ei flaen. (R (T ac un arall) v Yr Ysgrifennyd Cartref 2014)

Mae'r hawl i dderbyn gwybodaeth a’i dosbarthu yn elfen o'r hawl i ryddid mynegiant. Mae materion gwybodaeth a data hefyd yn cael eu rheoleiddio trwy Reoliad Cyffredinol Diogelu Data a deddfwriaeth ddomestig yr UE, gan gynnwys Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Gwyliadwraeth ac atal troseddu

Gall gwyliadwriaeth ymyrryd â hawl unigolyn i fywyd preifat a theuluol. Mae atal troseddau yn nod cyfreithlon, ond rhaid i gamau gweithredu fod yn gymesur. Er enghraifft, dyfarnodd yr ECtHR ei bod yn anghyfreithlon i'r heddlu gadw samplau DNA ar gyfer pobl a gafodd eu cyhuddiadau eu gollwng neu bobl a oedd wedi eu rhyddfarnu o drosedd (S a Marper v DU 2008). Dywedodd y llys hefyd fod adran 44 o Ddeddf Terfysgaeth 2000 yn rhy eang yn y pwerau a roddodd i awdurdodau i stopio a chwilio unigolion i atal terfysgaeth (Gillan a Quinton v DU 2010). Rhaid i'r defnydd o ffilmiau teledu cylch cyfyng hefyd fod yn gymesur a chael ei reoleiddio.

Mae angen i gyflogwyr sy'n monitro defnydd staff o e-byst a chyfryngau cymdeithasol ddangos rhesymau dilys, rheidrwydd a chymesuredd. Gallai hyn olygu rhoi gwybod i gyflogeion am natur a maint y monitro, gan gynnwys a oes mynediad at gynnwys eu cyfathrebiadau (Barbulescu v Rwmania 2017).

Hacio

Mae achosion proffil uchel sy'n cynnwys hacio ffonau gan bapurau newydd, a chyfranogiad yr heddlu yn hyn, hefyd wedi cynnwys yr hawl i fywyd preifat a theuluol. Canfu llysoedd domestig fod methiannau'r heddlu i roi gwybodaeth i ddioddefwyr am hacio yn gyfystyr â thorri'r hawl hon. Cydnabuwyd hefyd fod y papurau newydd wedi torri'r hawl hon hefyd – er na ddygwyd yr iawndal sylweddol a dalwyd ganddynt dan gyfraith hawliau dynol (Hawlwyr v MGN Ltd 2015).

Astudiaethau achos

Trais domestig a rhywiol

Mae gan wladwriaethau ddyletswydd gadarnhaol i amddiffyn unigolion rhag ymyrraeth anghyfreithlon â'u bywydau preifat a theuluol. Gall methu â gwneud hynny, gan gynnwys mewn achosion o drais yn y cartref, ymosodiad rhywiol a thrais rhywiol, fod yn groes i'r hawl hon (X a Y v Yr Iseldiroedd 1985 ac MC v Bwlgaria 2003).

Beth i'w ystyried

Mae'r ECtHR wedi dweud bod yr hawl yn annhebygol o fod yn berthnasol bob tro y caiff bywyd bob dydd ei amharu, ‘ond dim ond yn yr achosion eithriadol lle mae methiant y Wladwriaeth i fabwysiadu mesurau yn ymyrryd â hawl yr unigolyn hwnnw i ddatblygiad personol a'i hawl i sefydlu a chynnal perthynas â bodau dynol eraill a'r byd y tu allan’ (Sentges v Yr Iseldiroedd 2003).

Os yw'r hawl yn berthnasol i'ch achos chi, eich rôl chi yw canfod a fu unrhyw ymyrraeth â'r hawl, a pha ystyriaeth y rhoddodd y sefydliad yn y gŵyn i'r hawl.

Beth i'w wneud os bu ymyrraeth â'r hawl

Os ydych chi'n credu bu ymyrraeth â’r hawl, rhaid i'r sefydliad dan sylw ddangos roedd yr ymyrraeth yn:

  • gyfreithlon
  • ar gyfer nod cyfreithlon
  • angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd
  • gymesur (ni fu unrhyw fodd llai ymwthiol ar gael)

Mae nodau cyfreithlon yn y ddeddfwriaeth yn cynnwys:

  • diogelwch cenedlaethol
  • diogelwch cyhoeddus
  • lles economaidd cenedlaethol
  • atal troseddu neu anrhefn
  • amddiffyn iechyd neu foesau
  • amddiffyn hawliau a rhyddid pobl eraill

Gan fod yr amcanion hyn yn eang, mae sefydliadau fel arfer yn gallu honni bod un ohonynt yn cyfiawnhau'r ymyrraeth. Os felly, dylech benderfynu a yw'n berthnasol – ond mae'n debygol mai ymchwilio a rhoi sylwadau ar y cwestiwn o gymesuredd fydd eich tasg allweddol.

Dylech weld a oedd dulliau eraill ar gael a fyddai wedi golygu llai o ymyrraeth ac ymchwilio pam na chawsant eu defnyddio.

Mae cymesuredd yn arbennig o bwysig os yw'r achwynydd yn dod o grwpiau gwarchodedig neu grwpiau dan anfantais, megis pobl anabl neu blant. Yna bydd angen i chi edrych yn fanwl ar yr effaith y mae gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu wedi'i chael. Er enghraifft, ydy'r unigolyn wedi cael ei wrthod ar gyfer rhywbeth sydd ar gael i unigolion eraill? Mae hyn yn fwy tebygol o ddangos nad yw sylw dyledus wedi'i roi i'r hawl, ac o bosibl yn dangos gwahaniaethu.

Dylech hefyd ddangos sut yr ydych wedi ystyried cymwysterau a chyfyngiadau'r hawl pan fyddwch yn gwneud eich adroddiad.

Cwynion am ofal iechyd a chymdeithasol

Mae'r amcanion y gall sefydliadau gofal iechyd a chymdeithasol eu honni yn cynnwys:

  • diogelwch yr unigolyn neu eraill
  • amddiffyn iechyd
  • effeithlonrwydd gweithredol
  • y defnydd gorau o adnoddau neu staff cyfyngedig

Gall y rhain fod yn berthnasol ond bydd angen i chi sefydlu perthnasedd a chymesuredd o hyd. Mae llysoedd y DU ac Ewrop wedi cydnabod y straen ar adnoddau, ac yn aml maent yn arafach i ofyn i wladwriaethau gyfiawnhau methiant i gymryd camau amddiffynnol pan fo adnoddau'n brin.

Cwynion am benderfyniadau cynllunio

Rhaid i effaith penderfyniadau cynllunio fynd y tu hwnt i anghyfleustra, colli amwynder ac estheteg. Fel arfer mae'n rhaid cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol neu feddyliol yr achwynydd er mwyn cynnwys yr hawl hon.

Dylai ystyriaethau hawliau dynol fod yn rhan annatod o'r broses o wneud penderfyniadau cynllunio, a dylai awdurdodau cynllunio eu dogfennu. Os yw'n berthnasol, dylech edrych am dystiolaeth benodol ar sut yr ystyriwyd effeithiau hawliau dynol yn ystod y broses o wneud penderfyniadau.

Mae angen rhoi sylw arbennig i ystyried ceisiadau cynllunio gan Sipsiwn a Theithwyr, gan gofio'r rhwymedigaethau ar wladwriaethau i hwyluso ffordd o fyw’r Teithwyr.

Cwynion am wybodaeth, data a gwyliadwraeth

Maen bosibl y bydd angen i chi gyfeirio cwynion neu agweddau ar gwynion at y Comisiynydd Gwybodaeth lle bo'n briodol.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd gyfeirio at yr hawl i ryddid mynegiant ar gyfer materion sy’n ymwneud â rhannu a derbyn gwybodaeth, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 sy'n ychwanegu gwarantau pellach i'r gofynion sylfaenol a osodir gan gyfraith hawliau dynol.

Diweddariadau tudalennau