Hawl i ryddid mynegiant: ar gyfer cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 28 Ionawr 2019

Diweddarwyd diwethaf: 28 Ionawr 2019

Hawl dynol yw rhyddid mynegiant. 

Mae’r hawl i ryddid mynegiant yn ganolog i gynnal hawliau dynol eraill a democratiaeth.

Mae cyfranogiad ym maes democratiaeth yn dibynnu ar ryddid mynegiant, rhannu syniadau, codi materion, trefnu a phrotestio.

Mae rhyddid y wasg, yn arbennig, yn helpu sicrhau y sonnir am dorcyfraith a gweithredu arno.

Mae’r hawl yn cynnwys pob ffurf ar fynegiant, yn ogystal â’r hawl i beidio â siarad.

Diogela safbwyntiau ysgytwol, cythryblus neu sarhaus iawn, cyn belled nad ydynt yn annog trais neu gasineb at eraill Gosodiad Cyffredinol No. 34 2011 a Handyside v UK 1976, paragraff 49).

Mae’r hawl i gael a rhoi gwybodaeth yn rhan o’r hawl i ryddid mynegiant. Ond fel arfer mae’n well cyfeirio cwynion am ryddid gwybodaeth neu ddiffyg mynediad i ddata personol at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Bydd unigolion yn ogystal â sefydliadau yn mwynhau hawliau o dan Erthygl 10 y Ddeddf Hawliau Dynol. Efallai y byddwch felly yn cael cwynion gan ac am sefydliadau o fewn eich awdurdodaeth.

Gallwch ddarllen mwy am ryddid mynegiant o dan Erthygl 10 ac ym maes cyfraith ddomestig, gan gynnwys rôl cyrff cyhoeddus a rheolyddion, yn ein dogfen canllaw cyfreithiol ar ryddid mynegiant.

Lle mae’n gymwys

  • ar draws gwasanaethau cyhoeddus
  • unrhyw gyfathrebiadau neu gyfyngiad ar gyfathrebiadau yn y cyfryngau, neu mewn adeiladau neu fannau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion ac ysbytai
  • cyflogaeth
  • gwleidyddiaeth

Rhwymedigaethau

Mae rhwymedigaeth negyddol ar y wladwriaeth i beidio ag ymyrryd â’r hawl hon – a rhaid iddi gyfiawnhau unrhyw ymyraeth a wna.

Mae rhwymedigaeth gadarnhaol hefyd yn bodoli i amddiffyn yr hawl, gan gynnwys o fygythiad gan drydydd parti, megis cyflogwyr preifat; ac i ddeddfu deddfwriaeth ddomestig ddigonol i amddiffyn rhyddid mynegiant a mynediad i wybodaeth ym ‘maes perthynas rhwng unigolion’. Rhaid i wladwriaethau daro cydbwysedd teg rhwng buddion y gymuned a’r unigolyn (Özgür Gündem v Turkey 2000).

Gwasanaethau cyhoeddus

Dylai cyfathrebiadau gan sefydliadau yn cyflenwi gwasanaethau i’r cyhoedd barchu, amddiffyn a chyflawni hawliau dynol pawb. Gallai posteri, darluniau neu faneri, er enghraifft, sy’n mynegi safbwyntiau sy’n achosi grŵp arbennig i deimlo’u bod wedi’u cau allan, eu hatal rhag ymarfer eu hawliau, hyd yn oed os nad ydynt mor llym fel i annog casineb neu drais.

Os gwneir cyfyngiad ar y fath gyfathrebiadau, fodd bynnag, mae’r baich ar yr awdurdod i arddangos bod gwneud felly yn gyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur ar gyfer nod gyfreithlon. Nid yw honiadau o ran cyfiawnhau y gallai grŵp deimlo eu bod wedi’u cau allan yn debygol o fod yn ddigon.

Astudiaeth achos

Cyflogaeth

Mae’r cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd wedi’i gwneud yn haws i rannu barn a gwybodaeth ag eraill, a hefyd wedi cynyddu’r perygl o niwed i enw da. Gallai cyflogwyr geisio rheoli hawl eu staff i fynegi’u hunain yn rhydd pan fo enw da eu sefydliad yn y fantol. Weithiau ymestynna i weithgareddau cyflogeion y tu hwnt i’w gweithleoedd.

Dylai polisïau disgyblu a’r cyfryngau cymdeithasol gydbwyso hawliau’r sawl a effeithir arno a pheidio â gwahardd hawl cyflogai’n ddiangen i ryddid mynegiant, yn unig oherwydd bod y cyflogwr neu gyflogeion eraill yn canfod rhai barnau yn annymunol. (Smith v Trafford Housing Trust 2012).

Gallodd cyflogwyr, fodd bynnag, gyfiawnhau ymyrryd â hawl cyflogai i’w fynegi’i hun drwy arddangos:

  • y risg i’w henw da
  • nod cyfreithlon, megis amddiffyn hawliau ac enw da pobl eraill
  • angenrheidrwydd a chymesuredd

Gweision sifil a gwleidyddion

Gallai fod gan fathau arbennig o gyflogeion, megis gweision sifil, ddyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol sydd yn cyfiawnhau rhoi mwy o ryddid i awdurdodau benderfynu a yw ymyrraeth yn gymesur (Vogt v Germany 1995).

Gall swydd a statws cyhoeddus y person sy’n ymarfer yr hawl i ryddid mynegiant, yn ogystal â’r person sy’n cael y barnau hynny, gael eu hystyried gan y llysoedd. Gwnaethant ddyfarnu fod cyfyngiadau ar sylwadau hynod feirniadol am neu rhwng gwleidyddion, er enghraifft, yn anghydnaws â’r hawl (Lingens v Austria 1986).

Beth i’w ystyried

Beth i’w wneud os yw’r hawl hwn yn berthnasol i’ch achos

Mae angen i chi gadarnhau a fu ymyrraeth yn yr hawl, a chydbwyso effaith y mynegiant ar hawliau pobl eraill.

Wrth gadarnhau ffeithiau ymyrraeth â’r hawl, bydd rhaid i chi edrych yn fanwl ar b’un ai a oedd yn angenrheidiol ac yn gymesur ar gyfer cyflawni nod cyfreithlon.

Nid oes angen i farn a fynegwyd ennyn casineb neu drais i gau allan rhai pobl neu grwpiau rhag arfer eu hawliau na rhag defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

Diweddariadau tudalennau