Yr hawliau dynol sydd yn fwyaf tebygol o gael eu cynnwys mewn cwynion i gynlluniau ombwdsmon:
Hawliau sifil a gwleidyddol
Mae’r hawliau hyn wedi’u cynnwys yn y Ddeddf Hawliau Dynol, y Confensiwn Hawliau Dynol Ewropeaidd a’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol.
- yr hawl i fywyd
- yr hawl i fod yn rhydd rhag dioddef artaith neu driniaeth neu gosb greulon, annynol neu ddiraddiol
- yr hawl i ryddid a diogelwch person
- yr hawl i wrandawiad teg
- yr hawl i barch dros fywyd preifat a theuluol, cartref a gohebiaeth
- yr hawl i ryddid barn, cydwybod a chrefydd
- yr hawl i ryddid mynegiant
- yr hawl i ddiogelwch rhag dioddef gwahaniaethu
- yr hawl i addysg
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Hawliau cymdeithasol economaidd
Amlinellir yr hawliau hyn yn y Siarter Cymdeithasol Ewropeaidd a’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Ar gyfer pob hawl, eglurwn:
- pa wasanaethau cyhoeddus a sefyllfaoedd sefydliadol y bydd yn fwy tebygol o fod yn gymwys iddynt
- beth yw’r rhwymedigaethau i lywodraethau, a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus
- y fframwaith cyfreithiol a, pan fo’n briodol, cyfraith achos berthnasol
- yr hyn y dylai trinwyr achos ombwdsmon ystyried wrth drin cwyn
Pan fo’n bosib, rhown ddolenni i astudiaethau achos.
Gallwch hefyd chwilio fesul sector a phwnc ar gyfer hawliau dynol cysylltiedig.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
22 Gorffenaf 2019
Diweddarwyd diwethaf
22 Gorffenaf 2019