Mae'r hawl i addysg wedi'i hymgorffori mewn dau gytundeb y Cenhedloedd Unedig, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Mae'r HRA, ECHR ac ICCPR yn cynnwys hawl rhieni i addysgu eu plant yn ôl eu credoau neu eu hargyhoeddiadau. Mae hwn yn hawl gymwys, a gall unigolion geisio iawn yn y llysoedd os credant fod yr hawl wedi cael ei hamharu.
Mae'r hawl i addysg dan yr ICESCR yn cynnwys addysg gynradd, uwchradd ac uwch, yn ogystal ag ‘addysg sylfaenol’ i bobl nad ydynt wedi cwblhau eu haddysg gynradd.
Caiff yr ICESCR ei fonitro gan bwyllgor o arbenigwyr (CESCR) nad yw'n derbyn cwynion gan unigolion.
Ble mae’n berthnasol
- addysg
- awdurdodau addysg
- ysgolion, colegau a phrifysgolion
Rhwymedigaethau
Mae'r ICESCR yn cydnabod yr hawl i addysg i ‘ddatblygu personoliaeth ddynol yn llawn a'r ymdeimlad o'i urddas’ ac i alluogi pawb i ‘gyfranogi'n effeithiol mewn cymdeithas rydd, hyrwyddo dealltwriaeth, goddefgarwch a chyfeillgarwch ymhlith yr holl genhedloedd a phob grŵp hiliol, ethnig neu grefyddol’.
Felly, dylai cwricwlwm, ethos, polisïau a gweithdrefnau ysgol ystyried pryderon hawliau dynol.
Mynediad at addysg
Dan yr ICESCR, mae addysg gynradd yn orfodol, yn rhad ac am ddim ac yn hawl absoliwt.
Mae yna hefyd rwymedigaethau cadarnhaol ar y wladwriaeth i wneud y system addysg gyfan yn hygyrch i bawb, gan gynnwys plant anabl, a'r rheini sydd â nam corfforol neu feddyliol neu anghenion iaith. Gweler hefyd amddiffyniad rhag gwahaniaethu.
Argymhellodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn y dylai'r DU fuddsoddi ‘adnoddau ychwanegol sylweddol’ i sicrhau ‘addysg wirioneddol gynhwysol’ i bob plentyn dan anfantais, plant sydd wedi eu gwthio i'r cyrion a phlant sy’n bell o’r ysgol’ (Arsylwadau Terfynol: DU 2008).
Ond roedd y CESCR yn pryderu bod ‘gwahaniaethau sylweddol o ran perfformiad ysgolion a chyfraddau gadael yn parhau i fodoli rhwng disgyblion sy'n perthyn i leiafrifoedd ethnig, crefyddol neu genedlaethol, yn enwedig Roma/Sipsiwn, Teithwyr Gwyddelig, a myfyrwyr eraill, er gwaethaf yr ymdrechion a wnaed gan y Wladwriaeth’ (Arsylwadau Terfynol: DU 2009).
Mae dyletswydd yn parhau ar yr awdurdodau perthnasol i nodi’r rhesymau dros hyn a gwahaniaethau eraill ac i fynd i’r afael â nhw, megis bwlio a diffyg addysg ddiwylliannol briodol.
Ffioedd dysgu
Mae'r ICESCR yn darparu ar gyfer ‘cyflwyniad graddol’ addysg uwchradd ac uwch am ddim. Mae cyflwyno a chynnyddu ffioedd dysgu i brifysgolion yn y DU wedi bod yn destun pryder i'r CESCR, a alwodd am adolygiad o’r polisi. Mae hefyd wedi annog triniaeth gyfartal rhwng myfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor eraill ynghylch ffioedd a chymorth ariannol (Arsylwadau Terfynol: DU 2009).
Credoau rhieni
Mae hawl rhieni i gael eu plant wedi eu haddysgu yn ôl eu credoau neu eu hargyhoeddiadau wedi'u cysylltu'n agos â'r hawl i ryddid meddwl, cred a chrefydd.
Mae'r hawl yn dod o dan Brotocol 1, Erthygl 2 yr HRA a’r ac Erthygl 18 (4) yr ICCPR. Fodd bynnag, mae gan y DU eithriad yn ei le ar gyfer Protocol 1, Erthygl 2 yr ECHR, ac mae'n honni ei fod yn ei esgusodi o'r ddyletswydd i ddarparu ysgolion crefyddol ar wahân ar gais.
Yn yr ICCPR, caiff hawl y rhieni ei chydbwyso yn erbyn rhwymedigaeth ysgol i addysgu am grefydd neu gred; gall y ddau wrthdaro oni bai bod eithriadau neu ddewisiadau eraill yn cael eu darparu i fodloni dymuniadau rhieni.
Mae'r llysoedd wedi ystyried nifer o achosion yn ymwneud ag addysg grefyddol mewn ysgolion. Er enghraifft, canfuwyd bod Norwy wedi torri'r ECHR a’r ICCPR pan newidiodd ei gwricwlwm a rhoi’r hyn a ystyriwyd yn ormod o bwysau i Gristnogaeth (Folgerø ac Eraill v Norwy 2007 a Chyfathrebiad y Cenhedloedd Unedig Rhif 1155/2003).
Yn Dojan ac Eraill v Yr Almaen 2011, cwynodd rhieni pan wrthododd yr awdurdod addysg eu cais am eithriad o ddosbarthiadau addysg rhyw gorfodol. Canfu Llys Hawliau Dynol Ewrop fod gan yr awdurdod nod cyfreithlon wrth alluogi plant i ddelio â chymdeithas, integreiddio lleiafrifoedd ac osgoi ‘cymdeithasau cyfochrog’. Dyfarnodd y llys nad oedd ei weithredoedd wedi mynd yn rhy bell nac wedi bod yn anghymesur.
Beth i'w ystyried
Cwynion am ddyraniad ysgolion
Mae cwynion am blant nad ydynt yn cael eu dewis cyntaf o ysgol, os ydynt yn fater o ddewis a chyfleustra, yn annhebygol o gynnwys hawliau dynol. Ond os yw'r effaith yn effeithio ar fynediad y plentyn i addysg, dylech ystyried hawliau dynol.
Dylech sefydlu:
- a fydd anawsterau gwirioneddol wrth geisio cyrraedd yr ysgol a ddyrannwyd
- a yw'r ysgol a ddyrannwyd yn gallu diwallu anghenion arbennig, crefyddol neu ieithyddol y plentyn
- a oes tystiolaeth o wahaniaethu yn y broses dderbyn
Cwynion am blant yn cael eu hatal rhag cymryd rhan yn y system addysg
Mae yna rwymedigaeth hawliau dynol i ddarparu addysg gynhwysol. Gallai methiant i alluogi plentyn i gymryd rhan yn y system addysg drwy, er enghraifft, beidio â chynnal asesiad anghenion addysgol arbennig, er mwyn darparu ar gyfer adnoddau arbennig neu ychwanegol, fod yn fater hawliau dynol.
Dylech ystyried pa mor brydlon y mae'r awdurdod addysg wedi gwneud asesiad neu ddarpariaethau arbennig. Gallai oedi neu arferion gwael sydd wedi atal plentyn rhag mynd i'r ysgol am gyfnod sylweddol ddangos diffyg parch at hawl plentyn i addysg.
Dylech fod yn glir ynglŷn â beth yw rhwymedigaethau craidd awdurdod neu sefydliad addysg yn eich adroddiad.
Cwynion am addysgu plant yn ôl credoau rhiant
Efallai y bydd angen i chi benderfynu a roddwyd eithriadau neu ddewisiadau digonol i rieni, neu a oedd cyfiawnhad dros ymyrraeth yr awdurdod addysg yn eu hawl i gael nod cyfreithlon ac a ddilynwyd hyn yn gymesur.
Mae’n bosibl y bydd achwynwyr yn teimlo nad oedd awdurdod addysg wedi gwneud addasiadau priodol i ddarparu ar gyfer eu credoau crefyddol. Gallai dilyn polisi yn rhy gaeth arwain at gamweinyddu ac anghyfiawnder.
Dylai sefydliadau ddangos eu bod wedi gwneud pob ymdrech resymol i ddarparu ar gyfer argyhoeddiadau a chredoau crefyddol unigolyn, yn hytrach na honni yn ddiofyn na allant wneud hynny.
Cwynion am ffioedd dysgu a chymorth ariannol
Gall cwynion am gymorth ariannol ar gyfer talu ffioedd prifysgolion godi materion hawliau dynol, ond maent yn fwy tebygol o gynnwys sefydlu a yw meini prawf cymhwysedd wedi'u defnyddio'n wrthrychol mewn ffordd anwahaniaethol.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
26 Gorffenaf 2019
Diweddarwyd diwethaf
26 Gorffenaf 2019