Enghreifftiau o sefyllfaoedd penodol

Wedi ei gyhoeddi: 19 Chwefror 2019

Diweddarwyd diwethaf: 19 Chwefror 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Gwasanaethau cyflogaeth

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth cyflogaeth beidio â gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn pobl sy’n defnyddio ei wasanaethau neu sydd am eu defnyddio.

Yn ogystal, mae gan ddarparwr gwasanaeth cyflogaeth ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol, ac eithrio wrth ddarparu gwasanaeth galwedigaethol.

Ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyflogaeth, yn wahanol i gyflogwyr, mae'r ddyletswydd yn 'rhagweladwy'. Os ydych yn ddarparwr gwasanaeth cyflogaeth, mae hyn yn golygu na allwch aros nes bod person anabl eisiau defnyddio’ch gwasanaethau, ond mae’n rhaid ichi feddwl ymlaen llaw (ac yn barhaus) am yr hyn y gallai fod ei angen yn rhesymol ar bobl anabl ag amrywiaeth o namau, megis pobl sydd â nam ar eu golwg, nam ar y clyw, nam symudedd, neu anabledd dysgu. Er enghraifft: mae asiantaeth gyflogaeth yn sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch i bobl anabl a'i bod yn gallu darparu gwybodaeth am gyfleoedd gwaith mewn amrywiaeth o fformatau amgen. Mae hefyd yn sicrhau bod ei staff wedi'u hyfforddi i gynorthwyo pobl anabl sy'n dod ato i gael gwybodaeth am gyfleoedd gwaith.

Pensiynau galwedigaethol

Rhaid i gynlluniau pensiwn galwedigaethol beidio â gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn pobl.

Yn ogystal, rhaid i gynllun pensiwn galwedigaethol wneud addasiadau rhesymol i unrhyw ddarpariaeth, maen prawf neu arfer mewn perthynas â’r cynllun sy’n rhoi person anabl o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.

Enghraifft -

Mae rheolau cynllun cyflog terfynol cyflogwr yn darparu bod uchafswm y pensiwn sy’n dderbyniadwy yn seiliedig ar gyflog yr aelod yn y flwyddyn olaf o waith. Wedi gweithio'n llawn amser am 20 mlynedd, mae gweithiwr yn datblygu cyflwr sy'n eu harwain i leihau eu horiau gwaith ddwy flynedd cyn eu hoedran pensiwn. Mae rheolau’r cynllun yn eu rhoi dan anfantais o ganlyniad i’w hanabledd, oherwydd dim ond ar eu cyflog rhan amser y bydd eu pensiwn yn cael ei gyfrifo. Mae’r ymddiriedolwyr yn penderfynu trosi cyflog rhan-amser y gweithiwr i’w gyflog llawn amser a gwneud gostyngiad cyfatebol yng nghyfnod eu cyflogaeth ran-amser sy’n cyfrif fel pensiynadwy. Yn y modd hwn, bydd eu henillion llawn amser yn cael eu hystyried. Mae hwn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i'w wneud.

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082

Diweddariadau tudalennau