Sicrhau bod addasiad yn effeithiol i weithiwr cyflogedig

Wedi ei gyhoeddi: 19 Chwefror 2019

Diweddarwyd diwethaf: 19 Chwefror 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae’n bosibl y bydd angen sawl addasiad er mwyn dileu neu leihau amrywiaeth o anfanteision ac weithiau ni fydd y rhain yn amlwg i chi. Felly dylech weithio, cymaint â phosibl, gyda'r person anabl i nodi'r math o anfanteision neu broblemau y mae'n eu hwynebu a hefyd yr atebion posibl o ran addasiadau.

Ond hyd yn oed os nad yw'r gweithiwr anabl yn gwybod beth i'w awgrymu, mae'n rhaid i chi ystyried pa addasiadau y gallai fod eu hangen.

Enghraifft -

Mae gweithiwr anabl wedi bod yn absennol o'r gwaith o ganlyniad i iselder. Nid yw'r gweithiwr na'i feddyg yn gallu awgrymu unrhyw addasiadau y gellid eu gwneud. Serch hynny, dylai'r cyflogwr barhau i ystyried a fyddai unrhyw addasiadau, megis gweithio gartref am gyfnod neu newid oriau gwaith neu gynnig mwy o gymorth o ddydd i ddydd, yn rhesymol.

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082

Diweddariadau tudalennau