I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae'r gofyniad cyntaf yn ymwneud â newid y ffordd y caiff pethau eu gwneud (mae cyfraith cydraddoldeb yn sôn am ble mae gweithiwr swydd anabl yn cael ei roi dan anfantais sylweddol gan ddarpariaeth, maen prawf neu arfer eu cyflogwr).
Mae hyn yn golygu edrych i weld a oes angen i chi newid rhai polisïau ysgrifenedig neu anysgrifenedig, a/neu rai o’r ffyrdd yr ydych fel arfer yn gwneud pethau, i ddileu neu leihau rhwystrau a fyddai’n rhoi person anabl dan anfantais sylweddol, er enghraifft, drwy eu hatal rhag gallu gweithio i chi neu eu hatal rhag cymryd rhan lawn yn y gwaith.
Mae hyn yn cynnwys eich meini prawf ar gyfer dyrchafiad neu hyfforddiant, buddion, amodau gwaith a threfniadau cytundebol.
Cyngor a chefnogaeth
Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .
Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Ffôn: 0808 800 0082
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
19 Chwefror 2019
Diweddarwyd diwethaf
19 Chwefror 2019